MAES DYSGU A PHROFIADMathemateg a Rhifedd
Canllawiau i helpu ysgolion a lleoliadau i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu o ran y pedwar diben.
4. Disgrifiadau dysgu
Mae’r disgrifiadau dysgu yn rhoi canllawiau ar sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig ar eu taith ar hyd y continwwm Dysgu. Dysgu mwy am y disgrifiadau Dysgu.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5 Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Rwyf wedi cael profiad o rifau a’u harchwilio mewn amgylcheddau sy’n llawn rhifau, dan do ac yn yr awyr agored, gan gael profi o rai prifol, trefnol ac enwol.
Rwy’n gallu sylwi ar rifau, eu hadnabod a’u hysgrifennu mewn amrywiaeth o gyfryngau, trwy ddull aml-synhwyrol, o 0 i 10 a heibio i hynny.
Rwy’n gallu defnyddio iaith fathemategol i ddisgrifio meintiau, i wneud amcangyfrifon a chymariaethau megis ‘yn fwy na’, ‘yn llai na’, ‘yn hafal i’.
Rwyf wedi cael profiad o gyfrif dilyniant o rifau, a hynny mewn gwahanol ffyrdd, gan gyfrif ymlaen ac yn ôl, a chan ddechrau ar wahanol rifau.
Rwy’n gallu defnyddio fy mhrofiad o gyfrif dilyniant o rifau a chyfatebiaeth un-i-un er mwyn cyfrif cyfresi’n ddibynadwy. Rwy’n gallu cyfrif gwrthrychau y gallaf eu cyffwrdd, a’r rhai na allaf.
Rwy’n gallu darllen, ysgrifennu a dehongli rhifau sy’n fwy, hyd at 1000 o leiaf, gan ddefnyddio digidau a geiriau.
Rwy’n gallu deall y gellir penderfynu ar werth rhif ar sail safle’r digidau a ddefnyddir.
Rwyf wedi ymgymryd â thasgau ymarferol i amcangyfrif a thalgrynnu rhifau i’r 10 neu’r 100 agosaf.
Rwy’n dechrau amcangyfrif a gwirio cywirdeb fy atebion gan ddefnyddio gweithrediadau gwrthdro lle bo’n addas.
Rwy’n gallu trefnu a dilyniannu rhifau, gan gynnwys odrifau ac eilrifau, ac rwy’n gallu cyfrif ymlaen ac yn ôl mewn camau unffurf unrhyw rif cyfan a ffracsiynau unedol syml.
Rwy’n gallu defnyddio amrywiaeth o gynrychioliadau i ddatblygu a chadarnhau fy nealltwriaeth fod gwerth digid yn ymwneud â’i safle. Rwy’n gallu darllen, ysgrifennu a dehongli rhifau, gan ddefnyddio ffigurau a geiriau hyd at filiwn, o leiaf.
Rwy’n gallu defnyddio amrywiaeth o gynrychioliadau i ymestyn fy nealltwriaeth o’r system rifau, gan gynnwys gwerthoedd negatif, degolion a ffracsiynau. Rwy’n gallu gosod cyfanrifau, degolion a meintiau ffracsiynol yn gywir ar linell rhif. Rwy’n gallu cymhwyso’r hyn rwy’n ei wybod am werth rhif er mwyn talgrynnu ac amcangyfrif lle bo’n addas.
Rwy’n gallu defnyddio ffurf indecs safonol i gynrychioli rhifau mawr a bach ac i wneud cyfrifiadau mewn cyd-destun. Rwy’n gallu defnyddio dulliau talgrynnu addas, gan gynnwys ffigurau ystyrlon, i amcangyfrif gwerthoedd.
Er mwyn datrys problemau yn ymwneud â ffiniau uchaf ac isaf, rwy’n gallu defnyddio fy ngwybodaeth nad yw mesuriadau bob amser yn gywir, a bod rhaid ystyried goddefiant a lled gwall.
Rwy’n dechrau deall bod ffracsiynau unedol yn cynrychioli rhannau cyfartal o’r cyfan a’u bod yn ffordd o gyfleu meintiau a pherthnasoedd.
Rwyf wedi cael profiad o ffracsiynau mewn sefyllfaoedd ymarferol gan ddefnyddio amrywiaeth o gynrychioliadau.
Rwyf wedi archwilio ffracsiynau cywerth ac rwy’n deall perthnasoedd ffracsiynau cywerth.
Rwy’n gallu dangos fy nealltwriaeth y gellir cynrychioli meintiau nad ydyn nhw’n gyfanrifau gan ddefnyddio ffracsiynau (gan gynnwys ffracsiynau sy’n fwy nag 1) degolion a chanrannau. Rwy’n gallu defnyddio fy ngwybodaeth o gywerthedd i gymharu maint ffracsiynau syml, degolion a chanrannau ac rwy’n gallu newid rhwng cynrychioliadau.
Rwy’n gallu arddangos fy nealltwriaeth y gellir defnyddio ffracsiwn fel gweithredydd, neu i gynrychioli rhannu. Rwy’n gallu deall y berthynas wrthdro rhwng enwadur ffracsiwn a’i werth.
Rwy’n gallu defnyddio fy ngwybodaeth o gywerthedd ffracsiynau, degolion a chanrannau i ddeall y gellir cynrychioli rhifau neu gyfrannau mewn gwahanol ffyrdd.
Rwyf wedi deillio a chymhwyso rheolau indecsau gan ddefnyddio esbonyddion cyfanrif.
Rwy’n gallu adnabod y gwahaniaeth rhwng rhifau cymarebol a rhai anghymarebol, ac wedi deillio rheolau a’u cymhwyso i symleiddio a dadelfennu syrdiau. Rwy’n gallu ymestyn fy ngwybodaeth o gywerthedd ffracsiynau, degolion a chanrannau er mwyn deall y gellir cynrychioli degolion cylchol mewn gwahanol ffyrdd.
Rwyf wedi archwilio’r berthynas rhwng pwerau, israddau ac indecsau ffracsiynol, ac yn gallu defnyddio hyn i ddatrys problemau.
Rwyf wedi archwilio ffurfio maint mewn gwahanol ffyrdd, gan ddefnyddio cyfuniadau o wrthrychau neu feintiau.
Rwy’n gallu mynegi sut mae setiau yn newid pan gaiff gwrthrychau eu hychwanegu atynt a’u tynnu oddi wrthynt.
Rwyf wedi cael profiad o grwpio a rhannu gyda gwrthrychau a meintiau, ac rwy’n gallu grwpio neu rannu meintiau bychain i grwpiau hafal eu maint.
Rwyf wedi archwilio perthnasoedd adiol gan ddefnyddio amrywiaeth o gynrychioliadau. Rwy’n gallu adio a thynnu rhifau cyfan gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ysgrifenedig ac ymenyddol.
Rwy’n gallu defnyddio fy ngwybodaeth o luosi i gofio rhai ffeithiau ynghylch lluosi a thablau gan ddechrau gyda thablau 2, 3, 4, 5 a 10, ac rwy’n gallu defnyddio’r term ‘lluosrifau’.
Rwyf wedi archwilio ac yn gallu defnyddio fy nealltwriaeth o berthnasoedd lluosol i luosi a rhannu rhifau cyfan, gan ddefnyddio amrywiaeth o gynrychioliadau, yn cynnwys dosbarthu’n gyfartal, grwpio, a llunio a dadansoddi araeau.
Rwy’n gallu gwirio cyfrifiadau a datganiadau am rifau, drwy resymu gwrthdro a dulliau amcangyfrif.
Rwy’n gallu defnyddio’r pedwar gweithrediad rhifyddeg gyda chyfanrifau a degolion yn hyderus, effeithlon a chywir, ac rwy’n gallu cyfuno’r rhain gan ddefnyddio deddfau dosbarthol, cysylltiadol a chymudol lle bo hynny’n briodol.
Rwyf wedi datblygu fy nealltwriaeth o resymu lluosol i gynnwys y cysyniad o gymhareb, cyfrannedd a graddfa, ynghyd â’u cymhwyso.
Rwy’n gallu cyfleu ffeithiau am luosi yn rhugl, hyd at o leiaf 10 x 10, a defnyddio’r rhain i feddwl am ffeithiau cysylltiedig.
Rwyf wedi cael profiad o berthnasoedd lluosol syml a’u harchwilio sy’n fy ngalluogi i drafod priodweddau rhif, gan gynnwys ffactorau, lluosrifau, rhifau cysefin a rhifau sgwâr.
Rwy’n gallu cymhwyso’r pedwar gweithrediad rhifyddeg yn rhugl a chywir, a hynny yn y drefn gywir, o ran cyfanrifau, degolion a ffracsiynau, gan gadarnhau fy nealltwriaeth o gilyddion wrth rannu ffracsiynau.
Rwyf wedi defnyddio rhesymu cyfrannol i gymharu dau faint gan ddefnyddio cyfrannedd union neu wrthdro, ac rwy’n gallu datrys problemau gan ddefnyddio rhesymu cyfrannol ailadroddus a rhesymu cyfrannol gwrthdro.
Rwyf wedi defnyddio arian, ac iaith arian, mewn sefyllfaoedd chwarae a bywyd go iawn, ac rwy’n gallu deall bod angen i mi gyfnewid arian am eitemau.
Rwy’n gallu deall cywerthedd a gwerth darnau arian ac arian papur i wneud trafodion priodol wrth chwarae rôl.
Rwy’n gallu dangos dealltwriaeth o incwm a gwariant, ac rwy’n gallu cymhwyso fy sgiliau cyfrifo i archwilio elw a cholled.
Rwy’n gallu cymhwyso canrannau a chymhareb i ddatrys problemau gan gynnwys llog syml, adlog, arbrisiant, dibrisiant, cyfrifo cyllidebau, arian tramor a threth sylfaenol ar wasanaethau a nwyddau. Rwyf wedi datblygu fy nealltwriaeth o gyllid mewn cyd-destun personol, lleol a byd-eang.
Rwyf wedi dyfnhau fy nealltwriaeth ariannol gan gynnwys y gyfradd gywerth flynyddol (AER) a’r gyfradd ganrannol flynyddol (APR), er mwyn gwerthuso a chymharu cynnyrch ariannol.
Rwy’n gallu cyfrifo treth incwm a deall goblygiadau trethiant gan gynnwys defnyddio cyfraddau treth incwm Cymru a threthi eraill sydd wedi eu datganoli i Gymru.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5 Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Rwy’n dechrau adnabod, copïo, ymestyn a chyffredinoli patrymau a dilyniannau o’m cwmpas.
Rwy’n gallu archwilio patrymau rhifau a siapiau. Rwy’n gallu adnabod, copïo a chynhyrchu dilyniannau rhifau a phatrymau gweledol.
Rwy’n gallu archwilio a chreu patrymau rhifau a siapiau. Rwy’n gallu esbonio dilyniannau rhifyddol a phatrymau gofodol mewn geiriau ac wrth eu cyffredinoli.
Rwy’n gallu archwilio, creu, adnabod a chynrychioli dilyniannau llinol rhifyddol a gofodol, gan gynnwys darganfod a defnyddio term cyffredinol.
Rwy’n gallu archwilio, creu, adnabod a chynrychioli dilyniannau rhifyddol a gofodol, gan ddefnyddio dilyniannau llinol ac aflinol.
Rwy’n dechrau dangos dealltwriaeth o gysyniadau ‘hafal’ a ‘ddim yn hafal’ gan ddefnyddio gwrthrychau
Rwy’n gallu defnyddio’r arwydd hafal i ddangos bod gan ddwy ochr brawddeg rhif yr un gwerth â’i gilydd, ac rwy’n gallu defnyddio arwyddion anhafaledd wrth gymharu meintiau er mwyn nodi ‘mwy na’ a ‘llai na’.
Rwyf wedi archwilio cymudedd mewn perthynas ag adio a lluosi, ac rwy’n gallu adnabod pan fydd dau fynegiad rhifyddol gwahanol yn disgrifio’r un sefyllfa ond eu bod wedi’u hysgrifennu mewn gwahanol ffyrdd.
Rwy’n gallu defnyddio cymudedd, dosbarthedd a chysylltiadedd er mwyn archwilio hafaledd ac anhafaledd mynegiadau.
Rwy’n gallu dangos fy nealltwriaeth o gysyniad newidyn, a defnyddio nodiant algebra i ffurfio mynegiadau, hafaliadau ac anhafaleddau llinol. Rwy’n gallu dehongli mynegiadau algebraidd gan fy mod yn deall y ffordd y defnyddir symbolau i gynrychioli gweithrediadau, lluosrifau a phwerau.
Rwy’n gallu archwilio cysyniadau hafaledd ac unfathiant, gan gysylltu cynrychioliadau algebraidd a graffigol.
Rwy’n gallu trin mynegiadau algebraidd yn rhugl drwy symleiddio, ehangu, tynnu a ffactorio drwy echdynnu ffactor cyffredin.
Rwy’n gallu trin mynegiadau algebraidd yn rhugl drwy ymestyn cromfachau dwbl, ffactorio mynegiadau cwadratig a symleiddio ffracsiynau algebraidd.
Rwy’n gallu dod o hyd i rifau coll pan mae bondiau rhif a ffeithiau lluosi yn anghyflawn.
Rwy’n gallu dangos dealltwriaeth o’r syniad o fewnbwn, cymhwyso rheol (gan gynnwys gweithrediadau gwrthdro) ac allbwn, defnyddio peiriant ffwythiant neu ddulliau priodol eraill, ac rwyf wedi cymhwyso’r syniad hwn i ddatrys problemau.
Rwy’n gallu modelu problemau gan greu mynegiadau a hafaliadau sy’n defnyddio symbolau neu eiriau i gynrychioli gwerthoedd anhysbys, gan fabwysiadu dulliau algebra. Rwy’n gallu defnyddio gweithrediadau gwrthdro er mwyn dod o hyd i werthoedd anhysbys mewn hafaliadau syml.
Rwy’n gallu archwilio a defnyddio dulliau effeithlon o ddatrys problemau ac anhafaleddau unradd, gan hefyd gymhwyso’r wybodaeth hon i ad-drefnu hafaliadau ble mae’r testun yn ymddangos mewn un term.
Rwy’n gallu defnyddio hafaliadau ac anhafaleddau unradd i gynrychioli a modelu sefyllfaoedd go iawn a datrys problemau gan ddefnyddio amrywiaeth o gynrychioliadau.
Rwy’n gallu archwilio a defnyddio dulliau effeithlon o ddatrys hafaliadau cydamserol, cwadratig a thrigonometrig gan hefyd gymhwyso’r wybodaeth hon i ad-drefnu hafaliadau ble mae’r testun yn ymddangos mewn un term.
Rwy’n gallu defnyddio hafaliadau ac anhafaleddau a graffiau perthnasol i gynrychioli a modelu sefyllfaoedd go iawn a datrys problemau, gan gynnwys rhai sy’n disgrifio cyfrannedd ac esbonyddiaeth.
Rwy’n gallu archwilio hafaliadau llinol ar ffurf graff ac rwy’n gallu dangos dealltwriaeth o’r effaith ar y llinell ble mae cysonyn neu gyfernod x yn cael ei newid.
Rwy’n gallu archwilio amrywiaeth o graffiau aflinol, gan gynnwys rhai cwadratig, ciwbig a chilyddol er mwyn dod i ddeall effaith cyfernodau a chysonion ar siâp y graff.
Rwy’n gallu darganfod neu amcangyfrif cyfradd newid ar bwynt mewn graff, ac rwy’n gallu archwilio’r arwynebedd o dan graff, gan ddeall beth maen nhw’n ei gynrychioli yng nghyd-destun bywyd go iawn.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5 Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Rwy’n gallu deall a chymhwyso iaith amser mewn perthynas â’m bywyd bob-dydd.
Rwyf wedi defnyddio amrywiaeth o wrthrychau i fesur. Wrth fesur, rwy’n dechrau deall yr angen i ailadrodd yr un uned ffisegol heb unrhyw fylchau.
Rwy’n gallu amcangyfrif a chymharu gyda mesurau megis ‘byrrach na...’, ‘trymach na...’.
Rwy’n dechrau dweud yr amser gan ddefnyddio amrywiaeth o ddyfeisiau. Rwyf wedi archwilio ac wedi defnyddio gwahanol ffyrdd o ddangos treigl amser, gan gynnwys calendrau, llinellau amser, amserlenni syml a rhestrau digwyddiadau.
Rwyf wedi archwilio mesur, gan ddefnyddio cyfrif, offer mesur a chyfrifo, ac rwy’n gallu dewis y dull mwyaf addas i fesur.
Rwy’n gallu amcangyfrif a mesur gan ddefnyddio unedau ansafonol priodol, cyn symud ymlaen i unedau safonol.
Rwy’n gallu defnyddio amrywiaeth o ddyfeisiau mesur o fannau cychwyn gwahanol.
Rwy’n gallu darllen clociau analog a digidol yn gywir ac rwy’n gallu gwneud cynrychioliadau a chyfrifo sy’n gysylltiedig ag amser.
Rwy’n gallu amcangyfrif a mesur hyd, cynhwysedd, màs, tymheredd ac amser, gan ddefnyddio unedau safonol priodol.
Rwy’n gallu cyfnewid rhwng unedau safonol, gan gynnwys cymhwyso fy nealltwriaeth o werth lle i gyfnewid rhwng unedau metrig.
Rwy’n gallu cynrychioli a defnyddio mesurau cyfansawdd, gan ddefnyddio unedau safonol, ac rwy’n gallu dangos dealltwriaeth o’r berthynas rhwng fformiwla sy’n cynrychioli mesuriad a’r unedau a ddefnyddiwyd.
Rwyf wedi archwilio, cymharu, a defnyddio iaith gyffredinol siapiau trwy chwarae ymchwiliol.
Rwyf wedi archwilio siapiau dau ddimensiwn a thri dimensiwn, ynghyd â’u priodweddau, mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
Rwyf wedi archwilio cymesuredd adlewyrchol mewn amrywiaeth o gyd-destunau ac rwy’n gallu’i drafod fel un o briodweddau siapiau dau ddimensiwn.
Rwy’n gallu archwilio a chadarnhau fy nealltwriaeth o briodweddau siapiau dau ddimensiwn gan gynnwys nifer yr ochrau a chymesuredd.
Rwy’n gallu archwilio fertigau, ymylon a wynebau siapiau tri dimensiwn ac rwy’n gallu defnyddio’r nodweddion hyn i ddisgrifio siâp tri dimensiwn.
Rwy’n gallu perthnasu siâp tri dimensiwn i’w rwydau dau ddimensiwn.
Rwy’n gallu defnyddio dulliau effeithlon i ddarganfod perimedr ac arwynebedd siapiau dau ddimensiwn, gan ddeall sut mae hafaliadau sylfaenol yn deillio ohonynt.
Rwy’n gallu defnyddio dulliau amrywiol i ymchwilio, rhagfynegi a dangos effaith trawsffurfiadau ar siapiau dau ddimensiwn.
Rwy’n gallu archwilio a chyfrifo arwynebedd a pherimedr siapiau dau ddimensiwn syml a chyfansawdd, gan gynnwys cylchoedd, ac rwyf wedi dangos dealltwriaeth o pi (π) fel cymhareb cylchedd cylch i’w ddiamedr. Rwy’n gallu cymhwyso fy nealltwriaeth o arwynebedd i gyfrifo arwynebedd arwyneb prismau syml.
Rwy’n gallu deillio a chymhwyso’r hafaliadau ar gyfer cyfaint prismau syml.
Rwy’n gallu cymhwyso fy nealltwriaeth o arwynebedd i ddangos a defnyddio’r berthynas rhwng trionglau ongl sgwâr a sgwariau yng nghyd-destun theorem Pythagoras.
Rwy’n gallu cymhwyso fy nealltwriaeth o effaith trawsffurfiadau ar briodweddau siapiau er mwyn esbonio pam maen nhw’n gyflun, yn gyfath neu ddim un o’r ddau.
Rwy’n gallu archwilio a dangos dealltwriaeth o effaith graddfa wrth gymharu mesuriadau siapiau cyflun ym mhob un o’r tri dimensiwn.
Rwy’n gallu dangos fy nealltwriaeth o raddfa a chymhareb wrth gyfrifo hyd ac arwynebedd ffracsiynau siapiau, gan gynnwys arcau a segmentau cylchoedd.
Rwy’n gallu defnyddio fy ngwybodaeth o fesur i gyfrifo perimedr, arwynebedd (neu arwynebedd arwyneb) a chyfaint siapiau dau ddimensiwn a thri dimensiwn cyfansawdd.
Rwy’n gallu archwilio cymarebau trigonometrig mewn trionglau ongl sgwâr ac rwy’n gallu defnyddio fy ngwybodaeth ohonyn nhw i ddatrys problemau sy’n cynnwys hydoedd, onglau ac arwynebedd unrhyw driongl.
Rwyf wedi archwilio symudiadau a chyfeiriadau ac rwy’n dechrau defnyddio iaith fathemategol i ddisgrifio safle.
Rwy’n gallu disgrifio a meintioli safle gwrthrychau mewn perthynas â gwrthrychau eraill.
Rwyf wedi datblygu dealltwriaeth o’r ffyrdd y defnyddir cyfesurynnau i ddatrys problemau sy’n ymwneud â safle, hyd a siâp.
Rwy’n gallu lleoli a disgrifio locws pwyntiau a ddiffiniwyd gan amrywiaeth o wahanol feini prawf.
Rwyf wedi archwilio’r cysyniad o gylchdroi, ac rwy’n dechrau defnyddio ffracsiynau syml mewn perthynas â chylchdro cyflawn i ddisgrifio troeon.
Rwy’n gallu dangos fy nealltwriaeth o onglau fel ffordd o fesur cylchdro, ac rwy’n gallu adnabod, enwi a disgrifio mathau o onglau.
Rwy’n gallu defnyddio ffeithiau am onglau a siapiau i ddiddwytho nodweddion a pherthnasoedd pellach yn ymwneud â thrionglau a phedrochrau.
Rwy’n gallu archwilio a chyfrifo onglau a ffurfiwyd gan linellau paralel ac ardrawslin. Rwyf wedi cymhwyso fy nealltwriaeth o onglau i fodelu a datrys problemau yn ymwneud â chyfeiriannau.
Rwy’n gallu defnyddio dadleuon rhesymegol, ynghyd â’r hyn rwy’n ei wybod am bolygonau, llinellau sy’n croesdorri, onglau a’r theoremau cylch, i ddiddwytho a chyfrifo maint onglau a hyd llinellau.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5 Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Rwy’n gallu ymchwilio, casglu a chofnodi data sydd yn fy amgylchedd.
Rwy’n gallu casglu a threfnu data er mwyn gofyn ac ateb cwestiynau mewn sefyllfaoedd perthnasol.
Rwy’n gallu casglu gwahanol fathau o ddata er mwyn ateb amrywiaeth o gwestiynau a ofynnwyd, gan ddangos fy mod yn deall pwysigrwydd casglu data perthnasol.
Rwy’n gallu dewis rhagdybiaeth synhwyrol er mwyn ei harchwilio. Rwyf wedi archwilio’r berthynas rhwng y math o ddata rwyf wedi eu casglu (gan gynnwys data ansoddol a meintiol) a sut y gellir trin a chynrychioli’r data hyn.
Rwy’n gallu archwilio gwahanol ddulliau samplu, yn cynnwys samplu systematig a haenedig, gan ddeall yr angen i ddewis dull casglu sampl priodol wrth gasglu data.
Rwy’n gallu grwpio setiau mewn i gategorïau a rwy’n dechrau cyfleu’r rheol neu’r rheolau rwyf wedi’u defnyddio.
Rwy’n gallu didoli a dosbarthu gan ddefnyddio mwy nag un maen prawf, gan ddefnyddio diagramau Venn a diagramau Carroll.
Rwy’n dechrau cofnodi a chyflwyno data mewn amrywiol ffyrdd, gan gynnwys defnyddio siartiau rhifo, tablau amlder, a graffiau bloc lle y darperir echelinau a graddfeydd priodol.
Rwy’n gallu cynrychioli gwybodaeth drwy greu amrywiaeth o siartiau priodol sy’n cymhlethu’n gynyddol, gan gynnwys siartiau cyfrif, tablau amlder, graffiau bar a graffiau llinell.
Rwy’n gallu gwneud dewisiadau gwybodus am sut i drefnu a chynrychioli data, gan ddefnyddio amrywiaeth eang o graffiau a siartiau, gan gynnwys siart cylch, diagram amlder a pholygon amlder.
Rwy’n gallu ymestyn fy nulliau cynrychioli data, gan gynnwys dulliau amlder cronnus, blwch a blewyn, a histogramau, er mwyn dehongli mesurau canolduedd a mesurau gwasgariad.
Rwy’n dechrau cyflwyno a dehongli data, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau.
Rwy’n dechrau dehongli a dadansoddi graffiau, siartiau a data syml.
Rwy’n gallu esbonio fy nghanfyddiadau, a dechrau gwerthuso llwyddiant fy null gweithredu.
Rwy’n gallu defnyddio gwahanol raddfeydd i echdynnu a dehongli gwybodaeth allan o amrywiaeth o ddiagramau, tablau a graffiau, gan gynnwys siartiau cylch gyda ffracsiynau a chyfraneddau syml. Rwy’n gallu adnabod unrhyw dueddiadau a welir.
Rwy’n gallu dod o hyd i gymedr set syml o ddata a’i ddefnyddio i esbonio sut mae’r ystadegau yn cefnogi neu yn gwrthddweud dadl. Rwy’n gallu adnabod sut mae anomaleddau yn effeithio ar y cymedr.
Rwy’n gallu deall y gellir defnyddio gwahanol gyfartaleddau i gymharu data, gan gynnwys data wedi’u grwpio, gan adnabod manteision ac anfanteision pob cyfartaledd.
Rwy’n gallu archwilio tueddiadau ac anomaleddau mewn setiau data, gan ymchwilio i’r cydberthyniad rhwng dau newidyn.
Rwy’n gallu defnyddio data er mwyn dod i gasgliadau am ragdybiaethau, ac rwyf wedi mynegi fy nghanfyddiadau yn glir. Rwy’n gallu trafod fy nulliau a’m canfyddiadau yn feirniadol.
Rwy’n gallu dadansoddi ystadegau’n feirniadol, gan ystyried sut y caiff data eu cyflwyno, eu dibynadwyedd, a’r modd, os o gwbl, y mae’r data wedi cael eu trin i adrodd stori benodol. Rwy’n gallu gwneud penderfyniadau gwybodus yn seiliedig ar dystiolaeth ystadegol, gan adnabod bias ac anomaleddau.
Rwy’n gallu archwilio canlyniad a siawns, gan ddefnyddio iaith briodol, ac rwy’n dechrau defnyddio gwerth rhifol i gynrychioli tebygolrwydd.
Yn systematig, rwy’n gallu archwilio’r holl ganlyniadau cyd-anghynhwysol posibl sy’n gysylltiedig â digwyddiadau dilynol a chyfunol.
Rwy’n gallu defnyddio modelu i ddatrys problemau sy’n ymwneud â thebygolrwydd digwyddiadau cyd-anghynhwysol, annibynnol a dibynnol.
Rwyf wedi archwilio’r berthynas rhwng amlder cymharol a thebygolrwydd damcaniaethol, ac rwy’n gallu llunio barn ar ganlyniadau data arbrofol.
Rwy’n gallu defnyddio dadleuon tebygoliaethol sy’n seiliedig ar ddamcaniaethau, gwybodaeth, gwaith ymchwil ac arbrofion er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus.