MAES DYSGU A PHROFIADIeithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Canllawiau i helpu ysgolion a lleoliadau i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu o ran y pedwar diben.
4. Disgrifiadau dysgu
Mae’r disgrifiadau dysgu yn rhoi canllawiau ar sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig ar eu taith ar hyd y continwwm Dysgu. Dysgu mwy am y disgrifiadau Dysgu.
Mae’r adran cynllunio eich cwricwlwm ar gyfer y Maes hwn yn cynnwys canllawiau ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5 Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Gwyliwch y llinyn iaith, diwylliant, a hunaniaeth yn BSL yma.
Rwy’n dechrau bod yn ymwybodol o gysylltiad rhwng iaith(ieithoedd) a diwylliant, ac rwy’n datblygu ymdeimlad o berthyn.
Rwy’n gallu adnabod bod cysylltiad rhwng ieithoedd, diwylliant a’r ymdeimlad sydd gen i o’m hunaniaeth Gymreig.
Rwy’n gallu deall bod cysylltiadau rhwng iaith, diwylliant a hunaniaeth a bod rhain yn amrywio o fewn Cymru ac o amgylch y byd.
Rwy’n gallu deall sut y gall ieithoedd feithrin ymdeimlad o berthyn i’r gymuned leol a byd-eang.
Rwy’n gallu archwilio a dadansoddi sut mae ieithoedd yn effeithio ar hunaniaeth a diwylliant, a deall bod eu dysgu yn cynnig cyfleodd ehangach yng Nghymru ac mewn cyd-destunau rhyngwladol.
Rwy’n gallu dangos agwedd agored tuag at ddysgu am wahanol ieithoedd a gwahanol ddiwylliannau Cymru a’r byd.
Trwy ddysgu am ieithoedd, rwy’n gallu mynegi sut mae’r cysylltiad rhwng ieithoedd a diwylliant yn fy mharatoi i fod yn ddinesydd i Gymru a’r byd.
Gwyliwch y llinyn amlieithrwydd yn BSL yma.
Rwy’n dechrau deall bod gwahanol ieithoedd yn fy amgylchedd.
Rwy’n dechrau siarad â’m cyfoedion yn iaith y lleoliad/ysgol.
Rwy’n gallu deall bod pobl yn defnyddio gwahanol ieithoedd.
Rwy’n gallu cyfathrebu mewn ystod cynyddol o ieithoedd.
Rwy’n gallu defnyddio fy ngwybodaeth o sut mae ieithoedd yn gweithio i gefnogi fy nysgu pellach mewn ieithoedd.
Rwy’n gallu cyfathrebu, rhyngweithio a chyfryngu mewn sawl iaith, ac yn ystyried fy hun yn amlieithog.
Gwyliwch y llinyn esblygiad iaith ac etymoleg yn BSL yma.
Rwy’n dechrau deall bod nodweddion tebyg a gwahanol rhwng ein hieithoedd.
Rwy’n gallu adnabod a thrafod cysylltiadau, nodweddion cyffredin a nodweddion gwahanol rhwng yr ieithoedd rwy’n eu siarad a’r rhai rwy’n eu dysgu.
Rwy’n gallu deall sut a pham mae ieithoedd wedi esblygu, ac yn parhau i esblygu.
Rwy’n gallu defnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am gysylltiadau, nodweddion cyffredin a nodweddion gwahanol rhwng ieithoedd i gefnogi fy sgiliau dysgu ieithoedd.
Trwy archwilio proses esblygiad iaith ac etymoleg, rwy’n gallu gwella fy nealltwriaeth o adeiladwaith iaith.
Rwy’n gallu cymhwyso’r hyn rwy’n ei wybod am gysylltiadau, nodweddion cyffredin a nodweddion gwahanol rhwng ieithoedd i wella fy nghyfathrebu.
Rwy’n gallu defnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am esblygiad iaith ac etymoleg i ddyfnhau fy nealltwriaeth o adeiladwaith iaith.
Gwyliwch y llinyn amrywiadau iaith yn BSL yma.
Rwy’n gallu adnabod a deall gwahanol acenion a thafodieithoedd.
Rwy’n gallu addasu a bod yn sensitif i amrywiaeth o fewn ieithoedd a deall bod amrywiaeth yn digwydd o fewn gwahanol grwpiau cymdeithasol, rhanbarthol ac ieithyddol.
Mae gen i agwedd gadarnhaol tuag at wahanol acenion a thafodieithoedd ac rwy’n gwerthfawrogi amrywiaeth iaith.
Gwyliwch y llinyn trawsieithu yn BSL yma.
Rwy’n dechrau defnyddio gwybodaeth sydd wedi’i chyflwyno mewn un iaith a’i mynegi yn fy ngeiriau fy hun mewn iaith arall.
Rwy’n gallu derbyn gwybodaeth mewn un iaith a’i haddasu at wahanol ddibenion mewn iaith arall.
Rwy’n gallu cymhwyso fy sgiliau trawsieithu er mwyn cefnogi dysgu ieithoedd cyfarwydd ac ieithoedd newydd.
Rwy’n gallu adnabod, yn annibynnol, gyfleoedd i roi fy sgiliau trawsieithu ar waith er mwyn cyfoethogi’r modd rwy’n dysgu a chyfathrebu.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5 Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Cymraeg/Saesneg Rwy’n gallu gwahaniaethu seiniau, chwarae â seiniau a thrin seiniau o fewn fy amgylchedd yn ogystal ag o fewn geiriau.
Rwy’n dechrau gwahaniaethu ffonemau yn glywedol mewn gwahanol safleoedd.
Rwy’n gallu adnabod a dilyn gwybodaeth ddarluniadol a/neu gwybodaeth lafar, a chyfarwyddiadau aml-gam am bynciau cyfarwydd ac arferion.
Rwy’n gallu gwrando ar, deall a chyfathrebu ystyr cyffredinol yr hyn rwy’n ei glywed.
Rwy’n gallu gwrando ar, deall ac adalw’n ddiweddarach yr hyn rwyf wedi’i glywed.
Rwy’n gallu deall gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau, gan adnabod y prif bwyntiau.
Rwy’n gallu deall ac ymateb i ystod o gwestiynau a chyfarwyddiadau aml-gam mewn amrywiaeth o gyd-destunau cyfarwydd ac anghyfarwydd.
Rwy’n gallu defnyddio ciwiau amrywiol i ragfynegi’r ystyr cyffredinol mewn amrywiaeth o gyd-destunau llafar cyfarwydd ac anghyfarwydd.
Rwy’n gallu gwrando ar, deall, ac adalw yn ddiweddarach mewn mwy o fanylder, ystyr cyffredinol yr hyn rwyf wedi’i glywed.
Rwy’n gallu gwrando ar a deall gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau, gan grynhoi’r prif bwyntiau.
Rwy’n gallu gwrando ar, adnabod a defnyddio ciwiau i ddeall ystyr cyffredinol a syniadau sydd ymhlyg.
Rwy’n gallu deall a dadansoddi ystyr cyffredinol a syniadau sydd ymhlyg.
Rwy’n gallu deall a gwerthuso’r hyn rwy’n ei glywed a’i ddarllen mewn gwahanol gyd-destunau ar draws amrywiaeth eang o iaith.
Rwy’n gallu gwrando ar eraill gyda sylw cynyddol.
Rwy’n gallu gwrando ar eraill a deall y gallan nhw fod â safbwynt gwahanol i mi.
Rwy’n gallu gwrando gydag empathi ar safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol.
Rwy’n gallu gwrando gydag empathi ar safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol gan ddefnyddio’r safbwyntiau i gyrraedd fy nghasgliadau fy hun.
Rwy’n gallu gwrando gydag empathi, gan barchu safbwyntiau gwahanol bobl, ac rwy’n gallu gwerthuso’r safbwyntiau hyn yn feirniadol er mwyn cyrraedd fy nghasgliadau ystyriol fy hun.
Rwy’n gallu mwynhau rhannu llyfrau a deunyddiau darllen a’u trin fel darllenydd.
Rwy’n gallu defnyddio unedau sain o amrywiol feintiau er mwyn dysgu darllen.
Rwy’n gallu segmentu a chyfuno.
Rwy’n gallu deall fod perthynas un-i-un rhwng y gair ysgrifenedig a’r gair llafar.
Rwy’n dechrau datblygu fy ngwybodaeth o gyfatebiaeth graffem-ffonem, ac i gyfuno'r wybodaeth honno.
Rwy’n dechrau adnabod a darllen geiriau aml eu defnydd.
Rwy’n gallu defnyddio cyd-destun a lluniau i’m helpu i ddeall ystyr yr hyn rwyf yn ei ddarllen.
Rwy’n dechrau darllen yn ôl yr hyn yr rwyf yn ei ysgrifennu.
Rwy’n gallu defnyddio cyfatebiaethau graffem-ffonem wrth ddarllen, gan gynnwys cyfuno'r rhain i ddadgodio geiriau.
Rwy’n gallu defnyddio ystod o strategaethau i ddarllen gyda rhuglder cynyddol.
Rwy’n gallu darllen gwahanol destunau gan ddefnyddio ystod o strategaethau i bennu ystyr.
Rwy’n gallu adnabod nodweddion gwahanol fathau o destunau a defnyddio iaith briodol i siarad amdanyn nhw.
Rwy’n gallu darganfod a defnyddio gwybodaeth o wahanol ddeunyddiau rwyf yn eu darllen.
Rwy’n gallu darllen testunau gan ddewis strategaethau sy’n rhoi’r mwyaf o gymorth i mi eu deall. Gallai’r strategaethau hyn gynnwys gweithio ar draws fy ieithoedd.
Rwy’n gallu cymharu gwahanol bethau rwy’n eu darllen.
Rwy’n gallu darllen ystod o destunau gan ddewis strategaethau i’w deall nhw ac i wella fy mynegiant a chyfathrebu.
Rwy’n gallu defnyddio ystod o strategaethau i grynhoi, syntheseiddio a dadansoddi gwybodaeth er mwyn deall testunau’n fanwl.
Rwy’n gallu defnyddio ystod o strategaethau i adnabod a rhagfynegi ystyr ar draws ystod eang o destunau, a thrwy hyn gyfoethogi fy mynegiant a chyfathrebu.
Rwy’n gallu dehongli ystyr o destun a delweddau.
Rwy’n gallu defnyddio sgiliau dehongli a dod i gasgliad er mwyn deall testunau, a gallu ystyried dibynadwyedd yr hyn yr wyf yn ei ddarllen.
Rwy’n gallu defnyddio sgiliau dehongli a dod i gasgliad i ddeall testunau mwy cymhleth, a gallu ystyried dibynadwyedd ac effaith yr hyn yr wyf yn ei ddarllen.
Rwy’n gallu defnyddio sgiliau dehongli a dod i gasgliad i fagu dealltwriaeth fanwl o destunau cymhleth ac rwy’n gallu gwerthuso dibynadwyedd, dilysrwydd ac effaith yr hyn yr wyf yn ei ddarllen.
Rwy’n gallu deall a defnyddio cysyniadau sylfaenol mewn iaith.
Rwy’n ymwybodol o sut mae geiriau’n cael eu gwahanu gan fylchau.
Rwy’n dechrau dod yn ymwybodol o sut mae prif lythrennau ac atalnodau llawn yn pennu ffiniau brawddegau.
Rwy’n gallu darllen ar goedd gyda mynegiant, gan roi sylw i atalnodi.
Rwy’n gallu gwrando a darllen i fagu dealltwriaeth o’r ffordd y mae gramadeg ac atalnodi’n effeithio ar ystyr.
Rwy’n gallu gwrando a darllen i ddatblygu fy nealltwriaeth o’r ffordd mae gramadeg ac atalnodi’n siapio brawddegau a thestunau cyflawn.
Rwy’n gallu defnyddio fy ngwybodaeth o adeiladwaith geiriau, gramadeg gan gynnwys cystrawen, a threfn testunau i gefnogi fy nealltwriaeth o’r hyn rwy’n ei glywed a’i ddarllen.
Rwy’n dechrau gofyn ac ateb cwestiynau er mwyn deall yn well.
Rwy’n gallu ymateb i’r hyn rwy’n ei glywed, ei ddarllen a’i weld.
Rwy’n gallu siarad am yr hyn rwy’n ei glywed, ei ddarllen neu’i weld, a mynegi barn syml.
Rwy’n gallu ymateb i’r hyn rwy’n ei glywed, ei ddarllen a’i weld, gan ofyn cwestiynau a dangos fy nealltwriaeth.
Rwy’n gallu darllen gydag empathi i adnabod safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol.
Rwy’n gallu darllen gydag empathi i adnabod safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol, gan eu defnyddio i ffurfio fy nghasgliadau fy hun.
Rwy’n gallu darllen gydag empathi i barchu a gwerthfawrogi’n feirniadol bersbectif gwahanol bobl, gan ddefnyddio hyn i ffurfio fy nghasgliadau ystyriol fy hun.
Rwy’n gallu arbrofi gyda geirfa rwyf newydd ei dysgu.
Rwy’n gallu datblygu fy ngeirfa trwy wrando a darllen, a defnyddio’r geiriau newydd hyn mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
Rwy’n gallu gwrando a darllen er mwyn datblygu fy ngeirfa, ynganiad a strwythurau brawddegau, gan ddefnyddio’r rhain wrth i mi gyfathrebu.
Rwy’n gallu gwrando a darllen er mwyn cadarnhau a datblygu fy ngeirfa a strwythurau brawddegau gan ddefnyddio’n gywir yr hyn rwy’n ei ddysgu wrth i mi gyfathrebu.
Rwy’n gallu gwrando a darllen i ddatblygu ystod eang o eirfa gyffredinol a phenodol, ac rwy’n gallu eu defnyddio’n fanwl gywir mewn gwahanol gyd-destunau.
Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Cymraeg mewn lleoliadau/ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg Rwy’n gallu adnabod a dilyn gwybodaeth a chyfarwyddiadau syml am bynciau cyfarwydd ac arferion.
Rwy’n gallu gwrando ar, deall ac yna adalw’n ddiweddarach yr hyn rwyf wedi’i glywed.
Rwy’n gallu deall gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau.
Rwy’n gallu defnyddio ciwiau amrywiol i ragfynegi’r ystyr gyffredinol mewn amrywiaeth o gyd-destunau llafar.
Rwy’n gallu gwrando, deall ac ymateb i ystod o gwestiynau a chyfarwyddiadau aml-gam mewn amrywiaeth o gyd-destunau cyfarwydd.
Rwy’n gallu deall ystyr gyffredinol yr hyn rwy’n ei glywed, ac rwy’n gallu cyfathrebu hyn yn fy newis iaith.
Rwy’n gallu gwrando ar a deall gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau, ei hadalw a chrynhoi’r prif bwyntiau yn fy newis iaith.
Rwy’n gallu defnyddio ciwiau amrywiol i ragfynegi’r ystyr gyffredinol mewn amrywiaeth o gyd-destunau llafar cyfarwydd ac anghyfarwydd.
Rwy’n gallu gwrando a defnyddio ciwiau i ddeall ystyr gyffredinol yr hyn rwyf wedi’i glywed gan grynhoi yn fy newis iaith.

Rwy’n gallu gwrando ar eraill, a deall y gallan nhw fod â safbwynt wahanol i mi.
Rwy’n gallu gwrando a darllen gydag empathi, gan gydnabod safbwyntiau amrywiol pobl eraill.
Rwy’n gallu gwrando a darllen gydag empathi, a myfyrio ar bersbectif pobl eraill er mwyn llywio fy ffordd i o feddwl.
Rwy’n gallu gwrando a darllen gydag empathi, gan barchu safbwyntiau gwahanol bobl ac rwy’n gallu gwerthuso’r safbwyntiau hyn yn feirniadol er mwyn cyrraedd fy nghasgliadau ystyriol fy hun.
Rwy’n dechrau adnabod a darllen geiriau aml eu defnydd rwy’n dod ar eu traws.
Rwy’n gallu defnyddio cyd-destun a lluniau i’m helpu i ddeall ystyr geiriau.

Rwy’n gallu darllen testunau gan ddewis strategaethau sy’n rhoi’r mwyaf o gymorth i mi eu deall.
Rwy’n gallu cymharu gwahanol bethau rwy’n eu ddarllen.

Rwy’n gallu defnyddio ystod o strategaethau i adnabod a rhagfynegi’r ystyr cyffredinol ar draws ystod eang o destunau.
Rwy’n gallu defnyddio ystod o strategaethau i grynhoi, syntheseiddio a dadansoddi gwybodaeth i fagu dealltwriaeth ehangach o destunau a chyfoethogi fy mynegiant a chyfathrebu.

Rwy’n gallu defnyddio sgiliau dehongli a dod i gasgliad er mwyn deall testun.
Rwy’n gallu defnyddio sgiliau dehongli a dod i gasgliad er mwyn deall testunau mwy cymhleth, a gallu ystyried dibynadwyedd yr hyn yr wyf yn ei ddarllen.
Rwy’n gallu defnyddio sgiliau dehongli a dod i gasgliad i fagu dealltwriaeth o destunau cymhleth ac rwy’n gallu gwerthuso dibynadwyedd ac effaith yr hyn yr wyf yn ei ddarllen.
Rwy’n gallu ddarllen ar goedd gyda mynegiant, gan roi sylw i atalnodi.
Rwy’n gallu gwrando a darllen gan ddangos ymwybyddiaeth o’r ffordd y mae gramadeg ac atalnodi’n effeithio ar ystyr.
Rwy’n gallu gwrando a darllen i ddatblygu fy nealltwriaeth o’r ffordd y mae gramadeg ac atalnodi’n siapio brawddegau a thestunau cyflawn.
Rwy’n gallu defnyddio fy ngwybodaeth o adeiladwaith geiriau, gramadeg gan gynnwys cystrawen, a threfn testunau i gefnogi fy nealltwriaeth o’r hyn rwy’n ei glywed a'i ddarllen.

Rwy’n gallu datblygu fy ngeirfa ac ynganiad trwy wrando a darllen, ac rwy’n gallu defnyddio’r geiriau newydd hyn.
Rwy’n gallu datblygu fy ngeirfa ac ynganiad trwy wrando a darllen, a defnyddio’r geiriau newydd hyn mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
Rwy’n gallu gwrando a darllen er mwyn datblygu fy ngeirfa, ynganiad a strwythurau brawddegau, gan ddefnyddio’r rhain wrth i mi gyfathrebu ar draws ystod o gyd-destunau.
Rwy’n gallu gwrando a darllen er mwyn cadarnhau a datblygu fy ngeirfa a strwythurau brawddegau, gan ddefnyddio’r rhain yn gywir wrth i mi gyfathrebu mewn ystod eang o gyd-destunau.
Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Iaith Arwyddion Prydain Gwyliwch y llinyn deall ffonoleg yn BSL yma.
Rwy’n dechrau gwahaniaethu rhwng arwyddion sy'n debyg yn ffonolegol.
Rwy'n dechrau adnabod rhai patrymau gwefus ac ystumiau ceg a ddefnyddir yn BSL.
Rwy'n gallu adnabod tebygrwydd mewn ystyr ar draws arwyddion sy'n rhannu nodweddion, er enghraifft ffurf y llaw, a lleoliad.
Rwy'n gallu deall pan fydd ffonoleg yn cael ei defnyddio'n greadigol mewn llenyddiaeth BSL.
Gwyliwch y llinyn deall amrywiadau yn BSL yma.
Rwy'n gallu deall ystod o arwyddion ar draws gwahanol gyd-destunau.
Rwy’n gallu adnabod arwyddion, gan gynnwys arwyddion ar gyfer berfau sy’n gysylltiedig â gwybyddiaeth (er enghraifft ‘meddwl’, ‘gwybod’, ‘deall’, synhwyro) ac arwyddion sy’n mynegi cyfeiriadau amser a chysyniadau haniaethol.
Rwy'n deall sut y gellir addasu arwyddion unigol i newid ystyr.
Rwy’n gallu deall rhai amrywiadau rhanbarthol BSL, fel arwyddion ar gyfer lliwiau a rhifau.
Rwy’n deall ystod eang o amrywiadau rhanbarthol BSL.
Gwyliwch y llinyn datblygu geirfa yn BSL yma.
Rwy’n gallu arbrofi gyda geirfa.
Rwy’n gallu datblygu fy ngeirfa drwy ymwneud â phobl eraill sy’n defnyddio BSL ac â llenyddiaeth BSL, ac rwy’n gallu defnyddio’r arwyddion newydd hyn mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
Rwy'n gallu deall arwyddion, gan gynnwys arwyddion i fynegi cyfeiriadau amser, cysyniadau haniaethol a berfau sy’n gysylltiedig â gwybyddiaeth ac arwyddion sy’n gysylltiedig â theimladau.
Rwy'n gallu deall sut mae defnyddio nodweddion dwylo a nodweddion heblaw’r dwylo i addasu ystyron arwyddion unigol.
Rwy'n gallu ymwneud â phobl eraill sy’n defnyddio BSL ac â llenyddiaeth BSL i ddatblygu fy ngeirfa a dealltwriaeth o ramadeg BSL.
Rwy'n gallu deall ystod gynyddol o eirfa gyffredinol a geirfa bwnc-benodol.
Rwy’n gallu deall cystrawennau morffolegol cynyddol gymhleth, gan gynnwys nodweddion heblaw’r dwylo, ac addasiadau i gyflymder a hyd arwyddion, sy'n ychwanegu at ystyr neu’n ei newid.
Rwy'n gallu ymwneud â sgyrsiau a thestunau BSL i atgyfnerthu a datblygu fy ngeirfa a strwythurau arwyddo.
Rwy'n gallu deall ystod o eirfa gyffredinol a geirfa bwnc-benodol.
Rwy’n gallu ymwneud â sgyrsiau a thestunau BSL i ddatblygu ystod eang o eirfa gyffredinol a geirfa sy’n ymwneud â phynciau penodol, ac rwy’n gallu eu defnyddio’n fanwl gywir mewn gwahanol gyd-destunau.
Rwy’n gallu deall geirfa gymhleth pwnc-benodol ac rwy’n gallu deall defnydd soffistigedig o eirfa yn fwy gyffredinol.
Gwyliwch y llinyn deall nodweddion heblaw’r dwylo yn BSL yma.
Rwy’n gallu adnabod gwahaniaethau mewn arwyddion a nodweddion heblaw’r dwylo i wahaniaethu rhwng brawddegau negyddol a chadarnhaol a chwestiynau.
Rwy'n gallu adnabod nodweddion heblaw’r dwylo mewn arwyddion sy’n cyfleu teimladau.
Rwy’n gallu deall y defnydd o nodweddion dwylo a nodweddion heblaw’r dwylo, er enghraifft i amlygu rhywbeth.
Rwy’n gallu deall y defnydd o addasyddion ar gyfer nodweddion dwylo a nodweddion heblaw’r dwylo.
Gwyliwch y llinyn deall sillafu â’r bysedd yn BSL yma.
Rwy’n dechrau adnabod geiriau sy’n cael eu sillafu â’r bysedd, yn enwedig enwau pobl cyfarwydd.
Rwy’n gallu deall y gwahaniaeth rhwng arwyddion a geiriau sy’n cael eu sillafu â’r bysedd, ac rwy’n deall bod llythrennau sy’n cael eu sillafu â’r bysedd yn cynrychioli llythrennau mewn geiriau ysgrifenedig.
Rwy'n gallu adnabod geiriau sy’n cael eu sillafu â’r bysedd ar gyfer enwau pobl ac enwau lleoedd.
Rwy'n gallu adnabod a deall patrymau cyffredin wrth sillafu â’r bysedd.
Rwy'n gallu adnabod arwyddion sy'n deillio o ffurfiau sy’n cael eu sillafu â’r bysedd.
Rwy'n gallu deall geiriau sy’n cael eu sillafu â’r bysedd ar gyflymder naturiol.
Gwyliwch y llinyn deall testunau BSL yn BSL yma.
Rwy’n gallu adnabod a dilyn cyfarwyddiadau aml-gam am bynciau ac arferion cyfarwydd.
Rwy’n gallu deall hanfod yr hyn sy’n cael ei arwyddo.

Rwy’n gallu deall ystod o gwestiynau a chyfarwyddiadau aml-gam, ac ymateb iddynt, mewn amrywiaeth o gyd-destunau cyfarwydd ac anghyfarwydd.
Rwy’n gallu defnyddio cyd-destun ac awgrymiadau i fy helpu i ddeall BSL mewn ystod o gyd-destunau cyfarwydd ac anghyfarwydd.
Rwy’n gallu deall cwestiynau am destun BSL, a maes o law rwy’n gallu ymateb iddynt.
Rwy’n gallu deall gwybodaeth mewn BSL am amrywiaeth o bynciau, ac rwy’n gallu crynhoi’r prif bwyntiau.
Rwy’n gallu deall a dadansoddi’r ystyr cyffredinol a’r syniadau sydd ymhlyg mewn testunau BSL.
Rwy’n gallu deall a gwerthuso cyfathrebiadau sy’n cael eu harwyddo, a thestunau BSL mewn gwahanol gyd-destunau ar draws ystod eang o amrywiadau a chyweiriau iaith.
Gwyliwch y llinyn empathi yn BSL yma.
Rwy’n gallu ymwneud â phobl sy'n defnyddio BSL ac rwy’n gallu gwneud hynny gyda sylw cynyddol, gan wneud defnydd da o gyswllt â’r llygaid.
Rwy’n gallu ymwneud ag eraill a deall y gallan nhw fod â safbwyntiau gwahanol i fy rhai i.
Rwy’n gallu ymwneud yn empathig â safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol.
Rwy’n gallu ymwneud yn empathig â safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol, gan ddefnyddio’r safbwyntiau hynny i ddod i fy nghasgliadau fy hun.
Rwy’n gallu ymwneud yn empathig â phobl eraill sy’n defnyddio BSL, gan barchu a gwerthuso safbwyntiau pobl wahanol yn feirniadol cyn dod i fy nghasgliadau ystyriol fy hun.
Gwyliwch y llinyn dehongli a dod i gasgliad yn BSL yma.
Rwy’n gallu dehongli ystyr.
Rwy’n gallu dehongli ystyr a dod i gasgliadau er mwyn deall testunau BSL ac ystyried eu dibynadwyedd.
Rwy’n gallu dehongli a dod i gasgliadau er mwyn deall testunau BSL mwy cymhleth ac rwy’n gallu ystyried eu dibynadwyedd a’u heffaith.
Rwy’n gallu dehongli a dod i gasgliadau er mwyn cael dealltwriaeth fanwl o destunau BSL cymhleth ac rwy’n gallu gwerthuso eu dibynadwyedd, eu dilysrwydd a’u heffaith.
Gwyliwch y llinyn deall naratifau yn BSL yma.
Rwy'n gallu dilyn straeon a disgrifiadau o ddigwyddiadau'r gorffennol.
Rwy’n gallu dilyn newid rôl syml mewn naratif.
Rwy'n gallu dilyn naratifau a disgrifiadau o ddigwyddiadau'r gorffennol, gan gynnwys rhai naratifau dilys, am gyfnodau hirach.
Rwy’n gallu dilyn newid shifft mwy cymhleth ac estynedig mewn naratif.
Rwy’n gallu dilyn naratifau mwy cymhleth sy'n cynnwys newid rôl a mwy nag un cyfeirydd.
Rwy'n gallu dilyn naratifau a disgrifiadau dilys o ddigwyddiadau'r gorffennol.
Rwy'n gallu deall naratifau hir a chymhleth ar draws llawer o wahanol genres.
Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Ieithoedd Rhyngwladol Rwyf wedi clywed ieithoedd rhyngwladol yn cael eu defnyddio.
Rwy’n gallu adnabod ymadroddion a geiriau aml eu defnydd a deall yr ystyr gyffredinol yn yr hyn rwy’n ei glywed, ei ddarllen a’i weld.

Rwy’n gallu defnyddio ystod o strategaethau i adnabod a rhagfynegi’r ystyr cyffredinol ar draws ystod eang o destunau ac rwy’n gallu deall syniadau sydd ymhlyg.
Rwy’n gallu gwrando a darllen gydag empathi, gan adnabod amrywiol farn pobl eraill.
Rwy’n gallu gwrando a darllen gydag empathi er mwyn gweld safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol.
Rwy’n gallu gwrando a darllen gydag empathi er mwyn gweld safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol, gan ddefnyddio hyn i lywio fy ffordd i o feddwl.
Rwy’n gallu gwrando a darllen er mwyn datblygu cronfa o eiriau a brawddegau, gan ddefnyddio’r rhain i wella fy nghyfathrebu fy hun.
Rwy’n gallu gwrando a darllen er mwyn cynyddu fy ngeirfa, ac rwy’n gallu amrywio strwythurau fy mrawddegau i wella fy nghyfathrebu fy hun.
Rwy’n gallu gwrando a darllen er mwyn ymestyn ystod fy iaith, a gwella fy mynegiant a’m cyfathrebu fy hun.
Rwy’n gallu gwrando a darllen i fagu dealltwriaeth o sut mae gramadeg ac atalnodi yn effeithio ar ystyr.
Rwy’n gallu gwrando a darllen i ddatblygu fy nealltwriaeth o’r ffordd mae gramadeg ac atalnodi yn siapio brawddegau a thestunau cyflawn.

Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5 Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Cymraeg/Saesneg Rwy’n gallu cynhyrchu nifer o seiniau llafar yn gywir.
Rwy’n gallu siarad yn glir, gan amrywio mynegiant ac ystumiau er mwyn cyfathrebu fy syniadau.
Rwy’n gallu defnyddio brawddegau syml ac aml-gymalog gan wneud dewisiadau er mwyn cyrraedd cynulleidfa benodol a chyflawni’r pwrpas a fwriadwyd.
Rwy’n gallu adnabod yr iaith briodol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a dibenion gan amrywio fy mynegiant, geirfa a naws i ennyn diddordeb y gynulleidfa.
Rwy’n gallu dewis ac addasu’r iaith briodol ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd a dibenion, gan gyfleu ystyr yn effeithiol i’r gynulleidfa.
Rwy’n gallu argyhoeddi wrth gyfleu ystyr mewn ystod o gyd-destunau gan ennyn diddordeb llawn y gynulleidfa.
Rwy’n gallu cyfathrebu ystyr gan ddefnyddio iaith lafar estynedig a/neu ystum.
Rwy’n dechrau defnyddio iaith briodol i siarad am ddigwyddiadau yn y gorffennol a’r dyfodol.
Rwy’n gallu cyfathrebu gan ddefnyddio geirfa sy’n gynyddol amrywiol ac yn gynyddol fanwl gywir.
Rwy’n gallu defnyddio brawddegau syml ac aml-gymalog.
Rwy’n gallu amrywio’r math o frawddegau rwy’n eu defnyddio yn fy iaith lafar.
Rwy’n gallu addasu a thrin iaith a gwneud dewisiadau priodol ynghylch geirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl ac eglur.
Rwy’n gallu gwneud dewisiadau gwybodus am eirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl, yn eglur ac yn gywir.
Rwy’n gallu gwneud dewisiadau gwybodus ynghylch geirfa a gramadeg i cyfoethogi fy sgiliau cyfathrebu.
Rwy’n gallu edrych ar fy ngwaith ac rwy’n dechrau defnyddio ystod o strategaethau ac adnoddau cyfarwydd i wella fy ngwaith llafar ac ysgrifennu.
Rwy’n gallu egluro ble a pham rwyf wedi gwneud unrhyw newidiadau neu gywiriadau.
Rwy’n gallu myfyrio ar ansawdd fy mynegiant a defnyddio ystod o strategaethau i sicrhau mwy o eglurder yn fy nghyfathrebu gweledol, llafar ac ysgrifenedig.
Rwy’n gallu myfyrio ar fy nefnydd o strategaethau i wella ansawdd, cywirdeb ac effaith fy nghyfathrebu gweledol, llafar ac ysgrifenedig.
Rwy’n gallu myfyrio’n feirniadol ar fy nefnydd o iaith ac yn gallu ystyried yn wrthrychol effaith fy nghyfathrebu gweledol, llafar ac ysgrifenedig.
Rwy’n dechrau cymryd fy nhro mewn sgyrsiau, gan ddilyn y pwnc dan sylw.

Rwy’n gallu ymgymryd ag ystod o rolau a rheoli fy nghyfraniad yn briodol.
Rwy’n gallu newid y modd rwy’n cyfathrebu, yn ôl lle’r wyf i a chyda phwy.
Rwy’n gallu defnyddio iaith lafar at wahanol ddibenion.
Rwy’n gallu gofyn ac ateb cwestiynau a chyfnewid syniadau a gwybodaeth.
Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan ymofyn eglurhad, strwythuro dadleuon, crynhoi ac esbonio’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu’i weld.
Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan grynhoi a gwerthuso’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu’i weld, strwythuro dadleuon a herio gyda hyder a sensitifrwydd yr hyn y mae eraill yn ei ddweud.
Rwy’n gallu gwerthuso ac ymateb yn feirniadol i’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld.
Rwy’n gallu cyfathrebu gan wneud marciau, darlunio symbolau neu ysgrifennu llythrennau a geiriau mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
Rwy’n dechrau ffurfio llythrennau’n gywir gan afael yn briodol yn yr offer ysgrifennu.
Rwy’n gallu ysgrifennu’n ddarllenadwy.
Rwy’n gallu ysgrifennu’n ddarllenadwy a rhugl.
Rwy’n dechrau ysgrifennu gan ddefnyddio geiriau ac ymadroddion cyfarwydd.
Rwy’n gallu ysgrifennu geiriau ac ymadroddion gan ddefnyddio gwybodaeth am lythrennau a’r seiniau maen nhw’n eu cynrychioli.
Rwy’n gallu sillafu geiriau afreolaidd cyffredin yn gywir.
Rwy’n gallu defnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am sain a phatrwm llythrennau yn gywir yn fy sillafu.
Rwy’n gallu rhoi ymgais ar sillafu geiriau anoddach mewn ffordd resymol gan ddefnyddio ystod o strategaethau.

Rwy’n gallu defnyddio atalnodi cyfarwydd.
Rwy’n gallu rhannu syniadau a theimladau a mynegi’r hyn yr wyf yn ei hoffi ac nad wyf yn ei hoffi.
Rwy’n gallu disgrifio gwrthrychau a digwyddiadau, gan adeiladu ac ymestyn fy ngeirfa.
Rwy’n gallu esbonio gwybodaeth a rhannu syniadau, barn a theimladau gan ddefnyddio geirfa berthnasol.
Rwy’n gallu rhyngweithio gydag eraill, siarad ac ysgrifennu am fy meddyliau, teimladau a barn, gan ddangos empathi a pharch.
Rwy’n gallu rhannu fy meddyliau, teimladau a barn gydag eraill, gan ddefnyddio ystod o dechnegau at wahanol ddibenion gan ddangos empathi a pharch.
Rwy’n gallu cyfathrebu fy meddyliau, teimladau a barn mewn cyd-destunau heriol a dadleuol gan ddangos empathi a pharch.
Rwy’n dechrau deall y gellir ysgrifennu at wahanol ddibenion ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.
Rwy’n gallu cyfrannu at ysgrifennu ar y cyd ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a dibenion.
Rwy’n dechrau cyfathrebu gan ddefnyddio testun, delwedd, sain, animeiddiad a fideo.
Rwy’n gallu defnyddio geiriau ac ymadroddion cyfarwydd ac arbrofi â geirfa rwyf newydd ei dysgu.
Rwy’n gallu siarad er mwyn cynllunio ysgrifennu at wahanol ddibenion ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.
Rwy’n gallu trefnu fy ngwaith ysgrifennu i ddilyn yn rhesymegol.
Rwy’n gallu ysgrifennu gan ddefnyddio geirfa sy’n gynyddol ddychmygus, amrywiol a manwl gywir.
Rwy’n gallu defnyddio iaith idiomatig gyfarwydd a chywair priodol wrth gyfathrebu.
Rwy’n gallu dewis iaith idiomatig a chywair priodol wrth gyfathrebu er mwyn cyfoethogi fy mynegiant.
Rwy’n gallu defnyddio iaith idiomatig soffistigedig a chywair priodol mewn ystod o gyd-destunau.
Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Cymraeg mewn lleoliadau/ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg Rwy’n gallu cynhyrchu nifer o seiniau llafar yn gywir.
Rwy’n gallu dewis siarad gyda fy nghyfoedion yn Gymraeg.
Rwy’n gallu siarad gyda mynegiant ac ystumiau er mwyn cyfathrebu fy syniadau.
Rwy’n gallu defnyddio ac addasu iaith gyfarwydd, gan amrywio geirfa a naws yn ôl y gynulleidfa.

Rwy’n gallu cyfathrebu ystyr trwy iaith lafar ac ystum.
Rwy’n gallu cyfathrebu gan ddefnyddio geirfa sy’n gynyddol amrywiol.

Rwy’n gallu addasu a thrin iaith a gwneud dewisiadau priodol ynghylch geirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun.
Rwy’n gallu gwneud dewisiadau gwybodus am eirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun.
Rwy’n gallu gwneud dewisiadau gwybodus ynghylch geirfa a gramadeg i ddyfnhau fy sgiliau cyfathrebu.
Rwy’n gallu edrych dros fy ngwaith ac rwy’n dechrau defnyddio ystod o strategaethau ac adnoddau cyfarwydd i wella fy ngwaith llafar ac ysgrifennu.
Rwy’n gallu myfyrio ar safon fy mynegiant a defnyddio ystod o strategaethau i sicrhau mwy o eglurder yn fy nghyfathrebu gweledol, llafar ac ysgrifenedig.
Rwy’n gallu egluro yn fy newis iaith ble a pham rwyf wedi gwneud unrhyw newidiadau neu gywiriadau.

Rwy’n dechrau gofyn ac ateb cwestiynau.

Rwy’n gallu gofyn ac ateb cwestiynau a chyfnewid syniadau a gwybodaeth
Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill.

Rwy’n gallu sillafu geiriau aml eu defnydd yn gywir.
Rwy’n gallu defnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am sain a phatrwm llythrennau i gefnogi fy sillafu.

Rwy’n gallu siarad yn fy newis iaith er mwyn cynllunio ysgrifennu at wahanol ddibenion ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.
Rwy’n gallu cynllunio ac ysgrifennu at wahanol ddibenion ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.

Rwy’n dechrau mynegi fy nheimladau.
Rwy’n gallu rhannu syniadau a mynegi barn a theimladau gan ddefnyddio geirfa berthnasol.
Rwy’n gallu disgrifio digwyddiadau, gan adeiladu ac ymestyn fy ngeirfa.

Rwy’n gallu rhannu fy meddyliau, teimladau a barn gydag eraill, gan ddefnyddio ystod o dechnegau i wahanol ddibenion gan ddangos empathi a pharch.

Rwy’n gallu defnyddio geirfa sy’n gynyddol ddychmygus ac amrywiol.

Rwy’n gallu defnyddio iaith idiomatig a chywair priodol i gyfoethogi fy mynegiant mewn ystod o gyd-destunau.
Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Iaith Arwyddion Prydain Gwyliwch y llinyn mynegiant yn BSL yma.
Rwy'n dechrau ffurfio arwyddion yn gywir.
Rwy'n gallu mynegi arwyddion BSL a llythrennau unigol sy’n cael eu sillafu'n gywir â’r bysedd.
Rwy’n gallu mynegi rhifolion yn gywir.
Gwyliwch y llinyn defnyddio geirfa yn BSL yma.
Rwy’n gallu disgrifio gwrthrychau a digwyddiadau, gan ddatblygu ac ymhelaethu fy ngeirfa.
Rwy’n dechrau defnyddio nodweddion heblaw’r dwylo yn gyson ar gyfer arwyddion unigol.
Rwy’n dechrau defnyddio arwyddion i nodi amser.
Rwy’n gallu defnyddio geirfa gynyddol greadigol ac amrywiol.
Rwy’n gallu amrywio ystyr drwy gynnwys nodweddion heblaw’r dwylo.
Rwy'n gallu defnyddio arwyddion a chanddynt batrymau gwefus ac ystumiau ceg yn perthyn yn uniongyrchol iddynt.
Rwy’n gallu addasu a thrin iaith a gwneud dewisiadau priodol ynghylch geirfa er mwyn mynegi fy hun yn rhugl ac yn eglur.
Rwy’n gallu defnyddio amrywiadau BSL o ranbarthau eraill, fel sy’n briodol ar gyfer y gynulleidfa.
Rwy’n gallu gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth ynghylch geirfa er mwyn mynegi fy hun yn rhugl, yn eglur ac yn gywir.
Rwy’n gallu gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth i wella fy sgiliau cyfathrebu.
Gwyliwch y llinyn sillafu â’r bysedd yn BSL yma.
Rwy’n dechrau defnyddio arwyddion sy’n cael eu sillafu â’r bysedd, er enghraifft ar gyfer enwau cyfarwydd.
Rwy'n gallu sillafu â’r bysedd yn gywir ar gyflymder fy hun.
Rwy'n gallu sillafu â’r bysedd yn gywir ar gyflymder naturiol.
Rwy’n gallu defnyddio’r patrymau a’r arwyddion priodol wrth sillafu â’r bysedd.
Gwyliwch y llinyn defnyddio nodweddion heblaw’r dwylo yn BSL yma.
Rwy'n gallu cyfuno arwyddion i ffurfio brawddegau.
Rwy’n gallu defnyddio nodweddion dwylo a nodweddion heblaw’r dwylo wrth ofyn cwestiynau.
Rwy'n dechrau cyfleu elfennau negyddol ac elfennau cadarnhaol, gan ddefnyddio’r dwylo a nodweddion heblaw’r dwylo.
Rwy’n dechrau addasu berfau gofodol i ddangos dull neu symudiad.
Rwy’n gallu defnyddio cytundeb mewn berfau cyfeiriadol.

Rwy’n gallu defnyddio nodweddion dwylo a nodweddion heblaw’r dwylo i addasu berfau gofodol er mwyn dangos dull a/neu symudiad.
Rwy’n gallu dangos cysondeb o ran lleoli cyfeiryddion.
Rwy'n gallu cysylltu brawddegau i ddatblygu ystyr ac i ddatblygu testun BSL cyfan.
Rwy'n gallu nodi pryd mae pethau'n digwydd (y gorffennol, y presennol neu'r dyfodol) drwy ddefnyddio lleoedd a llinellau amser.
Rwy'n gallu defnyddio'r ddwy law i gynrychioli berfau sy’n digwydd ar yr un pryd.
Rwy’n gallu amlygu pethau drwy ddefnyddio nodweddion dwylo a nodweddion heblaw’r dwylo.
Rwy'n gallu mynegi perthynas amseryddol pethau drwy amrywiaeth o ddyfeisiau gramadegol.
Rwy’n gallu pwysleisio ystyr drwy ddefnyddio amrywiaeth eang o nodweddion dwylo, a nodweddion heblaw’r dwylo gan gynnwys nodweddion sy’n cyfeirio at amser.
Gwyliwch y llinyn newid rôl yn BSL yma.
Rwy’n dechrau defnyddio newid rôl i ddangos rhyngweithio byr rhwng cymeriadau yn fy naratifau.
Rwy’n gallu defnyddio newid rôl i ddangos rhyngweithio byr rhwng cymeriadau yn fy naratifau.
Rwy’n gallu defnyddio newid rôl i ddangos rhyngweithio estynedig rhwng cymeriadau mewn naratifau mwy cymhleth.
Rwy’n gallu defnyddio newid rôl i ddangos rhyngweithio estynedig cyson rhwng cymeriadau mewn naratifau mwy cymhleth.
Gwyliwch y llinyn defnyddio dosbarthyddion yn BSL yma.
Rwy'n gallu defnyddio ystod o ddosbarthyddion gafael.
Rwy'n dechrau defnyddio disgrifydd maint a siâp.
Rwy'n gallu ailadrodd dosbarthyddion neu rifau i ddangos lluosogion.
Rwy'n gallu defnyddio disgrifyddion maint a siâp a dosbarthyddion endid cyfan.
Rwy'n gallu defnyddio dosbarthyddion sy’n cyfeirio at rannau o’r corff.
Rwy'n gallu defnyddio dosbarthyddion fel berfau gofodol.
Rwy'n gallu defnyddio berfau gofodol a dosbarthyddion cymhleth yn briodol.
Gwyliwch y llinyn cynulleidfa a phwrpas yn BSL yma.
Rwy’n gallu arwyddo’n glir, gan ddefnyddio mynegiant priodol a nodweddion heblaw’r dwylo i gyfleu fy syniadau.
Rwy’n gallu defnyddio brawddegau syml a rhai aml-gymalog, gan wneud dewisiadau sy’n addas i’r gynulleidfa ac i’r diben.
Rwy’n gallu dewis iaith briodol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a dibenion.
Rwy’n gallu defnyddio iaith briodol ar gyfer ystod o gyd-destunau, cyweiriau, cynulleidfaoedd a dibenion, gan gyfleu ystyr yn effeithiol.
Gwyliwch y llinyn effeithiolrwydd personol yn BSL yma.
Rwy’n gallu adolygu fy arwyddo a’i addasu i wella fy naratifau BSL.
Rwy’n gallu myfyrio ar fy arwyddo a defnyddio ystod o strategaethau i wella fy iaith arwyddion ar draws gwahanol gyweiriau a chyd-destunau.
Rwy’n gallu egluro ble a pham rwyf wedi gwneud newidiadau neu gywiriadau mewn testun BSL.
Rwy’n gallu myfyrio ar y ffordd rwy’n defnyddio strategaethau er mwyn gwella fy BSL ar draws gwahanol genres.
Rwy’n gallu myfyrio’n feirniadol ar fy nefnydd o iaith ac rwy’n gallu ystyried yn wrthrychol effaith fy BSL ar draws gwahanol genres.
Gwyliwch y llinyn rhyngweithio yn BSL yma.
Rwy'n dechrau cymryd fy nhro mewn sgyrsiau, gan ddilyn y pwnc a’r normau diwylliannol Byddar priodol (er enghraifft ar gyfer cael sylw a rhoi adborth).
Rwy’n dechrau gofyn ac ateb cwestiynau.
Rwy’n gallu amrywio’r ffordd rwy’n cyfathrebu gan ddibynnu ar y cyd-destun a’r gynulleidfa.

Rwy'n gallu defnyddio strategaethau cyfarwydd i gymryd rhan yn effeithiol mewn sgyrsiau.
Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan ofyn am eglurhad, strwythuro dadleuon, crynhoi ac egluro’r hyn rwyf wedi’i ddeall.
Rwy’n gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i gymryd rhan yn effeithiol mewn sgyrsiau.
Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan grynhoi a gwerthuso’r hyn rwyf wedi’i ddeall, strwythuro dadleuon a herio’r hyn y mae eraill yn ei ddweud, mewn modd hyderus a sensitif.
Rwy’n gallu gwerthuso ac ymateb yn feirniadol i sgyrsiau a thestunau BSL.
Gwyliwch y llinyn hunanfynegiant yn BSL yma.
Rwy’n gallu rhannu syniadau a theimladau, a mynegi’r hyn yr wyf yn ei hoffi a’r hyn nad wyf yn ei hoffi.
Rwy’n gallu egluro gwybodaeth a rhannu syniadau, safbwyntiau a theimladau.
Rwy’n gallu rhyngweithio ag eraill, gan gyfleu fy meddyliau, fy nheimladau a fy safbwyntiau, gan ddangos empathi a pharch.
Rwy’n gallu rhannu fy meddyliau, fy nheimladau a fy safbwyntiau ag eraill, gan ddefnyddio ystod o dechnegau i greu gwahanol effeithiau, gan ddangos empathi a pharch.
Rwy’n gallu cyfleu fy meddyliau, fy nheimladau a fy safbwyntiau mewn cyd-destunau heriol a dadleuol, gan ddangos empathi a pharch.
Gwyliwch y llinyn cyfathrebu’n effeithiol yn BSL yma.
Rwy’n dechrau defnyddio technoleg ddigidol i gyfathrebu.
Rwy’n gallu cynllunio a threfnu fy naratifau BSL mewn dilyniant rhesymegol ar gyfer gwahanol ddibenion a chynulleidfa.

Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Ieithoedd Rhyngwladol Rwyf wedi profi cyfleoedd i ddefnyddio ieithoedd rhyngwladol.
Rwy’n gallu cyfathrebu gan ddefnyddio ymadroddion a brawddegau cyfarwydd.
Rwy’n gallu cyfleu ystyr gan ddefnyddio geirfa a phatrymau iaith rydw i wedi’u dysgu, ac rwy’n gallu eu cymhwyso i sefyllfaoedd newydd.
Rwy’n gallu dewis yr ystod a’r cywair priodol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a dibenion, gan amrywio fy iaith i ennyn diddordeb y gynulleidfa.
Rwy’n dechrau myfyrio ar fy nefnydd o iaith er mwyn gwella ansawdd fy nghyfathrebu.
Rwy’n gallu myfyrio ar fy nefnydd o iaith, ac yn gallu cymhwyso strategaethau cyfarwydd er mwyn gwella ansawdd fy nghyfathrebu gweledol, llafar ac ysgrifenedig.
Rwy’n gallu myfyrio’n feirniadol ar fy nefnydd o iaith, ac yn gallu gwneud dewisiadau gwybodus ynghylch geirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn eglur.
Rwy’n dechrau rhyngweithio gydag eraill, gan rannu gwybodaeth, teimladau a barn.
Rwy’n gallu mynegi a chyfiawnhau fy meddyliau a’m syniadau. Rwy’n gallu rhyngweithio gydag eraill gan rannu fy safbwyntiau gydag empathi a pharch.
Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill, a’u herio, gan ymofyn eglurhad a strwythuro dadleuon.
Rwy’n gallu cyfathrebu fy meddyliau, teimladau a barn mewn cyd-destunau dadleuol gan ddangos empathi a pharch.
Rwy’n gallu llunio fy mrawddegau fy hun gan ddefnyddio’r eirfa a’r patrymau rwyf wedi eu dysgu.
Rwy’n gallu addasu a thrin iaith i adeiladu brawddegau gan ddefnyddio geirfa sy’n gynyddol amrywiol.
Rwy’n gallu defnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am ramadeg, gan gynnwys cystrawen, ac ystod eang o eirfa er mwyn cyfoethogi fy nghyfathrebu annibynnol.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5 Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Cymraeg/Saesneg Rwy’n gallu ymuno â chaneuon, rhigymau, straeon a cherddi cyfarwydd.
Rwy’n gallu ailadrodd straeon.
Rwy’n gallu ymateb yn greadigol i’r ystod o lenyddiaeth rwy’n ei chlywed, ei ddarllen neu’n ei weld.
Rwy’n gallu gwrando ar farddoniaeth, drama a rhyddiaith, a’u cofio.
Rwy’n gallu ailadrodd straeon mewn ffordd greadigol.
Rwy’n gallu defnyddio fy nychymyg i ymateb i lenyddiaeth a’i haddasu i greu fy ngwaith fy hun.
Rwy’n gallu cynnig sylwadau ar lenyddiaeth a gwneud cysylltiadau rhwng yr hyn rwy’n ei glywed, ei ddarllen a’i weld.
Rwy’n gallu defnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am arddulliau ysgrifennu a nodweddion gwahanol genres llenyddol er mwyn creu fy ngwaith fy hun.
Rwy’n gallu archwilio amrywiaeth eang o genres, gan arbrofi gyda dewisiadau iaith a thechnegau ar gyfer fy nibenion creadigol fy hun.
Rwy’n gallu mynd i’r afael ag amrywiaeth eang o genres llenyddol er mwyn archwilio a saernïo fy ngwaith fy hun.

Rwy’n gallu defnyddio fy nychymyg i greu fy llenyddiaeth fy hun.
Rwy’n gallu defnyddio fy nychymyg ac arbrofi gydag iaith i greu fy llenyddiaeth fy hun.
Rwy’n gallu defnyddio fy nychymyg ac arbrofi gyda gwahanol ffurfiau a thechnegau creadigol er mwyn creu fy llenyddiaeth fy hun.
Rwy’n gallu arbrofi gyda a chreu fy llenyddiaeth fy hun.
Rwy’n gallu ymateb i’r hyn rwy’n ei glywed, ei ddarllen a’i weld, ac rwy’n gallu mynegi barn syml ar hyn.
Rwy’n dechrau gofyn ac ateb cwestiynau i wella fy nealltwriaeth.

Rwy’n gallu adnabod nodweddion gwahanol fathau o lenyddiaeth a defnyddio iaith briodol i siarad amdanyn nhw.
Rwy’n gallu ystyried plot, cymeriad, thema a chyd-destun y llenyddiaeth rwy’n ei phrofi, gan gefnogi fy syniadau a’m barn gyda thystiolaeth o’r llenyddiaeth.
Rwy’n gallu gwneud cysylltiadau rhwng yr hyn rwy’n ei glywed, ei ddarllen a’i weld.
Rwy’n gallu archwilio, dadansoddi a chymharu syniadau allweddol gan ddefnyddio terminoleg briodol, a chefnogi fy marn gyda manylion priodol o’r testun.
Rwy’n gallu gwerthuso cysyniadau allweddol yn feirniadol ynghyd ag effaith dewisiadau iaith a thechnegau ar y darllenwyr/gwylwyr gan ddefnyddio detholiad cadarn o fanylion perthnasol o’r testun.
Rwy’n dechrau dangos empathi gyda chymeriadau mewn llenyddiaeth.
Rwy’n gallu dangos empathi wrth ymateb i lenyddiaeth ac rwy’n deall y gall fod gan bobl eraill farn wahanol i mi.
Rwy’n gallu gwerthfawrogi llenyddiaeth, gan ddangos empathi ynghyd â dealltwriaeth y gall llenyddiaeth gael ei dehongli mewn gwahanol ffyrdd.
Rwy’n gallu gwerthfawrogi llenyddiaeth, gan ddangos empathi wrth werthuso gwahanol ddehongliadau ohoni, gan gynnwys fy nehongliad fy hun.
Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Cymraeg mewn lleoliadau/ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg Rwyf wedi profi llenyddiaeth.
Rwy’n gallu ymuno â chaneuon, rhigymau, straeon a cherddi cyfarwydd.
Rwy’n dechrau ymateb i lenyddiaeth rwy’n ei chlywed a’i gweld.
Rwyf wedi profi ystod o lenyddiaeth.

Rwy’n gallu defnyddio fy nychymyg i ymateb i lenyddiaeth a’i haddasu.
Rwy’n gallu gwrando ar farddoniaeth, drama a rhyddiaith, gan eu cofio a’u haddasu mewn ffordd greadigol.

Rwy’n gallu defnyddio fy nychymyg i ymateb i lenyddiaeth.
Rwy’n gallu ymateb i’r hyn rwy’n ei glywed, ei ddarllen a’i weld, gan fynegi barn a dangos fy nealltwriaeth yn fy newis iaith.
Rwy’n gallu defnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am arddulliau ysgrifennu a nodweddion gwahanol lenyddiaeth er mwyn creu fy ngwaith fy hun.
Rwy’n gallu archwilio amrywiaeth eang o lenyddiaeth, gan arbrofi gyda dewisiadau iaith a thechnegau ar gyfer fy mhwrpas creadigol fy hun.

Rwy’n gallu defnyddio fy nychymyg er mwyn creu fy llenyddiaeth fy hun.

Rwy’n dechrau ymateb i’r hyn rwy’n ei glywed a’i weld.
Rwy’n gallu ymateb i’r hyn rwy’n ei glywed, ei ddarllen a’i weld gan fynegi barn syml yn fy newis iaith.
Rwy’n dechrau gofyn ac ateb cwestiynau er mwyn i mi ddeall yn well.
Rwy’n gallu ymateb i’r hyn rwy’n ei glywed, ei ddarllen a’i weld, gan ofyn cwestiynau er mwyn dangos fy nealltwriaeth.

Rwy’n gallu ystyried plot, cymeriad, thema a chyd-destun y llenyddiaeth rwy’n ei phrofi, gan gefnogi fy syniadau a’m barn gyda thystiolaeth o’r testun.

Rwy’n gallu dangos empathi wrth ymateb i lenyddiaeth a chydnabod y gall fod gan bobl eraill farn wahanol i mi.
Rwy’n gallu gwerthfawrogi llenyddiaeth gan ddangos empathi ynghyd â dealltwriaeth y gall llenyddiaeth gael ei dehongli mewn gwahanol ffyrdd.
Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Iaith Arwyddion Prydain Gwyliwch y llinyn profi llenyddiaeth BSL yn BSL yma.
Rwy'n gallu adrodd straeon byr a syml yn BSL.
Rwy’n gallu ymateb yn greadigol i ystod o lenyddiaeth BSL.
Rwy'n gallu ymuno gyda straeon a cherddi cyfarwydd ac rwy’n gallu ymateb i hiwmor BSL a hiwmor Byddar.
Rwy'n gallu gwylio a gwneud sylwadau ar farddoniaeth, dramâu a rhyddiaith BSL, yn ogystal a Cyfiaith Weledol.
Rwy'n gallu adrodd fy straeon BSL fy hun ac ailadrodd straeon BSL cyfarwydd mewn modd creadigol.
Rwy’n gallu defnyddio fy nychymyg i ymateb i lenyddiaeth BSL a’i haddasu i greu fy ngwaith fy hun.
Rwy’n gallu cynnig sylwadau ar lenyddiaeth BSL a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol destunau BSL.
Rwy’n gallu defnyddio fy ngwybodaeth am arddulliau a genres BSL, gan gynnwys comedi, barddoniaeth, naratifau ac Cyfiaith Weledol, er mwyn creu fy ngwaith fy hun.
Rwy'n gallu ailadrodd straeon BSL estynedig, gan gynnal cyfeiryddion a chymeriad.
Rwy’n gallu archwilio ystod eang o genres llenyddol BSL, gan arbrofi gyda dewisiadau iaith a thechnegau (gan gynnwys dosbarthyddion a chysgodi gweithredoedd) at fy nibenion creadigol fy hun.
Rwy’n gallu mynd i’r afael ag ystod eang o genres llenyddol BSL er mwyn archwilio a chreu fy ngwaith fy hun.
Gwyliwch y llinyn creu llenyddiaeth BSL yn BSL yma.
Rwy’n gallu defnyddio arwyddion ac ymadroddion cyfarwydd ac rwy’n gallu arbrofi â geirfa yr wyf newydd ei dysgu.
Rwy'n dechrau cynrychioli gwahanol gymeriadau yn fy naratifau.
Rwy’n dechrau addasu fy sgiliau arwyddo i ehangu fy naratifau.
Rwy’n gallu defnyddio fy nychymyg i greu fy llenyddiaeth BSL fy hun.
Rwy’n gallu deall a defnyddio BSL at ddibenion creadigol, er enghraifft effeithiau dramatig.
Rwy’n gallu defnyddio fy nychymyg ac arbrofi ag iaith i greu llenyddiaeth BSL.
Rwy’n gallu creu naratifau sydd wedi'u datblygu'n llawn.
Rwy'n deall ac yn defnyddio ystod eang o BSL at ddibenion creadigol.
Rwy’n gallu defnyddio fy nychymyg ac arbrofi â gwahanol ffurfiau a thechnegau creadigol i greu fy llenyddiaeth BSL fy hun.
Rwy'n gallu defnyddio gofod gwahanol ar gyfer y stori a’r adroddwr.
Rwy’n gallu mynegi arlliwiau o awyrgylch, cymeriad a safbwynt yn y llenyddiaeth BSL rwy’n ei chreu.
Gwyliwch y llinyn cysgodi gweithredoedd yn BSL yma.
Rwy'n gallu deall ac adnabod rolau a chymeriadau mewn naratifau sy’n defnyddio techneg cysgodi gweithredoedd.
Rwy’n gallu cynrychioli gwahanol gymeriadau yn gyson drwy gysgodi gweithredoedd.
Rwy'n gallu cysgodi gweithredoedd yn greadigol ac ar gyfer naratifau estynedig.
Rwy'n gallu cysgodi gweithredoedd yn greadigol, gan ymgorffori lleoliadau a chyfeiryddion cynyddol gymhleth.
Gwyliwch y llinyn ymateb i lenyddiaeth BSL yn BSL yma.
Rwy’n gallu ymateb i lenyddiaeth BSL, gan fynegi safbwyntiau syml arni.
Rwy’n dechrau gofyn ac ateb cwestiynau er mwyn deall llenyddiaeth BSL yn well.
Rwy’n gallu ymateb i lenyddiaeth BSL, gan ofyn cwestiynau a dangos fy nealltwriaeth.
Rwy’n gallu adnabod nodweddion gwahanol fathau o lenyddiaeth BSL a defnyddio iaith briodol i siarad amdanynt.
Rwy’n dechrau dangos empathi tuag at gymeriadau mewn llenyddiaeth BSL.
Rwy’n gallu ystyried plot, cymeriadau, themâu a chyd-destun llenyddiaeth BSL, gan gefnogi fy syniadau a fy safbwyntiau gyda thystiolaeth o’r llenyddiaeth.
Rwy’n gallu dangos empathi wrth ymateb i lenyddiaeth BSL ac rwy’n deall ei bod yn bosibl y bydd gan bobl eraill safbwyntiau gwahanol i mi.
Rwy’n gallu archwilio, dadansoddi a chymharu syniadau allweddol gan ddefnyddio terminoleg briodol, gan gefnogi fy safbwyntiau gyda manylion priodol o’r testun.
Rwy’n gallu gwerthfawrogi llenyddiaeth BSL, gan ddangos empathi ac rwy’n deall y gall llenyddiaeth gael ei dehongli’n wahanol gan wahanol bobl.
Rwy’n gallu gwerthuso cysyniadau allweddol yn feirniadol ynghyd ag effaith dewisiadau iaith a thechnegau ar y gwyliwr, gan ddefnyddio detholiad cadarn o fanylion perthnasol o’r testun.
Rwy’n gallu gwerthfawrogi llenyddiaeth BSL, gan ddangos empathi wrth werthuso gwahanol ddehongliadau arni.
Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Ieithoedd Rhyngwladol Rwyf wedi profi llenyddiaeth o ddiwylliannau eraill ac mewn ieithoedd rhyngwladol.

Rwy’n gallu ymateb yn greadigol yn fy newis iaith, i lenyddiaeth yn yr iaith ryngwladol.
Rwy’n gallu gwrando ar a chofio darnau byrion o lenyddiaeth yn yr iaith ryngwladol, ac rwy’n gallu ailadrodd yn fy newis iaith yr hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu’i weld gan ddefnyddio fy nychymyg.
Rwy’n gallu ymateb, yn fy newis iaith, yn greadigol ac yn feirniadol i brif nodweddion yr hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu’i weld yn yr iaith ryngwladol.
Rwy’n gallu defnyddio geiriau ac ymadroddion cyfarwydd ac arbrofi â geirfa rwyf newydd ei dysgu yn yr iaith ryngwladol.
Rwy’n gallu defnyddio fy nychymyg ac arbrofi gydag iaith i greu fy llenyddiaeth fy hun yn yr iaith ryngwladol.
Rwy’n gallu defnyddio fy nychymyg ac arbrofi gyda gwahanol ffurfiau a thechnegau creadigol er mwyn creu fy llenyddiaeth fy hun yn yr iaith ryngwladol.
Rwy’n gallu mynegi fy marn yn fy newis iaith, gan gefnogi’r safbwyntiau gydag enghreifftiau o’r llenyddiaeth rwyf wedi’i chlywed, ei darllen neu’i gweld yn yr iaith ryngwladol.
Rwy’n gallu adnabod nodweddion gwahanol genres gan ymateb yn fy newis iaith i’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld yn yr iaith ryngwladol, gan holi ac ateb cwestiynau er mwyn ennill dealltwriaeth.
Rwy’n gallu archwilio a dadansoddi’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld yn yr iaith ryngwladol, a chymharu hyn gyda fy niwylliant a’m profiadau fy hun, a mynegi hyn yn fy newis iaith.
Rwy’n gallu dangos empathi wrth ymateb i lenyddiaeth a deall y gall fod gan bobl eraill farn wahanol i mi.
Rwy’n gallu mynegi, yn fy newis iaith, fy marn ar yr hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld yn yr iaith ryngwladol, gan ddangos empathi ac ystyriaeth o farn pobl eraill.
Rwy’n gallu mynegi a chyfiawnhau, yn fy newis iaith, fy marn ar yr hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld yn yr iaith ryngwladol, gan ddangos empathi ac egluro safbwyntiau pobl eraill.