Deall Cwricwlwm i Gymru
Yma, ceir eglurhad o fodelau'r cwricwlwm, beth mae'n ei olygu i fabwysiadu dull o gynllunio a gwireddu'r cwricwlwm yng Nghwricwlwm i Gymru sy’n canolbwyntio ar broses, ac ystyriaethau ymarferol ar gyfer creu'r cwricwlwm.
Cyflwyniad
Mae'r adran hon yn archwilio natur Cwricwlwm i Gymru. Mae creu dealltwriaeth gyffredin o'r egwyddorion hyn yn bwysig i’r cwricwlwm, gan gynnwys dulliau o feithrin cynnydd ac asesu, gael eu deall a’u gwireddu’n gyson ar draws Cymru.
Syniadau allweddol
Mae dau fideo yn yr adran hon sy'n archwilio syniadau allweddol am theori ac ymarfer y cwricwlwm, a sut mae'r rhain yn cyd-gysylltu â Chwricwlwm i Gymru.
Sut ydyn ni'n deall Cwricwlwm i Gymru?
Mae'r fideo hwn yn cyflwyno dau gyd-destun sy'n helpu i greu dealltwriaeth gyffredin o Gwricwlwm i Gymru:
- y duedd ryngwladol tuag at greu 'cwricwla’r unfed ganrif ar hugain'
- modelau cwricwlwm: yn enwedig y dull o gynllunio cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar broses
Mae'r syniadau allweddol a gyflwynir yn y fideo hwn yn darparu sail ar gyfer meddwl am Gwricwlwm i Gymru fel un sy'n cyd-fynd orau â dull sy’n canolbwyntio ar broses.
- Sut ydyn ni'n deall Cwricwlwm i Gymru: trawsgrifiad fideo pdf 167 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Sut ydyn ni'n deall Cwricwlwm i Gymru: sleidiau cyflwyniad pdf 542 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Seminar 1: Y dull o weithredu’r cwricwlwm a dysgu sy’n canolbwyntio ar broses
Cafodd y seminar hon ei chreu i gefnogi gwaith meddwl a gwaith y grŵp cyd-ddatblygu. Mae'n archwilio'n fanylach beth mae dull sy’n canolbwyntio ar broses yn ei olygu wrth greu cwricwlwm, beth mae'n ei olygu i le gwybodaeth yn y cwricwlwm a beth mae'n ei olygu i rôl yr athro.
Mae cwestiynau i'w trafod wedi'u cynnwys ar ddiwedd y fideo sy'n canolbwyntio ar yr hyn y gallai'r dull sy’n canolbwyntio ar broses ei olygu i'ch dysgwyr.
Gellir lawrlwytho taflen argraffadwy o'r sleidiau a ddefnyddiwyd i greu'r fideo hwn ochr yn ochr â thrawsgrifiad llawn.
- Seminar 1: Y dull o weithredu’r cwricwlwm a dysgu sy’n canolbwyntio ar broses – trawsgrifiad fideo pdf 139 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Seminar 1: Y dull o weithredu’r cwricwlwm a dysgu sy’n canolbwyntio ar broses – sleidiau cyflwyniad pdf 345 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Archwilio ymhellach
Mae'r trosolwg hwn yn archwilio cydlyniad y cwricwlwm ymhellach, ac mae'n cynnwys cwestiynau i gefnogi ysgolion a lleoliadau i fyfyrio ar gydlyniad wrth ddylunio'r cwricwlwm.
- Cydlyniant y cwricwlwm pdf 156 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Meddwl ar waith
Crëwyd y deunyddiau yma i gefnogi gwaith meddwl y grŵp cyd-ddatblygu ar fodelau'r cwricwlwm a'r hyn y mae pob un o'r modelau hyn yn ei olygu ar gyfer creu'r cwricwlwm yn ymarferol.
Mae deall y gwaith meddwl hwn yn helpu ymarferwyr i alinio'r cwricwlwm, asesu ac addysgeg â'r modelau sy'n sail i'r fframwaith cwricwlwm y maent yn gweithio gydag ef.
Mae cwestiynau wedi'u cynnwys er mwyn i unigolion a grwpiau o ymarferwyr fyfyrio ar eu dulliau eu hunain o addysgu mewn perthynas â modelau'r cwricwlwm.
- Dulliau o greu cwricwlwm pdf 204 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath