English

Cael gwybod am y gofynion ar gyfer Gwyddoniaeth yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3 a 4 a'r rhaglenni ar gyfer astudio ym mhob Cyfnod Allweddol ynghyd â thargedau cyrhaeddiad a disgrifiadau lefel.

Dogfennau

  • Gwyddoniaeth yng nghwricwlwm cenedlaethol Cymru pdf 249 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Manylion

Canllawiau pwnc

Mae canllawiau yn darparu negeseuon allweddol ynglyn â gwaith dysgu, addysgu a dilyniant mewn gwyddoniaeth.

Mae’r deunyddiau yn cynnwys proffiliau o waith dysgwyr yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3, sy’n enghreifftio’r safonau a amlinellir yn y disgrifiadau lefel ac yn dangos sut i ddefnyddio disgrifiadau lefel wrth lunio barn sy’n cyd-fynd orau â pherfformiad ar ddiwedd y cyfnod allweddol.

Sgiliau ar draws y cwricwlwm

Mae gan y cwricwlwm ffocws clir ar anghenion dysgwyr a’r broses addysgu, ac ar ddatblygu a chymhwyso sgiliau.

I helpu ysgolion wrth iddyn nhw weithredu’r cwricwlwm, mae fframwaith anstatudol, Fframwaith sgiliau ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru, wedi cael ei ddatblygu.

Mae’r fframwaith hwn yn diffinio’r amrywiaeth o sgiliau y dylai dysgwyr 3 i 19 oed eu datblygu, ac yn cynnig canllawiau ynghylch parhad a dilyniant yn y broses o ddatblygu sgiliau meddwl, cyfathrebu, information and communication technology (TGCh) a rhif.

Dysgu ar draws y cwricwlwm

Mae'r cwricwlwm yn nodi tri maes dysgu:

  • gwybodaeth a dealltwriaeth o Gymru
  • datblygiad a lles personol a chymdeithasol
  • ymwybyddiaeth o fyd gwaith.

Dylai dysgwyr gael cyfleoedd i ddatblygu a chymhwyso'r rhain ar draws y cwricwlwm.