English

Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth sy’n hanfodol ar gyfer dysgu ac addysgu ar draws y Cyfnod Sylfaen.

Dogfennau

  • Addysgeg dysgu ac addysgu pdf 567 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Manylion

Mae’n ategu 'Fframwaith Cyfnod Sylfaen ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru', y canllawiau sy’n ategu’r saith maes dysgu, 'Chwarae/Dysgu gweithredol: Trosolwg ar gyfer plant 3 i 7 oed', 'Arsylwi ar blant' a’r 'Fframwaith sgiliau ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru'.

Nod y canllawiau yw cynorthwyo ymarferwyr y Cyfnod Sylfaen i ddeall addysgeg dysgu ac addysgu a sut i’w gweithredu. Mae 'Adeiladu’r Cyfnod Sylfaen; Cynllun Gweithredu' (LlCC, 2006) yn galw ar sefydliadau hyfforddiant cychwynnol athrawon a cholegau addysg bellach i sicrhau bod cyrsiau’n cynnwys cyfeiriadau priodol at ddatblygiad plentyn, addysgeg dysgu ac addysgu, cynllunio ac asesu. Bydd y canllawiau hefyd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr sy’n hyfforddi i weithio gyda phlant ifanc.

  • Rhan o
  • Cyhoeddwyd gyntaf:
  • Diweddarwyd ddiwethaf: