English

Mae'r astudiaeth achos hon yn cyflwyno enghraifft o'r defnydd o apps ar-lein ar draws y cwricwlwm cyfan ac ym mhob agwedd ar waith yr ysgol.

Dogfennau

Manylion

Yn Ysgol Uwchradd Olchfa yn Abertawe, mae'r dysgwyr ar ymarferwyr yn gallu defnyddio apps Google i gael mynediad at safleoedd a rennir, a hynny o unrhyw leoliad ar unrhyw adeg. Mae'r dysgwyr yn cyflwyno gwaith ac yn cadw golwg ar eu cynnydd a'u presenoldeb, gan ddatblygu eu gallu i fod yn gyfrifol ac yn annibynnol. Mae'r athrawon yn darparu gweithgareddau hwylus, yn rhoi adborth ac yn monitro datblygiad y dysgwyr yn fwy effeithiol, ac mae'r system yn sicrhau bod gwaith cwrs yn cael ei gyflwyno'n ddiogel.  Mae defnyddio rhwydiadur yn ffordd hyblyg o weithio.

Mae'n fodd i ryngweithio ar unwaith gyda’r dosbarth a’r athro er mwyn newid ffocws y wers drwy holi cwestiynau mwy manwl, a cheir trafodaeth fwy effeithiol o ganlyniad.  Mae'r astudiaeth yn disgrifio enghreifftiau gwahanol o'r defnydd a wneir o apps mewn meysydd penodol o'r cwricwlwm a chyfleoedd pellach ar gyfer cydweithio.