English

Defnyddio TGCh i wella cyfraniad y rhieni.

Mae Ysgol Treganna yng Nghaerdydd, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, wedi creu adran arbennig ar ei gwefan lle gall rhieni/gofalwyr nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg weld cyfieithiad Saesneg o waith dosbarth a gwaith cartref cyfredol eu plant.

Mae hyn wedi helpu i gynyddu'r cydweithio rhwng rhieni/gofalwyr ac athrawon o ran addysg y plant.