English

Disgyblion yn creu llyfrau digidol gan ddefnyddio’r iPad ac EPub.

Mae plant yn Ysgol Penygarn wedi bod yn defnyddio'r fformat EPub i greu llyfrau digidol gyda'u iPads, yn seiliedig ar yr Apps BookCreator a Creative Book Builder. Mae hyn yn eu galluogi i gyflwyno eu gwaith drwy destun, delweddau, sain a fideo.

Ym marn yr athrawon, mae hyn yn eu paratoi'n dda ar gyfer defnyddio iBooks yn y dyfodol i greu cynnwys a chael gafael ar gynnwys sydd ar gael ar iTunesU.