English

Mae ffrydio byw (a elwir weithiau'n ffrwd fyw neu weminarau) yn golygu darlledu ffrwd fyw o gynnwys gweledol a sain dros y rhyngrwyd mewn amser real. Gellir gwylio ffrydiau byw yn fyw neu gellir eu recordio a'u darparu yn ddiweddarach.

Mae ffrydio byw wedi dod yn ddull poblogaidd o rannu cynnwys a chysylltu â chynulleidfa.

Drwy Hwb, gall ymarferwyr ffrydio'n fyw gan ddefnyddio Microsoft Teams Live Events

Gall ffrydio byw fod yn adnodd effeithiol i ymarferwyr gyflwyno dysgu o bell. Mae ffrydio byw yn eich galluogi i:

  • gyflwyno gwersi i'ch dosbarth a'ch dysgwyr
  • cyflwyno darlithoedd neu wasanaethau ar raddfa fawr
  • cyflwyno gweminarau

Mae ffrydio byw yn cynnig llawer o fanteision i ddysgu cyfunol. Mae manteision gwersi ffrydio byw yn cynnwys:

  • Mae'n darparu ffrwd un ffordd sy'n sicrhau mai dim ond cynnwys rydych chi'n ei ddewis sy'n cael ei gyflwyno
  • Gall dysgwyr weld y ffrwd fyw, ond ni ellir eu gweld na'u clywed nhw
  • Mae gan athrawon reolaeth lawn dros ryngweithio yn y wers gyda sgwrs a gymedrolir yn bosibl os dymunir (sianel holi ac ateb)
  • Gall rhieni a gofalwyr gefnogi dysgwyr gyda gwersi ffrydio byw heb gymryd rhan yn uniongyrchol
  • Pan gânt eu recordio, mae gwersi ffrydio byw yn cynnig hyblygrwydd i ddysgwyr, gan eu galluogi i wylio gwersi ar adegau cyfleus neu i edrych yn ôl dros wersi i gael eglurhad neu i gadarnhau dysgu
  • Bydd popeth ar eich sgrin yn cael ei weld gan bawb.
  • Rydych chi'n 'fyw', ystyriwch yn ofalus yr hyn y gellir ei weld a'i glywed yn eich amgylchedd.
  • Os yn bosibl, dylai ymarferwyr a dysgwyr ddefnyddio gosodiadau pylu cefndir yn Microsoft Teams.
  • Drwy ffrydio'n fyw, rydych chi'n ymrwymo i gyflwyno gwers ar ddyddiad/amser penodol.
  • Cadwch ddiddordeb y dysgwyr gydag amrywiaeth o gynnwys a deunydd.
  • Cofiwch edrych ar y camera – nid ar y monitor.