English

Cynulleidfa a awgrymir: dysgwyr, staff ysgol, pencampwyr digidol mewn ysgolion, gweinyddwyr Hwb mewn awdurdodau lleol, gweinyddwyr Hwb ar gyfer consortia addysg rhanbarthol.

Mae Hwb, y Platfform Dysgu Digidol Cenedlaethol, yn gartref i gasgliad cenedlaethol o gyfarpar ac adnoddau digidol i gefnogi dysgu ac addysgu yng Nghymru.

Datblygwyd Hwb yn unol â’r egwyddorion allweddol canlynol:

  • cefnogi dull cenedlaethol o gynllunio a gweithredu
  • ei gwneud yn bosibl rhannu sgiliau, dulliau ac adnoddau rhwng athrawon yng Nghymru
  • cefnogi addysgu a dysgu drwy’r Gymraeg a'r Saesneg
  • cynnig offer ac adnoddau cyfartal am ddim i’w defnyddio yn y dosbarth gan athrawon a dysgwyr yng Nghymru.

Mae Hwb yn ei gwneud yn bosibl i ddysgwyr ac athrawon gael mynediad i adnoddau ar-lein yn unrhyw le, ar unrhyw bryd, ac o amrywiaeth o ddyfeisiau. Mae hefyd yn darparu adnoddau i helpu athrawon i greu a rhannu eu hadnoddau a’u haseiniadau eu hunain. Mae’r casgliad yn cynnwys:

  • offer ac adnoddau a grëwyd neu a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a/neu ei hasiantau
  • offer ac adnoddau a drwyddedwyd neu a brynwyd gan Lywodraeth Cymru
  • offer ac adnoddau a ddarparwyd gan ffynonellau dibynadwy
  • adnoddau a grëwyd gan athrawon.

I ddechrau defnyddio Hwb, bydd angen i Bencampwr Digidol neu Weinyddwr Hwb eich ysgol roi enwau defnyddwyr a chyfrineiriau ar gyfer Hwb i bob aelod o staff a dysgwr o'r Porth Rheoli Defnyddwyr. Os nad oes gan eich ysgol Bencampwr Digidol eto, neu os nad ydych chi'n gwybod pwy ydyw, bydd angen i'ch Pennaeth neu aelod o'r SLT gysylltu â Desg Gymorth Hwb: hwb@gov.wales / 03000 25 25 25.

Pan fydd staff wedi cael eu manylion mewngofnodi, gallan nhw ddefnyddio’r holl gyfarpar a gwasanaethau ar Hwb yn syth. Pan fydd dysgwyr yn mewngofnodi am y tro cyntaf, dim ond Asesiadau Personol fyddan nhw’n gallu eu gweld. I weld yr ystod gyfan o gyfarpar a gwasanaethau, bydd angen cael caniatâd ar gyfer Gwasanaethau Ychwanegol Hwb a’i ddefnyddio yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.

Rhybudd

Cyn dosbarthu enwau defnyddwyr a chyfrineiriau, dylai eich ysgol ystyried ei darpariaeth diogelwch ar-lein. Dylai hefyd fod â pholisïau defnydd derbyniol yn eu lle. Hefyd, mae rhagor o enghreifftiau o bolisïau defnydd derbyniol a rhagor o arweiniad ar gael ar 360 degree safe Cymru.

Bydd arweinydd digidol eich consortia addysg rhanbarthol yn gallu rhoi rhagor o gymorth a hyfforddiant i chi os bydd angen.


Mae llawer o ddulliau gwahanol o fabwysiadu Hwb yn eich ysgol. Fodd bynnag, mae angen i chi sicrhau eich bod yn gwneud y pethau canlynol yn gyntaf:

  • Nodi eich Pencampwyr Digidol (gweinyddwyr Hwb) a sicrhau bod ganddynt yr hawliau sydd eu hangen er mwyn cael mynediad i’r Porth Rheoli Defnyddwyr, sy’n cynnwys enwau defnyddwyr a chyfrineiriau. Cysylltwch â Desg Gymorth Hwb i gael cymorth â hyn: hwb@gov.wales | 03000 25 25 25.
  • Gwirio bod eich rhestr o enwau defnyddwyr a chyfrineiriau’n gywir yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.
  • Sicrhau bod polisïau defnydd derbyniol ar gyfer staff a dysgwyr yn gyfoes ac wedi’u llofnodi.
  • Darparu gwybodaeth i lywodraethwyr, staff, rhieni a dysgwyr.

Gall 360 degree safe Cymru helpu’r ysgol i feincnodi ei pholisïau a’i harferion cyfredol mewn perthynas â Diogelwch Ar-lein, ac mae’n darparu cyngor a thempledi i gefnogi dull gweithredu eich ysgol.

Gan fod ystod mor eang o offer yn Hwb, rydym yn argymell bod ysgolion yn cynllunio eu dull gweithredu un unol â blaenoriaethau lleol, yn ddelfrydol i gyd-fynd â Chynllun Gwella'r Ysgol.

Mae cymorth, cyngor a hyfforddiant pellach ar gael gan y consortia addysg rhanbarthol.


Y dyfeisiau a phorwyr a gefnogir ar gyfer Hwb yw:

  • Google Chrome
  • Microsoft Edge
  • Safari ar Mac
  • Mozilla Firefox
  • iPhone - yr iOS diweddaraf
  • iPad - yr iOS diweddaraf
  • Ffôn symudol a llechen Android 4.4 (KitKat) ac uwch

Cefnogir Encyclopaedia Britannica ar y porwyr canlynol:

  • Google Chrome fersiwn 52.0 neu uwch
  • Mozilla Firefox fersiwn 45.0 neu uwch
  • Microsoft Edge fersiwn 25.0 neu uwch
  • Safari fersiwn 9.1 neu uwch

Cefnogir 360 degree safe Cymru ar y porwyr canlynol:

  • Microsoft Edge (y 2 fersiwn ddiweddaraf)
  • Chrome (y 2 fersiwn ddiweddaraf)
  • Firefox (y 2 fersiwn ddiweddaraf)

Nid oes gan y safle hwn allu symudol ar hyn o bryd, felly er efallai iddo allu gweithio ar rai porwyr symudol (a phorwyr eraill sydd ddim yn cael eu cefnogi), mae'n bosibl na fyddwch yn cael cystal profiad.

 

Cefnogir Just2easy ar unrhyw ddyfais sy'n gallu cysylltu â'r we. Mae modd defnyddio J2e drwy'r porwr neu lawrlwytho ap J2launch ar gyfer ffôn symudol neu iPad.

Mae Microsoft yn diweddaru'r gofynion ar gyfer Office 365 yn rheolaidd wrth i nodweddion a rhaglenni newydd gael eu rhyddhau. Gallwch danysgrifio i'r gofrestr newidiadau er mwyn cael gwybod am y newidiadau diweddaraf.

Mae Google yn nodi gofynion y porwr G Suite a gosodiadau procsi a wal dân Google Drive ar eu safle Cymorth Gweinyddol ar gyfer G Suite, sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.


Mae cyfrifon Hwb yn cael eu creu’n awtomatig ar gyfer staff a disgyblion mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, ar sail y data yn system gwybodaeth reoli (MIS) eich ysgol e.e. SIMS neu Teacher Centre. Mae cyfrifon Hwb ar gael hefyd ar gyfer staff awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol sy’n cefnogi’r ysgolion hyn.

Gall llywodraethwyr ofyn i’w hysgol am gyfrif Hwb.

Gall athrawon cyflenwi ofyn am gyfrif Hwb gan ddefnyddio'r botwm Cofrestru ar dudalen hafan Hwb.

Bydd myfyrwyr AGA yn derbyn cyfrif Hwb gan eu darparwr AGA drwy gydol eu cwrs, cyfeirir at y rhain fel cyfrifon prifysgol AGA. Gall darparwyr AGA roi manylion i chi am y cyfrifon hyn.

Gall myfyrwyr AGA hefyd gael cyfrif Hwb mewn ysgolion lleoli. Cyfeirir at y rhain fel cyfrifon ysgol AGA a byddant yn ddilys drwy gydol eu lleoliad(au).  Bydd manylion cyfrif ysgol AGAyn newid ar gyfer pob ysgol leoli.

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar nifer o brosiectau er mwyn i sefydliadau addysgol eraill yng Nghymru gael mynediad i Hwb. Byddwn yn rhyddhau rhagor o wybodaeth mewn erthyglau newyddion pan fydd ar gael.


Rhannu Data

Yn 2018, newidiodd Llywodraeth Cymru y ffordd mae ysgolion yn darparu mynediad i borth addysg Hwb a'r amgylchedd dysgu a reolir (Llwyfan Hwb) ar gyfer eu staff a'u disgyblion.

O fis Medi 2018, bydd yn rhaid darparu dull mewngofnodi diogel i Lwyfan Hwb i bob disgybl mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. O'r dyddiad hwnnw, mae Asesiadau Personol yn cael eu cyflwyno’n raddol dros dair blynedd i ddisodli’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol papur, a rhaid i rai asesiadau gael eu cwblhau ar-lein drwy Lwyfan Hwb.

Er mwyn darparu dulliau mewngofnodi diogel i Lwyfan Hwb i ddisgyblion a staff, bydd angen i ysgolion rannu gwybodaeth bersonol amdanynt â Llywodraeth Cymru. Gwneir hyn drwy’r gwasanaeth Darparu Hunaniaethau Addysg Cymru.

Er mwyn hwyluso’r broses o rannu data personol â Llywodraeth Cymru, gofynnir i benaethiaid neu aelodau wedi’u hawdurdodi o Uwch Dîm Arwain yr ysgol adolygu a derbyn y telerau yng nghytundeb rhannu data Hwb.

Gwasanaethau Ychwanegol Hwb

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i sicrhau bod pob dysgwr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn cael mynediad llawn at Hwb fel y gall ysgolion ddefnyddio’r offer dysgu o bell sydd ar gael.

Gwelwch y cyngor diweddaraf ar ein tudalen caniatâd.

Mae rhagor o wybodaeth am rannu data, caniatâd a defnydd derbyniol o Hwb ar gael yma. Cyfeiriwch hefyd at hysbysiad preifatrwydd a thelerau ac amodau Hwb.

 


Cynulleidfa a awgrymir: Hyrwyddwyr digidol ysgolion, Rheolwyr Rhwydwaith Ysgolion a Thimau Technegol Awdurdod Lleol.

Trosolwg

Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r opsiynau sydd ar gael i fudo o barth G-suite neu denant Microsoft O365 ysgol i Hwb.  Mae'r canllaw hwn yn addas ar gyfer mudo cyfrifon staff yn unig.

Rhybudd

Siaradwch â'ch awdurdod lleol neu'ch darparwr cymorth TG i gael cyngor a chefnogaeth wrth symud i Hwb. Ystyriwch yn ofalus pa ffeiliau y mae wir angen i chi eu symud wrth fudo i Hwb.

Ymfudo o Google Workspace for Education yr ysgol.

Gall ysgolion sy'n dymuno mudo o'u parth Google Workspace for Education ysgol eu hunain wneud hynny gyda chyfuniad o'r opsiynau canlynol.

Ffeiliau

Gall staff sy'n dymuno trosglwyddo eu ffeiliau o'u parth ysgol i barth Hwb ddefnyddio'r offeryn Google Take Out. Gall staff unigol ddefnyddio'r offeryn hwn i drosglwyddo ffeiliau yn uniongyrchol o'u cyfrif ysgol i'w cyfrif Hwb. Ystyriwch y canlynol wrth ddefnyddio'r offeryn hwn:

  • Rhaid i weinyddwr yr ysgol ffurfweddu parth Google Workspace for Education eich ysgol i ganiatáu trosglwyddo ffeiliau;
  • Bydd yr offeryn hwn yn trosglwyddo'ch ffeiliau chi o fewn My Drive yn unig; os nad chi yw perchennog y ffeil ni chaiff ei drosglwyddo. Er enghraifft, ni fydd ffeiliau sydd wedi'u rhannu â chi yn cael eu symud. Os oes angen mynediad at y ffeiliau hyn arnoch, gallwch eu lawrlwytho â llaw neu gwneud copi i My Drive cyn trosglwyddo;
  • Ni fydd ffeiliau Google Classroom yn cael eu symud fel rhan o'r trosglwyddiad; mae angen copïo unrhyw ffeiliau yr ydych am eu cadw o Google Classroom i'ch gyriant yn gyntaf cyn i chi drosglwyddo.

Ar gyfer dysgwyr, rydym yn cynghori eu bod yn symud ffeiliau y maent am eu cadw â llaw o'u gyriannau personol i'w Google Workspace for Education Drive ar Hwb.

Gmail

Nid yw Gmail ar gael ar barth Google Workspace for Education Hwb. Mae trosglwyddo ffeiliau e-bost i Hwb yn broses â llaw, fesul defnyddiwr. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu'ch darparwr cymorth TG i gael cyngor ar sut i symud eich e-bost o Gmail i Hwb.

Symud eich cyfeiriad e-bost i Hwb

Ar gyfer staff mewn ysgolion sy'n defnyddio parth eu hysgol fel enw cyfeiriad e-bost, gellir symud y cyfeiriad e-bost i Hwb trwy ein proses cuddio enwau parth. Darllenwch fwy am Cuddio Enw Parth yn y ganolfan gymorth. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu'ch darparwr cymorth TG i gael cefnogaeth gyda'r newid hwn.  Dylid ystyried yr holl ddibyniaethau ar eich cyfeiriad e-bost cyfredol cyn symud:

  • Os ydych chi'n defnyddio'ch cyfeiriad e-bost cyfredol i fewngofnodi i apiau a gwasanaethau 3ydd parti eraill, unwaith y byddwch chi'n symud eich e-bost i Hwb, ystyriwch efallai na fyddwch chi'n gallu mewngofnodi i'r gwasanaethau hynny mwyach.

Yn mudo o denant Office 365 ysgol

Os ydych chi'n symud ffeiliau o denant Office 365 eich ysgol i Hwb, gall staff yn eich ysgol ddefnyddio'r offer a'r dulliau canlynol i drosglwyddo ffeiliau ac e-byst:

Ffeiliau Defnyddwyr Personol

Ar gyfer staff sydd am symud eu ffeiliau o'u gyriant ysgol OneDrive neu gyriant bersonol i'w OneDrive Hwb gallent ddefnyddio Offeryn Ymfudo Microsoft SharePoint. Rhaid bod gan ddefnyddwyr ganiatâd ar y ffolderi ffynhonnell a chyrchfan i gyflawni'r math hwn o drosglwyddiad.

Ystyriwch y canlynol wrth ddefnyddio'r offeryn hwn:

  • Bydd yr offeryn hwn yn trosglwyddo'ch ffeiliau yn unig; os nad chi yw perchennog y ffeil ni chaiff ei drosglwyddo. Er enghraifft, ni fydd ffeiliau sydd wedi'u rhannu â chi yn cael eu symud. Os oes angen mynediad at y ffeiliau hyn arnoch o hyd, gallwch eu lawrlwytho â llaw.
  • Ni fydd ffeiliau Microsoft Teams yn cael eu symud fel rhan o'r trosglwyddiad; mae angen copïo unrhyw ffeiliau yr ydych am eu cadw o Teams i'ch OneDrive yn gyntaf cyn i chi drosglwyddo.

Ar gyfer dysgwyr, rydym yn cynghori eu bod yn symud ffeiliau y maent am eu cadw â llaw o'u gyriannau personol i'w OneDrive ar Hwb.

Gyriant a Rennir

Gellir trosglwyddo gyriannau a rennir hefyd o'ch tenant ysgol i Hwb gan ddefnyddio'r Offeryn Ymfudo Microsoft SharePoint. Gellir symud ffeiliau i safleoedd SharePoint Hwb a ddarperir ac a reolir gan yr awdurdod lleol. Siaradwch â'r awdurdod lleol i drefnu mynediad i'r safle SharePoint hon ac i gynorthwyo gydag unrhyw ffeiliau sy'n mudo. Rhaid bod gan ddefnyddwyr ganiatâd ar y ffolderi ffynhonnell a chyrchfan i gyflawni'r math hwn o drosglwyddiad.

E-bost

Gall staff unigol drosglwyddo ffeiliau e-bost o un blwch post i un arall. Gellir gwneud hyn trwy allforio ffeil .pst o flwch post e-bost yr ysgol yn Outlook a mewnforio'r ffeil .pst i flwch post cyfrif Hwb yn Outlook. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu'ch darparwr cymorth TG i gael cyngor ar sut i wneud hyn.

Symud eich cyfeiriad e-bost i Hwb

Ar gyfer staff mewn ysgolion sy'n defnyddio parth eu hysgol fel enw cyfeiriad e-bost, gellir symud y cyfeiriad e-bost i Hwb trwy ein proses cuddio enwau parth. Darllenwch fwy am Cuddio Enw Parth yn y ganolfan gymorth. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu'ch darparwr cymorth TG i gael cefnogaeth gyda'r newid hwn. Dylid ystyried yr holl ddibyniaethau ar eich cyfeiriad e-bost cyfredol cyn symud:

  • Os yw'ch cyfeiriad e-bost wedi'i gysylltu â'ch tenant Office 365, rhaid i chi ddatgysylltu'r e-bost oddi wrth eich tenant Office 365 cyn mudo;
  • Os ydych chi'n defnyddio'ch cyfeiriad e-bost cyfredol i fewngofnodi i apiau a gwasanaethau 3ydd parti eraill, unwaith y byddwch chi'n symud eich e-bost i Hwb, ystyriwch efallai na fyddwch chi'n gallu mewngofnodi i'r gwasanaethau hynny mwyach.

 


Cynulleidfa a awgrymir: Dysgwyr, staff ysgolion, hyrwyddwyr digidol ysgolion, gweinyddwyr awdurdod lleol Hwb, Gweinyddwyr consortia addysg ranbarthol Hwb.

O fis Rhagfyr 2022, bydd iaith ddiofyn eich rhyngwyneb Google Workspace yn newid i'r Gymraeg os ydych chi'n gweithio neu'n astudio mewn ysgol sy'n dysgu trwy'r Gymraeg. Byddwch yn gallu ei osod yn ôl i'r Saesneg os ydych chi am newid.

Trosolwg

Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r opsiynau iaith sydd ar gael o fewn offer a gwasanaethau Hwb.

Mae'r togl iaith yn rheoli'r iaith ar gyfer offer Microsoft Office 365, Google Workspace a’r Porthol Rheoli Defnyddwyr.

Gall pob defnyddiwr newid iaith diofyn yr offer yma wrth ddilyn y camau yma.

  1. Mewngofnodi i Hwb a llywio i'r Porthol Rheoli Defnyddwyr.
  2. Yn y Porthol Rheoli Defnyddwyr, cliciwch Fy Mhroffil i weld Eich Manylion.
  3. Yn y rhes Dewis Iaith, cliciwch y botwm Newid Iaith.  Mae dau opsiwn:
  4. Dewiswch rhwng Saesneg a Cymraeg i osod eich iaith.

Dylai newidiadau a wneir i'r togl iaith hidlo drwodd yn gyflym ond gallent gymryd hyd at 48 awr mewn rhai achosion.

Bydd gosod iaith ddiofyn eich porwr gwe yn pennu a yw'r Porthol Rheoli Defnyddwyr yn ymddangos yn Gymraeg neu yn Saesneg pan fyddwch yn glanio ar y wefan yn gyntaf. Gallwch chi newid yn hawdd rhwng y Gymraeg a'r Saesneg ar bob tudalen trwy glicio ar yr iaith yn y bar llywio.

Bydd gosod iaith ddiofyn eich porwr hefyd yn penderfynu pa iaith rydych chi'n gweld yn gwasanaethau eraill Hwb.  Bydd llawer o wefannau allanol eraill hefyd yn defnyddio iaith y porwr i bennu pa iaith y mae eu cynnwys yn cael ei gyflwyno.

I gael cefnogaeth gyda gosod iaith ddiofyn eich porwr, siaradwch â'ch gweinyddwr TG neu gymorth TG yr awdurdod lleol.

Beth yw fy opsiynau iaith ar gyfer gwasanaethau eraill Hwb?

Bydd y togl newid iaith yn y Porthol Rheoli Defnyddwyr yn newid yr iaith ar gyfer y rhan fwyaf o offer Microsoft Office 365 yn ogystal a’r Porthol Rheoli Defnyddwyr Hwb. I newid iaith ar gyfer yr holl offer eraill sydd ar gael drwy Hwb, dilynwch y dolenni i'r canllawiau unigol isod.

Mae'r broses ar gyfer trosglwyddo data Hwb o un flwyddyn academaidd i'r llall yn gymharol syml. Rydym yn cynghori'r holl Hyrwyddwyr Digidol i ddarllen canllaw treigl Hwb, sy'n egluro'r broses dreigl a chamau y gallai fod angen eu cymryd i sicrhau bod holl gyfrifon Hwb yn gyfredol. 

Canllaw treigl Hwb


Am ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â Thîm Hwb Llywodraeth Cymru:

Ffôn: 03000 252525 E-bost: hwb@llyw.cymru

Gallwch hefyd gael cymorth drwy Arweinydd Digidol eich consortia addysg rhanbarthol. Cysylltwch â nhw’n uniongyrchol i gael manylion.