English

Enrollment guide: Microsoft Intune enrollment | Microsoft Learn

Gellir cofrestru dyfeisiau mewn sawl ffordd wahanol yn dibynnu ar system weithredu’r ddyfais a’i pherchenogaeth.

Mae Hwb yn cefnogi dau brif fath o berchenogaeth dyfeisiau y gellir eu gosod wrth gofrestru:

  • Dan berchenogaeth - Mae hyn yn addas ar gyfer dyfeisiau un i un a ddefnyddir gan un defnyddiwr yn bennaf.

    Ar gyfer dyfeisiau Windows, gall defnyddwyr dyfais ‘dan berchnogaeth’ ddefnyddio Porth y Cwmni i osod rhaglenni/apiau sydd ar gael a pherfformio rhai gweithredoedd dyfais, fel ailosod. Gallant hefyd adfer Bitlocker ar gyfer y ddyfais o’u cyfrif Microsoft.
  • Rhannu - Mae hyn yn addas at ddefnydd ystafell ddosbarth neu ystafell TGCh lle nad yw’r ddyfais yn cael ei defnyddio gan yr un defnyddiwr yn unig.

    Ar gyfer dyfeisiau Windows, mae defnyddwyr ar ddyfais a rennir bob amser yn ddefnyddwyr safonol yn ddiofyn.  Gallant gael mynediad at ap Porth y Cwmni ond dim ond i osod y rhaglenni/apiau sydd ar gael.

Bulk enrollment for Windows devices | Microsoft Learn

Er mwyn cofrestru swmp o ddyfeisiau, gallwch ddefnyddio pecyn darparu trwy yriant cof bach USB yn ystod y cam OOBE. Mae modd gwneud hyn trwy ddefnyddio ap 'Set Up School PCs' neu 'Windows Configuration Designer' (ar gyfer rheolaethau mwy cymhleth). Mae dyfeisiau sydd wedi’u cofrestru trwy becyn darparu yn cael eu gosod fel dyfeisiau a rennir.

Mae hwn yn ddull ‘llai manwl’, lle mae angen rhyngweithio ffisegol â’r ddyfais.  O’r herwydd, os oes angen dileu dyfais a’i hailgofrestru, rhaid gwneud hyn yn bersonol gyda phecyn darparu eto, oni bai ei fod wedi’i ffurfweddu ers hynny i ddefnyddio Autopilot.

Mae’n bwysig eich bod yn defnyddio’r Dynodwr Darparu Dyfais cywir wrth bennu enw’r ddyfais mewn pecynnau darparu. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y dyfeisiau cofrestredig yn cael eu gosod yn y grŵp darparu cywir ar gyfer eich cwmpas gweinyddol – gweler Grwpiau Intune.

Mae pecynnau darparu yn ddilys am 180 diwrnod, ac ar ôl hynny mae angen i chi greu un newydd neu ddiweddaru’r tocyn cofrestru ynddo.

Rhybudd

Oherwydd newidiadau mewn gofynion caniatâd gan Microsoft, dim ond tîm Hwb sy’n gallu adfer y tocyn cofrestru swmp yn Set Up School PC (SUSPC) a Windows Configuration Designer (WCD).
Os ydych chi angen pecyn darparu, cysylltwch â Desg Gwasanaeth Hwb gyda manylion y pecyn.  Fel arall, gallwch gyflwyno tocyn swmp sy’n bodoli’n barod i becyn newydd gan ddefnyddio WCD.

Gwybodaeth

Dim ond pecynnau darparu a grëwyd gyda’r ap Set Up School PCs y gellir eu defnyddio gyda dyfeisiau SE Windows 11, a rhaid dewis system weithredu Windows 11 SE yn ystod y broses greu.


Windows Autopilot documentation | Microsoft Learn

Mae Windows Autopilot yn wasanaeth y gellir ei ddefnyddio i gofrestru a ffurfweddu dyfeisiau Windows yn hawdd trwy’r cwmwl. Mae’n broses syml sy’n lleihau’r amser mae technegydd TG yn ei dreulio yn paratoi dyfeisiau yn hytrach na gorfod cynnal delwedd euraidd, neu gofrestru’r ddyfais â llaw a gosod polisïau ac apiau, gan fod Autopilot yn gwneud y cyfan yn awtomatig. Mae’n caniatáu i ddyfeisiau lluosog gael eu paratoi’n gyflym ac yn effeithlon.

Gellir defnyddio Windows Autopilot hefyd i ragddarparu dyfais, sy’n golygu bod modd ei hanfon yn syth gan ailwerthwr sydd eisoes wedi cofrestru ag Intune, gyda pholisïau ac apiau wedi’u neilltuo wedi’u gosod yn barod.  Mae hyn yn dileu’r angen i dechnegydd TG gyffwrdd â’r ddyfais o gwbl, a’r cyfan sy’n rhaid i’r defnyddiwr terfynol ei wneud yw agor y bocs, ei throi ymlaen a mewngofnodi.

Gofynion Autopilot:

  • rhaid i ddyfeisiau gynnwys fersiwn a gefnogir o Windows 10/11
  • rhaid cysylltu dyfeisiau â’r Rhyngrwyd, gyda mynediad at wasanaethau cofrestru Microsoft
  • ar gyfer dulliau cofrestru hunanbaratoi a rhagddarparu, rhaid i’r ddyfais gael TPM 2.0
  • dylai pob ap fod yn y fformat Win32, oherwydd gallai cymysgedd o apiau Win32 a LOB achosi methiant
  • mae dyfeisiau’n cael eu cofrestru yng ngwasanaeth Autopilot – gallai’r ailwerthwr wneud hyn, neu â llaw trwy fewnforio hash caledwedd y ddyfais i borth Autopilot
  • rhoddir y tag grŵp cywir (DPid) i ddyfeisiau fel ei bod yn cael ei hychwanegu at y grŵp dyfeisiau darparu priodol
Rhybudd

Nid yw’r porth Autopilot yn cael ei gwmpasu. Bydd pob gweinyddwr yn gallu gweld pob dyfais sydd wedi’i chofrestru yn Autopilot ar denant Hwb, nid eich un chi yn unig.  Byddwch yn ofalus eich bod yn gweithredu ar y dyfeisiau cywir wrth wneud newidiadau.


Mae yna sawl ffordd o baratoi dyfeisiau yn Autopilot, sy’n rheoli sut mae’r ddyfais wedi’i gosod pan fydd wedi’i chofrestru yn Intune. Gellir teilwra’r profiad cofrestru trwy ddefnyddio Tudalen Statws Cofrestru.

Mae dyfeisiau sy’n defnyddio’r dull hwn yn cael eu hystyried yn ddyfeisiau a rennir. Fe’i defnyddir yn gyffredin mewn senarios fel ystafelloedd TG ond gellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw sefyllfa. Mantais y dull hwn yw nad oes angen fawr o ryngweithio i baratoi dyfais gan nad oes angen unrhyw gymwysterau defnyddiwr i gychwyn y broses.

Dyma drefn gofrestru gyffredin:

  • mae’r defnyddiwr yn troi’r ddyfais ymlaen
  • os yw’r ddyfais wedi’i chysylltu â’r Rhyngrwyd, bydd yn dewis y gosodiadau iaith, lleoliad a bysellfwrdd yn awtomatig yn seiliedig ar osodiadau’r proffil cofrestru
  • fel arall, mae’r defnyddiwr yn dilyn y dewin Out-of-box Experience, gan ddewis ei iaith, ei leoliad a’i fysellfwrdd ac yn cysylltu â’r Wi-Fi
  • mae’r broses o gofrestru’r ddyfais yn dechrau, gan gymhwyso polisïau ac apiau a neilltuwyd (dangosir cynnydd os oes Tudalen Statws Cofrestru wedi’i neilltuo yn Intune)
  • mae’r sgrin mewngofnodi yn ymddangos pan fydd y broses gofrestru wedi gorffen
  • mae polisïau seiliedig ar ddefnyddwyr yn cael eu cymhwyso unwaith y bydd y defnyddiwr yn mewngofnodi

Mae dyfeisiau sy’n defnyddio’r dull hwn yn cael eu hystyried yn rhai ‘dan berchnogaeth’, gan ei bod hi’n ofynnol i ddefnyddiwr ddefnyddio ei fanylion i gofrestru’r ddyfais a’i chysylltu â chyfrif y defnyddiwr yn Intune.  Mae’r dull hwn yn well ar gyfer defnydd dyfeisiau un i un fel dyfeisiau staff, ond nid yw’n atal defnyddwyr eraill rhag mewngofnodi hefyd. 

Fel prif ddefnyddiwr y ddyfais, gall defnyddiwr ddefnyddio ap Porth y Cwmni ac adfer allwedd Bitlocker y ddyfais o’i gyfrif Microsoft.

Wrth ffurfweddu’r proffil cofrestru ar gyfer y dull hwn gallwch ddewis gwneud y prif ddefnyddiwr yn weinyddwr lleol neu’n ddefnyddiwr safonol.

Dyma drefn gofrestru gyffredin:

  • mae’r defnyddiwr yn troi’r ddyfais ymlaen
  • mae’r defnyddiwr yn dilyn y dewin Out-of-box Experience, gan ddewis ei iaith, ei leoliad a’i fysellfwrdd
  • mae’r defnyddiwr yn cysylltu â Wi-Fi (os nad yw eisoes wedi’i gysylltu â’r Rhyngrwyd)
  • mae’r defnyddiwr yn nodi ei fanylion Hwb pan ofynnir iddo wneud hynny
  • mae’r broses o gofrestru’r ddyfais yn dechrau, gan gymhwyso polisïau ac apiau a neilltuiwyd i’r ddyfais a’r defnyddiwr (dangosir cynnydd os oes Tudalen Statws Cofrestru wedi’i phennu yn Intune)
  • mae’r defnyddiwr yn mewngofnodi ar ôl cwblhau’r broses

Mae’r dull hwn yn estyniad i’r dull dan arweiniad defnyddiwr. Mae’n dal i ddefnyddio’r drefn dan arweiniad defnyddiwr, ond yn hytrach na rhoi manylion y defnyddiwr i ddechrau cofrestru, mae’r ddyfais yn mynd i gam rhagddarparu lle mae polisïau ac apiau a neilltuwyd i’r ddyfais yn cael eu cymhwyso a’r ddyfais yn cael ei hailselio. Ar ôl ei adeiladu, gellir ei anfon i safle lle bydd y defnyddiwr yn gallu parhau â’r cofrestru trwy fewngofnodi i gael unrhyw bolisïau ac apiau a neilltuwyd i’r defnyddiwr.

Tîm cymorth TG y defnyddiwr neu’r ailwerthwr sy’n gwneud hyn fel arfer, ac mae’n torri’n sylweddol yr amser sydd angen i’r defnyddiwr aros i’r ddyfais gofrestru.

Dyma drefn gofrestru gyffredin:

  • technegydd yn tanio’r ddyfais ac yn cysylltu â’r Rhyngrwyd
  • mae technegydd yn mynd i’r ddewislen darparu ac yn dewis 'Windows Autopilot Provisioning'
  • mae’r technegydd yn cadarnhau manylion cofrestru Autopilot ac yn dechrau’r broses ragddarparu
  • mae’r ddyfais yn dechrau cofrestru, gan gymhwyso’r polisïau a’r apiau a neilltuwyd yn unig
  • os yw’n llwyddiannus, mae’r ddyfais yn dangos sgrin werdd ac mae’r technegydd yn ei hailselio.
  • mae’r ddyfais yn cael ei hanfon at y defnyddiwr
  • mae’r defnyddiwr yn troi’r ddyfais ymlaen, ac yn dilyn y dewin Out-of-box-Experience, gan ddewis ei iaith, ei leoliad a’i fysellfwrdd
  • mae’r defnyddiwr yn cysylltu â Wi-Fi (os nad yw eisoes wedi cysylltu â’r Rhyngrwyd)
  • mae’r defnyddiwr yn rhoi ei fanylion pan ofynnir iddo wneud hynny
  • mae’r broses gofrestru yn gorffen, gan gymhwyso polisïau ac apiau a neilltuwyd i’r defnyddwyr, ac yn ei fewngofnodi

Wrth gofrestru, bydd unrhyw apiau neu bolisïau sy’n targedu’r grwpiau y mae’r ddyfais yn aelod ohonynt yn cael eu cymhwyso. Bydd angen i chi sicrhau bod y ddyfais yn cael ei symud i’r grwpiau Intune cywir cyn dechrau’r broses gofrestru Autopilot, neu efallai na fydd y ddyfais wedi’i ffurfweddu’n gywir y tro cyntaf y caiff ei defnyddio.  Er enghraifft, os mai myfyriwr fydd yn defnyddio’r ddyfais a’ch bod wedi gosod cyfyngiadau i’r grŵp Dyfeisiau Myfyrwyr, bydd angen i’r ddyfais fod yn y grŵp hwnnw i dderbyn y cyfyngiadau yn ystod Autopilot yn barod i’r myfyriwr ei defnyddio.

Rhybudd

Mae dulliau hunanbaratoi a rhagddarparu yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddyfais gael TPM 2.0 neu bydd yn methu.

    1. Mewngofnodwch i borth Intune gan ddefnyddio cyfrif Intune Admin.
    2. Ewch i Devices > Enroll Devices > Windows Enrollment.
    3. Cliciwch ar Deployment Profiles o dan Windows Autopilot Deployment Program.
    4. Cliciwch ar Create profile.
    5. Dewiswch Windows PC.
    6. Rhowch enw priodol ar gyfer y proffil cofrestru – rydym yn argymell defnyddio rhif yr awdurdod lleol fel rhagddodiad a chynnwys y math cofrestru (e.e. 667 Self Deploying)
    7. Ewch ati i ffurfweddu’r Out-of-box-Experience fel y dymunir, gan ddewis y modd paratoi – User Driven neu Self-Deploying.
    8. Tynnwch unrhyw dagiau cwmpas
    9. Neilltuwch y polisi cofrestru i grŵp priodol.
    10. Cliciwch ar Create ar y sgrîn Review + create.

    Rydym yn argymell creu un proffil cofrestru yn unig fesul math o ddull paratoi (fesul awdurdod lleol) ac ychwanegu’r grwpiau ysgol perthnasol at y neilltuadau i leihau nifer y polisïau sydd eu hangen.  Yr unig angen am bolisïau lluosog yw gosod templed enw dyfais ar gyfer pob ysgol. Yn hytrach, rydym yn argymell defnyddio polisi ffurfweddu personol wedi’i gymhwyso ym mhob ysgol unigol - gweler Windows - Enwi dyfeisiau.

  • Er mwyn neilltuo proffil paratoi i ddyfais, rhaid iddi fod yn aelod o grŵp dyfeisiau sydd wedi’i dargedu gan y proffil hwnnw.  O’r herwydd, bydd angen i chi symud y ddyfais i grŵp priodol ac aros i’r proffil gael ei neilltuo cyn mynd ati i gofrestru – gweler Symud neu ychwanegu dyfais i grŵp dyfeisiau arall

    Gallwch ddefnyddio:

    • y rhiant-grŵp dyfeisiau Intune 'Dyfeisiau Ysgol'
      Bydd hyn yn targedu pob dyfais sydd â’r un proffil, felly dim ond os yw pob dyfais yn yr ysgol yn defnyddio’r un math o dull paratoi y dylid defnyddio hwn.
    • Grwpiau 'Dyfeisiau Myfyrwyr' a 'Dyfeisiau Athrawon'
      Gan ddefnyddio math gwahanol o ddull paratoi ar gyfer pob grŵp, megis hunanbaratoi a dan arweiniad defnyddiwr yn y drefn honno.
    • Grŵp personol a grëwyd drwy’r Porth Rheoli Defnyddwyr
      Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd, fel y gallwch gael grwpiau ar wahân ar gyfer hunanbaratoi a dan arweiniad defnyddiwr gyda chymysgedd o ddyfeisiau athro a myfyrwyr yn y naill neu’r llall.

    Dim ond un proffil paratoi y gellir ei neilltuo i ddyfais ar y tro.  Sicrhewch nad yw’r ddyfais mewn sawl grŵp lle mae proffiliau cofrestru gwahanol wedi’u neilltuo, gan gynnwys rhiant grwpiau, er mwyn osgoi canlyniadau annisgwyl.  Gallwch wirio pa broffil sydd wedi’i neilltuo i ddyfais ym mhorth Windows Autopilot yn Intune.

  • Gellir symud dyfais Autopilot yn hawdd i safle arall trwy newid ei dag grŵp yn y porth Autopilot, gan ei osod yn y grŵp darparu dyfeisiau perthnasol.

    Unwaith y bydd wedi symud a’i hychwanegu at y grŵp/grwpiau cywir yn UMP ar gyfer y safle newydd, dim ond glanhau ac ailgofrestru’r ddyfais sydd ei angen mwyn gwneud ‘Autopilot Reset’.

    1. Mewngofnodwch i borth Intune gan ddefnyddio cyfrif Intune Admin.
    2. Ewch i Devices > Enrol Devices.
    3. Chwiliwch am y ddyfais yn ôl rhif cyfresol a’i dewis.
    4. Newidiwch y tag grŵp i Ddynodwr Darparu Dyfais (DPId) y safle newydd.
    5. Mewngofnodwch i’r Porth Rheoli Defnyddwyr mewn tab porwr arall.
    6. Ewch i dudalen Intune Groups ar y dangosfwrdd perthnasol.
    7. Arhoswch i’r ddyfais ymddangos yng ngrŵp dyfeisiau darparu’r safle newydd - gall hyn gymryd ychydig o amser.
    8. Symudwch y ddyfais i’r grŵp/grwpiau cywir i gael y proffil paratoi, polisïau ffurfweddu ac apiau.
    9. Yn Intune, adnewyddwch y ddyfais yn Autopilot i gadarnhau bod y proffil paratoi newydd wedi’i neilltuo - gall gymryd ychydig o amser.
    10. Ewch ati i ailosod yn Autopilot ac ailgofrestru’r ddyfais.

    Mae PowerShell Script ar gael i newid tag grŵp dyfeisiau mewn swmp, gallwch ofyn amdano trwy Ddesg Gwasanaeth Hwb.

  • Bydd ailosod Autopilot yn dychwelyd y ddyfais yn ôl i’r cyflwr gwreiddiol, sy’n golygu bod yr holl broffiliau defnyddwyr ac apiau yn cael eu dileu. Does dim angen dileu ac ailosod Windows i gael delwedd ffres, a gellir ei wneud heb ddychwelyd y ddyfais i’r ganolfan.

    1. Mewngofnodwch i borth Intune gan ddefnyddio cyfrif Intune Admin.
    2. Ewch i Devices > Windows.
    3. Chwiliwch am y ddyfais gan ddefnyddio’r rhif cyfresol neu enw’r ddyfais.
    4. Cliciwch ar y ddyfais.
    5. Cliciwch ar Autopilot Reset.

    Gallwch ailosod dyfeisiau lluosog ar yr un pryd gan ddefnyddio 'Bulk Device Actions'  neu ddewis y dyfeisiau o grŵp yn y porth Intune for Education.


Manually register devices with Windows Autopilot | Microsoft Learn

Mae’r hash caledwedd yn ddynodwr arbennig sy’n benodol i’r ddyfais, sydd ei angen i ychwanegu’r ddyfais â llaw at Windows Autopilot, a gellir cael gafael arno trwy ddefnyddio sawl dull.

Y ffordd hawsaf o wneud hyn, yn enwedig ar ddyfeisiau lluosog, yw trwy sgript PowerShell mewn pecyn darparu ar gof pin USB.  Trwy roi’r cof pin USB yn y ddyfais pan ddangosir y sgrin OOBE, bydd y sgript yn rhedeg ac yn casglu manylion fel y rhif cyfresol, hash caledwedd, ID cynnyrch Windows a’r tag grŵp sy’n cael eu hallforio i un ffeil CSV. Yna gellir mewnforio’r rhain i Autopilot gyda’i gilydd.

Cysylltwch â Desg Gwasanaeth Hwb i ofyn am gopi o’r pecyn Cynaeafu Hash Caledwedd.

Gwybodaeth

Unwaith y bydd yr hash wedi’i gasglu a’i allforio, bydd y ffeil yn cynnwys stamp amser. Mae hyn yn golygu y bydd yn caniatáu i’r hash gael ei gasglu sawl gwaith ar gyfer yr un ddyfais ac yn achosi problemau wrth fewnforio. Os bydd hyn yn digwydd, bydd rhaid i chi ddileu’r ffeil CSV ac ailwneud y broses casglu hash, felly gwnewch yn siŵr mai dim ond unwaith rydych chi’n gwneud hyn ar bob dyfais.

Rhybudd

Does dim modd cynaeafu’r hash caledwedd o ddyfeisiau Windows 11 SE oherwydd bod PowerShell wedi’i rwystro. I ddefnyddio Autopilot, rhaid i chi ofyn i’r ailwerthwr ychwanegu’r dyfeisiau at y gwasanaeth.


Set up the Enrollment Status Page | Microsoft Learn

Gellir defnyddio polisi Tudalen Statws Cofrestru (ESP) i ffurfweddu’r ymddygiad cofrestru ar ddyfais, megis gofyn am osod polisïau neu apiau penodol cyn i’r cofrestriad barhau. Dangosir y Dudalen Statws Cofrestru ar ddyfais wrth gofrestru, gan arddangos camau’r broses fel y’u rheolir gan y polisi ESP. Mae’n ddefnyddiol ar gyfer olrhain cynnydd cofrestru a datrys methiannau.

Dylech greu’ch Tudalen Statws Cofrestru eich hun i gyd-fynd â’ch anghenion, fel arall bydd yr un ddiofyn yn berthnasol.  Gellir targedu hyn at y grŵp dyfeisiau awdurdodau lleol lefel uchaf i fod yn berthnasol i bob dyfais.


Troubleshoot the Enrollment Status Page (ESP) - Intune | Microsoft Learn

Yn dibynnu ar y dull paratoi a ddewiswyd, gall sawl math gwahanol o faterion a phroblemau godi. Os bydd hyn yn digwydd, mae rhai cofnodion defnyddiol ar gyfer canfod yr achos:

  • Event Viewer – Applications and services logs > Microsoft > Windows > DeviceManagement-Enterprise-Diagnostics-Provider
  • Event Viewer – Applications and services logs > Microsoft > Windows > ModernDeployment-Diagnostics-Provider
  • C:\programdata\Microsoft\IntuneManagementExtensions\Logs

Mae rhai methiannau cyffredin wrth gofrestru Autopilot yn cynnwys:

    • Cymysgedd o apiau Win32 a LOB yn cael eu defnyddio
      Mae hyn yn achosi problemau gyda’r gwasanaeth TrustedInstaller gan nad yw’n gwybod bod gosodiad presennol yn digwydd. Sicrhewch fod pob ap yn cael ei ddefnyddio fel ap Win32, mewn pecyn intunewin.
    • Nid yw switshis gosod yn gywir yn y gorchymyn gosod
      Gall hyn achosi problemau gyda llif y broses, a hyd yn oed ei atal gan achosi i’r broses fynd y tu hwnt i’w therfyn amser.
      Gwiriwch fod switshis gosod yn gywir. Mae angen i osodiadau trwy Autopilot fod yn dawel ac atal unrhyw awgrymiadau neu ailgychwyn.
    • Apiau mawr sy’n achosi terfyn amser
      Gallwch newid gwerth 'Show an error when installation takes longer than specified number of minutes value, 60 minutes' yn y proffil ESP. Ystyriwch newid apiau mwy fel eu bod ‘ar gael’ i’w gosod wedyn trwy Borth y Cwmni.
    • Nid yw TPM yn bodloni’r gofyniad o 2.0 neu mae problem gyda’r TPM
      Fel arfer, mae hyn yn effeithio ar ddyfeisiau gyda mathau cofrestru Hunanbaratoi neu Ragddarparu yn unig.
      Gwnewch yn siŵr bod y gadarnwedd TPM / BIOS yn gyfredol.

    Mae gorchymyn defnyddiol i’w redeg i gael gwybodaeth TPM:

      • Agorwch neges gorchymyn yn y sgrin ‘Autopilot failed’ trwy bwyso Shift+F10.
      • Teipiwch Tpmtool getdeviceinformation
      • Gwiriwch y 3 gosodiad - os yw unrhyw un o’r rhain yn wahanol, yna gwnewch ddiagnosis a thrwsio’r broblem, cyn rhoi cynnig arall arni
      • Ready for Attestation – True
      • Ready for Storage – True
      • TPM has vulnerable Firmware – False
  • Fel arfer, mae hyn yn effeithio ar ddyfeisiau gyda mathau cofrestru Hunanbaratoi neu Ragddarparu yn unig.
    Gwiriwch nad yw’r ddyfais eisoes wedi’i chofrestru mewn unrhyw denant. Os yw hyn yn wir, bydd angen dileu’r ddyfais ym mhorth Intune cyn rhoi cynnig arall arni.

Rhybudd

Os yw polisi Applocker yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r broses Autopilot, bydd hyn yn achosi i broses tracio ESP fethu gan ei fod yn gorfodi ailgychwyn y ddyfais i gymhwyso rhai o’r polisïau. Defnyddiwch y polisïau hyn ar ôl proses Autopilot neu analluogi ESP.


Gall fod yn anodd newid iaith ddiofyn dyfais i’r Gymraeg unwaith y bydd y ddyfais wedi’i chofrestru, heb i’r defnyddiwr wneud hyn ei hun trwy Gosodiadau.

O’r herwydd, argymhellir eich bod yn ychwanegu’r pecyn Cymraeg at y ddyfais fel pecyn darparu cyn ei chofrestru. Mae hyn yn sicrhau ei bod ar gael fel iaith ddewisol yn y cam OOBE gan ei gosod fel iaith ddiofyn y system a’r defnyddiwr.

Mae gwybodaeth am sut i greu’r pecyn darparu ar gael gan Ddesg Gwasanaeth Hwb.


Mae’r gwasanaeth hwn, sydd ar gael gan yr ailwerthwr adeg ei brynu, yn galluogi’r ddyfais i gael ei gosod yn llawn cyn ei dosbarthu. Mae hyn yn golygu y gellir ei danfon yn syth i’r ysgol ac mae’n barod i’w defnyddio ar unwaith.

Ar gyfer dyfeisiau Windows, mae’r gwasanaeth hwn yn defnyddio naill ai’r dull cofrestru hunanbaratoi neu ragddarparu i ffurfweddu’r ddyfais. Mae’n gosod yr holl apiau a pholisïau, diweddariadau a phecynnau iaith ar y ddyfais, ac yn perfformio gofynion tagio asedau.

Bydd angen i’r awdurdod lleol weithio gyda’r ailwerthwr i nodi’r gofynion Autopilot, a fydd yn cynnwys darparu’r tag grŵp ar gyfer yr ysgol arfaethedig.

Unwaith y bydd y dyfeisiau wedi’u cofrestru gyda Autopilot, bydd angen i’r ailwerthwr roi gwybod i weinyddwr Intune yn yr awdurdod lleol. Bydd angen i’r gweinyddwr Intune symud y dyfeisiau i grŵp dyfeisiau priodol i gael proffil cofrestru cyn y gall yr ailwerthwr wedyn barhau gyda’r gwasanaeth dosbarthu uniongyrchol.

Gwybodaeth

Os yw’r dyfeisiau’n cael eu dosbarthu i safleoedd gwahanol, mae angen i chi sicrhau bod yr ailwerthwr yn gwybod faint o ddyfeisiau a ddyrennir i bob tag grŵp.