English

Mae dyfeisiau a defnyddwyr wedi’u trefnu’n grwpiau ac mae ganddyn nhw drefn enwi sy’n dechrau gyda rhif yr awdurdod lleol neu’r ysgol i’w hadnabod. Mae’r grwpiau hyn wedi’u nythu o dan grŵp awdurdod lleol lefel uchaf i ffurfio hierarchaeth o ysgolion o fewn yr awdurdod lleol hwnnw ac maen nhw wedi’u rhannu’n ddwy gangen (dyfeisiau a defnyddwyr) i ddarparu arwahanrwydd a hyblygrwydd. Mae eitemau ffurfweddu yn cael eu neilltuo i grwpiau, felly mae defnyddio strwythur hierarchaidd yn caniatáu i neilltuadau cyffredin gael eu gosod unwaith ar lefel uwch a’u hetifeddu gan y grwpiau sy’n nythu ynddo.

Mae’r strwythur grŵp hwn i’w weld o fewn Intune for Education, sy’n dangos dim ond rhan o’r hierarchaeth y mae’r gweinyddwr wedi’i gwmpasu ar ei chyfer. Yn Intune for Education, mae modd neilltuo polisïau ac anfon apiau yn uniongyrchol ar grŵp unigol hefyd.

Mae gan bob ysgol 3 grŵp dyfeisiau (Dyfeisiau Darparu, Dyfeisiau Myfyrwyr, a Dyfeisiau Athrawon), a 2 grŵp defnyddwyr (Myfyrwyr ac Athrawon) sy’n cael eu cynnal gan wasanaeth darparu Hwb gyda data o System Gwybodaeth Reoli (MIS) yr ysgol.

Gellir creu grwpiau ychwanegol trwy’r Porth Rheoli Defnyddwyr er mwyn darparu hyblygrwydd wrth neilltuo apiau a pholisïau ffurfweddu i setiau gwahanol o ddyfeisiau neu ddefnyddwyr. Mae’r holl grwpiau defnyddwyr a dyfeisiau yn cael eu creu ar yr un lefel ac ni ellir eu nythu ymhellach. Mae’n arfer gorau creu grŵp ychwanegol at ddiben penodol ac yna ymuno defnyddiwr neu ddyfais â grwpiau lluosog i gyfuno eu heffeithiau.

Enghreifftiau:

  • Efallai fod cyfrifiaduron yr ystafell TG angen ap gwahanol i gyfrifiaduron eraill yn yr ysgol. Trwy greu grŵp dyfeisiau ychwanegol o’r enw "Ystafell TGCh1" a neilltuo’r ap i’r grŵp hwn yn Intune, dim ond i ddyfeisiau yn y grŵp hwn y bydd ar gael.

    • Dyfeisiau Ysgol
      • Dyfeisiau Darparu
      • Dyfeisiau Myfyrwyr
      • Dyfeisiau Athrawon
      • iPads
      • Ystafell TGCh 1

  • Efallai y bydd aelodau o’r uwch dîm rheoli angen mynediad i safle diogel a gynhelir ar SharePoint ar unrhyw ddyfais maen nhw’n mewngofnodi iddi. Trwy greu grŵp defnyddwyr ychwanegol o’r enw "Tîm Uwch-reolwyr" a phennu proffil ffurfweddu a osodir i gysoni’r llyfrgell ddogfennau â’u cleient OneDrive, bydd y safle diogel a rennir ar gael i’r defnyddwyr hyn ar yr holl ddyfeisiau maen nhw’n eu defnyddio.

    • Defnyddwyr Ysgol
      • Myfyrwyr
      • Athrawon
      • Defnyddwyr Tîm Uwch-reolwyr
Gwybodaeth

Nid yw gweinyddwyr dirprwyedig yn gallu creu na rheoli grwpiau Dyfeisiau a Defnyddwyr trwy Intune. Rhaid gwneud hyn drwy’r Porth Rheoli Defnyddwyr, yn unol â’r canllawiau isod.


Mae’r grŵp Dyfeisiau Darparu yn grŵp arbennig, a grëwyd gan dîm Hwb, i roi dyfeisiau cofrestredig yn awtomatig yng nghwmpas gweinyddol yr ysgol neu’r awdurdod lleol. Mae sawl rheol i bennu aelodaeth o’r grŵp dyfeisiau darparu, a rhaid bodloni o leiaf un o’r rhain er mwyn gallu gweld a rheoli’r ddyfais:

  • GroupTag = Dynodwr Darparu Dyfais*
    Dim ond yn berthnasol i ddyfeisiau Windows a ddefnyddir trwy Autopilot.

  • Device Name Previx = Mae enw’r ddyfais yn dechrau gyda’r Dynodwr Darparu Dyfais*
    Yn berthnasol i bob dyfais, ond dyma’r unig reol y gellir ei bodloni wrth gofrestru dyfeisiau Windows gan ddefnyddio pecyn darparu.
  • Enrolment profile name prefix = Mae’r enw proffil cofrestru yn dechrau gyda rhif yr awdurdod lleol neu’r ysgol
    Mae hyn yn berthnasol i iPads yn unig – dylai dyfeisiau Windows sy’n defnyddio Autopilot ddefnyddio’r GroupTag yn lle. Ar gyfer Awdurdodau Lleol, dylai proffiliau cofrestru ddechrau gyda’u cod 3 digid ac yna bwlch i fodloni’r rheol (e.e. “660 Enw proffil cofrestru”).
Gwybodaeth

*Mae’r Dynodwr Darparu Dyfais (DPId) yn god 5 nod unigryw sy’n cael ei neilltuo i bob ysgol (4 nod ar gyfer Awdurdodau Lleol).  Gallwch chwilio amdanyn nhw ar dudalen Grwpiau Dyfeisiau Intune yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.

Efallai y bydd oedi cyn i ddyfeisiau ymddangos yn y grŵp dyfeisiau darparu oherwydd y rheolau deinamig sydd angen eu prosesu. Unwaith y bydd dyfais yn weladwy yn y grŵp dyfeisiau darparu efallai y bydd angen ymuno â grwpiau eraill i dderbyn yr apiau a’r polisïau perthnasol - mae modd gwneud hyn ddefnyddio’r dudalen Intune Groups yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.

Nid ydym yn argymell defnyddio unrhyw apiau neu bolisïau i’r grŵp dyfeisiau darparu, dylid ei drin fel lle ar gyfer dyfeisiau yn unig.  Dylid defnyddio grwpiau ar wahân ar gyfer proffiliau cofrestru Autopilot, a dylid cymhwyso polisïau ar gyfer ffurfweddau cyffredin i’r rhiant-grŵp dyfeisiau.


Gallwch reoli grwpiau dyfeisiau trwy’r dudalen Intune Device Groups yn y Porth Rheoli Defnyddwyr – Administration -> Intune Device Groups

Yn yr adran hon, gallwch:

  • weld grwpiau dyfeisiau presennol
  • creu grwpiau dyfeisiau newydd
  • gweld dyfeisiau mewn grŵp dyfeisiau presennol
  • symud neu ychwanegu dyfeisiau mewn grŵp dyfeisiau i grŵp dyfeisiau arall
  • gweld y Dynodwr Darparu Dyfais ar gyfer eich awdurdod lleol neu’ch ysgol
  • chwilio am allweddi Bitlocker a chyfrineiriau a reolir gan LAPS ar ddyfeisiau Windows
    1. Cliciwch ar Create device group
    2. Rhowch enw addas – mae’n dechrau gyda rhif yr ysgol ac ni ellir ei olygu maes o law
    3. Cliciwch ar Create
    1. Cliciwch ar y grŵp dyfeisiau presennol i restru’r dyfeisiau
    2. Dewiswch y ddyfais neu’r dyfeisiau rydych chi am eu symud
    3. Cliciwch ar Join to another group
    4. Dewiswch y grŵp targed o’r gwymplen
    5. Cliciwch ar Move neu Add i symud neu ychwanegu’r ddyfais at y grŵp targed

    Bydd ‘Move’ yn tynnu’r ddyfais o’r grŵp presennol a bydd yn ymuno â’r grŵp targed.  Bydd ‘Add’ yn ymuno’r ddyfais â’r grŵp targed a’i gadw yn yr un presennol.

    1. Cliciwch ar y grŵp rydych chi am ddileu’r ddyfais ohono
    2. Dewiswch y ddyfais/dyfeisiau yr hoffech eu dileu
    3. Cliciwch ar Remove device from group
    4. Cliciwch Confirm ar y neges

    Does dim modd tynnu dyfeisiau o’r grŵp dyfeisiau darparu â llaw.  I ddileu dyfais, rhaid i chi newid priodwedd (neu briodweddau) y ddyfais sy’n bodloni rheolau’r grŵp:

    • Autopilot (Windows) – tynnwch y GroupTag yn Autopilot
    • Pecyn darparu (Windows) – Newid enw’r ddyfais
    • iPads – dileu gwrthrych y ddyfais

    Os ydych chi’n gosod enw dyfais Windows gyda’r rhagddodiad DPId trwy bolisi ffurfweddu, efallai y bydd angen i chi dynnu’r ddyfais o’r grŵp a neilltuwyd i’r polisi hwnnw, neu ei hychwanegu at grŵp heb y polisi hwnnw, er mwyn atal y ddyfais rhag cael ei hailenwi eto a bodloni’r rheol.

    1. Cliciwch ar y grŵp dyfeisiau i weld rhestr o’r dyfeisiau
    2. Dewiswch y ddyfais neu’r dyfeisiau rydych chi am eu dileu
    3. Cliciwch ar Delete Device
    4. Cliciwch ar Proceed ar y neges i gadarnhau’r dileu

    Bydd hyn yn dileu’r ddyfais/dyfeisiau a ddewiswyd o Intune, Autopilot (Windows yn unig) ac Azure AD.

  • Ni all gweinyddwyr dirprwyedig ddileu grwpiau dyfeisiau, ond gellir cyflwyno cais i ddesg gwasanaeth Hwb.

    Gwnewch yn siŵr fod y grŵp dan sylw yn cael ei dynnu o unrhyw ap neu bolisi yn Intune cyn gwneud y cais, oherwydd gall dileu tra bod neilltuadau’n dal i fodoli achosi problemau gyda golygu neilltuadau grŵp eraill ar y polisïau hynny.

    1. Tynnwch y ddyfais o unrhyw grwpiau dyfeisiau yn yr ysgol bresennol (ac eithrio’r grŵp dyfeisiau darparu)
    2. Tynnwch y ddyfais o’r grŵp dyfeisiau darparu
    3. Ewch ati i ailosod dyfais i’w gosodiadau ffatri drwy Intune
    4. Ewch ati i ailgofretru’r ddyfais, gan ddilyn y canllawiau cofrestru

Gellir rheoli grwpiau defnyddwyr drwy’r dudalen ‘Itune Device Groups’ yn y Porth Rheoli Defnyddwyr – Administration -> Intune User Groups

Yn yr adran hon, gallwch:

  • weld grwpiau defnyddwyr Intune diofyn
  • creu a gweld grwpiau defnyddwyr personol
  • ychwanegu neu ddileu defnyddwyr mewn grŵp defnyddwyr personol

Dim ond aelodau o grŵp Intune personol y gallwch chi eu rheoli.  Mae grwpiau diofyn yn cael eu rheoli gan wasanaeth Darparu Hwb.

    1. Cliciwch ar Add Group
    2. Rhowch enw addas – mae’n dechrau gyda rhif yr ysgol ac ni ellir ei olygu maes o law
    3. Cliciwch ar Add
    1. Dewiswch y grŵp Intune personol i ychwanegu defnyddiwr ato
    2. Cliciwch ar Add user to group
    3. Rhowch enw defnyddiwr Hwb i’r defnyddiwr rydych chi’n ei ychwanegu a chlicio ar Search
    4. Chwiliwch am fwy o ddefnyddwyr, os dymunir
    5. Ailwiriwch y rhestr o ddefnyddwyr i ychwanegu a chlicio ar Add

    Gallwch wneud hyn mewn swmp o’r rhestrau defnyddwyr hefyd - View Users -> View Learners/Staff

    1. Dewiswch un neu fwy o ddefnyddwyr i’w hychwanegu at y grŵp
    2. Cliciwch ar Selected Users > Assign to Group
    3. Dewiswch Intune Group fel y math o grŵp
    4. Dewiswch y grŵp targed o’r gwymplen
    5. Cliciwch ar Add to group
    1. Dewiswch y grŵp Intune personol i dynnu’r defnyddiwr ohono
    2. Hidlwch i ddod o hyd i’r defnyddiwr targed, os oes angen
    3. Cliciwch ar Remove ger enw’r defnyddiwr i’w ddileu o’r grŵp
    4. Cliciwch ar Remove ar y neges i gadarnhau

    Gallwch wneud hyn mewn swmp o’r rhestrau defnyddwyr hefyd - View Users -> View Learners/Staff

    1. Dewiswch un neu fwy o ddefnyddwyr i’w hychwanegu at y grŵp
    2. Cliciwch ar Selected Users > Assign to Group
    3. Dewiswch Intune Group fel y math o grŵp
    4. Dewiswch y grŵp targed o’r gwymplen
    5. Cliciwch ar Remove from group