English

  • Add Microsoft Store apps to Microsoft Intune | Microsoft Learn

    Gellir defnyddio apiau Windows Store yn hawdd trwy’r porth Intune trwy ddewis yr opsiwn Windows Store Apps (newydd) a chwilio am yr ap dan sylw. Mae hyn yn creu enghraifft unigol o’r ap y gellir ei gwmpasu a’i neilltuo fel unrhyw ap Windows arall.

    Mae apiau Windows Store yn cael eu diweddaru’n awtomatig gan Intune.

  • Win32 app management in Microsoft Intune | Microsoft Learn

    Mae hyn yn cynnwys unrhyw ap Windows y gellir ei osod yn dawel, y mathau mwyaf cyffredin yw MSIs neu EXEs.  Rhaid i becynnau gosod fod ar fformat Intunewin gan ddefnyddio Microsoft Win32 Content Prep Tool cyn y gellir ei ychwanegu at Intune i’w ddefnyddio, gan nodi’r gorchmynion gosod/dadosod tawel a rheolau canfod yn y dewin.

    Argymhellir yn gryf ddefnyddio apiau Win32 yn unig yn hytrach na LOB, gan fod potensial i fethu yn ystod cofrestru Autopilot os ydych chi’n cymysgu’r ddau fath.

    Mae’n bosibl defnyddio sgript PowerShell fel ap trwy ei becynnu fel ap Win32.  Bydd hyn yn gorfodi’r sgript PowerShell, yn unol â’i reolau canfod, yn hytrach na’i redeg unwaith yn unig.

  • Ychwanegir yr apiau hyn at Intune i’w defnyddio trwy Apple School Manager (ASM)

    Bydd enghraifft ar wahân o bob ap ar gyfer pob tocyn VPP sy’n cael ei neilltuo iddo yn ASM.  Does dim modd newid yr enw felly gwnewch yn siŵr bod yr un gywir yn cael ei defnyddio wrth neilltuo i grwpiau i’w defnyddio - gellir nodi hyn trwy glicio ar yr ap a gwirio Apple ID y tocyn VPP cysylltiedig. Oherwydd yr ymddygiad hwn, rydym yn argymell defnyddio apiau iOS trwy Intune for Education.

    Yn ddiofyn, mae math trwydded apiau VPP wedi’i osod i ‘device’. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi gysylltu Apple ID â’r ap a bydd holl ddefnyddwyr y ddyfais honno’n gallu ei ddefnyddio.

    Nid yw iPads a rennir yn cefnogi gosod apiau sydd ‘ar gael’ trwy Borth y Cwmni.  Dylai pob ap a all fod ei angen ar iPad a rennir gael ei osod yn ôl yr angen ac yna gellir ei guddio ar gyfer grwpiau defnyddwyr gwahanol trwy bolisïau ffurfweddu.

  • Mae hyn yn caniatáu i apiau gael eu defnyddio ar MacOS y tu allan i’r Volume Purchase Programme.

    Mae Intune yn cefnogi defnyddio apiau a reolir yn y fformat DMG ac apiau heb eu rheoli yn y fformat PKG.
    Add a macOS DMG app to Microsoft Intune | Microsoft Learn
    Add an unmanaged macOS PKG app to Microsoft Intune | Microsoft Learn

  • Yn syml, llwybrau byr yw’r rhain i wefannau y gellir eu defnyddio ar bob math o ddyfeisiau.

    Ar gyfer iOS, bydd hyn yn creu eicon llwybr byr ar y sgrin hafan.  Ar gyfer dyfeisiau Windows, ychwanegir y llwybr byr at y ddewislen cychwyn.


I gyflwyno ap i ddyfais neu ddefnyddiwr, rhaid ei neilltuo i grŵp Intune sy’n eu cynnwys. Mae sawl opsiwn neilltuo ar gyfer ap:

  • Gofynnol/Required
    Mae’r ap yn cael ei osod yn awtomatig ar y ddyfais (ar gyfer unrhyw ddefnyddiwr) os caiff ei gyflwyno i grŵp dyfeisiau, neu bryd bynnag y mae defnyddiwr yn mewngofnodi (ar unrhyw ddyfais gydnaws) os caiff ei gyflwyno i grŵp defnyddwyr.
  • Ar gael/Available
    Dim ond i grwpiau defnyddwyr, sy’n sicrhau bod yr ap ar gael i’w osod ar ffurf hunanwasanaeth ym Mhorth y Cwmni. Nid yw hyn yn berthnasol i ddefnyddwyr ar iPads a rennir.
  • Dadosod/Uninstall
    Gellir ei neilltuo i ddyfais neu grŵp defnyddiwr i ddadosod yr ap.

Wrth ddefnyddio neilltuad grŵp defnyddwyr, mae’r ap wedi’i osod i’r ddyfais ac ar gael i’w ddefnyddio gan bob defnyddiwr ar y ddyfais honno, oni bai bod yr ap yn cefnogi gosod yng nghyd-destun defnyddiwr (fel Google Chrome).

Gwybodaeth

Nid yw dileu grŵp o’r maes ‘Required’ yn Intune yn arwain at ddadosod yr ap, ond mae’n atal defnyddwyr neu ddyfeisiau yn y dyfodol yn y grŵp hwnnw rhag derbyn yr ap.  Rhaid i chi ychwanegu’r grŵp yn benodol at y neilltuad ‘Uninstall’.


Er bodd modd cyflwyno apiau trwy’r porth Intune, rydym yn argymell defnyddio Intune for Education, yn enwedig wrth neilltuo apiau VPP a/neu apiau lluosog i grŵp dyfeisiau.

Dyma’r dull a argymhellir wrth ddirprwyo cyflwyno apiau i dechnegwyr ysgol.

  1. Porwch i https://intuneeducation.portal.azure.com
  2. Cliciwch ar Groups, a chwilio am y grŵp dan sylw os oes angen.
  3. Dewiswch y grŵp targed.
  4. Cliciwch ar Windows apps neu iOS apps – bydd hyn yn dangos yr apiau sydd wedi’u neilltuo i’r grŵp ar hyn o bryd a’r math o neilltuad.
  5. Cliciwch ar Edit a dewiswch yr apiau rydych chi am eu gosod.
  6. Cliciwch ar

  1. Porwch i borth Intune.
  2. Cliciwch ar Apps -> All apps -> Add.
  3. Dewiswch Windows 10 and later neu MacOS o dan bennawd Microsoft 365 apps yn y gwymplen.
  4. Golygwch y maes Suite Name i enwi’r pecyn yn briodol - dylech ddechrau gyda rhif yr ysgol er mwyn adnabod yn hawdd.
  5. Ar gyfer dyfeisiau Windows, yn y cam Configuration app suite dewiswch Enter XML data o’r gwymplen.
  6. Parhewch gyda’r dewin.

Gellir cynhyrchu'r data XML yn hawdd gan ddefnyddio'r Office Customisation Tool.

  1. Ewch i https://config.office.com.
  2. Cliciwch ar Create a new configuration (neu mewnforiwch un sy’n bodoli’n barod i’w olygu).
  3. Dewiswch yr opsiynau cyflwyno a ddymunir, gan ddefnyddio’r argymhellion hyn:
    1. Products > Office Suites = Microsoft 365 Apps for Enterprise.
    2. Apiau = toglwch fel y dymunir i gynnwys/eithrio apiau.
    3. Language > Primary language = Match Operating System.
    4. Language > Additional languages = Welsh (Partial), os dymunir.
    5. Language > Additional proofing tools = Welsh, os dymunir.
    6. Licensing and activation > Automatically accept the EULA = On.
    7. Licensing and activation > Product activation = Device based.
  4. Allforiwch y ffeil XML, gan gwblhau’r awgrymiadau ychwanegol.
  5. Agorwch y ffeil XML a chopïo a gludo’r cynnwys i ffenestri Intune.
  6. Cliciwch ar Validate XML i gadarnhau, yna Next.
Rhybudd

Nid yw actifadu seiliedig ar ddyfais ar gael ar gyfer MacOS. Mae angen actifadu gan ddefnyddiwr i wneud hyn ac mae’n defnyddio un o’u prosesau actifadu a ganiateir. Ystyriwch ddefnyddio Office LTSC for Mac 2021 gyda’r Volume License Serializer yn lle.
Overview of the Volume License (VL) Serializer | Microsoft Learn