English

Enrollment guide: Microsoft Intune enrollment | Microsoft Learn

Gellir cofrestru dyfeisiau mewn sawl ffordd wahanol yn dibynnu ar system weithredu’r ddyfais a’i pherchenogaeth.

Mae Hwb yn cefnogi dau brif fath o berchenogaeth dyfeisiau y gellir eu gosod wrth gofrestru:

  • Cysylltiad â defnyddiwr
    Mae hyn yn addas ar gyfer dyfeisiau un i un a ddefnyddir gan un defnyddiwr yn bennaf.

    Ar gyfer iPads, mae dyfeisiau ‘dan berchnogaeth’ yn cael eu cloi i’r defnyddiwr hwnnw trwy Apple ID rheoledig. Maen nhw’n mewngofnodi’n awtomatig i gynhyrchion a gwasanaethau Apple ar y ddyfais honno.

  • Dim cysylltiad â defnyddiwr
    Mae hyn yn addas at ddefnydd ystafell ddosbarth neu ystafell TGCh lle nad yw’r ddyfais yn cael ei defnyddio gan yr un defnyddiwr yn unig.

    Ar gyfer iPads, bydd yr ymddygiad yn dibynnu a yw’r ddyfais wedi’i gosod fel dyfais ‘ddi-ddefnyddiwr’ neu iPad a rennir.  Ni ellir defnyddio ap Porth y Cwmni i osod apiau.


    Mae cofrestru iPad fel 'iPad a rennir' yn galluogi mewngofnodi ar y sgrin fel y gall defnyddwyr fewngofnodi a chael eu proffil ar wahân eu hunain ar y ddyfais. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer mynediad at wasanaethau Hwb heb orfod llofnodi allan ohonynt ar ôl eu defnyddio, gall defnyddwyr yn syml allgofnodi oddi ar yr iPad yn barod ar gyfer y person nesaf.

Gwybodaeth

Ar gyfer dyfeisiau sydd wedi’u cofrestru ag 'User affinity' neu 'Without User Affinity + Shared iPads' mae angen rhif adnabod (ID) Apple a reolir.  Gweler Ids Apple a Reolir am fwy o wybodaeth.

Gwybodaeth

Ystyriwch ddefnyddio 'Without User Affinity + Shared iPad' gyda chyfrif gwestai os nad ydych chi am ddefnyddio Apple Ids a reolir. Mae’r cyfrif gwestai yn clirio data ar ôl allgofnodi ac mae’n fwy diogel na chael yr holl ddefnyddwyr yn rhannu’r un proffil ag iPad na rennir.


Mae dyfeisiau iPad a MacOS yn cael eu hychwanegu at Apple School Manager trwy system Automatic Device Enrolment (ADE) Apple. Gwneir hyn gan amlaf gan ailwerthwr cymeradwy adeg y prynu. Fel arall, gellir defnyddio’r ap Apple Configurator i ychwanegu iPadOS a MacOS at Apple School Manager.

Unwaith y bydd dyfais wedi’i chofrestru yn ADE, a phroffil cofrestru wedi’i neilltuo iddi yn Intune, gellir ei chofrestru dros yr awyr.  Os oes angen dileu’r ddyfais, mae’n hawdd ei hail-gofrestru dros yr awyr gan ddefnyddio’r proffil presennol a neilltuwyd.

Ar ôl cofrestru, bydd y ddyfais i’w gweld yng ngrŵp darparu dyfeisiau yr ysgol neu’r awdurdod lleol targed, yn dibynnu ar enw’r proffil cofrestru.  Bydd angen ychwanegu’r ddyfais at unrhyw grwpiau ychwanegol i dderbyn polisïau ac apiau ffurfweddu ychwanegol - gweler Symud neu ychwanegu dyfais i grŵp arall.

  • Defnyddio Apple Configurator for Mac
    Dim ond ar gyfer iPads y gellir defnyddio’r dull hwn, ac mae’n ddefnyddiol ychwanegu dyfeisiau mewn swmp wedi’u cysylltu trwy droli neu orsaf ddocio.

    I ychwanegu’r ddyfais/dyfeisiau, dilynwch y camau yn Apple School Manager User Guide.

    Apple Configurator for iPhone 
    Gellir defnyddio’r dull hwn ar gyfer iPads a Macs, ac mae angen iPhone neu iPad sy’n cynnwys ap Apple Configurator.  Does dim angen cyswllt ffisegol, ond mae angen bod yn ddigon agos.

    I ychwanegu’r ddyfais/dyfeisiau, dilynwch y camau yn y canllaw Apple Configurator for iPhone.

    Mae ap Apple Configurator for iPhone yn cynnwys opsiwn i nodi’r gweinydd MDM.  Os gwnewch chi hyn, does dim angen mewngofnodi i Apple School Manager i neilltuo’r ddyfais a gallwch fynd yn syth i neilltuo proffil cofrestru iddynt yn Intune.

    1. Yn Apple School Manager gyda chyfrif sydd â rôl Rheolwr Cofrestru Dyfais.
    2. Ewch i Devices a chwilio am y ddyfais/dyfeisiau i’w neilltuo. Mae sawl hidlydd ar gael i helpu i ddod o hyd i’r dyfeisiau targed, gan gynnwys rhif archeb gan yr ailwerthwr.
    3. Dewiswch y ddyfais/dyfeisiau targed (gallwch ddewis mwy nag un ddyfais trwy ddal y botwm ‘CTRL’) neu glicio ar All Devices i ddewis yr holl ddyfeisiau sydd wedi’u hidlo ar hyn o bryd.
      Cofiwch ddefnyddio’r hidlydd cyn dewis yr holl ddyfeisiau.
    4. Cliciwch ar Edit wrth Edit MDM Server.
    5. Dewiswch Assign to the following MDM ac yna’r cofnod priodol o’r gwymplen.
    6. Cliciwch ar Continue
  • Bydd dyfeisiau’n cysoni’n awtomatig ag Intune bob dydd, ond gallwch hefyd gysoni â llaw:

    1. Ewch i Intune -> Devices -> Enroll Devices -> Apple Enrollment -> Enrollment program tokens.
    2. Dewiswch y tocyn MDM ar gyfer eich awdurdod lleol.
    3. Dewiswch
    4. Cliciwch ar Sync

    Ar ôl cyfnod byr, dylai’r dyfeisiau a neilltuwyd gennych yn Apple School Manager ymddangos. Mae modd adnabod dyfeisiau newydd gan fod y golofn ‘Profile assigned’ yn wag. Gallwch hefyd ychwanegu’r golofn ‘Profile Name’ i weld beth sydd wedi’i neilltuo i ddyfeisiau eraill.

    1. Ewch i Intune -> Devices -> Enroll Devices -> Apple Enrollment -> Enrollment Program Tokens.
    2. Dewiswch y tocyn MDM ar gyfer eich awdurdod lleol.
    3. Dewiswch
    4. Cliciwch ar Create Profile -> iOS/iPadOS neu
    5. Ewch ati i ffurfweddu’r gosodiadau yn ôl yr angen.
      1. Enwch y proffil cofrestru (a ddylai gychwyn gyda rhif yr ysgol)
      2. Dewiswch y cysylltiad â defnyddiwr priodol – With User Affinity (cysylltu defnyddiwr â’r ddyfais) neu Without User Affinity (heb ddefnyddiwr neu ddyfeisiau a rennir).
        1. Ar gyfer With User Affinity, dewiswch Company Portal er mwyn dilysu a defnyddio tocyn VPP priodol i’w ddefnyddio (gan sicrhau bod ganddo ddigon o drwyddedau).
        2. Ar gyfer Without user affinity, ewch ati i alluogi Shared iPad os ydych chi’n dymuno.
      3. Galluogwch oruchwyliaeth wedi’i chloi.
      4. Gosodwch dempled enw dyfais (dewisol) – os caiff ei osod, mae’n cael ei orfodi a does dim modd ei newid hyd yn oed trwy Intune (bydd enw’r ddyfais yn dychwelyd i gyd-fynd â thempled).
      5. Nodwch enw a rhif ffôn yr adran.
      6. Toglwch pa sgriniau’r cynorthwyydd gosod (Setup) rydych chi’n dymuno eu dangos wrth gofrestru – rydym yn argymell galluogi ‘location services’ yn y man lleiaf i osod y parth amser cywir ar y ddyfais.
    6. Cliciwch ar Create
    1. Ewch i’r Endpoint Portal -> Devices -> Enroll Devices -> Apple Enrollment -> Enrollment Program Tokens.
    2. Dewiswch y tocyn MDM ar gyfer eich awdurdod lleol.
    3. Dewiswch
    4. Gwiriwch y ddyfais/dyfeisiau targed a dewis Assign profile.
    5. Dewiswch y proffil cofrestru priodol o’r gwymplen a chlicio ar

    Gellir cyflawni aseiniad proffil cofrestru mewn swmp gan ddefnyddio sgript PowerShell, sydd ar gael ar gais drwy Ddesg Gwasanaeth Hwb.

    1. Dechreuwch y ddyfais.
    2. Ymunwch â rhwydwaith gyda mynediad agored i’r Rhyngrwyd.
    3. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i ychwanegu’r proffil rheoli dyfeisiau.
Rhybudd

Rhaid i’r cyfrif Hwb a ddefnyddir i fewngofnodi i ap Apple Configurator gael rôl Rheolwr Cofrestru Dyfais yn Apple School Manager. Mae’r rôl hon ar gael i weinyddwyr awdurdodau lleol yn unig.

Rhybudd

Nid yw'r adran dyfeisiau o Apple School Manager yn cael ei sgipio. Bydd pob gweinyddwr, nid dim ond eich un chi, yn gallu gweld pob dyfais sydd wedi’i chofrestru yn ASM ar denant Hwb. Byddwch yn ofalus eich bod chi’n defnyddio’r dyfeisiau cywir wrth wneud newidiadau.

Gwybodaeth

Bydd tocyn MDM yn cael ei greu gan Hwb ond mae angen i’r awdurdod lleol ei adnewyddu’n flynyddol – gweler y canllaw Adnewyddu'r tocyn MDM .


Mae modd cofrestru iPads yn uniongyrchol yn Intune gan ddefnyddio Apple Configurator for Mac hefyd.  Mae ffurfweddau cofrestru wedi’u gosod ym mhroffil Apple Configurator, a rhaid plygio’r iPad i’r Mac sy’n cynnwys yr ap. Does dim modd cofrestru Macs trwy’r dull hwn.

Mae’r broses gofrestru wedi’i hamlinellu yn Apple Configurator User Guide (Prepare an iPhone, iPad or Apple TV manually in Apple Configurator)

Rydym yn argymell eich bod yn dangos gwasanaethau lleoliad yn Setup Assistant yn unig, gan fod hynny’n caniatáu iddo gael ei droi ymlaen i osod y rhanbarth cywir.

Gwybodaeth

Cofiwch ailenwi’r dyfeisiau o Apple Configurator gan mai’r enw diofyn fydd ‘iPad’ fel arall.

Rhybudd

Mae cofrestru iPad yn uniongyrchol gan ddefnyddio Apple Configurator 2 yn caniatáu i’r defnyddiwr dynnu’r proffil rheoli o’r iPad o fewn 30 diwrnod o gofrestru. Yn iPadOS 14 neu’n hwyrach, mae’r ddyfais yn cael ei hailosod a’i rhyddhau’n awtomatig gan Apple School Manager os yw’r proffil cofrestru yn cael ei ddileu yn ystod y cyfnod hwn.

Cyn cofrestru, rhaid awdurdodi’r dyfeisiau yn Intune, neu bydd y broses yn methu. Mae angen URL y gweinydd MDM arnoch hefyd, y gellir ei allforio o broffil cofrestru Apple Configurator yn Intune.

    1. Yn gyntaf, rhaid i chi greu ffeil CSV gyda’r wybodaeth am y ddyfais – dylai penawdau colofnau fod yn serialnumber, details.
    2. Ewch i Endpoint Portal -> Devices -> Enroll Devices -> Apple enrollment -> Apple Configurator.
    3. Dewiswch Devices -> Add.
    4. Dewiswch broffil cofrestru priodol o’r gwymplen.
    5. Ychwanegwch y ffeil CSV o dan Import Devices a dewiswch
    1. Ewch i Intune -> Devices -> Enroll Devices -> Apple enrollment -> Apple Configurator
    2. Dewiswch Profiles
    3. Crëwch y proffil, os oes angen:
      1. Enwch y proffil (dylai ddechrau gyda rhif yr ysgol neu’r awdurdod lleol)
      2. Dewiswch y cysylltiad â defnyddiwr sy’n ofynnol
    4. Dewiswch y proffil
    5. Cliciwch ar Export Profile a gwneud nodyn o’r URL

Use direct enrollment for macOS devices | Microsoft Learn

Gyda chofrestru uniongyrchol MacOS, mae proffil cofrestru yn cael ei lawrlwytho o Intune a’i osod ar y Mac â llaw. Mae’n gofyn am ryngweithio ffisegol uniongyrchol â’r Mac, ac yn ei sefydlu fel dyfais heb gysylltiad â defnyddiwr (dyfais a rennir).  Rhaid bod Mac eisoes wedi’i osod a mewngofnodi gyda chyfrif gweinyddwr lleol.

  1. Agorwch System Preferences -> Sharing.
  2. Newidiwch enw’r Mac fel ei fod yn dechrau gyda’r dynodwr darparu dyfais perthnasol – mae hyn er mwyn bodloni’r rheol grŵp dyfeisiau darparu fel bod y Mac yn ymddangos yn y cwmpas cywir.
  3. Ewch i Intune -> Devices -> Enroll Devices -> Apple enrollment -> Apple Configurator
  4. Dewiswch Profiles
  5. Crëwch y proffil, os oes angen:
    1. Enwch y proffil (dylai ddechrau gyda rhif yr ysgol neu’r awdurdod lleol)
    2. Dewiswch y cysylltiad â defnyddiwr sy’n ofynnol
  6. Dewiswch y proffil
  7. Cliciwch ar Export Profile yna Download profile.
  8. Ewch ati i osod y proffil a lawrlwythwyd i Mac, gan ddilyn y cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd yn cymryd ychydig o amser i’r Mac ymddangos ym mhorth Intune.  Os nad yw’r ddyfais yn ymddangos ar ôl peth amser, gwiriwch fod enw’r ddyfais yn gywir.


Mae’r gwasanaeth hwn, sydd ar gael gan yr ailwerthwr adeg ei brynu, yn galluogi’r ddyfais i gael ei gosod yn llawn cyn ei dosbarthu. Mae hyn yn golygu y gellir ei danfon yn syth i’r ysgol ac mae’n barod i’w defnyddio ar unwaith.

Ar gyfer iPads, mae’r gwasanaeth hwn yn ychwanegu’r ddyfais at Apple School Manager ac yn ei chofrestru, gan osod polisïau, apiau a diweddariadau, ac ychwanegu unrhyw dagiau asedau, amddiffynwyr sgrin a chesys.

Unwaith y bydd y dyfeisiau wedi’u hychwanegu at Apple School Manager, bydd angen i’r ailwerthwr hysbysu gweinyddwr Intune yn yr awdurdod lleol. Bydd angen i weinyddwr Intune neilltuo’r dyfeisiau i’r tocyn MDM yn Apple School Manager, a’r proffil cofrestru yn Intune, cyn y gall yr ailwerthwr barhau.  Efallai y bydd angen iddynt ychwanegu’r ddyfais at grwpiau dyfeisiau ychwanegol hefyd ar ôl cofrestru i godi polisïau neu apiau ychwanegol.