English

Mae allweddi adfer Bitlocker ar gael drwy’r Porth Rheoli Defnyddwyr - Administration -> Intune Device Groups

  1. Dewiswch grŵp sy’n cynnwys y ddyfais sydd angen allwedd adfer Bitlocker.
  2. Chwiliwch am y ddyfais yn y rhestr dyfeisiau.
  3. Cliciwch ar y symbol ‘allwedd’ yn y golofn Recovery Key.
  4. Gwnewch nodyn o’r allwedd yn y naidlen neu pwyswch y botwm Copy i’w gopïo i’r clipfwrdd.

Bydd yr holl allweddi adfer Bitlocker sy’n gysylltiedig â dyfais yn cael eu rhestru yn y naidlen. Gallwch nodi’r allwedd gywir gan ddefnyddio’r ID allwedd Bitlocker ar y ddyfais.


Mae ateb cyfrinair gweinyddol lleol (Local Admin Password Solution (LAPS)) ar gael ar ddyfeisiau a reolir gan Hwb, ac mae eisoes wedi’i alluogi yn Intune.  I’w ddefnyddio, bydd angen i chi greu polisi LAPS a’i gyflwyno i’ch dyfeisiau Windows.
Windows LAPS policy with Microsoft Intune | Microsoft Learn

Mae’r dull chwilio am gyfrineiriau a reolir gan LAPS ar gael trwy’r Porth Rheoli Defnyddwyr  – Administration -> Intune Device Groups. Ni ellir defnyddio’r porth Intune.

  1. Dewiswch grŵp sy’n cynnwys y ddyfais rydych angen y cyfrinair LAPS ar ei gyfer.
  2. Chwiliwch am y ddyfais yn y rhestr dyfeisiau.
  3. Cliciwch ar y symbol ‘allwedd’ yn y golofn Recovery Key.
  4. Gwnewch nodyn o’r cyfrinair LAPS yn y naidlen, neu pwyswch y botwm Copy i’w gopïo i’r clipfwrdd.

Lle bo’n bosibl, dylid actifadu dyfeisiau Windows gan ddefnyddio’r drwydded ddaeth gyda nhw.  Os yw hyn yn Windows 10/11 Pro neu Windows 10/11 Pro Education, bydd y fersiwn yn uwchraddio i Windows 10/11 Enterprise a Windows 10/11 Education yn y drefn honno pan fydd defnyddiwr trwyddedig yn mewngofnodi.

Gellir actifadu dyfeisiau hŷn, fel rhai sydd wedi’u diweddaru i Windows 10 o fersiwn gynharach, trwy KMS Hwb.  Ni chefnogir Windows 10/11 LTSB/LTSC.


Nid yw Intune yn darparu ateb rheoli gwaith argraffu yn gynhenid.

Ar gyfer argraffu syml, mae’n bosibl defnyddio sgript PowerShell i fapio argraffydd ar gyfer y ddyfais neu’r defnyddiwr gan ddefnyddio mynediad anhysbys neu heb ei ddilysu. Nid yw gweinyddwyr argraffydd sy’n rhedeg OS Gweinydd yn cael eu cefnogi yn Intune, felly ni fydd dull dilysu ar gael.

Gellir defnyddio atebion rheoli argraffydd trydydd parti gydag Intune ar yr amod eu bod yn cefnogi integreiddio Azure AD ac wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio.

Ar hyn o bryd mae’r atebion rheoli trydydd parti canlynol wedi’u cymeradwyo:

  • Canon Uniflow
  • Papercut Hive
  • Papercut MF

Os ydych chi angen ateb arall, cysylltwch â Desg Gwasanaeth Hwb.

Gwybodaeth

Dim ond helpu i ddarparu a dilysu defnyddwyr i atebion rheoli print trydydd parti fydd Hwb.  Rhaid i’r rhain gael eu caffael a’u cynnal gan yr awdurdod lleol, gan na fydd achosion ar gyfer ysgolion unigol yn cael eu cefnogi.


Gellir defnyddio’r gwasanaeth Websafe presennol ar ddyfeisiau a reolir er mwyn darparu dull hidlo penodol i ddefnyddwyr gan ddefnyddio hidlydd cwmwl Smoothwall. Mae hyn yn cynnwys ychwanegu Azure AD Hwb fel cyfeiriadur ar weinydd Smoothwall a mapio’r grwpiau defnyddwyr i grwpiau hidlo.

Rhybudd

Dim ond ar gyfer porwyr Edge a Chrome ar ddyfeisiau Windows, yn ogystal â’r porwr Smoothwall ar iPads, y mae hyn ar gael.  O’r herwydd, mae’n bwysig atal defnyddwyr rhag gosod a defnyddio unrhyw borwr nad yw’n cael ei gefnogi.

Am fwy o wybodaeth am ddefnyddio Websafe gyda dyfeisiau a reolir gan Hwb, cysylltwch â’ch cynrychiolydd cymorth Websafe.

Yn ddiofyn, mae grwpiau hidlo’r we yn cael eu creu a’u cynnal ar gyfer holl staff ysgol a grwpiau blwyddyn dysgwyr.  Mae’r rhain ar gael yn Smoothwall pan ychwanegir Hwb fel cyfeiriadur a gellir eu mapio yn erbyn polisïau hidlo’r we i ddarparu lefelau gwahanol o hidlo.

Mae Hwb hefyd yn darparu grŵp ‘blocio’, a reolir trwy’r Porth Rheoli Defnyddwyr, y gellir ei ddefnyddio i rwystro mynediad i’r Rhyngrwyd i ddefnyddwyr sy’n cael eu hychwanegu ato gyda pholisi hidlo wedi’i fapio’n briodol yn Smoothwall.

Gellir creu a rheoli grwpiau ychwanegol gan ddefnyddio’r Porth Rheoli Defnyddwyr – Local authority dashboard -> Administration -> Web Filter Groups.