English

Mae modd defnyddio’r gwasanaeth Websafe ar ddyfeisiau sy’n cael eu rheoli gan Hwb i hidlo gwefannau sy’n benodol i ddefnyddwyr gan ddefnyddio estyniad Hidlydd Cwmwl Smoothwall.

Mae hyn yn golygu ychwanegu ID Entra Hwb fel cyfeiriadur ar y gweinydd Smoothwall a chysoni defnyddwyr a grwpiau Hwb ag amgylchedd Smoothwall. Bydd angen i’r gweinyddwr Smoothwall fapio grwpiau hidlo gwefannau Hwb i’r grŵp Smoothwall i neilltuo’r lefelau hidlo priodol.

Mae’r estyniad Hidlydd Cwmwl Smoothwall yn gweithio ar y canlynol:

  • Chromebook
  • Porwyr Edge a Chrome ar ddyfeisiau Windows
  • Porwyr Edge a Chrome ar ddyfeisiau MacOS

Dydy'r estyniad ddim ar gael ar gyfer iPads, ond mae'r un swyddogaeth ar gael drwy ddefnyddio ap Porwr Smoothwall.

Gwybodaeth

Mae gwybodaeth am ffurfweddu a defnyddio Websafe gyda dyfeisiau sy’n cael eu rheoli gan Hwb ar gael gan eich cynrychiolydd cymorth Websafe. Oherwydd natur y gwasanaeth hwn, mae’n hanfodol ei fod yn cael ei ddeall yn llawn a’i weithredu yn unol â’r canllawiau.

Gwybodaeth

Mae'r tocyn cysoni yn ddilys am 2 flynedd ar ôl ei greu.  Cyfrifoldeb gweinyddwr Smoothwall yw gofyn am ei adnewyddu cyn iddo ddod i ben.


Mae'r cysylltiad yn Smoothwall wedi'i ffurfweddu i gynnwys defnyddwyr yn yr awdurdod lleol yn unig wrth gysoni'r cyfeiriadur. Mae grwpiau hidlo gwefannau Hwb, sy’n cynnwys y defnyddwyr hyn, hefyd wedi’u cynnwys yn y broses gysoni, a gellir eu mapio i bolisïau hidlo yng nghonsol gweinyddwr Smoothwall.  Mae grwpiau hidlo gwe Hwb yn cael eu henwi gyda’r rhagddodiad ‘WF-XXX’ (lle mae’r dynodwr awdurdod lleol yn XXX).

Mae pob awdurdod lleol yn cael nifer o grwpiau hidlo gwefannau diofyn, sy’n cynnwys staff a grwpiau blwyddyn dysgwyr. Mae grwpiau blwyddyn staff a dysgwyr pob ysgol yn cael eu cynnwys yn y grwpiau hidlo gwefannau cyfatebol. Gan fod y grwpiau ysgol yn cael eu cynnal gan y gwasanaeth darparu, mae’r grwpiau hidlo gwefannau yn cael eu diweddaru.

Er enghraifft, byddai grŵp blwyddyn 6 mewn ysgol yn cael ei gynnwys yn hidlydd gwe Hwb WF-XXX-Year6, felly byddai unrhyw ddysgwyr blwyddyn 6 yn yr ysgol honno yn cael y polisi hidlo gwefan wedi’i neilltuo i’r grŵp hidlo gwefannau hwnnw yn Smoothwall. Yn wir, byddai’r holl ddysgwyr blwyddyn 6 mewn unrhyw ysgol yn yr awdurdod lleol yn cael y polisi hidlo gwefannau wedi’i neilltuo i grŵp hidlo gwefannau Hwb WF-XXX-Year6 (oni bai fod polisi wedi’i roi ar waith ar gyfer grŵp hidlo gwefannau Hwb personol).  Mae hyn yn golygu bod pob ysgol yn cael hidlyddion yn gyson.

Bwriad grwpiau hidlo gwefannau personol Hwb yw rhoi mwy o hyblygrwydd, gan ganiatáu i ddefnyddwyr unigol neu grwpiau ysgol gael polisïau hidlo gwefannau ychwanegol. Mae modd defnyddio’r rhain i ategu’r polisïau sy’n berthnasol i grwpiau hidlo gwefannau diofyn Hwb neu i’w diystyru.

Er enghraifft, os yw’r cyfryngau cymdeithasol yn cael eu rhwystro ar gyfer pob aelod o staff gan bolisi sydd wedi’i neilltuo i’r grŵp WF-XXX-Grŵp Staff, gellid caniatáu hyn ar gyfer staff mewn un ysgol drwy ychwanegu’r grŵp XXXYYYY Athrawon at grŵp hidlydd gwefannau Hwb personol o’r enw ‘WF-XXX-Caniatáu Cyfryngau Cymdeithasol’ sy’n caniatáu mynediad ac sydd â blaenoriaeth uwch yn Smoothwall.

Dim ond gweinyddwyr awdurdod lleol sy’n gallu creu grwpiau hidlo gwefannau Hwb personol. Fodd bynnag, mae gweinyddwyr Hwb ysgolion yn gallu ychwanegu neu dynnu defnyddwyr unigol neu grwpiau cofrestru/dosbarth/blwyddyn dysgwyr atyn nhw drwy ddulliau rheoli ar ddangosfwrdd yr ysgol.

Rhybudd

Nid yw Hwb yn gyfrifol am ffurfweddu na defnyddio unrhyw bolisïau hidlo gwe ar gyfer defnyddwyr neu grwpiau. Rhaid i’r gweinyddwr Smoothwall wneud hyn drwy borth gweinyddol Smoothwall, gan sicrhau bod y polisïau a’r blaenoriaethau’n gywir.

    1. Ewch i Gweinyddu > Grwpiau hidlo gwefannau
    2. Dan Grwpiau defnyddwyr hidlydd gwefannau personol cliciwch Ychwanegu Grŵp
    3. Rhowch enw grŵp – bydd hwn yn cael ei ragddodi â ‘WF-XXX-’
    4. Cliciwch Ychwanegu
    1. Ewch i Gweinyddu > Grwpiau hidlo gwefannau
    2. Dan Grwpiau defnyddwyr hidlydd gwefannau personol dewiswch y grŵp targed
    3. Cliciwch Ychwanegu defnyddiwr at grŵp
    4. Yn Adran, dewiswch y lleoliad y mae’r defnyddiwr ynddo
    5. Rhowch enw’r defnyddiwr a chlicio Chwilio
    6. Dwbl-gliciwch y defnyddiwr yn y canlyniadau chwilio i gadarnhau'r dewis
    7. Cliciwch Ychwanegu

    Efallai y bydd angen i chi adnewyddu'r dudalen i weld y defnyddiwr a gafodd ei ychwanegu yn y rhestr aelodau.

    Mae modd ychwanegu defnyddwyr unigol at grŵp hidlyddion gwe Hwb personol drwy ddangosfwrdd yr ysgol hefyd. Gall gweinyddwr yr awdurdod lleol neu weinyddwr Hwb ysgol wneud hyn.

    Bydd y defnyddwyr hyn yn cael eu dangos fel aelodau o grŵp hidlo gwefannau personol Hwb ar y dudalen Grŵp Hidlydd Gwefannau.

    1. Ar ddangosfwrdd yr ysgol, ewch i Gweinyddu > Gweld Defnyddwyr > Gweld Dysgwyr/Staff
    2. Dewiswch un neu fwy o ddefnyddwyr i’w hychwanegu at grŵp hidlyddion gwefannau personol Hwb
    3. Cliciwch Defnyddwyr a ddewiswyd > Neilltuo i grŵp
    4. Dewiswch y Grŵp Hidlydd Gwe fel y 'Math o Grŵp'
    5. Dewiswch grŵp hidlydd gwefannau personol Hwb o’r gwymprestr
    6. Cliciwch Ychwanegu at grŵp
    1. Ewch i Gweinyddu > Grwpiau hidlo gwefannau
    2. Dan Grwpiau defnyddwyr hidlydd gwefannau personol dewiswch y grŵp targed
    3. Cliciwch Ychwanegu defnyddiwr at grŵp
    4. Dewiswch yr ysgol yr hoffech weld ei grwpiau
    5. Dewiswch un neu fwy o grwpiau ysgol
    6. Cliciwch Ychwanegu

    Efallai y bydd angen i chi adnewyddu'r dudalen i weld y grŵp a gafodd ei ychwanegu yn y rhestr aelodau.

    Mae modd ychwanegu dosbarth, blwyddyn neu grwpiau cofrestru dysgwyr hefyd at grŵp hidlo gwefannau Hwb arferol drwy ddangosfwrdd yr ysgol. Gall gweinyddwr yr awdurdod lleol neu weinyddwr Hwb ysgol wneud hyn.

    Bydd y grwpiau hyn yn cael eu dangos fel aelodau o grŵp hidlo gwefannau personol Hwb ar y dudalen Grŵp Hidlydd Gwefannau.

    1. Ar ddangosfwrdd yr ysgol, ewch i Gweinyddu > Gweld grwpiau
    2. Gan ddefnyddio’r hidlydd, dewch o hyd i’r grŵp dysgwyr i’w ychwanegu at grŵp hidlydd gwefannau personol Hwb
    3. Cliciwch Rheoli Aseiniad Grŵp
    4. Dewiswch y Grŵp Hidlydd Gwe fel y 'Math o Grŵp'
    5. Dewiswch grŵp hidlydd gwefannau personol Hwb o’r gwymprestr
    6. Cliciwch Ychwanegu at grŵp
    1. Ewch i Gweinyddu > Grwpiau hidlo gwefannau
    2. Dan Grwpiau defnyddwyr hidlydd gwefannau personol dewiswch y grŵp targed
    3. Cliciwch Tynnu nesaf at y defnyddiwr neu'r grŵp targed yn y rhestr Defnyddwyr/Grwpiau.

    Gall Pencampwyr Digidol hefyd dynnu defnyddwyr unigol neu grwpiau dysgwyr maen nhw wedi’u hychwanegu at grŵp hidlyddion gwefannau Hwb personol.

    1. Dilynwch gamau 1-5 ar gyfer ychwanegu defnyddiwr neu grŵp at grŵp hidlo gwefannau Hwb personol
    2. Cliciwch Tynnu o'r grŵp
  • Gall gweinyddwyr ddefnyddio’r “WF-XXX-Defnyddwyr wedi’u Rhwystro” i rwystro defnyddwyr rhag cael mynediad i’r Rhyngrwyd drwy ddilyn y camau i ychwanegu grŵp defnyddwyr at grŵp hidlo gwefannau Hwb personol uchod.

    Rhaid mapio’r grŵp hwn i bolisi priodol yn Smoothwall sy’n atal mynediad i’r Rhyngrwyd.

Rhybudd

Wrth reoli defnyddwyr unigol neu grwpiau dysgwyr ar ddangosfwrdd yr ysgol, bydd pob grŵp hidlo Hwb personol sy’n cael ei greu gan yr awdurdod lleol ar gael. Rhaid bod yn ofalus i sicrhau nad yw’r Pencampwr Digidol yn ychwanegu defnyddwyr na grwpiau dysgwyr at grŵp hidlo gwefannau personol Hwb.