Rheoli cyfrifon heb fod yn y System Gwybodaeth Reoli (MIS) sy'n dod i ben
- Rhan o
Fel pencampwr digidol eich ysgol neu weinyddwr awdurdod lleol, fe welwch faner hysbysu ar ben y dudalen pan fydd gennych gyfrifon Non-MIS yn dod i ben yn y Porthol Rheoli Defnyddwyr. Bydd y faner hon yn eich hysbysu faint o gyfrifon sydd gennych yn dod i ben a bydd yn darparu dolen i chi reoli'r cyfrifon hynny.
Bydd clicio ar y ddolen Rheoli Cyfrifon sy'n Dod i Ben yn mynd â chi i restr o gyfrifon sydd i ddod i ben yn ystod yr 8 wythnos nesaf. Ar y dudalen hon bydd gennych yr opsiynau canlynol:
Cadw cyfrif
Trwy glicio ar cadw cyfrif, rhoddir opsiwn i chi ddewis pa mor hir rydych chi am i'r cyfrif hwn barhau i fod yn weithredol. Cliciwch cadarnhau i gadw'r cyfrif am y cyfnod a ddymunir. Bydd y cyfrif yn cael ei dynnu o'r rhestr unwaith y byddwch chi'n clicio cadarnhau.
Gallwch estyn y cyfrif am y cyfnodau canlynol:
- Diwedd y Flwyddyn Academaidd Nesaf
- 6 Mis
- 3 Mis
- 1 Mis
Cau'r Cyfrif
Drwy glicio cau cyfrif rhoddir opsiwn i chi gau'r cyfrif ar unwaith neu i gau'r cyfrif pan ddisgwylir iddo ddod i ben. Cliciwch un o'r opsiynau hyn i gau'r cyfrif, yna bydd y cyfrif yn cael ei dynnu o'r rhestr cyfrifon i'w reoli.
Cylchoedd Oes Cyfrifon
Bydd categori’r cyfrif (hynny yw, MIS neu heb fod yn MIS) sy’n cael ei greu a dyddiad y gweithgaredd diwethaf yn pennu am ba hyd y bydd yn fyw.
Mae’r cyfrifon hyn yn cael eu creu’n awtomatig ar sail y data ar ddysgwyr a staff yn y System Gwybodaeth Reoli (MIS), hynny yw, SIMS neu Teacher Centre.
Dim ond dysgwyr a staff sydd â chyfrifon MIS sy’n gallu cael mynediad at asesiadau personol.
Cylch oes:
- Mae cleient darparu Hwb yn creu cyfrif ar gyfer dysgwyr neu aelodau staff yn awtomatig unwaith y bydd cofnod wedi’i greu yn system MIS yr ysgol.
- Bydd y cyfrif Hwb yn para’n fyw tra bydd cofnod cyfredol yn bodoli ar system MIS yr ysgol ar gyfer dysgwr cyfredol neu aelod cyfredol o’r staff.
- Pan fydd dyddiad gadael yn cael ei roi ar gofnod MIS ysgol, bydd cyfrif Hwb y defnyddiwr yn cael ei ddadactifadu’n awtomatig.
- Bydd cyfrifon dysgwyr yn cael eu hailactifadu’n awtomatig os byddant yn symud i ysgol arall a gynhelir yng Nghymru.
- Nid yw cyfrifon staff byth yn cael eu hailactifadu’n awtomatig – cysylltwch â Desg Gwasanaethau Hwb.
- Os na fydd cyfrif dysgwr neu aelod o’r staff yn cael ei ailactifadu o fewn 12 mis i’r dyddiad gadael, bydd y cyfrif a’i holl gynnwys yn cael eu dileu’n barhaol (ac ni fydd modd adfer a galw’n ôl yr wybodaeth honno).
Mae’r cyfrifon hyn wedi eu creu â llaw gan Hyrwyddwyr Digidol a Gweinyddwyr Hwb. Mae’n bosib y bydd eu hangen ar gyfer:
- Staff dros dro mewn ysgolion nad oes cofnod ohonynt ar system MIS yr ysgol
- Gwasanaethau fel peiriannau argraffu, Kindle etc
- Llywodraethwyr
- Staff consortia rhanbarthol
- Staff awdurdodau lleol
- Athrawon cyflenwi
- Rhanddeiliaid addysg eraill, e.e. arolygwyr Estyn, cyflenwyr adnoddau etc.
Ni ddylai unrhyw ddysgwr gael cyfrif heb fod yn MIS.
Cylch oes:
- Gall Hyrwyddwyr Digidol a Gweinyddwyr Hwb ysgolion greu cyfrifon Hwb heb fod yn MIS yn y Porthol Rheoli Defnyddwyr Hwb (UMP).
- Gallwch bennu erbyn hyn am ba hyd y bydd angen cyfrif Hwb heb fod yn MIS ond ni fydd modd iddynt gael eu hestyn y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn academaidd sef 31 Awst.
- Gwaith cynnal a chadw:
- Rhaid i Hyrwyddwyr Digidol a Gweinyddwyr Hwb adolygu’r holl gyfrifon Hwb heb fod yn MIS y maent yn gyfrifol amdanynt cyn diwedd y flwyddyn academaidd.
- Bydd holl gyfrifon Hwb heb fod yn MIS sydd heb eu hestyn y tu hwnt i’w cyfnod actifadu penodedig neu y tu hwnt i 31 Awst yn cael eu dadactifadu’n awtomatig.
- Oni bai y bydd cyfrifon Hwb heb fod yn MIS yn cael eu hailactifadu o fewn 12 mis, bydd y cyfrifon a’u holl gynnwys yn cael eu dileu’n barhaol.
- Rhaid sefydlu cyfrifon myfyrwyr AGA gyda dyddiad dod i ben i adlewyrchu eu lleoliad. Rhaid hysbysu myfyrwyr AGA eu bod yn gyfrifol am drosglwyddo eu holl gynnwys cyn i'r lleoliad ddod i ben neu na fyddant yn gallu cael gafael ar eu hadnoddau.