English

Unwaith y bydd cyfrif Hwb defnyddiwr wedi'i greu'n awtomatig o'r data yn System Gwybodaeth Rheoli (MIS) ysgol h.y. SIMS neu Ganolfan Athrawon, ni fydd y meysydd enw yn Hwb yn diweddaru'n awtomatig os bydd yr enw cyntaf cyfreithiol a/neu gyfenw cyfreithiol yn cael eu newid yn y MIS wedyn. Fodd bynnag, gall hyrwyddwyr digidol ysgolion a gweinyddwyr Hwb sefydliadau olygu enw cyntaf a/neu gyfenw unrhyw ddefnyddiwr a hefyd gynhyrchu enw defnyddiwr newydd yn y Porth Rheoli Defnyddwyr os yw, er enghraifft:

  • enw cyfreithiol defnyddiwr wedi newid e.e. priodas, ysgariad, mabwysiadu etc;

  • defnyddiwr yn dymuno neu'n gorfod cael ei adnabod gan enw gwahanol i'w enw cyfreithiol.

Bydd newidiadau enw a wneir yn y Porth Rheoli Defnyddwyr yn cael eu hadlewyrchu ar draws y systemau Hwb, Office 365, Google Workspace for Education ac asesiadau personol fel a ganlyn:

  • Staff - bydd yr enw newydd yn ymddangos yn y fformat 'first initial and cyfname' e.e. J Bloggs.

  • Dysgwyr - bydd yr enw newydd yn ymddangos yn y fformat 'llythyren gyntaf eich enw cyntaf a chyfenw’ yn Hwb e.e. Joe B ac ‘enw cyntaf a chyfenw’ e.e. Joe Bloggs yn Office 365 a Google Workspace for Education.

Bydd angen diweddaru'r enw arddangos yn Just2easy â llaw fel proses ar wahân.

Bydd unrhyw newidiadau i'r enw cyntaf a'r cyfenw yn cael eu hadlewyrchu ar unwaith yn y Porth Rheoli Defnyddwyr, Office 365 a Google Workspace for Education, ond efallai y bydd yn rhaid i chi aros hyd at 10 munud i greu enw defnyddiwr newydd a hyd at 24 awr i'r enw arddangos ddiweddaru ar draws platfform Hwb (e.e. yn Rhwydweithiau a Dosbarthiadau etc).

Os cynhyrchir enw defnyddiwr newydd ar gyfer Hwb, mae'r cyfrinair ar gyfer y cyfrif hwnnw yn cael ei newid yn awtomatig. Bydd yr enw defnyddiwr a'r cyfrinair newydd ar gael yn y Porth Rheoli Defnyddwyr er mwyn rhoi’r manylion mewngofnodi newydd i'r defnyddiwr. Mae'n bwysig nodi y bydd cyfeiriad e-bost blaenorol y defnyddiwr yn cael ei gadw yn Hwb fel alias i sicrhau bod negeseuon e-bost a anfonir i'r cyfeiriad hwnnw yn cael eu hailgyfeirio i'r cyfeiriad e-bost newydd. Fodd bynnag, cynghorir defnyddwyr i gylchredeg eu cyfeiriad e-bost newydd hefyd fel y bo'n briodol.

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Gweld Defnyddwyr > Gweld Dysgwyr.
  3. Chwiliwch am y defnyddiwr perthnasol gan ddefnyddio’r maes Term chwilio fel y bo’n briodol e.e. teipiwch y cyfenw a chlicio Chwilio.
  4. Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde o fanylion y defnyddiwr).
  5. Cliciwch Rheoli’r Defnyddiwr > Golygu.
  6. Diweddarwch y meysydd Enw cyntaf a/neu Cyfenw fel y bo’n briodol.
  7. Os bydd angen, cliciwch y blwch ticio wrth ymyl Creu Enw Defnyddiwr Newydd (does dim angen ticio’r blwch oni bai fod y newid yn effeithio ar cymeriad gyntaf yr enw cyntaf a/neu’r cyfenw).
  8. Cliciwch Diweddaru.
Rhybudd

Os oes gan ddysgwr hunaniaeth newydd ac nad oes angen cadw cyswllt rhwng y cofnod gwreiddiol a chofnod newydd y disgybl, mae canllawiau pwysig ar gael (gweler yr adran Rhif Unigryw’r Disgybl 'Plant mewn perygl' yn yr adran 'Canllawiau i ysgolion roi’r strategaeth rheoli gwybodaeth ar waith’). Bydd creu cofnod newydd o yn MIS yr ysgol yn hwyluso creu cyfrif Hwb newydd i'r dysgwr ac yn dileu unrhyw gyswllt i'w gyfrif Hwb presennol.

Cofnod newydd a RhUD newydd yn MIS yr ysgol yw'r unig ffordd o sicrhau nad yw enw a chyfeiriad e-bost blaenorol y dysgwr bellach yn gysylltiedig â nhw yn yr Hwb ac yn y systemau asesiadau personol.

Cyn creu cofnod newydd, dylai ysgolion ddeall beth mae hyn yn ei olygu yn system Hwb a’r system asesiadau personol h.y. colli ffeiliau ysgol, negeseuon e-bost ac adborth ac adroddiadau asesu personol hanesyddol. Fodd bynnag, ni ddylai enw blaenorol y dysgwr fod yn weladwy iddynt mwyach.

Ar gyfer adroddiadau asesiadau personol, dylech nodi’r canlynol: Bydd newidiadau a wneir gan ysgolion i enw cyntaf a/neu gyfenw dysgwr yn ymddangos mewn adroddiadau cynnydd ac adborth newydd ers i'r enw newid, ond ni fyddant yn diweddaru yn adborth hanesyddol dysgwr o’u asesiadau personol ac felly efallai y byddant yn parhau i fod yn weladwy i ddysgwyr, staff a rhieni/gofalwyr. Os yw newid i gofnodion hanesyddol yn hanfodol am resymau amddiffyn plant, dylai ysgolion ystyried creu RhUD newydd neu, mewn achosion lle nad yw hyn yn briodol, dylent hysbysu'r ddesg gymorth asesiadau personol drwy ffonio 029 2026 5099 neu e-bostio cymorth@asesiadaupersonol.cymru.

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Gweld Defnyddwyr > Gweld Staff.
  3. Chwiliwch am y defnyddiwr perthnasol gan ddefnyddio’r maes Term chwilio fel y bo’n briodol e.e. teipiwch y cyfenw a chlicio Chwilio.
  4. Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde o fanylion y defnyddiwr).
  5. Cliciwch Rheoli’r Defnyddiwr > Golygu.
  6. Diweddarwch y meysydd Enw cyntaf a/neu Cyfenw fel y bo’n briodol.
  7. Os bydd angen, cliciwch y blwch ticio wrth ymyl Creu Enw Defnyddiwr Newydd (does dim angen ticio’r blwch oni bai fod y newid yn effeithio ar cymeriad gyntaf yr enw cyntaf a/neu’r cyfenw).
  8. Os oes angen, cliciwch ar y blwch nesaf at Cynhyrchu prif gyfeiriad E-bost newydd i ddiweddaru’r prif gyfeiriad e-bost. (Bydd hwn yn cael ei ddewis yn awtomatig os ydych chi'n ticio'r opsiwn Cynhyrchu Enw Defnyddiwr Newydd).
  9. Cliciwch Diweddaru.

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Gweld Defnyddwyr > Gweld Llywodraethwyr.
  3. Chwiliwch am y defnyddiwr perthnasol gan ddefnyddio’r maes Term chwilio fel y bo’n briodol e.e. teipiwch y cyfenw a chlicio Chwilio.
  4. Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde o fanylion y defnyddiwr).
  5. Cliciwch Rheoli’r Defnyddiwr > Golygu.
  6. Diweddarwch y meysydd Enw cyntaf a/neu Cyfenw fel y bo’n briodol.
  7. Os bydd angen, cliciwch y blwch ticio wrth ymyl Creu Enw Defnyddiwr Newydd (does dim angen ticio’r blwch oni bai fod y newid yn effeithio ar cymeriad gyntaf yr enw cyntaf a/neu’r cyfenw).
  8. Cliciwch Diweddaru Defnyddiwr.

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Gweld Defnyddwyr > Gweld Dim MIS.