English

Mae dau fath o weinyddwr ar gael yn Hwb:

  • Pencampwyr Digidol mewn ysgolion
  • Gweinyddwyr Hwb mewn awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol

Mae gweinyddwyr Hwb a Phencampwyr Digidol yr ysgol yn gallu ychwanegu neu dynnu Pencampwr Digidol ar gyfer yr ysgol.

Mae gweinyddwyr Hwb yn gallu ychwanegu neu dynnu gweinyddwr Hwb ar gyfer awdurdod lleol neu gonsortia addysg rhanbarthol.

Uwchraddio

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Gweld Defnyddwyr > Gweld Pencampwyr Digidol. Bydd y Pencampwyr Digidol presennol yn ymddangos ar frig y dudalen, a rhestr o’r holl aelodau eraill o staff yn ymddangos oddi tanynt.
  3. Chwiliwch am yr aelod perthnasol o staff.
  4. Cliciwch Uwchraddio i ychwanegu aelod o’r staff fel Pencampwr Digidol.

Bydd y neges ganlynol yn ymddangos: “Ydych chi’n siwr eich bod am ddyrchafu BloggsJ@Hwbcymru.net i Hyrwyddwr Digidol? Sylwch: Bydd Hyrwyddwyr Digidol yn cael eu hannog i sefydlu dilysiad aml-ffactor.”

  1. Cliciwch Ydw i fwrw ymlaen (neu Canslo i ganslo’r cyfarwyddyd).

Israddio

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Gweld Defnyddwyr > Gweld Pencampwyr Digidol.  Bydd y Pencampwyr Digidol presennol yn ymddangos ar frig y dudalen, a rhestr o’r holl aelodau eraill o staff yn ymddangos oddi tanynt.
  3. Chwiliwch am yr aelod perthnasol o staff.
  4. Cliciwch Israddio i dynnu hawliau aelod o’r staff fel Gweinyddwr Hwb.

Bydd y neges ganlynol yn ymddangos: “Ydych chi’n siwr eich bod am dynnu caniatâd Hyrwyddwr Digidol o BloggsJ@Hwbcymru.net?”

Uwchraddio

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Rheoli Gweinyddwyr. Bydd y Gweinyddwyr Hwb presennol yn ymddangos ar frig y dudalen, a rhestr o’r holl ddefnyddwyr eraill yn ymddangos oddi tanynt.
  3. Chwiliwch am yr aelod perthnasol o staff.
  4. Cliciwch Uwchraddio i ychwanegu aelod o’r staff fel Gweinyddwr Hwb.

Bydd y neges ganlynol yn ymddangos: “Uwchraddio’r defnyddiwr BloggsJ@hwbcmru.net yn adran XX? Sylwch: Bydd Hyrwyddwyr Digidol yn cael eu hannog i sefydlu dilysiad aml-ffactor.”

  1. Cliciwch Ydw i fwrw ymlaen (neu Canslo i ganslo’r cyfarwyddyd).

Israddio

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Rheoli Gweinyddwyr. Bydd y Gweinyddwyr Hwb presennol yn ymddangos ar frig y dudalen, a rhestr o’r holl ddefnyddwyr eraill yn ymddangos oddi tanynt.
  3. Chwiliwch am yr aelod perthnasol o staff.
  4. Cliciwch Israddio i dynnu hawliau aelod o’r staff fel Gweinyddwr Hwb.

Bydd y neges ganlynol yn ymddangos: “Israddio’r defnyddiwr BloggsJ@Hwbcymru.net yn adran XX?”

  1. Cliciwch Ydw i fwrw ymlaen (neu Canslo i ganslo’r cyfarwyddyd).

Ni all Gweinyddwyr Hwb ddiraddio eu hunain o’r rôl hon – bydd angen i Weinyddwr Hwb arall yn y sefydliad wneud hynny.