Hailactifadu cyfrifon Hwb
- Rhan o
Rhaid i Hyrwyddwyr Digidol a Gweinyddwyr Hwb adolygu’r holl gyfrifon Hwb heb fod yn MIS y maent yn gyfrifol amdanynt cyn diwedd y flwyddyn academaidd.
Bydd holl gyfrifon Hwb heb fod yn MIS sydd heb eu hestyn y tu hwnt i’w cyfnod actifadu penodedig neu y tu hwnt i 31 Awst yn cael eu hanalluogi awtomatig.
Bydd cyfrifon non-MIS heb weithgarwch mewngofnodi yn ystod y 90 diwrnod diwethaf yn cael eu hanalluogi am resymau diogelwch. Gall cyfrifon sydd wedi'u hanalluogi am y rheswm hwn gael eu hail actifadu unrhyw bryd gan weinyddwr yr ysgol neu’r dangosfwrdd. Ni fydd hyn yn effeithio ar ddyddiad dod i ben y cyfrif.
Os oes angen ailactifadu cyfrif dim MIS ar ôl iddynt ddod i ben, dim ond y Hyrwyddwr Digidol a Gweinyddwyr Hwb sy'n gallu gwneud hynny.
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
- Cliciwch Gweld Defnyddwyr > Gweld Dim MIS.
- Cliciwch Gweithredol a dewis 'N', bydd hyn yn rhestru bob cyfrif dim MIS sydd wedi analluogi.
- Dewch o hyd i'r defnyddiwr hoffech ei ailactifadu.
- Cliciwch Gweld y Manylion.
- Cliciwch Rheoli’r Defnyddiwr > Gweithredu.
Nodwch bydd y defnyddiwr yn dod yn weithredol eto mewn 30 munud.
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
- Cliciwch ' Enw Awdurdod Lleol' defnyddiwr > Rheoli Defnyddwy Dim MIS yr Awdurdod Lleol.