Cyfrineiriau cyfrif Hwb
- Rhan o
Statws cyfrinair
Pan fyddwch chi’n mewngofnodi i’r Porth Rheoli Defnyddwyr ac yn dewis Gweld Defnyddwyr (h.y. dysgwyr, staff, llywodraethwyr), bydd rhestr o ddefnyddwyr perthnasol yn ymddangos, gan gynnwys statws cyfrinair eu cyfrif.
Statws cyfrinair | Beth mae hyn yn ei olygu? |
Dangos cyfrinair | Drwy glicio Dangos Cyfrinair, bydd cyfrinair y defnyddiwr penodol hwnnw’n ymddangos. Bydd y cyfrinair yn diflannu eto ar ôl symud y cyrchwr oddi wrth y maes cyfrinair; ond, mae botwm copïo i’r clipfwrdd ar gael wrth ymyl y cyfrinair. |
- | Os oes cysylltnod yn y maes cyfrinair, mae hyn yn golygu nad yw’r cyfrinair ar gael yn y Porth Rheoli Defnyddwyr. Os nad yw’r defnyddiwr yn cofio ei gyfrinair, bydd angen ei ailosod. Ar ôl gwneud hynny, bydd y cyfrinair newydd yn ymddangos o dan Dangos Cyfrinair. |
Newidiwyd gan y defnyddiwr | Os yw’r defnyddiwr wedi newid ei gyfrinair ei hun (dydy’r opsiwn hwn ddim ar gael i ddysgwyr mewn ysgolion cynradd), bydd y neges Newidiwyd gan y defnyddiwr yn ymddangos. |
Ailosod cyfrineiriau
Gall pob defnyddiwr, heblaw am ddysgwyr mewn ysgolion cynradd, ailosod eu cyfrineiriau eu hunain.
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
- Yn y Porth Rheoli Defnyddwyr, cliciwch Fy Mhroffil i er mwyn gweld Eich Manylion, a chlicio’r botwm Ailosod y cyfrinair. Bydd gennych ddau opsiwn:
- Rhowch eich cyfrinair eich hun yn y meysydd perthnasol (gan ddilyn polisi cyfrineiriau Hwb h.y. o leiaf 8 nod sy’n cynnwys cymysgedd o rifau a llythrennau bach a mawr), a chlicio Diweddaru Cyfrinair.
- Cliciwch Creu Cyfrinair i gael cyfrinair sydd wedi’i greu gan y system. Gwnewch nodyn o’r cyfrinair newydd, a chlicio Diweddaru Cyfrinair.
Mae UNRHYW weinyddwyr Hwb a staff ysgol sy’n ddefnyddwyr yn gallu ailosod cyfrineiriau dysgwyr.
Grwp o Ddysgwyr
I ailosod cyfrineiriau ar gyfer grwp o ddysgwyr:
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
- Cliciwch Gweld Defnyddwyr > Gweld Dysgwyr.
- Cliciwch Gweithrediadau Grwp, ac o dan Ailosod Cyfrineiriau, cliciwch Ailosod Cyfrinair ar gyfer y Grwp / Dosbarth / Blwyddyn.
- Cliciwch y saeth i lawr, dewis y grwp dan sylw a chlicio Ailosod Cyfrineiriau. Efallai y bydd yn cymryd rhai munudau i’r cyfrineiriau gael eu diweddaru.
- Rhowch y cyfrineiriau newydd i’r dysgwyr mewn ffordd ddiogel (darllenwch yr adran Argraffu enwau defnyddwyr a chyfrineiriau).
Dysgwyr Unigol
I ailosod cyfrinair dysgwr unigol:
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
- Cliciwch Gweld Defnyddwyr > Gweld Dysgwyr
- Chwiliwch am y dysgwr gan ddefnyddio’r maes Term chwilio fel y bo’n briodol e.e. teipiwch y cyfenw a chlicio Chwilio.
- Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde o fanylion y dysgwr).
- Cliciwch Rheoli’r Defnyddiwr > Ailosod Cyfrinair. Bydd gennych ddau opsiwn:
- Rhowch eich cyfrinair eich hun yn y meysydd perthnasol (gan ddilyn polisi cyfrineiriau Hwb h.y. o leiaf 8 nod sy’n cynnwys cymysgedd o rifau a llythrennau bach a mawr), a chlicio Diweddaru Cyfrinair.
- Cliciwch Creu Cyfrinair i gael cyfrinair sydd wedi’i greu gan y system. Gwnewch nodyn o’r cyfrinair newydd, a chlicio Diweddaru Cyfrinair.
- Rhowch y cyfrinair newydd i’r dysgwr mewn ffordd ddiogel (darllenwch yr adran Argraffu enwau defnyddwyr a chyfrineiriau).
Mae gweinyddwyr Hwb a Phencampwr Digidol yr ysgol yn gallu ailosod cyfrineiriau staff yr ysgol.
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
- Cliciwch Gweld Defnyddwyr > Gweld Staff.
- Chwiliwch am y defnyddiwr perthnasol gan ddefnyddio’r maes Term chwilio fel y bo’n briodol e.e. teipiwch y cyfenw a chlicio Chwilio.
- Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde o fanylion y defnyddiwr).
- Cliciwch Rheoli’r Defnyddiwr > Ailosod Cyfrinair. Bydd gennych ddau opsiwn:
- Rhowch eich cyfrinair eich hun yn y meysydd perthnasol (gan ddilyn polisi cyfrineiriau Hwb h.y. o leiaf 8 nod sy’n cynnwys cymysgedd o rifau a llythrennau bach a mawr), a chlicio Diweddaru Cyfrinair.
- Cliciwch Creu Cyfrinair i gael cyfrinair sydd wedi’i greu gan y system. Gwnewch nodyn o’r cyfrinair newydd, a chlicio Diweddaru Cyfrinair.
Mae Pencampwr Digidol yn gallu ailosod cyfrineiriau Llywodraethwyr.
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
- Cliciwch Gweld Defnyddwyr > Gweld Llywodraethwyr.
- Chwiliwch am y defnyddiwr perthnasol gan ddefnyddio’r maes Term chwilio fel y bo’n briodol e.e. teipiwch y cyfenw a chlicio Chwilio.
- Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde o fanylion y defnyddiwr).
- Cliciwch Rheoli’r Defnyddiwr > Ailosod Cyfrinair. Bydd gennych ddau opsiwn:
- Rhowch eich cyfrinair eich hun yn y meysydd perthnasol (gan ddilyn polisi cyfrineiriau Hwb h.y. o leiaf 8 nod sy’n cynnwys cymysgedd o rifau a llythrennau bach a mawr), a chlicio Diweddaru Cyfrinair.
- Cliciwch Creu Cyfrinair i gael cyfrinair sydd wedi’i greu gan y system. Gwnewch nodyn o’r cyfrinair newydd, a chlicio Diweddaru Cyfrinair.
Mae Pencampwr Digidol yn gallu ailosod cyfrineiriau Staff Ysgol sydd ddim yn defnyddio’r System Rheoli Gwybodaeth.
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
- Cliciwch Gweld Defnyddwyr > Gweld Dim MIS.
- Chwiliwch am y defnyddiwr perthnasol gan ddefnyddio’r maes Term chwilio fel y bo’n briodol e.e. teipiwch y cyfenw a chlicio Chwilio.
- Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde o fanylion y defnyddiwr).
- Cliciwch Rheoli’r Defnyddiwr > Ailosod Cyfrinair. Bydd gennych ddau opsiwn:
- Rhowch eich cyfrinair eich hun yn y meysydd perthnasol (gan ddilyn polisi cyfrineiriau Hwb h.y. o leiaf 8 nod sy’n cynnwys cymysgedd o rifau a llythrennau bach a mawr), a chlicio Diweddaru Cyfrinair.
- Cliciwch Creu Cyfrinair i gael cyfrinair sydd wedi’i greu gan y system. Gwnewch nodyn o’r cyfrinair newydd, a chlicio Diweddaru Cyfrinair.
Argraffu a/neu lwytho i lawr enwau defnyddwyr a chyfrineiriau
Dim ond cyfrineiriau y mae modd eu gweld yn y Porth Rheoli Defnyddwyr fydd yn cael eu hargraffu.
-
Mae’r opsiwn hwn ar gael i’r holl staff ysgol a gweinyddwyr Hwb.
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
- Cliciwch Gweld Defnyddwyr > Gweld Dysgwyr.
- Chwiliwch am y defnyddiwr perthnasol gan ddefnyddio’r maes Term chwilio fel y bo’n briodol e.e. teipiwch y cyfenw a chlicio Chwilio.
- Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde o fanylion y defnyddiwr).
- Cliciwch Argraffu, ac wedyn naill ai Argraffu Manylion neu Argraffu Gyda Chyfrinair.
Mae’r opsiwn hwn ar gael i Bencampwyr Digidol mewn ysgolion a gweinyddwyr Hwb.

- Cliciwch Gweithrediadau Grwp, ac o dan Argraffu cliciwch Argraffu Grwp.
- Cliciwch y saeth i lawr, dewis y grwp cofrestru dan sylw a chlicio Argraffu.
-
Mae’r opsiwn hwn ar gael i’r holl staff ysgol a gweinyddwyr Hwb.
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
- Cliciwch Gweld Defnyddwyr > Gweld Dysgwyr.
- Cliciwch y blwch ticio i’r chwith o’r holl ddysgwyr dan sylw.
- Cliciwch Defnyddwyr dan sylw, ac o dan Argraffu, cliciwch naill ai Argraffu Wedi’i Ddewis neu Argraffu Wedi’i Ddewis (Gyda Chyfrinair).
-
Mae ffeil .csv o enwau defnyddwyr a chyfrineiriau dysgwyr neu’r staff yn gallu cael ei llwytho i lawr i ddogfen Excel.
Mae’r opsiwn hwn ar gael i’r holl staff ysgol a gweinyddwyr Hwb.
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
- Yn y Dangosfwrdd Gweinyddwyr Ysgol, cliciwch Gweinyddiaeth.
- O dan Llwytho Cyfrineiriau i Lawr, cliciwch Pob Disgybl.
- Bydd rhybudd yn ymddangos, “Sylwer: Os byddwch chi'n llwytho manylion adnabod defnyddiwr i lawr, eich cyfrifoldeb chi ydy gwneud yn siwr eu bod yn cael eu trin yn briodol”.
- Cliciwch Parhau i lwytho i lawr er mwyn bwrw ymlaen (neu cliciwch Mynd yn ôl i ganslo’r gorchymyn).
- Cliciwch y ffeil .csv sydd wedi’i llwytho i lawr er mwyn ei hagor yn Excel. Bydd y ffeil yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol am ddefnyddwyr, sy’n gallu cael ei threfnu fel y bydd yn briodol:
- Enw blaen
- Cyfenw
- Enw defnyddiwr
- Cyfrinair
- Dyddiad creu
- Blwyddyn
- Grwp cofrestru
- Caniatâd
- Rhif mynediad
Mae’r opsiwn hwn ar gael i Bencampwyr Digidol mewn ysgolion a gweinyddwyr Hwb.
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
- Yn y Dangosfwrdd Gweinyddwyr Ysgol, cliciwch Gweinyddiaeth.
- O dan Llwytho Cyfrineiriau i Lawr, cliciwch Pob Aelod o Staff.

- Cod staff