Fideos ar Hwb
Pethau i'w hystyried cyn creu fideos i Hwb.
Cyflwyniad
Mae'n rhaid i chi gysylltu â thîm cynnwys Hwb cyn gynted â phosibl i drafod eich prosiect fideo.
Rhaid i unrhyw fideo a gyhoeddir ar ein gwefannau gwrdd â:
- safonau'r Gymraeg
- gofynion hygyrchedd
- deddfau hawlfraint
Safonau'r Gymraeg
I gwrdd â safonau'r Gymraeg, ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol wrth wneud fideos. Mae hyn fel arfer yn golygu cynhyrchu cynnwys fideo yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Ar gyfer pob prosiect fideo, meddyliwch am eich cynulleidfa a beth fyddai'n gweithio orau iddyn nhw.
Ar gyfer fideos astudiaethau achos, y cam cyntaf bob amser, ddylai fod i chwilio am gyfranogwyr dwyieithog, fel y gellir cynhyrchu fideos Cymraeg a Saesneg. Fel arall, gellir cynhyrchu 2 astudiaeth achos ar wahân, o’r un gwerth, yn y naill iaith a’r llall.
Dylai'r fideos hyn gael capsiynau yn yr iaith lafar.
Hawlfraint
Rhaid i bob fideo gydymffurfio â deddfau hawlfraint. Bydd hyn yn cynnwys:
- sicrhau bod caniatâd perthnasol yn cael ei sicrhau cyn creu fideo os yn bosibl, neu os nad, cyn ei gyhoeddi
- peidio ag enwi ysgolion neu ddysgwyr os nad oes gennych ganiatâd i wneud hynny
- creu fideos mewn lleoliad addas gan sicrhau nad oes unrhyw eitemau gyda nod masnach na gwybodaeth sensitif i'w gweld yn y cefndir
Hygyrchedd
Rhaid i chi gofio na fydd gan bob defnyddiwr ddefnydd o sain. Yn ogystal â darparu trawsgrifiadau rhaid i bob fideo ddefnyddio capsiynau caeedig.
Trawsgrifiadau
Rhaid i chi ddarparu trawsgrifiad o'r geiriau a siaredir mewn unrhyw fideo sy'n cael ei gyhoeddi. Ni ddylai'r trawsgrifiad fod yn gyfieithiad o'r hyn a ddywedir. Dylai'r trawsgrifiad fod ar ffurf ffeil stamp amser SRT.
Capsiynau caeedig
Mae capsiynau caeedig yn destun sydd wedi’i gydamseru â thrac sain. Gellir ei ddarllen wrth wylio cynnwys gweledol. Mae'r broses o gapsiynu caeedig yn cynnwys:
- trawsgrifio'r sain yn destun
- rhannu'r testun hwnnw'n ddarnau a elwir yn 'fframiau capsiynau'
- cydamseru’r fframiau capsiynau gyda'r fideo
Fel trawsgrifiadau, dylai capsiynau gyd-fynd ag iaith lafar y fideo. Ni ddylech eu defnyddio at ddibenion cyfieithu.
Ni ddylid ychwanegu is-deitlau at y ddelwedd fideo. Dylid ddefnyddio offeryn capsiynau caeedig YouTube yn lle hynny. Dylid darparu trawsgrifiadau ar ffurf ffeil stamp amser SRT.
Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Bydd y gofynion hygyrchedd ac iaith ar gyfer fideos BSL yn wahanol. Bydd angen trafod y fideos hyn gyda thîm cynnwys Hwb.
Trawsgrifiadau
Ar gyfer fideos mewn BSL, bydd angen i ddehonglwr proffesiynol amseru'r trawsgrifiad.
Capsiynau
Nid oes angen capsiynau ar fideos BSL sydd wedi'u hanelu at ddefnyddwyr BSL rhugl. Os yw fideos am BSL yn gyffredinol, bydd angen capsiynau arnyn nhw.
Anfon ffeiliau fideo
Yn dibynnu ar faint eich ffeiliau fideo, efallai y bydd angen i chi anfon eich prosiect atom heb ddefnyddio Outlook.
Gellir anfon fideos drwy:
- Dropbox
- WeTransfer
- Google Docs
- Vimeo
Cyhoeddi fideos
Rhaid rhoi pob fideo ar YouTube cyn ei gyhoeddi ar Hwb.
Gallai hyn fod naill ai ar eich sianel YouTube chi neu Hwb a bydd hyn yn cael ei drafod unwaith y derbynnir y cais.
Gofynion YouTube
Dylid darparu’r wybodaeth ganlynol ynghyd â’r fideo sydd i’w lanlwytho i YouTube:
- teitl y fideo: mwyafswm o 100 nod (gan gynnwys bylchau). Rhaid i deitlau fideos fod yn ddwyieithog
- disgrifiad fideo: crynodeb byr yn esbonio am beth mae’r fideo. Rhaid i’r disgrifiad gael ei ddarparu’n ddwyieithog (hyd at 5000 nod)
- trawsgrifiad fideo
Amserlenni
Rhaid i chi gyflwyno'r fideos terfynol o leiaf 5 diwrnod cyn y dyddiad cyhoeddi. Bydd angen amser ychwanegol os bydd eich fideo angen gwiriadau pellach gan dîm cynnwys Hwb.
Efallai y bydd angen mwy o amser hefyd, yn dibynnu ar:
- nifer y fideos sydd i'w cyhoeddi
- hyd y fideo
Enghraifft o arfer da
Cyngor pellach ar pryd y dylid defnyddio fideos a sut i'w gwneud yn hygyrch ar gael ar LLYW. CYMRU.