English

Rydyn ni wedi ysgrifennu’r canllaw hwn yng nghyd-destun y ddyletswydd Prevent a nodir yn Neddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015. Mae’r ddyletswydd yn rhoi cyfrifoldeb ar awdurdodau penodol, gan gynnwys darparwyr addysg a gofal plant, i “roi sylw dyledus i’r angen i atal pobl rhag cael eu denu at derfysgaeth”.

Cyhoeddodd Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU canllawiau‘r ddyletswydd Prevent yn 2015, ac mae’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd ers hynny. Gallwch ddarllen y fersiwn diweddaraf sy’n ategu’r canllaw hwn ar wefan gov.uk (Saesneg yn unig). Mae’r canllawiau yn manylu ar sut gall darparwyr addysg a gofal plant ddiogelu plant a phobl ifanc rhag y perygl o gael eu radicaleiddio, a sut gallant gael gafael ar gymorth priodol i helpu effeithiolrwydd y mesurau. Sylwch fod paragraff 71 yn nodi “Bydd disgwyl i awdurdodau penodol wneud yn siwr bod plant yn ddiogel rhag deunydd gan derfysgwyr ac eithafwyr wrth ddefnyddio’r Rhyngrwyd mewn ysgolion, gan gynnwys drwy sefydlu lefelau hidlo priodol.”

Dylech ddarllen canllawiau’r ddyletswydd Prevent ochr yn ochr â Cadw dysgwyr yn ddiogel.


Diffiniad Llywodraeth y DU o radicaliaeth, fel y nodir yn ei gyngor dyletswydd Prevent, yw “... y broses sy’n denu pobl i gefnogi terfysgaeth a mathau o eithafiaeth sy’n arwain at derfysgaeth”.


Mae Strategaeth Gwrth-Eithafiaeth 2015 Llywodraeth y DU yn diffinio eithafiaeth fel “... gwrthwynebiad llafar neu weithredol i’r gwerthoedd rydym ni’n eu rhannu. Mae’r rhain yn cynnwys democratiaeth, rheolaeth y gyfraith, rhyddid yr unigolyn a pharch a goddefgarwch at wahanol ffydd a chredoau. Hefyd, rydym yn ystyried bod galw am farwolaeth aelodau o’n lluoedd arfog naill ai yn y DU neu dramor yn eithafiaeth”.


Y prif wahaniaeth rhwng radicaliaeth ac eithafiaeth yw bod radicaliaeth yn cyfeirio at broses ac mae eithafiaeth yn cyfeirio at gredoau unigolyn. Un o’r pethau sy’n anodd am y term ‘radicaliaeth’ yw nad yw’r canlyniad yn glir. Un ddealltwriaeth gyffredin yw unwaith y mae gan berson gredoau eithafol, mae wedi cael ei radicaleiddio. Felly, eithafiaeth yw canlyniad y broses o radicaleiddio. Yn gyffredinol, credir bod person wedi ei radicaleiddio ar ôl cymryd rhan mewn gweithgaredd terfysgol, gan feithrin credoau eithafol yr un pryd.

Mae diffiniad Llywodraeth y DU o radicaliaeth (gweler uchod) yn mabwysiadu’r ddealltwriaeth gyntaf: sef credoau eithafol yw canlyniad y broses o radicaleiddio.


Dylid poeni am radicaliaeth oherwydd y ffordd mae’n effeithio ar y rheini a allai gael eu radicaleiddio a chymryd rhan mewn gweithgareddau terfysgol, a'r ffordd mae’n effeithio ar y rheini sy’n dioddef trais terfysgol. Hefyd, dylem boeni am y ffordd mae radicaliaeth yn effeithio ar gydlyniant cymunedol yn fwy cyffredinol. Mae propaganda terfysgwyr yn ceisio creu hunaniaeth sy’n gwahaniaethu rhwng y bobl sy’n perthyn i’w grwp eithafol nhw a’r rheini sydd y tu allan i’r grwp hwnnw. Maen nhw’n cyfleu bod y rheini sydd y tu allan i’r grwp eithafol yn gwrthwynebu’r grwp yn llwyr ac felly eu bod yn fygythiad. Yn ei dro, mae hyn yn chwalu cydlyniant cymunedol ac yn cael ei ddefnyddio i gyfiawnhau gweithredoedd treisgar yn erbyn ‘gelyn’ annynol.


Tacteg gyffredin yw pwysleisio nodweddion da’r grwp eithafol a lliniaru ei nodweddion drwg, a cheisio gwneud y gwrthwyneb i’r grwp arall. Mae polareiddio o’r fath yn golygu bod y ddau grwp yn cael eu ‘homogeneiddio’.

Yna, mae propaganda terfysgwyr yn gwthio’r dewis hunaniaeth yma ar ddarllenwyr, gwrandawyr a gwylwyr, gan roi pwysau arnyn nhw i benderfynu a ydyn nhw’n perthyn i’r grwp eithafol ai peidio. Bydd propaganda o'r fath yn mynnu bod y rheini sy’n uniaethu’n llwyr â'r grwp yn gweithredu i wthio eu hagenda dreisgar.


Un peth gall rhieni a gofalwyr ei wneud yw ceisio atal eu plentyn/plant rhag edrych ar y byd gyda’r agwedd syml ‘ni’ a ‘nhw’. Mae helpu plant a phobl ifanc i werthfawrogi a dathlu diwylliannau gwahanol yn ffordd bwysig o gyflawni hyn. Os bydd plentyn neu berson ifanc yn dechrau ‘gwahaniaethu’ grwpiau ethnig/crefyddol gwahanol, amlygwch nodweddion da’r grwpiau a herio os bydd y grwp yn cael ei homogeneiddio.


  • gwrando ar eu plentyn, trafod a chytuno â’r gwefannau maent yn eu defnyddio, gwybod pwy yw eu ffrindiau ar-lein, a chyfyngu ar faint o amser sy’n cael ei dreulio ar-lein
  • hyrwyddo a dathlu agweddau cadarnhaol gwahanol grefyddau a diwylliannau
  • darllen “Canllaw i rieni a gofalwyr ar siarad â'ch plentyn am gadw’n ddiogel ar- lein” ar Hwb
  • eu hannog i siarad am unrhyw bryderon â chi neu athrawon eraill yn ysgol y plentyn.

Mae dulliau cyfathrebu modern wedi galluogi eithafwyr i ddod yn llawer mwy soffistigedig o ran lledaenu eu hideoleg – gan weithredu ar gyflymder a graddfa na welwyd o’r blaen wrth dargedu unigolion penodol. Er enghraifft, roedd Al-Qaeda yn defnyddio dulliau penodol o gyfathrebu, fforymau Arabeg a chaeedig yn aml. Ar y llaw arall, mae ISIS wedi ceisio cyrraedd cynulleidfa ehangach o lawer drwy fanteisio ar y rhyngrwyd, y cyfryngau cymdeithasol yn benodol. Gall y cynnwys ar-lein hynod broffesiynol hwn gyrraedd cynulleidfaoedd mawr, gyda’r nod o recriwtio mewn niferoedd sylweddol.

Mae Strategaeth Gwrth-Eithafiaeth Llywodraeth y DU yn nodi sut gellir defnyddio’r rhyngrwyd i gyflwyno dewis cryf arall yn lle ideolegau eithafol. Mae’r rhain yn cynnwys herio dadl yr eithafwyr ac amlygu eu natur gor-syml, datgelu creulondeb grwpiau eithafol drosodd a throsodd, hyrwyddo gweledigaeth bositif o sut gellir cymodi ffydd a hunaniaeth genedlaethol, a helpu plant a phobl ifanc agored drwy weithgareddau go iawn.

Gallwch ddarllen mwy am Strategaeth Gwrth-Eithafiaeth y Llywodraeth yma (Saesneg yn unig).

Yn ddiweddar, mae’r Comisiwn dros frwydro yn erbyn eithafiaeth (Saesneg yn unig) wedi gwneud cais am adolygiad o’r arweiniad hwn.


Mae academyddion yn anghytuno ynghylch yr hyn sy’n achosi eithafiaeth, ac mae llawer o ddadleuon am rôl y rhyngrwyd. Yr hyn a dderbynnir yn gyffredinol yw, i’r rhan fwyaf o bobl sy’n rhannu cynnwys eithafol (neu cynnwys sy’n sbarduno eithafiaeth), nid oes cysylltiad yn awgrymu eu bod yn mynd ymlaen i gymryd rhan uniongyrchol mewn eithafiaeth.

Mae’r adroddiad ‘Challenging Hateful Extremism’ (Saesneg yn unig), a gyhoeddodd Llywodraeth y DU yn ddiweddar, yn edrych yn fanwl ar y themâu hyn ac yn amlinellu strategaethau cadarnhaol.


Canllawiau’r ddyletswydd Prevent Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban.

Edrychwch ar y cyngor yn llawn yma (Saesneg yn unig).


Mae pecyn hyfforddiant e-ddysgu Prevent (Saesneg yn unig) nawr ar gael i helpu i gyflawni cyfrifoldebau’r ddyletswydd o dan adran 26 Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015.

Mae'r pecyn yn rhoi sylfaen ragarweiniol ar gyfer datblygu rhagor o wybodaeth am risgiau radicaleiddio a sut i helpu’r rheini sydd mewn perygl.

Efallai hoffech hefyd ystyried yr adnoddau hyfforddiant pellach sydd ar gael yng nghatalog hyfforddiant Prevent (Saesneg yn unig).


 ddwch chi'n poeni am blentyn sydd yn eich gofal, dylech ddilyn prosesau diogelu Sylwi, Gwirio a Rhannu eich ysgol/coleg gyda'r Uwch Unigolyn Dynodedig ar Amddiffyn Plant. Yn ychwanegol, mae unrhyw athro yn gallu rhoi gwybod am bryderon am unigolyn sydd â safbwyntiau eithafol neu am unigolyn sydd mewn perygl o gael ei radicaleiddio gan ddefnyddio Ffurflen Atgyfeirio Partneriaid Prevent Cymru Gyfan. Gallai trafod eich pryderon â swyddog School Beat eich ysgol neu swyddog lleol Prevent eich helpu.


Rydyn ni’n ddiolchgar am gymorth a chefnogaeth Stuart MacDonald o Ysgol y Gyfraith Hilary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe, wrth baratoi cynnwys y canllaw hwn.