English

Nod y dogfennau strategaeth a chanllawiau hyn yw cefnogi’r gwaith o ddatblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein. Mae gwybodaeth a chyngor cyffredinol am ddiogelwch ar-lein ar gael yn ogystal â chymorth i ddelio â materion penodol.

Gwella cadernid digidol mewn addysg: cynllun gweithredu i amddiffyn plant a phobl ifanc ar-lein

Ein hymrwymiadau i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein a gwybodaeth am y gwaith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar gyfer pob cam strategol.

Diogelwch ar-lein: pum cwestiwn allweddol ar gyfer cyrff llywodraethu er mwyn helpu i herio ysgolion a cholegau i ddiogelu eu dysgwyr yn effeithiol

Canllawiau am yr hyn y dylai llywodraethwyr chwilio amdano wrth adolygu polisïau a gweithdrefnau diogelwch ar-lein yr ysgol neu'r coleg a’r gefnogaeth sydd ar gael.

Seiberddiogelwch mewn ysgolion: cwestiynau ar gyfer cyrff llywodraethu a phwyllgorau rheoli

Canllawiau i gyrff llywodraethu a phwyllgorau rheoli i helpu i wella dealltwriaeth ysgolion o'u risgiau seiberddiogelwch.

Cynllun ymateb ysgolion i ddigwyddiadau seiber

Gwybodaeth am sut i baratoi ac ymateb i ddigwyddiadau seiber.

Aflonyddu rhywiol ar-lein: Deall, atal ac ymateb: 3 chwestiwn allweddol ar gyfer cyrff llywodraethu

Canllaw ar aflonyddu rhywiol ar-lein a chwestiynau allweddol y dylai llywodraethwyr eu gofyn i gefnogi'r ysgol.

AI Cynhyrchiol: cadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein

Canllawiau i ysgolion ynglŷn â phryderon diogelu wrth ddefnyddio AI cynhyrchiol a sut i'w cynnwys fel rhan o’u harferion a’u polisïau diogelu.

Arferion ac egwyddorion ar gyfer defnydd ysgolion o'r cyfryngau cymdeithasol

Canllawiau i gynorthwyo ysgolion a lleoliadau addysg yng Nghymru i gynllunio eu dull o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd ddiogel, broffesiynol a chadarnhaol fel rhan o brosesau cyfathrebu’r ysgol neu leoliad.

Darparu cyfleoedd dysgu ar-lein: egwyddorion ac arferion diogelu

Ystyriaethau allweddol ar gyfer sicrhau arferion diogel wrth ffrydio'n fyw os oes angen cefnogi dysgu o bell.

Rhannu lluniau noeth neu hanner noeth: ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc

Canllawiau wedi'u hanelu at y person diogelu dynodedig (DSP), penaethiaid ac uwch dimau arwain sy’n trafod sut i ymateb i ddigwyddiad o rannu lluniau noeth neu hanner noeth.

Cyngor i ysgolion am baratoi ar gyfer ymateb i heriau a thwyll niweidiol feirol ar-lein

Canllawiau i ysgolion ar gyfer deall ac ymateb yn ofalus i heriau a thwyll feirol ar-lein i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cadw'n ddiogel ar-lein.

Herio iaith ac ymddygiad sy’n awgrymu bai ar y dioddefwr wrth ddelio â phrofiadau ar-lein plant a phobl ifanc

Canllawiau wedi'u hanelu at holl staff yr ysgol i helpu gyda deall, cydnabod ac ymateb i iaith ac ymddygiad sy’n beio’r dioddefwr o fewn eu lleoliadau.

Ymateb i faterion enw da ar-lein ac aflonyddu a gyfeirir at ysgolion a staff ysgolion

Canllawiau i ysgolion sy’n trafod sut i ymateb i faterion sy’n ymwneud ag enw da ar-lein gan gynnwys trafodaeth negyddol am yr ysgol neu staff yr ysgol ar-lein.

Canllaw i athrawon ar reoli eich enw da proffesiynol ar-lein

Camau ymarferol y gall ymarferwyr addysg a staff cynorthwyol eu cymryd i reoli eu henw da ar-lein.

Gwe-grafu

Gwybodaeth i ysgolion am we-grafu ac ystyriaethau ar gyfer postio a rhannu delweddau ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefannau ysgolion.

Pecyn cymorth diogelwch ar-lein ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar

Canllaw a pholisïau a thempledi enghreifftiol ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar y gellir eu diwygio i ateb anghenion y ddarpariaeth.

Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar: defnyddio seiberddiogelwch i amddiffyn eich lleoliadau

Gwybodaeth am sut i ddiogelu gwybodaeth sensitif am eich lleoliad a'r plant yn eich gofal.

Cadw dysgwyr yn ddiogel

Canllawiau ar gyfer diogelu statudol mewn addysg sy’n rhoi gwybodaeth i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu am eu dyletswyddau. Mae hefyd yn cynnwyscyngor am y trefniadau a ddylai fod ar waith i ddiogelu plant. Mae Adran 7 yn ymwneud yn benodol â chadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein.

Hawliau, Parch, Cydraddoldeb

Canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion awdurdodau lleol i helpu i fynd i'r afael â bwlio ac i’w atal mewn lleoliadau addysg yng Nghymru.

Canllawiau ymarfer Cymru Gyfan

Gweithdrefnau sy’n rhoi arweiniad am arferion diogelu i'w defnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.