English

Mae Grŵp Ieuenctid Cadw’n Ddiogel Ar-lein yn tynnu ynghyd bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol a gwahanol leoliadau ledled Cymru.

Mae’r grŵp ieuenctid cenedlaethol hwn yn ffordd bwysig i ni roi’r lle canolog yn ein gwaith i lais y dysgwr. Mae’n ein helpu i ddeall yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu pan fyddant ar-lein fel y gallwn nodi’r ffyrdd gorau o’u cefnogi nhw, eu hysgolion a’u teuluoedd.

Yn ystod y cyfarfodydd, mae aelodau’r grŵp yn:

  • rhannu eu profiadau o’r byd digidol
  • trafod y tueddiadau diweddaraf sy’n boblogaidd ymhlith eu cyfoedion
  • nodi unrhyw bryderon sydd ganddynt
  • disgrifio effaith ymarferol unrhyw broblemau y dônt ar eu traws

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

Mae’r grŵp yn cyfarfod yn rhithiol sawl gwaith yn ystod y flwyddyn ysgol, ac unwaith wyneb yn wyneb i nodi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Ar gyfer Diwrnod 2025, cynhaliwyd sesiwn gan Ofcom i drafod diogelwch ar-lein, ac yna treuliwyd y prynhawn yn creu deunydd ar sail thema sgamiau ar-lein.

Praesidio Safeguarding

Caiff Grŵp Ieuenctid Cadw’n Ddiogel Ar-lein ei hwyluso gan Praesidio Safeguarding, asiantaeth diogelwch ar-lein arbenigol sy’n cael ei chydnabod yn fyd-eang.

Pynciau cysylltiedig