English

Mae cynnwys amhriodol neu sy'n tramgwyddo yn gyffredin ar draws y rhyngrwyd. Gall ymddangos yn annisgwyl yn ystod gweithgarwch ar-lein bob dydd. Gall fod ar ffurf:

  • iaith wael neu amhriodol
  • delweddau graffig neu sy'n peri gofid
  • cynnwys rhywiol
  • cynnwys treisgar

Dyma rai enghreifftiau posibl o gynnwys a chyfathrebu anghyfreithlon:

  • delweddau o gam-drin neu ecsbloetio
  • cyfathrebu'n rhywiol gyda phlentyn
  • deunydd sy'n hyrwyddo terfysgaeth neu eithafiaeth
  • negeseuon llafar neu fathau eraill o gyfryngau sy'n annog trais, gwahaniaethu neu gasineb
  • aflonyddu (ymddwyn yn gyson mewn ffordd y bwriedir iddi achosi trallod neu fraw, megis galw enwau, bygwth, stelcian neu aflonyddu rhywiol)
  • twyll a sgamiau ar-lein
  • creu neu werthu nwyddau anghyfreithlon a ffug
  • ffrydio neu lawrlwytho cynnwys yn anghyfreithlon

Yn sgil technolegau fel AI cynhyrchiol, gall cynhyrchu a rhannu'r mathau hyn o gynnwys ddigwydd yn gyflymach.

Mae Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn gosod dyletswyddau cyfreithiol newydd ar lwyfannau ar-lein i amddiffyn defnyddwyr, yn enwedig plant. Ers 25 Gorffennaf 2025, mae dyletswydd gyfreithiol ar lwyfannau i amddiffyn plant ar-lein. Bellach, mae'n ofynnol i lwyfannau ddefnyddio technoleg gwirio oedran hynod effeithiol i atal pobl dan 18 oed rhag cael mynediad at:

  • bornograffi
  • cynnwys sy'n annog hunan-niweidio neu hunanladdiad
  • cynnwys ynghylch anhwylderau bwyta

Rhaid i lwyfannau hefyd atal plant rhag cael mynediad at unrhyw gynnwys arall niweidiol ac amhriodol i'w hoedran fel:

  • bwlio
  • cynnwys sy'n cyfleu casineb
  • cynnwys sy'n annog styntiau peryglus neu lyncu sylweddau peryglus

Rhaid i lwyfannau hefyd ddarparu ffyrdd clir a hygyrch i rieni a phlant o roi gwybod am broblemau ar-lein pan fyddan nhw’n codi.

Gellir defnyddio gwefan Report Harmful Content i roi gwybod am gynnwys sy'n tramgwyddo neu'n peri gofid fel:

  • cam-drin neu fygwth ar-lein
  • cynnwys sy'n ymwneud â hunan-niweidio neu hunanladdiad
  • ymgais i gyfathrebu'n rhywiol nas dymunir

Gellir rhoi gwybod am ddelweddau neu fideos amhriodol neu rywiol o rywun sydd, yn eich barn chi, o dan 18 oed, i'r Internet Watch Foundation.

Gweler ein tudalen gymorth a chefnogaeth am ragor o wybodaeth am sut i:

  • roi gwybod am gynnwys niweidiol ar-lein
  • cael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau cyfrinachol am ddim

Gall gweld cynnwys amhriodol gael effaith negyddol a hirdymor ar blentyn neu berson ifanc. Er mwyn eu helpu i lywio'u ffordd drwy'r byd digidol yn ddiogel ac yn gyfrifol, mae'n bwysig eu harfogi â'r elfennau canlynol angenrheidiol:

  • sgiliau
  • ymddygiadau
  • ymwybyddiaeth

Cefnogi eich plentyn

Os yw'ch plentyn wedi gweld neu rannu cynnwys anghyfreithlon neu sy'n tramgwyddo, efallai y bydd y peth wedi'u llethu, neu byddan nhw’n teimlo embaras neu'n ansicr sut i siarad amdano. Efallai y bydd rhai plant yn poeni am gael eu beirniadu neu am golli mynediad at eu dyfais. Efallai na fydd eraill yn deall pam ei fod yn broblem. Mae'n bwysig cynnig arweiniad cefnogol heb wylltio.

Fel rhiant neu ofalwr, efallai y byddwch yn teimlo cymysgedd o emosiynau am yr hyn sydd wedi digwydd. Wrth siarad â'ch plentyn:

  • dewiswch y foment iawn i siarad â'ch plentyn am yr hyn y maen nhw wedi'i weld a sut y gwnaeth iddyn nhw deimlo
  • peidiwch â gwylltio na beirniadu. Bydd hyn yn eu hannog i fod yn fwy agored
  • sicrhewch eich plentyn eich bod yn eu cefnogi
  • ceisiwch ddarganfod ai dod ar draws y cynnwys yn ddamweiniol wnaethon nhw (gan eu sicrhau nad eu bai nhw yw hynny) neu ai mynd i chwilio amdano wnaethon nhw (ceisiwch gael gwybod beth oedd yr ysgogiad iddyn nhw chwilio amdano neu ei greu)
  • siaradwch am sut i roi gwybod am y cynnwys a'r hyn y gallan nhw ei wneud i leihau'r posibilrwydd y bydd yn digwydd eto

Os yw'ch plentyn yn gyndyn i siarad, efallai y byddwch am awgrymu sefydliadau fel Childline neu Meic. Mae ganddyn nhw gynghorwyr hyfforddedig y gall eich plentyn siarad â nhw am yr hyn y maen nhw’n ei deimlo.

  • Help a chefnogaeth

    Sut i roi gwybod am gynnwys ar-lein niweidiol a chael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau am ddim a chyfrinachol.