English

Platfform ffrydio byw ar gyfer gemau fideo yw Twitch. Mae'r ap yn caniatáu i chwaraewyr gemau fideo a’r rhai sy’n hoffi’r gemau hynny wylio ffrydiau byw o eraill yn chwarae gwahanol fathau o gemau. Gallan nhw sgwrsio yn rhan o gymuned gyda phobl eraill o bob cwr o'r byd sy’n hoffi gemau fideo.

Er mai’r gemau yw’r agwedd amlycaf ar Twitch, gall defnyddwyr ddod o hyd i gynnwys thema arall, fel cerddoriaeth a'r celfyddydau, ffitrwydd a sgwrsio cyffredinol. Mae Twitch yn darlledu twrnameintiau e-chwaraeon hefyd, sy'n aml yn cynnig gwobrau ariannol mawr i chwaraewyr proffesiynol.

Mae gwefan Twitch yn cynnig profiad 'allgofnodi' er mwyn i chi gael trosolwg o'r cynnwys y gallai eich plentyn ei weld ar Twitch heb gofrestru ar gyfer cyfrif. Gall hyn fod yn ffordd ddefnyddiol i chi archwilio a deall Twitch.

Yr oedran lleiaf i greu cyfrif Twitch yw 13. Fodd bynnag, mae Apple App Store yn gosod yr ap yng nghategori 17+ oherwydd y cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, fel ffrydiau byw a sgyrsiau, nad ydyn nhw o bosibl yn addas ar gyfer defnyddwyr iau.

Os yw defnyddiwr yn nodi dyddiad geni sy'n ei wneud dros 18 oed, bydd angen iddo ddilysu ei oedran trwy sgan wyneb. Os na fydd defnyddiwr yn dilysu ei oedran, ni fydd yn gallu gwylio cynnwys aeddfed.

Mae Telerau Gwasanaeth Twitch yn nodi bod yn rhaid i'r rhai dan 18 oed gael goruchwyliaeth rhiant. Bydd Twitch yn cau cyfrifon y canfyddir eu bod yn perthyn i ddefnyddwyr dan 13 oed.

Bits

Arian cyfred yn y platfform y gall y sawl sy’n gwylio’r cynnwys ei ddefnyddio i ddangos gwerthfawrogiad a chefnogaeth i'r ffrydiwr y mae’n ei wylio trwy'r nodwedd sgwrsio. Gellir defnyddio ‘Bits’ hefyd i gymeradwyo (‘cheer’) i ffrydiwr. 

Channel

Tudalen unigol ffrydiwr lle mae'n darlledu cynnwys.

Chat 

Nodwedd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr sy'n gwylio'r un ffrwd gyfathrebu â'i gilydd. Mae'r sawl sy'n ffrydio hefyd yn gallu dilyn y sgwrs a chymryd rhan ynddi.

Cheering 

Pan fydd defnyddiwr yn rhoi 'bits' i ffrydiwr.

Featured clips

Clipiau y gall ffrydwyr a'u golygyddion dynnu sylw atyn nhw ar eu tudalen sianel. Gallan nhw hefyd gynnwys unrhyw glipiau o'u sianel a grëwyd gan unrhyw wyliwr ar Twitch.

Following

Rhestr o sianeli a chrewyr y mae defnyddiwr yn eu dilyn. Mae'r porthiant hwn yn hysbysu defnyddwyr pan fydd y sianeli maen nhw’n eu dilyn yn mynd yn fyw ac mae’n darparu mynediad hawdd i'w cynnwys.

Go Live

Nodwedd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr ffrydio eu cynnwys dewisol yn fyw.

Guilds

Grwpiau o fewn Twitch sy'n caniatáu i ddefnyddwyr gysylltu yn seiliedig ar ddiddordebau cyffredin.

Mod

Mae cymedrolwyr (‘Mods’) yn gyfrifol am orfodi rheolau sianel trwy gael gwared ar sgyrsiau amhriodol, dosbarthu seibiannau a gwahardd defnyddwyr aflonyddgar. Gall darlledwyr ddewis rhai o'u gwylwyr i fod yn gymedrolwyr.

Shared viewership

Mae ffrydwyr yn cynnal ffrwd fyw gydweithredol gyda sgwrs a rennir sy'n caniatáu i gynulleidfaoedd a dilynwyr gwahanol grewyr ddod at ei gilydd ar un ffrwd a rhyngweithio trwy sgwrs a rennir.

Shield mode

Offeryn cymedroli sy'n caniatáu i ffrydwyr gymhwyso rheolau sgwrsio llymach dros dro. Fe’i cynlluniwyd i’w alluogi â llaw pan fydd angen lefel uwch o amddiffyniad efallai, megis os yw negeseuon aflonyddu yn cael eu hanfon i’r gyfrif.

Stories

Nodwedd symudol yn unig lle gall defnyddwyr bostio cynnwys fideo neu ddelwedd i'w proffil. Dim ond am 48 awr y mae straeon ar gael.

Whispers

System negeseua breifat sy'n caniatáu i ddefnyddwyr gael sgyrsiau un-i-un gyda defnyddwyr eraill heb i neb arall weld.

Cosplay

Bydd ffrydwyr weithiau'n gwisgo fel cymeriadau o'r gêm maen nhw'n ei chwarae.

Marathon stream

Pan fydd defnyddiwr yn ffrydio am gyfnod estynedig o amser (fel arfer 12 i 24 awr).

Cymunedau

Mae gan Twitch ffrydiau sy'n cwmpasu ystod eang o ddiddordebau. Gall defnyddwyr ddod o hyd i ffrydiau sy'n cyd-fynd â'u diddordebau a chyfathrebu â defnyddwyr eraill sy'n rhannu eu hobi yn sgwrs y ffrwd. 

Ysbrydoli creadigrwydd

Un o'r prif gategorïau ffrydio ar Twitch yw 'Creative'. Mae'n caniatáu i ffrydwyr rannu creadigrwydd trwy baentio, coginio, rhaglennu a mwy. Gall gwylio'r fideos hyn helpu i ysbrydoli defnyddwyr a'u hannog i ddechrau gwneud celf neu hobïau creadigol eraill.

Cynnwys amhriodol

Mae llawer o ffrydiau ar Twitch yn cynnwys themâu aeddfed. Bydd rhai ffrydwyr yn chwarae gemau o gategori PEGI 18, tra bydd eraill yn defnyddio iaith anweddus neu'n cael trafodaeth oedolion. Mae gan Twitch ganllawiau i gyfyngu ar y math hwn o gynnwys ar y platfform, ond gall defnyddwyr ddod o hyd i ffyrdd o’u hamgylch.

Mae yna gamau y gallwch eu cymryd i leihau'r risg y daw eich plentyn i gysylltiad â chynnwys amhriodol.

Osgoi ffrydiau amhriodol i oedran

Mae'n ofynnol i ffrydwyr labelu cynnwys aeddfed. Bydd annog eich plentyn i osgoi cynnwys gyda'r label 'Mature' yn ei helpu i osgoi cynnwys amhriodol. Bydd cadw draw wrth ffrydiau gemau PEGI 18 hefyd yn ei atal rhag gweld y cynnwys aeddfed yn y gemau hyn.

Galluogi hidlyddion

Yng ngosodiadau Twitch, gallwch alluogi hidlo mewn sgyrsiau ffrwd. Bydd hyn yn cuddio’n awtomatig unrhyw sylwadau sy’n gwahaniaethu, yn rhywiol neu’n rheglyd. 

Riportio cynnwys

Dangoswch i'ch plentyn sut i riportio i unrhyw ffrydiau sy'n torri canllawiau cynnwys Twitch. Bydd hyn yn helpu i wneud y platfform yn fwy diogel i bawb.

Cysylltu â defnyddwyr eraill

Gall rhyngweithio â defnyddwyr eraill fod yn risg i ddefnyddwyr iau ar Twitch. Gall dieithriaid gysylltu â nhw'n uniongyrchol trwy Whispers, neu yn y sgwrs ar ffrydiau. Gallai hyn arwain at aflonyddu, bwlio, sgamiau neu feithrin perthynas amhriodol. Os yw'ch plentyn yn ffrydio, gall hefyd gael sylwadau cas gan ei gynulleidfa neu or-rannu’n ddamweiniol yn ystod ffrwd.

Gall y camau canlynol helpu i atal dieithriaid rhag cysylltu â’ch plentyn neu ei dargedu.

Addasu gosodiadau

Gallwch addasu'r gosodiadau yn Twitch fel mai dim ond ffrindiau cymeradwy sy'n gallu anfon Whispers at eich plentyn. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n anoddach i ddieithriaid gysylltu â’ch plentyn.

Os yw'ch plentyn yn ffrydio, anogwch ef i droi offer cymedroli ymlaen, fel modd Shield. Bydd hyn yn helpu i hidlo sylwadau ymosodol o'r sgwrs.

Galluogi hidlyddion

Gallwch addasu gosodiadau sgwrsio i atal sylwadau sy’n gwahaniaethu, yn rhywiol neu’n rheglyd rhag cael eu dangos mewn sgyrsiau ffrwd. Gall hyn hidlo llawer o negeseuon niweidiol allan. 

Siarad am ryngweithiadau ar-lein

Siaradwch â’ch plentyn am yr hyn sy'n iawn i'w rannu ar-lein, a pha wybodaeth y dylai ei chadw'n breifat. Rhowch wybod eich bod yno i'w gefnogi, ac y dylai ddod atoch os yw rhywun yn ei wneud yn anghyfforddus ar-lein.

Blocio a riportio

Dysgwch eich plentyn sut i ddefnyddio'r offer blocio a riportio fel y gall roi terfyn ar gysylltiad ag unrhyw un sy'n ei wneud yn anghyfforddus ar Twitch.

Cysylltu â'r heddlu

Os ydych chi'n amau bod rhywun yn ceisio magu perthynas amhriodol â’ch plentyn trwy nodwedd Whisper Twitch, tynnwch sgrinlun o unrhyw dystiolaeth a rhoi gwybod amdano i'r heddlu.

Dyluniad sy’n ennyn a chadw diddordeb

Mae’r cynnwys ar Twitch yn ddiddiwedd, heb fan stopio clir. Mae'r sgyrsiau'n fyw sy'n golygu y gall pobl ifanc ofni y byddan nhw ar eu colled os byddan nhw'n cymryd seibiant o'r platfform. 

Gall y dyluniad hwn hefyd olygu bod plant yn gorwario wrth iddyn nhw brynu 'Bits' i gefnogi eu hoff ffrydwyr.

Gallwch helpu'ch plentyn i osgoi treulio gormod o amser ar Twitch trwy wneud y pethau canlynol.

Gosod terfynau amser

Yng ngosodiadau rheolaeth rhieni dyfais iOS neu Android eich plentyn, gallwch osod terfynau amser ar ap Twitch. Bydd hyn yn ei atal rhag treulio gormod o amser ar yr ap. 

Gosod terfynau defnydd

Cytunwch â'ch plentyn pryd y gall ddefnyddio Twitch a phryd nad yw’n gallu ei ddefnyddio. 

Siarad am wariant

Efallai y bydd pobl ifanc yn cael eu temtio i orwario ar Twitch i gefnogi eu hoff ffrydwyr. Am fod pryniannau digidol yn gallu teimlo'n llai real, helpwch eich plentyn i ddeall gwerth arian trwy gymharu'r hyn mae'n ei wario ar Twitch â phethau y gallai eu prynu yn y byd go iawn. Gall gosod terfyn gwariant misol gyda'ch gilydd hefyd helpu i atal gorwariant.

Nid oes gan Twitch reolyddion rhieni pwrpasol. Fodd bynnag, mae yna osodiadau a all wneud profiad eich plentyn ar y platfform yn fwy diogel.

Galluogi hidlyddion sgwrsio

Bydd troi hidlyddion sgwrsio ymlaen yn atal eich plentyn rhag gweld unrhyw sylwadau sy'n cynnwys iaith rywiol neu iaith sy’n gwahaniaethu neu’n bwlio.

Galluogi hidlyddion sgwrsio (gwe)

  • Wrth wylio ffrwd, ewch i sgwrs y Ffrwd.
  • Dewiswch eicon y gêr ar waelod y sgwrs i agor ‘Chat Settings’.
  • Dewiswch 'Chat Filters’. 
  • Trowch y togl 'Enable filtering in chat' ymlaen.
  • Trowch y togl ymlaen ar yr holl hidlyddion yr hoffech eu rhwystro.

Galluogi hidlyddion sgwrsio (Android ac iOS)

  • Wrth wylio ffrwd, ewch i sgwrs y Ffrwd.
  • Dewiswch y 3 dot yn y gornel dde isaf.
  • Dewiswch ‘Hide Offensive Language’.
  • Trowch y togl ymlaen ar ‘Enable filtering in chat’.
  • Trowch y togl ymlaen ar yr holl hidlyddion yr hoffech eu rhwystro.

Addasu dewisiadau cynnwys 

Trwy addasu'r dewisiadau cynnwys ar Twitch, gallwch guddio cynnwys wedi'i labelu â Labeli Dosbarthu Cynnwys penodol. 

Addasu dewisiadau cynnwys (gwe)

  • Ar hafan Twitch, dewiswch y llun proffil ar ochr dde uchaf y sgrin.
  • Dewiswch ‘Settings’.
  • Dewiswch ‘Content Preferences’.
  • Ewch i'r adran ‘Hide Content With Content Classification Labels’. 
  • Trowch y togl ymlaen ar yr holl fathau o gynnwys yr hoffech eu cuddio.

Addasu dewisiadau cynnwys (Android ac iOS)

  • Agorwch ap Twitch a dewiswch 'Profile'.
  • Dewiswch eicon y gêr yn y gornel chwith uchaf.
  • Dewiswch ‘Content Preferences’.
  • Trowch y togl ymlaen ar yr holl fathau o gynnwys yr hoffech eu cuddio.

Adolygu offer blocio a riportio 

Bydd dysgu'ch plentyn sut a phryd i ddefnyddio'r offer blocio a riportio yn ei helpu i ddefnyddio Twitch yn fwy diogel.

Blocio cyfrif

  • Ewch i broffil y defnyddiwr trwy ddewis ei enw defnyddiwr yn unrhyw le ar Twitch.
  • Dewiswch y 3 dot ger brig ei broffil.
  • Dewiswch 'Block [username]'.
  • Dewiswch ‘Confirm’ i’w rwystro.

Riportio ffrydiau

  • Ar y ffrwd, dewiswch y 3 dot fertigol o dan y fideo.
  • Dewiswch ‘Report Live Stream’ neu ‘Report Something Else’.
  • Dewiswch y rhesymau dros riportio.
  • Rhowch gyfeiriad e-bost a thiciwch y blwch i gadarnhau bod y riportio’n wir.
  • Dewiswch ‘Submit Report’.

Riportio cyfrif

  • Dewch o hyd i'r defnyddiwr yr hoffech ei riportio.
  • Dewiswch ei enw defnyddiwr ac yna'r 3 dot ger brig ei broffil.
  • Dewiswch 'Report' a dewiswch y rheswm dros ei riportio.
  • Rhowch gyfeiriad e-bost a thiciwch y blwch i gadarnhau bod y riportio’n wir.
  • Dewiswch 'Submit Report'.