TikTok
Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'TikTok', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
- Rhan o
Sut mae TikTok yn gweithio
Mae TikTok yn ap adloniant cymdeithasol sy’n caniatáu i ddefnyddwyr greu a rhannu cynnwys ffurf fer, sy’n amrywio o 15 eiliad i 3 munud. Gall defnyddwyr hoffi, rhannu a rhoi sylwadau ar fideos. Mae nodweddion eraill ar TikTok wedi'u cyfyngu ar gyfer defnyddwyr rhwng 13 a 15 oed.
Oherwydd ei ddyluniad syml, ei borthiant cynnwys wedi'i bersonoli a'i gynnwys eang, mae’n boblogaidd ymhlith pobl ifanc ar gyfer adloniant, cymdeithasu ac addysg.
Oedran isaf gofynnol
Rhaid i ddefnyddwyr fod yn 13 neu'n hŷn i ddefnyddio'r platfform. Fodd bynnag, mae’n hawdd ymuno â TikTok ac nid oes angen i oedran gael ei wirio.
Mae diffyg proses wirio oedran yn rhoi defnyddwyr iau mewn perygl o ddod i gysylltiad â chynnwys nad yw'n briodol i'w hoedran na'u datblygiad. Yn ogystal, os byddant yn defnyddio pen-blwydd oedolyn, ni fyddant yn elwa ar unrhyw nodweddion diogelwch sy'n gysylltiedig â chyfrifon i blant yn eu harddegau.
Mae TikTok yn cyflwyno system wirio oedran sy’n monitro ymddygiad i adnabod ac atal unrhyw gyfrifon y mae’n o farn sy’n berchen i ddefnyddwyr o dan 13 oed. Caiff hyn ei wneud yn awtomatig gan y platfform a ni fydd angen mewnbwn rhieni.
Nodweddion
Duet
Gall defnyddwyr 16 oed neu hŷn ddewis 'Duet' ar fideos a ddewiswyd, sy'n caniatáu iddyn nhw ffilmio ymateb byr neu fideo sy’n ategu’r gwreiddiol. Gellid ei ddefnyddio i ymateb i fideo neu ddyblygu dawns neu her.
Family Pairing
Gosodiad y gallwch ei ddefnyddio i gael goruchwyliaeth rhieni dros gyfrif TikTok eich plentyn i helpu i osod ffiniau a magu arferion digidol iach.
Gift
Gall defnyddwyr 18 oed neu hŷn anfon rhoddion at grewyr cynnwys trwy eu darllediadau BYW neu ar fideos rheolaidd. Mae’n rhaid defnyddio arian go iawn i brynu’r rhoddion hyn. Mae rhoddion yn ffordd i grewyr ennill arian gan gefnogwyr.
LIVE
Gall defnyddwyr 18 oed neu hŷn ddarlledu fideos a rhyngweithio â defnyddwyr eraill mewn amser real. Gall unrhyw un wylio LIVE ond rhaid i unrhyw un sy'n anfon rhodd fod yn 18 oed neu'n hŷn.
Shop
Gall defnyddwyr bori am ystod o eitemau a bostiwyd gan werthwyr TikTok a’u prynu. Gall gwerthwyr hefyd rannu eitemau i'w gwerthu trwy fideos a TikTok LIVE. Mae’n rhaid i werthwyr fynd trwy broses i wirio eu hoedran i brofi eu fod yn 18 oed neu’n hŷn.
STEM
Porthiant dewisol ar TikTok, y gallwch chi ei flaenoriaethu i'ch plentyn gan ddefnyddio Family Pairing. Mae'n rhannu cynnwys sy'n gysylltiedig â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yn unig.
Stitch
Gall defnyddwyr 16+ oed gymryd clipiau o fideos presennol a'u hychwanegu at eu fideos eu hunain.
TikTok Studio
Ap ar wahân sy'n caniatáu i grewyr TikTok reoli eu cyfrif a chreu cynnwys gan ddefnyddio ystod ehangach o offer na'r rhai sydd ar gael yn ap arferol TikTok.
Termau
_Tok (er enghraifft, BookTok)
Mae hyn yn cyfeirio at gynnwys a chymunedau penodol sy'n canolbwyntio ar y cynnwys hwnnw. Er enghraifft, bydd #BookTok yn arwain at gynnwys am lyfrau ac ysgrifennu tra bydd #DIYTok yn arwain at gynnwys am DIY a bydd #FitTok yn cynnig cynnwys am ffitrwydd.
Add Yours
Awgrymiadau y gall defnyddwyr eu rhoi i eraill, gan annog pobl i rannu llun o'u hymateb. Er enghraifft, gallai rhywun bostio llun o'i anifail anwes a dweud 'show me your pet'. Yna gall defnyddwyr bostio llun o'u hanifail anwes eu hunain a dewis yr awgrym hwnnw i ymateb iddo. Yna gallwch weld porthiant o'r ymatebion hynny yn unig.
Challenge
Tasg y mae defnyddwyr yn ei gosod i eraill recordio eu hunain yn ei gwneud.
FYP
Yn cyfeirio at borthiant For You (For You Page), sy'n cynnwys awgrymiadau cynnwys yn seiliedig ar ddiddordebau ac arferion pori defnyddwyr. Ni all defnyddwyr o dan 16 oed gael eu nodweddion cynnwys ar borthiant pobl eraill.
Stickers
Gall defnyddwyr greu sticeri o fideos a lluniau ar TikTok. Gallai hyn fod yn llun llonydd o fideo neu ran wedi'i thorri o ddelwedd. Yna maen nhw’n gallu cadw a rhannu'r sticer hon ar eu cynnwys eu hunain.
Stories
Gall defnyddwyr ychwanegu cynnwys at eu ‘Stori’, y gall ffrindiau ei weld am hyd at 24 awr.
Beth mae TikTok yn ei gynnig
Allfeydd creadigol
Mae gan ddefnyddwyr ystod o offer i fynegi eu hunain ar TikTok. O greu cynnwys fideo thema i ddysgu sgiliau creadigol, mae llawer o bobl ifanc yn ystyried bod TikTok yn fwy na phlatfform i wylio cynnwys yn unig.
Dod o hyd i gymuned
Gall hashnodau a chynnwys a awgrymir ar FYP helpu pobl ifanc i ddod o hyd i gyfrifon a defnyddwyr sy’n rhannu diddordebau tebyg iddyn nhw. Er bod rhai cymunedau efallai’n rhannu delfrydau gwenwynig, gall eraill helpu pobl ifanc i deimlo'n llai unig neu'n fwy gwybodus amdanyn nhw eu hunain.
Addysg a dysgu
Ochr yn ochr â'r porthiant STEM, mae llawer o grewyr yn rhannu cynnwys addysgol a gwybodaeth am y byd.
Rheoli risgiau
Cynnwys amhriodol
Er bod gan TikTok Ganllawiau Cymunedol y mae'n rhaid i ddefnyddwyr eu dilyn, weithiau nid yw’r hidlyddion yn rhwystro’r holl gynnwys. Os na fydd defnyddwyr yn rhoi gwybod am hyn, gallai’r cynnwys fod ar gael yn hirach nag y dylai fod.
A chynifer o bobl yn uwchlwytho cynnwys ledled y byd, mae’n bosibl dod ar draws cynnwys sy'n dreisgar, yn rhywiaethol, yn anghywir neu’n niweidiol mewn ffyrdd eraill.
Mae nifer o gamau y gallwch chi a'ch plentyn eu cymryd i leihau'r tebygolrwydd y bydd yn gweld cynnwys amhriodol ar TikTok.
Riportio cynnwys
Anogwch eich plentyn i riportio cynnwys a allai fod yn torri’r rheolau yn eu barn nhw. Gwell ei riportioos ydyn nhw’n ansicr. Mae hyn yn helpu i gael gwared ar gynnwys niweidiol.
Rheoli'r algorithm
Anogwch eich plentyn i ddweud wrth yr algorithm nad oes ganndo ddiddordeb mewn cynnwys sy'n peri trallod neu sy’n amhriodol.
Gwirio ffeithiau
Anogwch eich plentyn i feddwl yn feirniadol am y cynnwys mae’n ei weld ar TikTok gan gynnwys cynnwys a allai fod wedi'i gynhyrchu gan AI. Dylai wirio ffeithiau gan ddefnyddio ffynonellau y tu allan i TikTok cyn rhyngweithio â’r cynnwys hwn neu ei rannu.
Defnyddio ‘Family Pairing’
Defnyddiwch ‘Family Pairing’ i addasu porthiant eich plentyn. Gallwch ei ddefnyddio i hidlo rhai geiriau allweddol allan, troi'r porthiant STEM ymlaen, galluogi’r modd cyfyngedig (‘Restricted Mode’) a gweld pa bynciau y mae eich plentyn yn eu caniatáu ar ei borthiant.
Meithrin perthynas amhriodol a chamddefnyddio gan ddieithriaid
Mae TikTok yn annog sylwadau ac ymgysylltu ar ei blatfform, a all gefnogi'r gymuned ond gall hefyd adael pobl ifanc yn agored i gyswllt digroeso gan ddieithriaid.
Bydd gan ddefnyddwyr o dan 16 oed gyfrifon preifat, ac ni fydd cyfrifon defnyddwyr o dan 18 oed yn cael eu hawgrymu i eraill. Sicrhewch fod eich plentyn wedi rhoi’r oedran cywir wrth sefydlu ei gyfrif i wneud yn siŵr ei fod yn gallu elwa ar y gosodiadau diogelwch hyn.
Bwlio a chasineb
Mae gan nodweddion fel 'Stitch' a 'Duet', sy'n caniatáu i ddefnyddwyr gael cynnwys a wnaed gan ddefnyddwyr eraill yn eu fideos eu hunain, y potensial i gael eu defnyddio i ymateb yn gas i gynnwys defnyddwyr eraill.
Hyd yn oed os nad yw plentyn yn ddioddefwr neu'n gyflawnwr bwlio, gall bod yn dyst i hyn wrth ddefnyddio'r ap ei ddadsensiteiddio i fwlio. Os yw'ch plentyn yn ymwneud ag ymddygiad atgas wrth ddefnyddio TikTok, neu’n dyst iddo, dyma rai camau y gallwch eu cymryd.
Siarad am fwlio
Siaradwch â’ch plentyn am y bwlio mae'n ei weld ar-lein. Gofynnwch iddo ddychmygu sut y byddai’n teimlo pe bai’n destun y sylwadau neu'r ymatebion cas.
Annog riportio
Anogwch eich plentyn i gofnodi unrhyw achosion o fwlio mae'n eu gweld tra bydd ar yr ap.
Argymell osgoi ymateb
Os yw'ch plentyn yn cael negeseuon annymunol, dylai flocio a riportio’r cyflawnwr, yn hytrach na cheisio ymateb i'r casineb.
Sgrolio diddiwedd ac amser sgrin
Cynlluniwyd TikTok i gadw sylw defnyddwyr am gyfnodau estynedig. Mae'n defnyddio dyluniad sgrolio diddiwedd i gadw defnyddwyr yn gwylio ffrwd ddiddiwedd o gynnwys am gyfnodau hir o amser.
Er mwyn helpu i wrthsefyll risg gormod o amser sgrin, mae TikTok wedi cyflwyno terfynau awtomatig ar gyfer defnyddwyr 13 i 15 oed gan gynnwys:
- diffodd hysbysiadau gwthio yn awtomatig ar ôl 10pm i annog cwsg di-dor
- terfyn dyddiol uchaf o 60 munud yn ddiofyn
Fodd bynnag, gall eich plentyn addasu’r rhain.
Sicrhewch fod eich plentyn wedi rhoi’r oedran cywir wrth sefydlu ei gyfrif i wneud yn siŵr ei fod yn gallu elwa ar y gosodiadau hyn.
Effeithiau ar hunan-ddelwedd
Fel platfformau cyfryngau cymdeithasol eraill, gall llawer o gyfrifon TikTok ddangos fersiwn ddelfrydol o fywyd.
Dyma ffyrdd y gallwch chi helpu'ch plentyn i reoli effeithiau ar ei hunanddelwedd.
Trafod ei fywyd ar-lein
Dylech gael sgyrsiau rheolaidd gyda’ch plentyn am ei fywyd ar-lein, gan gynnwys y cyfrifon mae’n eu dilyn a'r hyn mae'n ei fwynhau am y cynnwys mae'n ei weld.
Annog porthiant cynnwys cadarnhaol
Dylech annog eich plentyn i ryngweithio â chynnwys sy'n cefnogi ei sgiliau a'i ddiddordebau yn hytrach na’i olwg allanol neu’r hyn y mae’n meddwl y gallai eraill ei hoffi. Gallwch hefyd ddefnyddio ‘Family Pairing’ i ddod â chynnwys STEM i’w borthiant ‘For You’. Bydd gwneud hyn yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd yn dod o hyd i gynnwys a allai effeithio ar ei hunan-barch.
Gosodiadau i ddiogelu’ch plentyn
Os ydych chi'n poeni am ddefnydd eich plentyn o TikTok, gall y gosodiadau canlynol wneud ei brofiad ar yr ap yn fwy diogel.
Sefydlu ‘Family Pairing’
Mae ‘Family Pairing’ yn gadael ichi osod cyfyngiadau ynghylch amser sgrin, cynnwys, preifatrwydd a defnyddwyr sy'n gallu cysylltu â’ch plentyn. Bydd angen cyfrif TikTok eich hun arnoch chi.
I sefydlu ‘Family Pairing’:
- mewngofnodwch i’chcyfrif TikTok
- ar eich proffil, dewiswch y ddewislen yn y gornel dde uchaf
- dewiswch ‘Settings and Privacy’
- ewch i ‘Family Pairing’
- dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i sefydlu ‘Family Pairing’
- bydd angen i'ch plentyn fynd i ‘Family Pairing’ ar ei ap i gwblhau'r cysylltiad
Adolygu offer riportio a blocio
Gallwch ddysgu'ch plentyn i ddefnyddio’r offer riportio a blocio.
Riportio neu flocio cynnwys
- Wrth wylio fideo, dewiswch yr eicon rhannu yn y ddewislen ar yr ochr.
- Dewiswch 'Report' i roi gwybod am rywbeth yn y fideo neu 'Not interested' i leihau argymhellion ar gyfer cynnwys tebyg.
Riportio neu rwystro defnyddwyr
- Ewch i broffil y defnyddiwr.
- Dewiswch yr eicon rhannu yn y gornel dde uchaf.
- Dewiswch ‘Report’ i roi gwybod bod defnyddiwr wedi torri'r rheolau neu ‘Block’ i atal y defnyddiwr rhag gweld cynnwys neu gysylltu â’ch plentyn.
Sylwer: Gallwch hefyd flocio defnyddwyr ar gyfer eich plentyn gan ddefnyddio ‘Family Pairing’.
Addasu porthiant eich plentyn
Gyda ‘Family Pairing’, gallwch helpu i reoli porthiant ‘For You’ eich plentyn i leihau'r tebygolrwydd y bydd yn dod ar draws cynnwys niweidiol neu ddirdynnol. Gellir gwneud y newidiadau hyn gan ddefnyddio cyfrif eich plentyn hefyd.
Addasu cynnwys gyda ‘Family Pairing’
- Cyrchwch ddewislen ‘Family Pairing’ ar eich cyfrif TikTok eich hun.
- Dewiswch ‘Content Preferences’ ac yna dewiswch o blith:
- Filter keywords: pan fyddwch chi'n ychwanegu gair yma, ni fydd cynnwys sy'n cynnwys y gair hwnnw yn cael ei argymell
- STEM feed: pan fydd yn cael ei droi ymlaen, bydd porthiant ‘For You’ eich plentyn yn cynnwys deunydd sy'n gysylltiedig â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg
- Restricted Mode: pan gaiff ei droi ymlaen, bydd hyn yn cyfyngu'ch plentyn rhag gweld cynnwys nad yw'n addas ar gyfer pob cynulleidfa
Sylwer: Bydd ‘Restricted Mode’ hefyd yn cadw'ch plentyn rhag allgofnodi a throi at gyfrif arall.
Addasu cynnwys ar gyfrif eich plentyn
- Ar gyfrif eich plentyn, ewch i ddewislen ‘Settings and privacy’.
- Dewiswch ‘Content preferences’.
- Yn ogystal â Filter keywords, STEM feed a Restricted Mode, gall eich plentyn 'ailgychwyn' yr algorithm trwy ddewis ‘Refresh your For You feed’.
Gosod terfynau amser sgrin
Gallwch annog eich plentyn i ddefnyddio gosodiadau amser sgrin yn ei ap, a gallwch osod terfynau trwy ‘Family Pairing’.
Rheoli amser sgrin trwy ‘Family Pairing’
- Cyrchwch ddewislen ‘Family Pairing’ ar eich cyfrif.
- Dewiswch ‘Screen time’.
- Dewiswch ‘Daily screen time’.
- Addaswch am faint o amser y gall eich plentyn ddefnyddio TikTok bob dydd.
- Dychwelwch i'r ddewislen flaenorol a dewiswch ‘Schedule time away’.
- Trowch ‘time away’ ymlaen trwy ddefnyddio'r togl.
- Gosodwch yr amseroedd pan nad all eich plentyn ddefnyddio TikTok.
- Dychwelwch i'r sgrin flaenorol a throi 'Weekly screen time updates' ymlaen trwy ddefnyddio'r togl i gael gweld sut mae eich plentyn yn defnyddio’r ap.
Rheoli amser sgrin ar gyfrif eich plentyn
- Ewch i'r ddewislen ‘Settings and privacy’ ar gyfrif eich plentyn a dewiswch ‘Screen time’.
- Dewiswch ‘Daily screen time’ a gosod y terfyn dyddiol.
- Dychwelwch i'r ddewislen a dewiswch ‘Screen time breaks’.
- Dewiswch pa mor aml y dylai'r ap atgoffa'ch plentyn i gymryd seibiannau.
- Dychwelwch i'r ddewislen a dewiswch ‘Sleep reminders’.
- Gosodwch amser i ddechrau cael negeseuon i atgoffa’ch plentyn i fynd i gysgu.
Sylwer: Ni ellir newid rhai gosodiadau os ydyn nhw eisoes yn cael eu rheoli drwy ‘Family Pairing’.
Dolenni defnyddiol
- Canllaw i ‘Family Pairing’ TikTok (Saesneg yn unig)
- Canllaw cam wrth gam Internet Matters ar reolyddion rhieni (Saesneg yn unig)