Spotify
Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Spotify', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
- Rhan o
Sut mae Spotify yn gweithio
Mae Spotify yn wasanaeth ffrydio cerddoriaeth, podlediadau a llyfrau sain, sy’n cynnig mynediad at lyfrgell ar-lein o gynnwys. Mae ar gael ar:
- Windows
- MacOS
- cyfrifiaduron Linux
- iOS
- Android
- chwaraewyr cyfryngau digidol
- dyfeisiau clyfar y cartref
Gall Spotify argymell cynnwys ar sail hanes gwrando defnyddiwr. Gall defnyddwyr greu eu rhestrau chwarae ar eu pen eu hunain neu wahodd ffrindiau i greu rhestrau chwarae gyda nhw.
Mae fersiwn sylfaenol o Spotify, gyda hysbysebion, ar gael am ddim. Mae fersiynau eraill gyda nodweddion ychwanegol yn cael eu cynnig trwy danysgrifiad misol. Dim ond y fersiwn ‘Premiwm’ sy’n darparu rheolyddion rhieni. Mae hyn yn cynnwys yr hidlydd cynnwys rhywiol amlwg.
Oedran isaf gofynnol
Mae’n rhaid i ddefnyddwyr fod yn 13 oed neu’n hŷn, er nad yw oedran defnyddiwr yn cael ei wirio. Gall plant o dan 13 oed gael cyfrif Spotify rheoledig o dan gynllun Premiwm Teulu.
Nodweddion a thelerau
Audiobooks
Nodwedd sy’n caniatáu i ddefnyddwyr wrando ar lyfrau’n cael eu darllen ar goedd.
Download
Cynnwys cerddoriaeth neu sain sy’n cael ei gopïo o fewn cyfrif Spotify i’w chwarae all-lein.
Friend Activity
Mae’r nodwedd hon yn caniatáu i ddefnyddwyr ddangos i’w gilydd beth maen nhw’n ei chwarae yn Spotify yn y fan a’r lle er mwyn creu profiad gwrando sy’n cael ei rannu.
Library
Popeth mae defnyddiwr wedi’i arbed yn Spotify. Gall hyn gynnwys caneuon, artistiaid, albymau, podlediadau a rhestrau chwarae.
Messages
Nodwedd negeseuon sy’n caniatáu i ddefnyddwyr anfon negeseuon, caneuon, podlediadau a llyfrau sain yn uniongyrchol at ffrindiau.
Playlist
Casgliad o gynnwys Spotify sydd wedi’i greu gan ddefnyddwyr neu ei guradu gan algorithm Spotify.
Podcast
Rhaglen sain ar alw, sy’n canolbwyntio fel arfer ar faes, thema neu bwnc penodol. Mae gan rai podlediadau fersiynau fideo ar yr ap hefyd.
Spotify Kids
Fersiwn o Spotify sy’n addas i blant, sydd ar gael fel rhan o danysgrifiad Premiwm Teulu.
Wrapped
Crynhoad diwedd blwyddyn o weithgarwch defnyddiwr ar Spotify. Mae’n darparu gwybodaeth am dueddiadau gwrando defnyddiwr gydol y flwyddyn.
Beth mae Spotify yn ei gynnig
Dysgu a diddordebau
Gall defnyddwyr ddod o hyd i bodlediadau a llyfrau sain sy’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau. Gall hyn helpu pobl ifanc i ddarganfod llyfrau newydd a dysgu am bynciau gwahanol.
Creadigrwydd a hunanfynegiant
Gall defnyddwyr greu eu rhestrau chwarae eu hunain a’u rhannu nhw gyda ffrindiau. Mae hyn yn caniatáu iddyn nhw fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth. Gallan nhw gydweithredu hefyd â’u ffrindiau i greu rhestr chwarae ar y cyd.
Rheoli risgiau
Cynnwys amhriodol
Mae Spotify yn cynnwys rhywfaint o gynnwys rhywiol amlwg ar ffurf:
- geiriau caneuon
- sgyrsiau ymhlith oedolion
- fideos
- delweddau
Mae cynnwys mae Spotify yn nodi fel cynnwys ar gyfer defnyddwyr dros 18 oed a hŷn yn unig yn cael ei farcio â label ‘Explicit content’ neu ‘E’.
Gallwch gymryd y camau canlynol i leihau risg cynnwys amhriodol.
Addasu gosodiadau
Os oes gennych Gynllun Teulu Spotify gyda chyfrif eich plentyn yn gysylltiedig ag ef, gallwch analluogi cynnwys rhywiol amlwg ar gyfer ei gyfrif. Bydd hyn yn cyfyngu ar y rhan fwyaf o’r cynnwys sy’n amhriodol i’r rhai o dan 18 oed, ond nid y cyfan o’r cynnwys. Ni fydd rhywfaint o gynnwys yn cael ei labelu, a gall cynnwys rhywiol amlwg ymddangos mewn teitlau neu ar gelf cloriau. Bydd y rhain yn parhau i ymddangos mewn rhestrau chwilio.
Curadu’r algorithm
Mae gan ddefnyddwyr opsiwn i ddileu artistiaid a chaneuon o’u rhestrau chwarae a’u hargymhellion. Bydd gwneud hyn yn helpu i leihau’r posibilrwydd y bydd cynnwys tebyg yn cael ei argymell i’ch plentyn yn y dyfodol.
Monitro gweithgarwch gwrando
Gofynnwch beth mae eich plentyn yn gwrando arno ar Spotify. Mae gwneud hyn mewn ffordd anfurfiol, gan ddangos bod gennych ddiddordeb yn ei chwaeth gerddorol, yn gallu’ch helpu i ddysgu am yr hyn mae eich plentyn yn gwrando arno ac mae’n eich galluogi chi i weithredu os bydd yn gwrando ar gynnwys amhriodol. Gyda chyfrif rheoledig i’r rhai o dan 13 oed, gallwch weld ei weithgarwch gwrando ar wefan Spotify.
Siarad am gynnwys amhriodol
Sicrhewch fod eich plentyn yn gwybod y gall ddod atoch am gymorth os bydd yn gweld neu’n clywed unrhyw beth sy’n ei drysu neu sy’n gwneud iddo deimlo’n anghysurus ar Spotify.
Cynnwys niweidiol
Mae rhai defnyddwyr Spotify wedi defnyddio celf cloriau, enwau a meysydd disgrifiadau rhestrau chwarae i gyfathrebu â dilynwyr mewn ffordd sy’n agored i gamddefnydd. Cafwyd adroddiadau am feithrin perthynas amhriodol â defnyddwyr neu eu gorfodi i rannu cynnwys amhriodol yn y modd hwn.
Hefyd, gall defnyddwyr anfon negeseuon at ei gilydd ar yr ap, a gallai hyn symud y sgwrs i blatfform gwahanol o ganlyniad.
Gall y camau hyn helpu eich plentyn i osgoi cynnwys niweidiol.
Addasu gosodiadau
Cynghorir bod eich plentyn yn dewis y gosodiad ‘preifat’ ar gyfer ei restrau chwarae. Gallwch hefyd analluogi nodwedd y negeseuon o fewn gosodiadau’r cyfrif.
Siarad am ddiogelwch ar-lein
Dysgwch eich plentyn i beidio â derbyn ceisiadau dilyn neu geisiadau i wneud rhestr chwarae ar y cyd gan bobl ddieithr. Dylech ei annog i ddewis enw defnyddiwr ar Spotify sy’n cadw pwy ydyw yn breifat, yn hytrach na defnyddio’u henw iawn. Esboniwch iddo pa wybodaeth sy’n iawn i’w rhannu ar-lein, a pha wybodaeth i beidio â rhannu. Sicrhewch ei fod yn gwybod y gall droi atoch os bydd angen cymorth arno.
Gosodiadau i ddiogelu’ch plentyn
Gall y gosodiadau hyn gadw’ch plentyn yn ddiogel wrth ddefnyddio Spotify.
Sefydlu cyfrif rheoledig (gyda’r cynllun premiwm i deuluoedd yn unig)
- Ewch i’ch cyfrif ‘Family Plan’.
- Dewiswch ‘Add listener under 13’.
- Dewiswch ‘Add account’.
- Ticiwch y blwch ticio a dewis ‘Next’.
- Crëwch PIN a dewis ‘Next’.
- Rhowch enw a dyddiad geni eich plentyn a dewis ‘Next’.
- Dewiswch p’un ai i ganiatáu cerddoriaeth a fideos rhywiol amlwg a dewis ‘Next’.
- Sganiwch y cod QR gyda dyfais eich plentyn i’w fewngofnodi i’w gyfrif.
Analluogi negeseuon
- Ar gyfrif Spotify eich plentyn, dewiswch ei lun proffil ar y chwith ar y brig.
- Dewiswch ‘Settings and privacy’.
- Dewiswch ‘Privacy and social’.
- Sgroliwch i lawr i ‘Social features’.
- Newidiwch y togl i ddiffodd ‘Messages’.
Offer riportio a blocio
Riportio rhestr chwarae
- Ar y rhestr chwarae rydych chi am ei riportio, dewiswch y 3 smotyn llorweddol ar y brig.
- Dewiswch ‘Report’.
- Dewiswch y rheswm dros riportio.
- Dewiswch ‘Submit’.
Riportio defnyddiwr
- Ar broffil y defnyddiwr rydych chi am ei riportio, dewiswch y 3 smotyn llorweddol.
- Dewiswch ‘Report’.
- Dewiswch y rheswm dros riportio.
- Dewiswch ‘Submit’.
Blocio defnyddiwr
- Ar broffil y defnyddiwr rydych chi am ei flocio, dewiswch y 3 smotyn llorweddol.
- Dewiswch ‘Block’.
- Dewiswch ‘Block’ eto i gadarnhau.