English

Gêm ar-lein rad ac am ddim yw Rocket League sy'n cyfuno pêl-droed a cheir wedi'u pweru gan roced. Y nod yw bod chwaraewyr yn cydweithio i ddefnyddio'u cerbydau i gyflawni triciau, brwydro a tharo'r bêl a sgorio goliau yn y pen draw. Gall chwaraewyr addasu eu ceir gydag ychwanegiadau a gwelliannau cerbydau y gallant eu hennill, eu casglu a'u prynu. Mae Rocket League yn cael ei chwarae fel gemau 5 munud mewn tymhorau, gyda thimau o hyd at 4 chwaraewr yn mynd benben â'i gilydd. Mae modd chwarae'r gemau hyn fel hwyl neu'n gystadleuol, lle maen nhw'n cael eu rhestru fesul haen. Mae Rocket League ar gael ar gyfrifiadur personol, Playstation, Xbox a Nintendo Switch. Mae fersiwn ap symudol o'r enw Rocket League Sideswipe ar gael hefyd.

Mae gan Rocket League sgôr oedran PEGI 3 sy'n golygu ei bod yn addas ar gyfer pob grwp oedran.

Mae ganddi sgôr oedran o 'E' ar Google Play, sy'n addas i bawb.

Mae angen cyfrif Epic Games i chwarae Rocket League. Dyw plant o dan 13 oed ddim yn gallu cofrestru am gyfrif heb wiriad rhieni, sy'n gofyn am brawf cerdyn adnabod. Mae Epic Games yn darparu rhagor o wybodaeth am ganiatâd rhieni ar gyfer defnyddwyr dan 13 oed.

Mae ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’ yn cynnwys rhagor o fanylion am hyn.

Mae'r sgôr oedran ifanc a roddwyd i Rocket League yn awgrymu y gellir ei chwarae a'i fwynhau gan chwaraewyr ifanc. Mae'r gymysgedd o geir rasio cyflym, lliwgar y mae modd eu haddasu, pêl-droed ac elfen o 'frwydr' yn golygu ei bod yn apelio'n fawr at blant a phobl o bob oed. Mae natur syml y gêm yn golygu bod chwaraewyr iau yn gallu mwynhau'r gêm gan ddefnyddio rheolaethau eithaf sylfaenol ac mae'r 'gemau' byrion yn addas ar gyfer rhychwant sylw rhai chwaraewyr iau. Fodd bynnag, mae agwedd gystadleuol y gêm yn gallu golygu ei bod hi'n anodd rhoi'r gorau i'w chwarae.

  • Gall chwaraewyr sgwrsio a rhyngweithio gyda'i gilydd yn ystod y gêm gan ddefnyddio'r swyddogaeth sgwrsio. Mae'n cynnig detholiad o negeseuon parod y gellir eu haddasu.

  • Mae yna opsiwn i ddefnyddio sgwrs testun rhwng chwaraewyr. Fodd bynnag, nid yw'n gweithio rhwng chwaraewyr sy'n chwarae ar blatfformau gwahanol. Er enghraifft, dyw chwaraewr sy'n defnyddio Xbox ddim yn gallu anfon neges destun at chwaraewr arall sy'n defnyddio cyfrifiadur personol.

  • Dyma'r broses sy'n paru chwaraewyr neu dimau gyda'u gwrthwynebwyr. Mae hyn yn digwydd ar hap wrth chwarae gemau cyhoeddus.

  • Chwaraeir pob gêm mewn gêm 5 munud gan ddau dîm. Gellir chwarae gemau 'Casually' am hwyl neu mewn modd 'Competitive', lle mae chwaraewyr yn cael eu graddio ac yn symud ymlaen drwy haenau.

  • Math o gêm sy'n cael ei chwarae gan un chwaraewr yn erbyn un arall.

  • Math o gêm sy'n cael ei chwarae gan ddau chwaraewr yn erbyn dau chwaraewr arall.

  • Math o gêm sy'n cael ei chwarae gan dri chwaraewr yn erbyn tri chwaraewr arall.

  • Math o gêm sy'n cael ei chwarae gan bedwar chwaraewr yn erbyn pedwar chwaraewr arall. Dyma'r nifer mwyaf o chwaraewyr o fewn gêm.

  • Mae hyn yn caniatáu i chwaraewyr grwpio gyda'i gilydd unwaith y bydd gêm wedi gorffen, gan eu galluogi nhw i barhau i chwarae gyda'i gilydd yn lle cael eu 'paru' gyda chwaraewyr newydd bob tro.

  • Mae'r modd hwn yn galluogi chwaraewyr i newid profiad y gêm drwy newid gosodiadau amrywiol. Mae hyn yn cynnwys math o bêl, cyflymder y bêl, hyd y gêm a disgyrchiant, ymhlith sawl gosodiad arall.

  • Mae hyn yn cyfeirio at system ddilyniant amser-gyfyngedig sy'n galluogi chwaraewyr i ennill cynnwys a nodweddion newydd. Hefyd, gall chwaraewyr brynu Rocket Pass premiwm sy'n rhoi mwy o eitemau a gwobrau iddyn nhw.

  • Defnyddir y rhain fel arian cyfred mewn gêm i brynu ychwanegiadau neu nodweddion y gellir eu teilwra ar gyfer eu cerbydau.

  • Ar ôl pob gêm, mae gan chwaraewyr gyfle i gael 'blueprint' sef pethau rhad ac am ddim i'w casglu a'u defnyddio i 'adeiladu' eitemau i'w masnachu o fewn y gêm.

  • Bydd y nodwedd hon yn caniatáu i ddefnyddwyr o dan 13 oed chwarae Rocket League heb allu defnyddio’r swyddogaeth sgwrsio na phrynu eitemau ag arian nes bod rhiant neu ofalwr yn rhoi caniatâd am hynny. Bydd cyfrifon presennol ar gyfer defnyddwyr o dan 13 oed yn cael eu symud i ‘Cabined accounts’ yn awtomatig.

  • Gall chwaraewyr Rocket League lawrlwytho’r ap ‘Postparty’ a mewngofnodi trwy ddefnyddio eu manylion mewngofnodi Epic Games. Gallan nhw ddefnyddio’r ap hwn wedyn i gael cipluniau o’u gemau Rocket League, a’u rhannu ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill os ydynt yn dymuno.

Mae gan Rocket League sgôr PEGI 3, sy'n adlewyrchu'r ffaith bod y gêm hon yn addas ar gyfer pob oed, ac na ddylai gynnwys delweddau a fyddai'n codi ofn ar blant ifanc a bod unrhyw drais yn arwynebol iawn. Er nad yw'ch plentyn yn debygol o ddod ar draws cynnwys niweidiol o fewn y gêm ei hun, efallai y bydd chwaraewyr yn taro ar draws cynnwys amhriodol ar ffurf iaith anweddus yn y swyddogaeth sgwrsio. Fodd bynnag, mae gofyn i chwaraewyr dan 13 oed gael rhiant neu ofalwr i wirio eu cyfrif, sy'n golygu eu bod yn gallu gosod rheolaethau rhieni, gan gynnwys hidlyddion iaith anweddus. Dylai hyn hidlo unrhyw iaith neu gynnwys anaddas o fewn sgyrsiau nad yw'n addas i blant. Er bod hidlyddion sgwrsio’n un ffordd o sicrhau nad yw'ch plentyn yn dod ar draws cynnwys niweidiol ar y platfform, argymhellir mai dim ond gyda ffrindiau hysbys y dylai eich plentyn chwarae er mwyn helpu leihau'r risg hon ymhellach. Trwy gyfyngu ar bwy all eich plentyn gysylltu â nhw ar y platfform, mae'ch plentyn yn llai tebygol o ddod ar draws iaith neu ymddygiad anaddas i'w oedran. Fodd bynnag, dylid cydnabod y gallai'ch plentyn fod yn agored i gynnwys amhriodol o hyd drwy ei gysylltiadau hysbys.

Y risg fwyaf yn Rocket League yw'r ffaith bod modd ei chwarae'n gyhoeddus. Mae cyfle i chwaraewyr greu ac ymuno â gemau preifat, a elwir yn 'Custom games', lle gallan nhw rannu enw gêm a chyfrinair gyda'u ffrindiau i ymuno. Yn yr un modd, gallant ymuno â gêm ffrind trwy deipio'r cyfrinair a rannwyd gan eu ffrind hysbys. Hefyd, mae defnyddwyr yn gallu sefydlu 'Party' lle gallant chwarae gyda'i gilydd yn rheolaidd. Fodd bynnag, mae modd chwarae'r gêm yn gyhoeddus hefyd lle gall unrhyw ddefnyddiwr ar y platfform ymuno â hi. Mae'r platfform yn 'paru' chwaraewyr sydd ar gael i chwarae a does dim modd rheoli pwy fydd eich partner chwarae. O fewn y modd hwn, mae pob chwaraewr yn y gêm yn gallu sgwrsio â'i gilydd. Os nad ydych chi wedi galluogi'r rheolaethau rhieni i gyfyngu ar bwy y gall eich plentyn sgwrsio â nhw, mae siawns y gallai sgwrsio â dieithryn.

Mae'r gêm yn fwy diogel os ydych chi'n annog eich plentyn i chwarae'r gêm yn breifat gyda'i ffrindiau hysbys fel nad ydyn nhw'n rhyngweithio â dieithriaid. Atgoffwch eich plentyn i beidio â derbyn cyfrinair gêm breifat neu gais ffrind a rannwyd gan rywun nad yw'n ei adnabod nac yn ymddiried ynddo mewn bywyd go iawn. Siaradwch â'ch plentyn am y peryglon o sgwrsio gyda dieithriaid ac egluro pwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy gyda chwaraewyr eraill mewn sgyrsiau. Cofiwch eu hannog i ddweud wrthych os yw rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol, neu os ydyn nhw'n teimlo'n ofidus neu'n anghyfforddus oherwydd unrhyw beth sy'n cael ei rannu yn y sgwrs.

Hefyd, mae'n werth nodi bod rhai chwaraewyr yn defnyddio apiau sgwrsio trydydd parti fel Discord i sgwrsio wrth chwarae gemau. Gofynnwch i'ch plentyn os yw'n defnyddio unrhyw apiau sgwrsio ychwanegol wrth chwarae, a chofiwch wirio â phwy mae'n cyfathrebu ar-lein. Er bod sgwrsio'n rhan apelgar o chwarae gemau cyfrifiadurol, nid yw'n hanfodol i chwarae.

Mae gan Rocket League ei god ymddygiad ei hun, ac mae'n rhaid i bob chwaraewr ei ddilyn er mwyn chwarae. Mae chwaraewyr sy'n gwyro oddi ar wrth yr ymddygiad disgwyliedig mewn perygl o gael eu tynnu oddi ar y platfform gan Epic Games. Gyda'ch plentyn, trafodwch ystyr ymddygiad priodol wrth chwarae gêm aml-chwaraewr a sicrhau ei fod yn gwybod sut i riportio ymddygiad amhriodol neu sarhaus. Dylai chwaraewyr iau sy'n defnyddio'r nodwedd 'Text chat' fod yn ymwybodol hefyd o'r hyn sydd yn addas ac yn anaddas i'w bostio mewn sgyrsiau, a thrafod y dulliau gwahanol o ddiogelu eu hunain drwy chwarae mewn gemau preifat yn hytrach na rhai cyhoeddus. Gwnewch yn siwr fod eich plentyn yn gwybod ei bod hi'n anodd cadw gafael ar unrhyw gynnwys unwaith y bydd wedi'i rannu ar-lein, gan ei bod hi'n hawdd i rywun arall ei gopïo a'i ailbostio heb yn wybod iddo, ac y gall fod yn anodd ei dynnu oddi ar y we wedyn.

Fel gyda'r rhan fwyaf o gemau ar-lein rhad ac am ddim, mae cyfleoedd i chwaraewyr brynu eitemau mewn gemau i bersonoli eu cerbydau. Er nad yw'r rhain o fudd i'r gêm ei hun, maen nhw'n hynod atyniadol i chwaraewyr. Siaradwch â'ch plentyn ynghylch prynu eitemau mewn gemau, i wneud yn gwbl siwr ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu'r rhain. Gallwch bennu'r gosodiadau prynu perthnasol yn y gêm trwy'r rheolaethau rhieni hefyd. Os yw'ch plentyn o dan 13 oed, mae angen cyfeiriad e-bost rhiant i wirio'r cyfrif. Mae angen cerdyn credyd neu ddebyd i wneud hyn, felly mae'n bwysig gwirio nad yw'r gêm wedi'i chysylltu â'ch cardiau banc na manylion ariannol.

Gall dyluniad y gêm achosi risg hefyd i rai chwaraewyr sy'n ei chael hi'n anodd rheoleiddio eu hamser chwarae. Gan fod y gêm yn cael ei chwarae mewn 'gemau' 5 munud ac yn cynnwys haenau amrywiol i fynd drwyddynt, gall fod yn anodd i rai chwaraewyr stopio chwarae un gêm ar ôl y llall. Siaradwch â'ch plentyn am sut mae gemau wedi'u cynllunio i gadw defnyddwyr yn chwarae, ac ewch ati i osod terfynau amser chwarae i sicrhau ei fod yn cael seibiant addas o'r sgrin.

  • Does dim gosodiad 'Public' neu 'Private' amlwg ar gyfer Rocket League. Mae chwaraewyr yn gallu creu gemau preifat lle gallant wahodd eu ffrindiau a chwarae gyda nhw’n unig.

    Creu gêm breifat:

    • ewch ati i lansio’r gêm a dewis y tab 'Play' a sgrolio i 'Custom games'
    • dewiswch 'Private match' o'r opsiynau a restrir a dewis 'Create private match'
    • sgroliwch i lawr i 'Joinable by' a dewis 'Name/password' - mae hyn yn golygu mai dim ond os oes ganddyn nhw'r enw a'r cyfrinair cywir y gall chwaraewyr ymuno â'ch gêm (dim ond gyda ffrindiau hysbys y dylai'ch plentyn rannu'r enw a'r cyfrinair hwn)
  • Mae chwaraewyr dan 13 angen caniatâd rhiant i gael mynediad i'r gêm, sy'n rhoi mynediad i rieni i'w gosodiadau cyfrif drwy fewngofnodi i'w cyfrif Epic Games. Yma, gallwch osod rheolaethau rhieni gan gynnwys ceisiadau ffrind a gosodiadau sgwrsio.

    Sefydlu rheolaethau rhieni (Epic Games):

    • ewch i gyfrif eich plentyn yn Epic Games a sgrolio i lawr i 'Parental Controls' ar y chwith
    • teipiwch y rhif pin a ddefnyddiwyd gennych wrth sefydlu a gwirio cyfrif eich plentyn
    • yma fe welwch yr holl opsiynau rheolaethau rhieni sy'n cynnwys y canlynol:
      • games store
      • friends' permission
      • voice chat permission
      • text chat permission
      • mature language filter
      • playtime tracking report
    • ewch drwy bob gosodiad trwy ddewis yr un mwyaf addas i'ch plentyn chi
    • ar gyfer chwaraewyr iau argymhellir eu bod wedi'u gosod ar 'Friends only'

    Mae modd eich cysylltu â rheolaethau rhieni o fewn y gêm hefyd trwy ddewis 'Extras' yn y ddewislen gosodiadau.

    Rheoli sgwrs testun (yn ystod gêm):

    • agorwch y gêm a mynd i'r ddewislen gosodiadau
    • dewiswch 'Chat' yna 'Text chat' a dewis 'Friends only’
    • os ydych chi wedi defnyddio rheolaethau rhieni ar gyfer gosodiadau sgwrsio, dylai'r gosodiadau mewn gêm eu hadlewyrchu

    Ymuno â 'Party' gyda ffrindiau:

    • agorwch y gêm ac ewch i'r ddewislen 'Friends' ar waelod y sgrin ar y dde
    • o'r ddewislen naid, dewiswch yr opsiwn 'Notifications' a sgrolio i 'Party invites' a dewis y gwahoddiad dan sylw
    • gofalwch fod eich plentyn yn adnabod y chwaraewr anfonodd y gwahoddiad cyn clicio arno
  • Gall defnyddwyr riportio a rhwystro defnyddwyr eraill sy'n eu plagio neu sy'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I riportio/rhwystro chwaraewr mewn gêm:

    • tra yn y gêm, agorwch y ddewislen a dewis 'Report/block player’
    • chwiliwch am y chwaraewr dan sylw a dewis naill ai 'Report' neu 'Block'
    • dewiswch eich rheswm(au) o'r rhestr isod:
      • text harassment
      • verbal harassment
      • match throwing
      • intentionally idle
      • XP farming
      • inappropriate player name
      • inappropriate club name
      • trade scam
  • Mae llawer o gyfleoedd prynu yn y gêm, y gellir eu rheoli drwy'r gosodiad 'Parental controls' yn Epic Games.

    Rheoli prynu eitemau mewn gemau:

    • ewch i gyfrif eich plentyn yn Epic Games a sgrolio i lawr i 'Parental Controls' ar y chwith
    • teipiwch y rhif pin a ddefnyddiwyd gennych wrth sefydlu a gwirio cyfrif eich plentyn
    • dewiswch 'always require a PIN for purchases using Epic Games payment service’ (os ydych chi wedi galluogi rheolaethau rhieni, bydd angen eich PIN er mwyn prynu eitem mewn gêm)
  • I ddileu eich cyfrif Rocket League, rhaid i ddefnyddwyr gyflwyno tocyn cymorth (support ticket) i Epic Games a gofyn am gael dileu eu cyfrif. Mae Epic Games yn pwysleisio bod dileu cyfrif yn broses barhaol ac nad oes modd ei gwyrdroi. Mae dileu yn dilyn cyfnod 14 diwrnod o ddadactifadu, lle mae gan ddefnyddiwr yr opsiwn i fewngofnodi i’w gyfrif a atal dileu os yw’n penderfynu cadw ei gyfrif.

    I ddadactifadu a dileu eich cyfrif Epic Games:

    • mewngofnodwch i’ch cyfrif Epic Games a mynd i ‘Account Settings’
    • sgroliwch i ‘Delete Account’ a dewis ‘REQUEST ACCOUNT DELETE’
    • dewiswch ‘Delete Account’
    • teipiwch y cod diogelwch (sy’n cael ei anfon i’r cyfeiriad e-bost sy’n gysylltiedig â’r cyfrif Epic Games fel arfer)
    • dewiswch ‘CONFIRM ACCOUNT DELETION’
    • neu, atebwch y cwestiynau neu ddewis ‘skip’
    • bydd eich cyfrif yn cael ei ddadactifadu am 14 diwrnod, a’i ddileu’n gyfan gwbl wedyn

Mae'r sgôr oedran PEGI isel yn awgrymu bod Rocket League yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o grwpiau oedran. Fodd bynnag, dylai rhieni a gofalwyr barhau i sicrhau bod y gosodiadau diogelwch priodol ar waith ac mai dim ond gyda ffrindiau hysbys mae plant yn chwarae.

Mae gan Epic Games dudalen we ddynodedig yn ymwneud â sut mae rhieni yn gallu rheoli'r platfform ar gyfer Rocket League.