Roblox
Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Roblox', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
- Rhan o
Sut mae Roblox yn gweithio
Mae Roblox yn blatfform ar-lein gyda miliynau o wahanol gemau. Mae’r rhan fwyaf o’r gemau neu’r ‘profiadau’ hyn yn cael eu creu gan ddefnyddwyr Roblox, er bod rhai yn foddau gemau swyddogol wedi’u dylunio gan Roblox.
Gall defnyddwyr Roblox chwarae gyda ffrindiau a defnyddwyr eraill ym mhob cwr o’r byd.
Oedran isaf gofynnol
Gall plant o dan 13 oed ddefnyddio Roblox gyda chyfyngiadau diogelwch sy’n cael eu hychwanegu’n ddiofyn, ond mae’n rhaid bod ganddyn nhw ganiatâd eu rhiant neu warcheidwad. Nid yw hyn yn ofynnol i ddefnyddwyr dros 13 oed.
Mae PEGI yn argymell arweiniad gan rieni wrth chwarae Roblox oherwydd yr amrywiaeth fawr o gynnwys sy’n cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr.
Mae Roblox yn gwirio oedran i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael at gynnwys sydd wedi’i fwriadu i gynulleidfaoedd hŷn. Os bydd defnyddiwr am gael at nodweddion fel sgwrs llais a gemau i ddefnyddwyr 17 oed a hŷn, rhaid iddo ddarparu ID ffotograffig a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a hunlun byw i gadarnhau eu hoedran a phwy ydyn nhw. Pan fydd eu hoedran wedi’i gadarnhau, gall defnyddwyr ond ryngweithio ag eraill mewn grŵp oedran tebyg. Gall defnyddwyr hefyd ychwanegu ‘Trusted Connections’, sy’n caniatáu iddyn nhw gyfathrebu â phobl y tu hwnt i’w hystod oedran, ar yr amod eu bod yn adnabod y person hwn go iawn.
Nodweddion
Chat
Mae’n caniatáu i chwaraewyr anfon negeseuon testun at chwaraewyr eraill yn yr un profiad.
Experience
Mae Roblox yn galw pob gêm yn ‘experience’. Mae hyn am na fydd rhai profiadau yn seiliedig ar gemau, er enghraifft storïau neu gyngherddau.
Lua
Yr iaith codio sy’n cael ei defnyddio ar gyfer Roblox. Mae’n hawdd ei dysgu, gan ei gwneud hi’n bwynt cychwyn da i bobl ifanc ddechrau codio.
Marketplace
Dyma siop ar-lein lle gall chwaraewyr brynu arian o fewn y gêm i brynu dillad ac ategolion i’w cymeriad. Mae rhai eitemau ar gael am ddim, hefyd.
Maturity levels
Mae’n nodi’r math o gynnwys o fewn y gêm, o’r lefelau canlynol: Minimal, Mild, Moderate, a Restricted.
Premium
Tanysgrifiad i Roblox y mae’n rhaid talu amdano sy’n darparu nodweddion fel y gallu i fasnachu ac eitemau arbennig nad ydyn nhw ar gael i’r rheini nad ydyn nhw’n talu am y tanysgrifiad hwn.
Roblox Studio
Roblox Studio yw’r meddalwedd am ddim i ddefnyddwyr greu gemau yn Roblox.
Robux
Yr arian sy’n cael ei ddefnyddio o fewn y gêm Roblox. Mae’n bosibl prynu Robux gydag arian go iawn neu eu hennill trwy greu gemau ac eitemau o fewn gemau.
Trade
Gall defnyddwyr premiwm fasnachu eu heitemau neu eu harian o fewn y gêm gyda defnyddwyr eraill.
Trusted connections
Nodwedd sy’n caniatáu i ddefnyddwyr wedi’u dilysu, sy’n 13+ oed, i gyfathrebu’n haws gyda phobl maen nhw’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw yn eu bywyd go iawn. Mae’r person y maen nhw’n ymddiried ynddo yn gallu sganio cod QR ar ffôn y defnyddiwr.
Voice chat
Gall defnyddwyr siarad â’i gilydd gan ddefnyddio’u microffonau. Mae’r nodwedd hon wedi’i chyfyngu i ddefnyddwyr o dan 13 oed.
Beth mae Roblox yn ei gynnig
Creadigrwydd
Gall defnyddwyr greu eu gemau a’u profiadau eu hunain ar gyfer platfform Roblox. Yn y gemau hyn, gallan nhw ddylunio byd, ychwanegu propiau a chymeriadau, a chreu eu storïau eu hunain.
Mae Roblox hefyd yn cynnig cyfleoedd chwarae rôl, gyda rhai o’u gemau mwyaf poblogaidd yn caniatáu i ddefnyddwyr greu cymeriadau a chwarae fel y cymeriadau hyn. Mae hyn yn caniatáu i bobl ifanc ddefnyddio’u dychymyg ac archwilio’u creadigrwydd.
Sgiliau dylunio
Mae Roblox Studio yn defnyddio iaith codio Lua, sy’n syml ac yn ddelfrydol i ddechreuwyr sydd am ddysgu codio. Mae Roblox hefyd yn darparu adnoddau dysgu i helpu defnyddwyr i ddechrau arni gyda’r meddalwedd adeiladu gemau.
Hefyd, mae gan Roblox Studio system llusgo a gollwng i adeiladu byd gêm neu greu asedau fel golygfeydd, adeiladau a chymeriadau a fydd yn cael eu rheoli gan y system nid gan y defnyddiwr ei hun.
Adloniant
Mae miliynau o wahanol gemau ar Roblox, yn ymwneud ag amrywiaeth eang o genres, gan gynnwys:
- gemau chwarae rôl
- efelychwyr ffermio
- gemau saethu person cyntaf
- dirgelion llofruddiaeth
Mae gemau trwyddedig yn bodoli hefyd, wedi’u dylunio ar gyfer brandiau ac artistiaid adnabyddadwy.
Rheoli risgiau
Cynnwys amhriodol
Mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys ar Roblox yn cael ei gynhyrchu gan y defnyddiwr. Felly, gallai pobl ifanc ddod ar draws gemau sydd â chynnwys aeddfed. Er bod lefelau aeddfedrwydd i ddangos y math o gynnwys ym mhob gêm, nid yw’r rhain bob amser yn berffaith. Mae gan rai gemau themâu sy’n amhriodol i label eu cynnwys.
Gallwch ddilyn y camau hyn i leihau risg cynnwys amhriodol.
Galluogi rheolyddion rhieni
Trwy ddefnyddio rheolyddion rhieni Roblox, gallwch osod cyfyngiadau ar gyfrif eich plentyn i’w atal rhag chwarae gemau y mae’u chynnwys â’r labeli cymedrol (‘moderate’) neu gyfyngedig (‘restricted’). Bydd hyn yn atal eich plentyn rhag chwarae profiadau a fwriedir i gynulleidfaoedd hŷn.
Cael sgyrsiau rheolaidd
Anogwch gyfathrebu â’ch plentyn am Roblox. Trwy ddangos diddordeb yn yr hyn mae’n ei wneud ar y platfform, bydd yn fwy tebygol o ddweud wrthych chi am unrhyw bethau amhriodol y mae’n eu gweld ar y platfform.
Archwilio adnoddu cuddio a riportio
Bydd dangos i’ch plentyn sut i ddefnyddio’r adnoddau cuddio a riportio yn ei helpu i ymateb i unrhyw gynnwys amhriodol y mae’n ei weld.
Cyswllt â phobl ddieithr
Mae Roblox yn gêm ar-lein, sy’n golygu efallai y bydd eich plentyn yn dod i gysylltiad â phobl ddieithr. Bydd unrhyw ddefnyddiwr 13+ oed sydd wedi cadarnhau ei oedran yn cael mynediad at nodweddion sgwrsio llais â thestun i gyfathrebu gyda defnyddwyr eraill o oedran tebyg. Fodd bynnag, nid yw unrhyw system cadarnhau oedran fyth yn berffaith ac mae’n bosibl o hyd y gallai defnyddwyr hŷn gysylltu â’ch plentyn.
Gall bwriad rhai defnyddwyr fod yn faleisus, fel bwlio, meithrin perthynas amhriodol neu sgamiau. I fynd i’r afael â’r bygythiad hwn, gallwch gymryd y camau canlynol.
Addasu gosodiadau preifatrwydd
Trwy’r gosodiadau preifatrwydd, gallwch gyfyngu ar bwy sy’n gallu anfon neges at eich plentyn neu ymuno â’i gemau. Gellir eu gosod ar ‘Friends only’, i sicrhau nad yw eich plentyn yn rhyngweithio ag unrhyw bobl ddieithr.
Adolygu’r rhestr ffrindiau
Bydd adolygu rhestr ffrindiau eich plentyn yn gadael i chi weld a yw eich plentyn wedi ychwanegu unrhyw ffrindiau newydd, gan roi’r cyfle i chi ofyn i’ch plentyn sut mae’n adnabod y person. Anogwch eich plentyn i ychwanegu pobl mae’n eu hadnabod yn y byd go iawn ac yn ymddiried ynddyn nhw yn unig.
Siarad am sgyrsiau ar-lein
Siaradwch â’ch plentyn am ba wybodaeth sy’n iawn i’w rhannu ar-lein, a pha wybodaeth na ddylai ei rhannu. Esboniwch beryglon rhannu unrhyw wybodaeth neu ddelweddau personol. Cynghorwch eich plentyn i beidio â masnachu gydag unrhyw un nad yw’n ei adnabod, oherwydd gallai hyn arwain at golli ei Robux neu ei eitemau.
Annog blocio a riportio
Dangoswch i’ch plentyn sut i flocio a riportio rhywun ar Roblox. Dylech ei annog i ddefnyddio’r offer hyn os bydd rhywun yn gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus.
Hysbysu awdurdodau mewn achosion eithriadol
Os byddwch chi’n amau bod rhywun yn cysylltu â’ch plentyn i feithrin perthynas amhriodol ag ef, dylech riportio hyn i’r heddlu neu’r CEOP. Sicrhewch eich bod yn cael sgrinluniau o’r negeseuon i’w defnyddio fel tystiolaeth.
Gormod o amser o flaen sgrin
Mae gan Roblox nifer ac amrywiaeth enfawr o gemau, y mae llawer ohonyn nhw ar gael i’w chwarae yn rhad ac am ddim. Mae’r gemau hyn yn hoelio sylw, gan ymgorffori nodweddion cymdeithasol sy’n gallu annog pobl ifanc i chwarae am amser hir.
Mae camau y gallwch eu cymryd i atal eich plentyn rhag treulio gormod o amser o flaen sgrin.
Gosod cyfyngiadau amser sgrin ar gyfrif Roblox eich plentyn
Bydd hwn yn rhoi cyfyngiad ar ba mor hir y gall eich plentyn ddefnyddio Roblox bob dydd, gan ei atal rhag chwarae’r gêm yn ormodol.
Cytuno ar derfynau
Trafod pryd a ble gall eich plentyn chwarae Roblox. Er enghraifft, cytuno ei fod ond yn gallu chwarae Roblox yn yr ystafell fyw, lle gallwch chi fonitro’r gemau mae’n eu chwarae.
Annog meddwl beirniadol
Helpwch eich plentyn i feddwl am yr amser mae’n ei dreulio ar y platfform.
Dylech annog eich plentyn i:
- feddwl pam mae’n chwarae gemau ar Roblox
- ofyn iddo ei hun a yw’n cael hwyl, neu beth hoffai ei gael o ddefnyddio’r platfform
Gorwario
Er bod modd chwarae Roblox yn rhad ac am ddim, mae micro-drafodion ar y platfform. Gall chwaraewyr ddefnyddio arian go iawn i brynu arian o fewn y gêm, sef Robux. Yna, gallan nhw ddefnyddio’r arian hwn ar ategolion a thocynnau gemau (‘game passes’).
Gallai pobl ifanc deimlo dan bwysau i wario arian i gadw i fyny â’u ffrindiau a gall hyn arwain at orwario.
Gall y camau hyn helpu i gadw gwariant eich plentyn o dan reolaeth.
Gosod cyfyngiadau ar wario
Gan ddefnyddio rheolyddion rhieni Roblox, gallwch osod cyfyngiadau gwario misol ar gyfrif eich plentyn, gan ganiatáu iddo wneud pryniadau heb wynebu’r risg o orwario.
Addysgu arferion gwario craff
Gallai cael sgwrs gyda’ch plentyn am werth arian ei hatal rhag gorwario. Rhowch bris Robux mewn cyd-destun trwy ei chymharu â phethau eraill y maen nhw’n gallu eu prynu gyda’r arian, fel gêm heblaw am un Roblox neu eitem gyfatebol go iawn. Gall hyn ei helpu i weld gwerth real yr arian rhithwir hwn.
Gosodiadau i ddiogelu’ch plentyn
Gallwch gael at amrywiaeth o reolyddion rhieni trwy gysylltu’ch cyfrif Roblox â chyfrif eich plentyn. Yn achos defnyddwyr o dan 13 oed, bydd cyfyngiadau diogelwch yn cael eu gosod yn awtomatig. Yn achos defnyddwyr hŷn, mae’n rhaid i chi osod y rheolyddion hyn eich hun. I ddefnyddwyr 13 i 17 oed, mae rhai nodweddion diogelwch ymlaen yn awtomatig, ond gall fod angen gosod rhai eich hun.
Sefydlu cyfrif rhiant â’i gysylltu â chyfrif eich plentyn
Bydd sefydlu cyfrif rhiant yn caniatáu i chi osod rheolyddion diogelwch ar gyfrif eich plentyn. Gall cyfyngiadau ar amser sgrin, ar wariant ac ar breifatrwydd gael eu gosod gan ddefnyddio cyfrif rhiant.
Sefydlu cyfrif rhiant
- Crëwch neu mewngofnodwch i’ch cyfrif Roblox.
- Ewch i ‘Settings’ yna dewiswch ‘Account Info’.
- O dan ‘Email Address’, ychwanegwch eich e-bost chi.O dan ‘Birthday’, dewiswch ‘Verify My Age’ (gall oedran gael ei gadarnhau gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ID ffotograffig
Cysylltu cyfrif rhiant â chyfrif plentyn
- Ewch i gyfrif Roblox eich plentyn a mynd i ‘Account Info’.
- Dewiswch ‘Add parental recovery email’ ac ychwanegu’ch e-bost chi.
- Ewch yn ôl i ‘Settings’ a dewiswch ‘Parental Controls’.
- Dewiswch ‘Add Parent’ yna rhowch eich cyfeiriad e-bost.
- Ewch i’ch negeseuon e-bost i gadarnhau’r cysylltiad.
Ychwanegu cyfyngiadau ar gynnwys
Bydd gosod lefelau aeddfedrwydd ar gyfrif eich plentyn yn ei atal rhag cael at brofiadau a fwriedir i gynulleidfaoedd hŷn.
- Mewngofnodwch i’ch cyfrif rhiant.
- Dewiswch ‘More Settings’, yna ‘Parental Controls’.
- Dewiswch ‘Content restrictions’.
- Dewiswch ‘Content Maturity’.
- Gosodwch lefel ‘Content Maturity’ eich plentyn trwy ddewis o blith y canlynol:
- ‘Minimal’: bach iawn o drais achlysurol, ychydig o waed afrealistig.
- ’Mild’: mymryn o drais a ailadroddid, tipyn o waed afrealistig.
- ‘Moderate’: trais, gwaed sy’n fwy realistig, hiwmor di-chwaeth.
- ‘Restricted’: mae’r holl gynnwys ar gael.
Archwilio nodweddion riportio a blocio
Gall eich plentyn flocio a riportio unrhyw gyfrifon neu gemau sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus neu sy’n torri canllawiau’r gymuned. Gall hyn atal cyswllt pellach gan ddefnyddwyr niweidiol ac atal chwaraewyr eraill rhag dod i gysylltiad â chynnwys aeddfed sydd heb gael ei labelu’n gywir.
Riportio chwaraewr
- Dewiswch eicon Roblox ar y chwith ar frig y sgrin.
- Dewiswch eicon y fflag wrth ymyl enw’r defnyddiwr a dewiswch y tab ‘Report’.
- Gweithiwch drwy’r opsiynau sydd wedi’u rhestru i gwblhau eich cais am riportio.
Riportio gêm
- Chwiliwch am y gêm rydych chi am ei riportio a dewis yr eicon 3 smotyn.
- Dewiswch ‘Report’ a dewis y rheswm pam rydych chi’n riportio’r gêm.
- Cyflwynwych yr adroddiad.
Blocio chwaraewr
- Ewch i dudalen broffil y defnyddiwr.
- Dewiswch y ddewislen 3 smotyn yng nghornel dde uchaf y sgrin.
- Bydd dewislen yn ymddangos lle gallwch chi ddewis ‘Block user’.
Dolenni defnyddiol
- Trosolwg ar reolyddion rhieni Roblox (Saesneg yn unig).
- Canllaw cam wrth gam Internet Matters ar reolyddion rhieni (Saesneg yn unig).