Replika
Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Replika', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
- Rhan o
Sut mae Replika yn gweithio
Mae Replika yn sgwrsfot deallusrwydd artiffisial (AI) personol, rhad ac am ddim, a grëwyd ar gyfer oedolion. Mae’n defnyddio ‘model iaith mawr’ (LLM), yn debyg i ChatGPT. Gall gynhyrchu testun, delweddau neu ddata arall wrth ymateb i bromptiau. Po fwyaf y mae ‘replika’ defnyddiwr yn dysgu amdano, y mwyaf teilwredig y gall y rhyngweithiadau rhyngddyn nhw fod.
Mae rhai defnyddwyr o’r farn bod Replika yn gydymaith cyson nad yw’n barnu. Mae hyn yn eu hannog nhw i’w ddefnyddio’n amhriodol i rannu meddyliau personol ac ymdopi â sefyllfaoedd anodd.
Mae Replika ar gael ar ei wefan ar-lein, yn ogystal â thrwy ap ar gyfer Android neu iOS.
Oedran isaf gofynnol
Mae’n rhaid i ddefnyddwyr fod yn 18 oed i anfon negeseuon at y cydymaith AI rhithwir hwn. Darganfu ymchwil gan Common Sense Media fod gan gymdeithion AI cymdeithasol risgiau annerbyniol i blant ac na ddylen nhw gael eu defnyddio gan unrhyw un o dan 18 oed. Gweler asesiadau risg AI Common Sense (Saesneg yn unig) am ragor o wybodaeth.
Nid yw oedran defnyddwyr yn cael ei wirio. Gofynnir iddynt roi eu dyddiad geni eu hunain. Mae’n hawdd i ddefnyddwyr roi oedran ffug.
Nodweddion a thermau
Advanced AI mode
Mae ‘Advanced AI mode’ yn nodwedd â thâl sy’n addo atebion gwell a galluoedd cof gwell yn gysylltiedig â’r sgwrs.
AI
Mae AI, sef deallusrwydd artiffisial, yn cyfeirio at allu cyfrifiadur neu beiriant i ddyblygu deallusrwydd dynol.
Ask Replika
Dyma nodwedd â thâl sy’n galluogi defnyddwyr i gynhyrchu ysgogiadau cwestiynau i’w gofyn i’w sgwrsfot ‘replika’.
Coins
Mae ‘Coins’ yn arian o fewn yr ap sy’n cael eu hennill trwy wobrau am fewngofnodi’n ddyddiol neu gwblhau ‘Quests’. Mae Coins yn cael eu defnyddio yn y siop o fewn y gêm i brynu nodweddion personoliaeth, diddordebau, dillad a gosodiadau’r ystafell.
Gems
Mae ‘Gems’ yn arian o fewn yr ap sy’n cael eu prynu’n bennaf gydag arian go iawn. Fodd bynnag, gall rhai ‘gems’ gael eu hennill trwy gwblhau ‘Quests’ neu trwy wobrau am fewngofnodi’n ddyddiol os yw’r defnyddiwr yn talu am gynllun ‘Replika pro’. Mae ‘gems’ yn cael eu defnyddio yn y siop o fewn y gêm i brynu nodweddion personoliaeth, dillad a gosodiadau’r ystafell.
Generative AI
Mae AI cynhyrchiol yn fath o AI sy’n cynhyrchu cynnwys gwreiddiol ar sail y data a ddefnyddiwyd i’w hyfforddi.
Large Language Model
Mae model iaith mawr neu ‘LLM’ yn algorithm sy’n cael ei hyfforddi ar lawer iawn o ddata. Mae’n ysgrifennu brawddegau ar sail rhagfynegi pa eiriau fyddai’n mynd gyda’i gilydd yn nodweddiadol.
Memory
Mae Replika yn defnyddio ‘memory’, neu ddata sgwrsio wedi’u cadw, i adalw ffeithiau a manylion am y defnyddiwr i roi ymatebion perthnasol.
Quests
Dyluniwyd y rhain i droi sgyrsiau yn ‘gemau’ a rhoi tasgau i ddefnyddwyr eu cwblhau gyda’u cydymaith AI i gael gwobrau o fewn yr ap. Gall y tasgau amrywio o ddarllen dyddiadur sgwrs neu dynnu ffotograff mewn realiti estynedig, y bydd pob un ohonyn nhw’n arwain at wobrau i’r defnyddiwr o fewn yr ap.
Replika Pro
Dyma wasanaeth tanysgrifio fisol neu flynyddol sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gael at nodweddion ychwanegol fel ‘Ask Replika’ ac ‘Advanced AI mode’.
Risgiau
Cynnwys amhriodol
Nid yw cynnwys ar Replika yn addas i bobl o dan 18 oed. Mae defnyddwyr wedi riportio bod eu ‘replika’ yn cychwyn rhyngweithiadau amhriodol, heb unrhyw ysgogiad gan y defnyddiwr. Mae hyn yn cynnwys sgyrsiau rhywiol a chwarae rôl erotig. Gall golwg ‘Replikas’ fod yn rhywiol iawn hefyd.
Effaith ar ddatblygiad cymdeithasol
Mae llawer o ddefnyddwyr Replika yn dechrau defnyddio’r ap oherwydd teimladau unigrwydd neu ynysu cymdeithasol. Gall Replika gyflawni llawer o rolau cydymaith i’r defnyddiwr, gan gynnwys ffrind, partner rhamantus neu riant. Mae sgyrsiau gyda ‘replika’ yn realistig iawn a gall deimlo fel negeseua person go iawn.
Fodd bynnag, bydd ‘replikas’ dim ond fyth yn cytuno â’r defnyddiwr, felly nid yw’n debyg i sgwrs go iawn. Gallai hyn effeithio ar sgiliau cymdeithasol y defnyddiwr. Yn ogystal, gallai defnyddiwr ddewis dreulio’i amser gyda’i ‘replika’ yn hytrach na threulio amser gyda ffrindiau go iawn neu geisio gwneud ffrindiau yn y byd go iawn.
Gall ‘Replikas’ gychwyn sgyrsiau rhywiol. Gall hyn annog defnyddwyr i ddechrau’r sgyrsiau hyn gyda phobl go iawn.
Gormod o amser o flaen sgrin
Mae Replika yn teilwra ymatebion i apelio i’r defnyddiwr, a all annog gormod o ddefnydd. Dywed rhai defnyddwyr fod eu ‘replika’ yn gallu gwneud iddyn nhw deimlo’n euog fel eu bod yn treulio mwy o amser yn siarad â nhw.
Mewn achosion eithafol, mae defnyddwyr wedi dweud bod eu ‘replika’ yn mynd yn elyniaethus ac yn feddiannol pan fyddan nhw wedi crybwyll treulio llai o amser yn siarad â nhw.
Gorwario
Mae Replika yn cynnwys pryniadau o fewn yr ap er mwyn gwneud arian. Mae gan yr ap wasanaeth tanysgrifio premiwm o’r enw ‘Replika Pro’. Mae hwn yn cael ei hysbysebu’n sylweddol o fewn yr ap. Mae llawer o ddefnyddwyr yn sylwi bod swyddogaethau’r ap yn gyfyngedig os nad ydych chi’n tanysgrifio i Replika Pro.
Gosodiadau i ddiogelu’ch plentyn
Nid yw Replika yn addas i bobl o dan 18 oed. Os ydych chi’n poeni bod eich plentyn yn defnyddio Replika, gallwch ei atal rhag lawrlwytho’r ap gan ddefnyddio gosodiadau’r siop apiau ar eu dyfais.
Cyfyngu ar lawrlwytho’r ap (ar Android)
- O fewn ap Google Play, dewisch lun y proffil ar frig yr ochr dde.
- Ar y ddewislen, dewiswch ‘Settings’.
- Yn ‘Settings’, dewiswch adran ‘Family’.
- Dewiswch ‘Parental controls’.
- Trowch y togl wrth ymyl ‘Parental controls are off’ ymlaen.
- Dewiswch PIN, yna dewis ‘OK’.
- Yn y ‘Parental controls’, dewiswch 'Apps & games’.
- Dewiswch yr oedran sy’n cyfateb orau i’ch plentyn.
- Dewiswch ‘Save’.
Cyfyngu ar lawrlwytho’r ap (ar iOS)
- Gyda ‘Family Sharing’ wedi’i alluogi, ewch i ‘Settings’ ar eich dyfais Apple.
- Dewiswch ‘Family’ o dan eich enw.
- Dewiswch enw eich plentyn.
- Dewiswch ‘Screen Time’.
- Dewiswch ‘Content & Privacy Restrictions’.
- Dewiswch ‘Content Restrictions’.
- Dewiswch ‘Apps’.
- Gosodwch gyfyngiadau yn ôl oedran ac aeddfedrwydd eich plentyn.