English

Gêm am ddim gan Niantic yw Pokémon Go. Gan ddefnyddio camera a gosodiadau lleoliad GPS dyfais, mae’r gêm yn anfon chwaraewyr i leoliadau yn y byd go iawn i ddal, casglu, hyfforddi a brwydro cymeriadau Pokémon. Mae Pokémon Go yn defnyddio realiti estynedig i wneud y profiad yn fwy realistig.

Gall defnyddwyr chwarae gyda ffrindiau trwy: 

  • anfon ceisiadau ffrindiau
  • masnachu Pokémon
  • anfon rhoddion
  • ymuno â chyrchoedd (brwydrau mewn Gym)
  • cymryd cipluniau
  • brwydro yn erbyn ei gilydd

Pan gaiff ei defnyddio’n ddiogel, mae’r gêm hon yn ymwneud â hwyl ac archwilio.

Mae Niantic hefyd wedi cyhoeddi ‘Campfire’, sef ap cymdeithasol ar wahân. Gall defnyddwyr gysylltu’r ap hwn â’u cyfrifon Pokémon Go. Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr: 

  • wneud ffrindiau newydd
  • anfon negeseuon uniongyrchol at bobl
  • ymuno â chymunedau sy’n berthnasol i’w diddordebau 

Nid yw ap ‘Campfire’ yn cael ei argymell ar gyfer defnyddwyr iau.

Oedran isaf gofynnol

Mae gan Pokémon Go sgôr oedran PEGI 7. Mae Apple App Store yn ystyried bod y gêm yn addas i chwaraewyr dros 9 oed.

Os yw’ch plentyn dan 13 oed, bydd rhaid i chi greu a dilysu ei gyfrif. Yn rhan o’r broses hon, byddwch yn gallu gosod cyfrif eich plentyn, gan eich galluogi i: 

  • adolygu’r wybodaeth sy’n cael ei rhannu ar y cyfrif
  • monitro’r ffrindiau newydd sy’n cael eu gwneud ac y rhyngweithiwyd â nhw wrth chwarae’r gêm

Friends

Un o nodweddion aml-chwaraewr Pokémon Go sy’n caniatáu i ddefnyddwyr olrhain ei gilydd a chystadlu mewn heriau gyda’i gilydd.

Poké Ball 

Pêl y mae hyfforddwyr yn ei defnyddio i gasglu creaduriaid Pokémon gwyllt. 

Poké Coins 

Dyma arian cyfred y gêm. Gall chwaraewyr ennill ‘Poké coins’ wrth chwarae neu eu prynu.

Poké Gym 

Dyma’r lleoliad lle mae hyfforddwyr yn brwydro yn erbyn ei gilydd.

Poké Stops 

‘Poké Stops’ yw’r lleoliadau lle gall hyfforddwyr gasglu adnoddau ychwanegol ar gyfer eu Pokémon. Fel arfer, mae’r rhain wedi’u lleoli mewn mannau o ddiddordeb yn y byd go iawn.

Pokémon 

Y creaduriaid y mae chwaraewyr yn eu casglu a’u hyfforddi.

Raid Battles 

Mae’r brwydrau hyn yn digwydd pan fydd Pokémon lefel uchel yn meddiannu ‘Poké Gym’. Yna, mae’n rhaid i chwaraewyr ymuno â’i gilydd i herio’r ‘Raid boss’ i gipio’r gampfa yn ôl. Gall hyd at 20 o chwaraewyr ymuno â’r frwydr a rhaid iddyn nhw fod yn lleoliad y gampfa i gymryd rhan.

Trainer

Yr afatar (eicon) y mae pob chwaraewr yn ei greu i gasglu, hyfforddi a brwydro yn erbyn Pokémon.

Trainer code

Dyma’r cod unigryw sy’n cael ei roi i bob chwaraewr sy’n creu cyfrif. Mae rhannu’r cod hwn â defnyddwyr eraill yn galluogi chwaraewyr i ryngweithio â’i gilydd yn y gêm.

Annog gweithgarwch corfforol

Gall Pokémon Go gymell pobl ifanc i fynd allan i’r awyr agored a symud. Mae Pokémon yn ymddangos yn y byd go iawn, sy’n golygu bod rhaid i ddefnyddwyr fynd am dro o gwmpas eu hardal leol i symud ymlaen yn y gêm.

Cysylltiad niweidiol â phobl eraill

Wrth chwarae Pokémon Go yn yr awyr agored, gallai pobl ifanc ddod i gysylltiad go iawn â phobl ddieithr. Mae Pokémon Go hefyd yn caniatáu i chwaraewyr ryngweithio â’i gilydd yn y gêm trwy frwydrau a masnachu. Mae’r rhyngweithiadau hyn wedi’u seilio ar bwy mae’ch plentyn yn ffrindiau â nhw.

Gallwch leihau’r tebygolrwydd o gysylltiad niweidiol â phobl eraill trwy’r camau canlynol.

Agor cyfrif Pokémon Trainer Club a’i gysylltu â chyfrif eich plentyn

Bydd creu eich cyfrif Pokémon Trainer Club eich hun ac yna cysylltu eich plentyn ag ef â chyfrif plentyn yn caniatáu i chi gyfyngu ar nodweddion cymdeithasol y gêm. 

Adolygu’r rhestr ffrindiau

Gwiriwch â phwy mae’ch plentyn yn ffrindiau ar Pokémon Go a sicrhewch ei fod yn adnabod ac yn ymddiried yn yr holl ffrindiau hyn mewn bywyd go iawn. Holwch am y platfformau y mae’n eu defnyddio i ryngweithio â ffrindiau o’r gêm, gan fod rhai chwaraewyr yn cymryd rhan mewn sianeli Discord Pokémon Go, sy’n dod â’u risgiau eu hunain.

Rheoli pwy mae’ch plentyn yn dod i gysylltiad â nhw yn yr awyr agored

Os oes gennych blentyn iau, chwaraewch y gêm ochr yn ochr ag ef er mwyn sicrhau ei fod yn cadw’n ddiogel y tu allan. Ar gyfer plant hŷn, cynghorwch nhw i aros mewn ardaloedd diogel y maen nhw’n eu hadnabod ac i beidio â siarad â phobl ddieithr wrth chwarae.

Siarad am gymdeithasu’n ddiogel

Trafodwch â’ch plentyn pa wybodaeth y mae’n iawn neu nad yw’n iawn ei rhannu ar-lein. Dylech ei addysgu i osgoi rhyngweithio â phobl ddieithr, boed hynny ar-lein neu all-lein. Rhowch wybod iddo y gall ddod atoch chi am gymorth bob tro os oes rhywun yn gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus.

Defnyddio’r offer riportio

Anogwch eich plentyn i ddefnyddio’r nodwedd riportio os yw defnyddiwr arall yn ymddwyn yn amhriodol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y platfform yn fwy diogel i bawb.

Diogelwch yn yr awyr agored

Gallai rhywbeth dynnu sylw eich plentyn wrth chwarae’r gêm, wrth iddo edrych ar ei ddyfais i ddod o hyd i Pokémon, yn hytrach na rhoi sylw i’r hyn sydd o’i gwmpas.

Addysgwch eich plentyn i fod yn ymwybodol o’r hyn sydd o’i gwmpas. Gallwch alluogi gosodiad crynu ar yr ap, a fydd yn rhybuddio’ch plentyn pan fydd yn agos at Pokémon, sy’n golygu nad oes rhaid iddo edrych ar y sgrin yn gyson.

Gall y gosodiadau hyn helpu eich plentyn i gadw’n ddiogel wrth chwarae Pokémon Go.

Goruchwylio cyfrif eich plentyn

Creu cyfrif rhiant

  • Ar eich dyfais, agorwch Pokémon Go a dewiswch ‘New Player’.
  • Dewiswch ‘Pokémon Trainer Club’.
  • Dewiswch ‘Create an Account’.
  • Cwblhewch y broses creu cyfrif safonol.

Creu cyfrif plentyn

  • Yng ngosodiadau eich ‘Pokémon Trainer Club’, dewiswch ‘Add a Child’.
  • Llenwch fanylion eich plentyn a’u manylion mewngofnodi.
  • Ar ddyfais eich plentyn, agorwch Pokémon Go a dewiswch ‘New Player’.
  • Dewiswch ‘Pokémon Trainer Club’ a rhowch fanylion mewngofnodi eich plentyn.
  • Ar y dudalen nesaf, dewiswch ‘I’m the Parent/Guardian’.
  • Dewiswch ‘Continue as Parent or Guardian’.
  • Golygwch osodiadau rhieni eich plentyn, yna dewiswch ‘Continue’.
  • Dewiswch ‘Back to Pokémon Go’.

Riportio defnyddiwr

  • Ar y brif dudalen, dewiswch eicon y ‘Poké ball’.
  • Dewiswch y symbol ‘Settings’ yn y gornel dde uchaf.
  • Dewiswch yr opsiwn ‘Help’, sydd ag eicon swigen siarad.
  • Dewiswch yr opsiwn ‘Contact us’ a rhowch ‘Report a player’ yn y blwch negeseuon.