English

Mae OnlyFans yn ap cyfryngau cymdeithasol sy’n seiliedig ar danysgrifiadau a ddefnyddir i rannu lluniau, fideos a ffrydiau byw. Gall y rhai sy’n creu cynnwys godi ffi fisol ar eu “cefnogwyr” i ddilyn eu cyfrif a gweld eu cynnwys unigryw. Yn aml mae cynnwys yn cael ei greu gan YouTubers poblogaidd neu ddylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol, ond mae’n cynnwys hyfforddwyr ffitrwydd, cogyddion, comedïwyr, athletwyr a modelau hefyd, ymhlith eraill. Mae’n blatfform poblogaidd hefyd ar gyfer gweithwyr amatur sy’n gobeithio rhoi hwb i’w gyrfaoedd drwy ennill portffolio o waith am dâl. Mae OnlyFans yn arbennig o adnabyddus am ei boblogrwydd ymhlith gweithwyr rhyw, sy’n gwerthu lluniau, fideos a ffrydiau byw i’w dilynwyr. Nid yw pob un sy’n creu yn codi ffi am eu cynnwys, ond rhaid i chi ychwanegu manylion cerdyn credyd cyn y gallwch danysgrifio i gyfrif unrhyw grëwr. Mae OnlyFans yn codi ffi o 20% am unrhyw gynnwys a werthir drwy’r platfform. Er nad yw OnlyFans ar gael trwy Apple App Store neu Google Play Store, mae ar gael i ddefnyddwyr ffonau symudol ar wefan OnlyFans. Mae gan y platfform dros 190 miliwn o ddefnyddwyr cofrestredig a rhyw 2.1 miliwn o grëwyr cynnwys.

Rhaid i ddefnyddwyr OnlyFans fod yn 18 oed o leiaf.

I greu cyfrif crëwr, rhaid i ddefnyddwyr ddarparu hunlun ynghyd â dull adnabod â llun i gadarnhau eu hoedran. I greu cyfrif tanysgrifiwr, nid oes unrhyw ddulliau dilysu oedran trwyadl.

Mae ymchwil yn awgrymu nad yw’r dulliau dilysu oedran hyn yn gadarn, ac mae defnyddwyr dan 18 oed wedi gallu creu cyfrif a rhannu cynnwys.

Nid yw OnlyFans ar gael ar Apple App Store na Google Play oherwydd cynnwys anweddus.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein ‘Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau‘.

Y prif atyniad i bobl ifanc ymuno ag OnlyFans yw’r syniad ei bod yn ffordd hawdd o wneud arian drwy werthu cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr a/neu i weld cynnwys cyffrous. Cyfeirir at yr ap yn aml mewn diwylliant poblogaidd, ac mae’n adnabyddus am ei allu i wneud symiau mawr o arian i bobl yn gyflym iawn. Gall defnyddwyr ddilyn cynnwys wedi’i guradu hefyd (nad yw’n rhywiol o reidrwydd) wedi’u greu gan ddylanwadwyr sy’n ennyn eu diddordeb – dim ond gydag aelodaeth fisol y gellir cyrchu hwn. Gall y wal dâl wneud i’r cynnwys ymddangos yn fwy unigryw, ac yn fwy deniadol i bobl ifanc o ganlyniad. Fodd bynnag, mae’r mwyafrif helaeth o gynnwys a phoblogrwydd yr ap yn deillio o’i gynnwys rhywiol a gaiff ei wneud gan ddefnyddwyr, yn ogystal ag enwogion a ffigurau poblogaidd ar-lein eraill y gallai pobl ifanc eisoes fod yn eu dilyn, ac felly’n apelio atyn nhw.

Tua £3.90 y mis yw isafbris tanysgrifio, gyda’r uchafswm tua £39.00. Gall crewyr ddewis rhannu eu cynnwys yn rhad ac am ddim hefyd. Gall crewyr sefydlu trefniadau cildwrn neu negeseuon preifat am dâl, gan ddechrau ar isafswm o tua £4.00. 

Gan fod gan OnlyFans gyfyngiad oedran oedolyn, ac nad yw’n cael ei reoleiddio, mae risg uchel o weld deunyddiau amhriodol a chynnwys aeddfed. Mae cyfran fawr o’r cynnwys ar OnlyFans yn rhywiol ac mae crewyr yn defnyddio’r hashnod ‘NSFW’ (ddim yn ddiogel i’r gwaith) yn aml i roi gwybod i’w tanysgrifwyr y dylent edrych ar eu postiadau’n breifat. Mae gan grewyr y gallu i bostio lluniau a fideos anweddus heb eu sensro hefyd, yn ogystal â chynnal ffrydiau byw lle gall dilynwyr ymgysylltu â chrewyr mewn amser real. Mae gan OnlyFans nodwedd negeseua hefyd, sy’n caniatáu i grewyr ymgysylltu â’u gwylwyr yn uniongyrchol. Unwaith eto, mae potensial i iaith anweddus a chynnwys aeddfed gael eu rhannu drwy’r nodwedd hon. Anogwch blant a phobl ifanc i siarad â chi os byddant yn dod ar draws unrhyw gynnwys sy’n peri gofid neu aflonyddwch. Os ydyn nhw wedi creu cyfrif crëwr, siaradwch â nhw am beryglon rhannu delweddau noeth neu hanner noeth. Mae pryderon wedi cael eu mynegi am ddeunydd yn ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol sydd wedi ei ganfod ar y platfform. Mae’n bwysig cofio bod unrhyw luniau neu fideos rhywiol sy’n cynnwys plant dan 18 oed yn ddeunydd cam-drin rhywiol plant. Ni argymhellir bod pobl ifanc o dan 18 oed yn cyrchu’r platfform.

Mae cyfyngiad oedran 18+ OnlyFans yn awgrymu y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio gan oedolion yn unig. Fodd bynnag, oherwydd diffygion gyda’r dulliau dilysu oedran, darganfuwyd bod defnyddwyr dan 18 oed wedi gallu cyrchu’r platfform, fel tanysgrifwyr ac fel crewyr. Mae’r natur anrheoledig yn peri risgiau cyswllt i ddefnyddwyr iau ar OnlyFans, oherwydd byddant yn gallu rhyngweithio â defnyddwyr o bob oed. Mae adroddiadau am feithrin perthynas amhriodol ar y platfform, gydag ysglyfaethwyr rhywiol wedi gallu defnyddio’r platfform i berswadio eu dioddefwyr i rannu delweddau personol. Siaradwch â’ch plentyn am risgiau cysylltu â dieithriaid, ac eglurwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy mewn sgyrsiau neu ryngweithiadau ar y platfform. Atgoffwch eich plentyn i sôn wrthych os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol iddo neu ofyn iddo sgwrsio’n breifat gan ddefnyddio ap gwahanol. Ni argymhellir bod pobl ifanc o dan 18 oed yn cyrchu’r platfform.

Gall y syniad o wneud arian yn gyflym ac yn hawdd ar OnlyFans apelio’n fawr at bobl ifanc, ac mae’n cael ei drafod yn aml ar blatfformau eraill. Mae rhai crewyr OnlyFans yn rhannu fideos ar blatfformau eraill fel TikTok yn brolio am eu henillion ac yn cynnig rhannu cyngor gydag eraill ar sut i wneud arian ar OnlyFans. Gall sylwadau apelgar o’r fath am OnlyFans ar blatfformau eraill fod yn ddryslyd i bobl ifanc sy’n chwilio am ffordd o wneud arian. Siaradwch â’ch plentyn am y niwed posib sy’n gysylltiedig â gwerthu delweddau personol. Mae’n bwysig esbonio y gellir tynnu sgrinlun, cadw a rhannu’r holl gynnwys yn eang. Mae angen iddyn nhw feddwl am y cynnwys maen nhw’n ei rannu bob amser, ac ystyried a fydden nhw’n hapus i bawb maen nhw’n eu hadnabod ei weld.

Dylai crewyr cynnwys ar OnlyFans fod yn ymwybodol hefyd o’r risg o ymddygiad sy’n rheoli eraill gan eu tanysgrifwyr. Adroddwyd bod rhai tanysgrifwyr yn cynnig talu symiau mawr o arian i gael delwedd o natur bersonol ac yna’n defnyddio hyn ar gyfer blacmel neu i roi pwysau ar y crëwr i ddarparu rhagor o ddelweddau, a’r rheiny weithiau’n fwy eithafol. Ni argymhellir bod pobl ifanc o dan 18 oed yn cyrchu’r platfform.

Mae OnlyFans yn wasanaeth sy’n seiliedig ar danysgrifiadau, lle gall crewyr wneud arian o’r cynnwys maen nhw’n ei rannu. Mae’n bwysig siarad am beryglon gwerthu cynnwys personol a’r risgiau o gael eich gorfodi i werthu cynnwys mwy eithafol am symiau mwy o arian. Mae crewyr cynnwys ar y platfform wedi sôn hefyd am faint o amser mae angen iddyn nhw ei dreulio ar-lein er mwyn sefydlu dilyniant, gan arwain at ddefnydd gormodol o amser sgrin dyddiol. Ni argymhellir bod pobl ifanc o dan 18 oed yn cyrchu’r platfform.

Hefyd, mae’n bwysig nodi bod crewyr yn gallu codi tâl ar ddefnyddwyr am eu cynnwys mewn sawl ffordd, trwy gil-dwrn, cynnwys PPV, a negeseuon y talwyd amdanynt. Gall hyn achosi dryswch i ddefnyddwyr iau ac arwain at wario llawer gormod o arian ar y platfform. Nid ydym yn argymell bod plant dan 18 oed yn defnyddio’r platfform hwn.

Mae Yoti, y dechnoleg dadansoddi wynebau, wedi canfod bod nifer fawr o ddefnyddwyr dan oed wedi gallu creu cyfrifon crëwr drwy ddefnyddio ID ffug. Argymhellir na ddylai unrhyw blentyn o dan 18 oed gael cyfrif OnlyFans, naill ai fel tanysgrifiwr neu fel crëwr.

Er nad yw OnlyFans yn safle pornograffi, mae wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith gweithwyr rhyw ac wedi cael cryn dipyn o sylw ar y cyfryngau fel platfform lle mae cynnwys oedolion yn amlwg iawn.

Mae crewyr OnlyFans wedi lansio platfform ffrydio fideo (OFTV) gyda chynnwys gwreiddiol gan grewyr OnlyFans. Bydd y platfform yn cynnwys fideos byr a hir, gan gynnwys sioeau newydd gan bersonoliaethau teledu realiti, y gall defnyddwyr danysgrifio iddyn nhw. Er ei fod wedi’i frandio fel platfform ‘safe-for-work’ streaming platform, argymhellir eich bod yn gwirio cynnwys y sioeau OFTV y gallai’ch plentyn eu cyrchu ar y platfform er mwyn sicrhau eu bod yn addas.