Grand Theft Auto
Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Grand Theft Auto', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
- Rhan o
Gêm boblogaidd wedi'i chynhyrchu gan Rockstar yw Grand Theft Auto (GTA). Does dim modd chwarae pob gêm Grand Theft Auto ar ffôn symudol drwy'r ap, ond mae sawl fersiwn y gellir ei chwarae felly.
Mae'r canllaw hwn yn trafod gemau Grand Theft Auto y gellir eu chwarae ar yr ap, ond mae rhai adrannau’n berthnasol hefyd i fasnachfraint Grand Theft Auto yn fwy cyffredinol.
Mae Grand Theft Auto yn blatfform gemau byd agored lle mae pobl yn chwarae gyda nod a rôl penodol o fewn naratif y gêm. Mae chwaraewyr yn rheoli cymeriadau sy'n cwblhau cyrchoedd er mwyn i symud ymlaen drwy'r gêm. Mae'r gêm yn realistig, soffistigedig ac yn debyg i ffilm o ran ansawdd. Mae'r gêm wedi'i chynllunio fel bod chwaraewyr yn ymgolli'n llwyr yn y cymeriad ac yn gallu sgwrsio'n fyw a darlledu eu llais i chwaraewyr eraill.
Ers mis Rhagfyr 2023, mae GTA Trilogy ar gael i danysgrifwyr Netflix sy’n gallu ei lawrlwytho trwy gyfrif Netflix i ddyfeisiau Android ac iOS. Mae GTA wedi’i lawrlwytho dros 18 miliwn o weithiau ers hynny.
Sgôr oedran swyddogol
Gêm PEGI 18 yw hon.
Mae sgôr PEGI 18 yn adlewyrchu'r weithred o ladd (yn aml heb unrhyw gymhelliad) cymeriadau diamddiffyn eraill yn y gêm. Mae’n cyfeirio hefyd at y defnydd o gyffuriau a gweithgaredd rhywiol amlwg yn y gêm yn ogystal â'r defnydd o iaith anweddus.
Y sgôr oedran ar gemau ap Grand Theft Auto yw 17 + ar Google Play ac Apple App Store, sy'n awgrymu cynnwys aeddfed. Does dim dulliau gwirio oedran yn cael eu defnyddio wrth greu cyfrif er mwyn atal chwaraewyr iau rhag chwarae'r gêm.
To download via Netflix, players must be over 18 to create an account.
Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau.
Sut mae plant a phobl ifanc yn defnyddio'r ap
Mae Grand Theft Auto yn gêm gymhleth sy’n cwmpasu’r chwaraewr. Gall chwaraewyr chwarae gyda ffrindiau a chymryd rhan lawn yn y gêm o safbwynt person cyntaf a'r stori gyfareddol. Mae'n cynnwys themâu aeddfed gyda golygfeydd rhywiol, cyffuriau a throseddu. Y nod yw bod pob chwaraewr yn cwblhau teithiau i gyrraedd cam nesaf y gêm a'i straeon. Hefyd, gall chwaraewyr lywio drwy'r byd agored drwy yrru ceir ac addasu cymeriadau. Mae rhai sefyllfaoedd yn llawn tensiwn a gwrthdaro neu’n ddramatig ac yn caniatáu i chwaraewyr chwarae rôl fel rhywun sy'n torri'r gyfraith.
Nodweddion a therminoleg allweddol
-
Mae hyn yn cyfeirio at Grand Theft Auto.
-
Mae'r modd hwn yn caniatáu i chi chwarae gyda phobl eraill. Gall hyn naill ai fod gyda ffrindiau dethol neu chwaraewyr eraill nad ydych chi'n eu hadnabod o reidrwydd.
-
Mae'r swyddogaeth sgwrsio’n caniatáu i chwaraewyr gyfathrebu â'i gilydd wrth chwarae'r gêm.
-
Mae'n bosib i chwaraewyr ffrydio eu gêm yn fyw gydag eraill yn ei gwylio mewn amser real.
-
Aelodaeth trwy danysgrifiad sydd ar gael i chwaraewyr sy’n talu’n fisol o gael cynnwys egsliwsif a nodweddion chwarae bonws. DS – dim ond ar gael i chwaraewyr sy’n defnyddio dyfeisiau PlayStation 5 ac Xbox Series X|S.
-
Talaith ddychmygol sy’n seiliedig ar dde-orllewin UDA lle mae gosodiadau diweddaraf GTA wedi’u lleoli.
Risgiau posibl
Cynnwys
Mae chwaraewyr yn agored iawn i themâu rhywiol, golygfeydd o drais gan gynnwys lladd, rhegi, cyffuriau a throseddu yn gêm Grand Theft Auto. Mae straeon y gêm yn aeddfed iawn eu natur, gyda chyfeiriadau at alcohol, cyffuriau a golygfeydd mewn lleoliadau oedolion yn unig. Mae'r sgôr oedran i oedolion yn adlewyrchu'r cynnwys mae chwaraewyr yn debygol o ddod ar ei draws, felly nid ydym yn argymell gadael i'ch plentyn chwarae'r gêm hon.
'Story mode' yw'r modd un chwaraewr sy'n cynnwys cwblhau cyrchoedd a chamu ymlaen drwy'r gêm, ond mae'n bosib i chwaraewyr chwarae Grand Theft Auto y tu allan i'r modd stori ym myd agored Grand Theft Auto - er enghraifft rasio'r ceir ac archwilio'r byd sydd wedi'i greu.
Cysylltu ag eraill
Mae Grand Theft Auto wedi'i chynllunio fel gêm aml-chwaraewr gyda ffrindiau neu ddieithriaid ar-lein. Mae'n gêm i oedolion ac yn golygu bod chwaraewyr yn dod ar draws oedolion eraill ar hap drwy’r gêm. Mae hyn yn cyflwyno risgiau anhysbys o ran iaith a dylanwad drwg, bwlio a chamfanteisio. Fodd bynnag, mae chwaraewyr Grand Theft Auto yn gallu diwygio eu gosodiadau er mwyn cyfyngu'r cysylltiadau i rai ar eu rhestr ffrindiau dynodedig yn unig. Os ydych chi'n dewis caniatáu i'ch plentyn chwarae, argymhellir ei fod yn chwarae gyda ffrindiau hysbys yn unig.
Parents should also be aware that some players use third party chatting apps like Discord to chat whilst gaming. Check in with your child to see if they are chatting with others whilst playing and remind them of the risks of chatting with strangers.
Dyluniad, data a chostau
Mae'n hawdd ymgolli'n llwyr yn Grand Theft Auto, a gall arwain at gyfnod hir o chwarae ac emosiynau cryf hefyd. Mae diweddariadau wythnosol, digwyddiadau arbennig rheolaidd a heriau a theithiau newydd yn golygu bod chwaraewyr yn cael eu hannog i ddychwelyd at y gêm dro ar ôl tro. Mae cymell chwaraewyr i gamu i ffwrdd oddi wrth gemau o'r math yma’n gallu bod yn her gan fod defnyddwyr yn mwynhau statws ac elfen gymdeithasol y gêm. Os ydych chi'n caniatáu i'ch plentyn chwarae Grand Theft Auto, argymhellir ei fod yn defnyddio rowndiau gemau er mwyn cydbwyso amseroedd chwarae gydag amseroedd pan all gymryd seibiant.
Fel gyda llawer o gemau sy'n cael eu chwarae trwy ap, mae'n dibynnu ar brynu eitemau yn y gêm i greu refeniw ychwanegol. Mae elfen gref o bwysau cymdeithasol i brynu pethau wrth chwarae gyda ffrindiau. Dylai chwaraewyr fod yn ymwybodol o brynu eitemau mewn ap a sicrhau eu bod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu yn y gêm. Gallwch hefyd sefydlu gosodiadau perthnasol ar gyfer prynu mewn ap ar y ddyfais.
Hefyd, rhaid i rieni gofio bod Netflix wedi gweld cynnydd enfawr mewn tanysgrifiad gan fod chwaraewyr yn dewis cofrestru dim ond er mwyn chwarae'r gemau sydd ar gael i rai â chyfrif. Er nad oes unrhyw opsiynau prynu mewn ap ar gyfer gemau sy'n cael eu lawrlwytho trwy Netflix, dylai rhieni gofio bod angen talu am Netflix trwy danysgrifiad misol.
Awgrymiadau ar gyfer cadw’ch plentyn yn ddiogel
-
Gan fod gan y gêm sgôr oedran oedolion, prin yw'r rheolaethau a'r gosodiadau sydd ar gael i rieni a gofalwyr. Yn hytrach, bydd angen i chi edrych ar osodiadau'r ddyfais symudol unigol i roi rheolaethau ar waith.
I osod 'Private' ar iOS:
- ewch i'r 'Game Centre' yn ardal gosodiadau eich dyfais
- sgroliwch 'lawr i ‘Privacy and settings’ a newid eich ‘Profile privacy’ i ‘Only you’
I osod 'Private' ar Android:
- ewch i'r ap 'Play Games', cyffwrdd yr eicon dewislen a chlicio ar 'Settings’
- dewiswch ‘Game profile’ > ‘Play now’ > ‘Your game profile’
- addaswch eich gosodiadau gwelededd a hysbysiadau i'r opsiynau mwyaf preifat
-
Er mwyn osgoi chwarae gyda dieithriaid, gallwch newid y gosodiadau i sicrhau eu bod yn chwarae gyda'ch rhestr ffrindiau cymeradwy yn unig. Pan fydd chwaraewyr yn mewngofnodi i'r gêm, y gosodiad gwelededd diofyn yw 'everyone', sy'n golygu bod eu proffil i'w weld yn gyhoeddus. Gallwch newid hyn drwy newid y gosodiad i 'Only me'.
-
Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr eraill sy'n eu poeni neu sy'n ymddwyn yn amhriodol. Gan fod modd chwarae Grand Theft Auto ar bob math o ddyfeisiau gwahanol, mae'r dulliau o gwyno a blocio’n amrywio o ddyfais i ddyfais. Am arweiniad penodol ar gwyno a blocio, darllenwch ganllaw Rockstar Games ar reoli a chwyno am chwaraewyr sarhaus.
-
Er y gellir chwarae rhai fersiynau o Grand Theft Auto yn ddi-dâl, mae modd prynu eitemau yn y gêm. Gallwch analluogi'r opsiwn i brynu eitemau mewn apiau ar bob dyfais unigol.
I analluogi'r opsiwn prynu mewn apiau ar iOS:
- ewch i ‘Settings’ > ‘Screen time’ a sgrolio i lawr i ‘Content and privacy restrictions’
- dewiswch 'iTunes and app store purchases' a dewis yr opsiwn 'Don't allow'
I analluogi prynu eitemau mewn ap ar Android:
- ewch i'ch ap 'Google Play Store'
- dewiswch ‘Menu’ > ‘Settings’ > ‘Require authentication for purchases’
-
Dim ond i ddileu cyfrif Social Club ar ddyfais bersonol, fel cyfrifiadur, y mae’r camau canlynol yn berthnasol. Dylai defnyddwyr sy’n chwarae Grand Theft Auto Online ar naill ai PlayStation neu Xbox ddilyn camllawiau Sony neu Microsoft ar ddileu proffilau o’u consolau gemau.
I ddileu cyfrif GTA:
- anfonwch docyn cymorth i ofyn am ddileu cyfrif ‘Social Club’
- dylai defnyddwyr gofio bod y broses hon yn cymryd 30 diwrnod, ac nac oes modd dadwneud hynny wedyn
- hefyd, gall defnyddwyr ailbrynu unrhyw gemau fideo neu lawrlwythiadau a brynwyd trwy’u cyfrif Social Club
Cyngor cyffredinol
Mae Grand Theft Auto yn addas i ddefnyddwyr 18 oed a throsodd yn unig.
Opsiynau diogelwch cyfyngedig sydd ar Grand Theft Auto ond mae opsiynau i sicrhau eich bod yn chwarae gyda phobl rydych chi'n eu hadnabod yn unig, yn hytrach na dieithriaid.
Gall Grand Theft Auto fod yn apelgar iawn i ddefnyddwyr. Os ydych chi'n dewis caniatáu i'ch plentyn chwarae, lle bo modd, anogwch ef/hi i gymryd seibiannau er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau all-lein amgen.