English

Mae EA Sports FC Mobile (FIFA Mobile gynt) yn gêm bêl-droed gystadleuol ar-lein am ddim lle gall defnyddwyr greu eu timau pêl-droed proffesiynol eu hunain sy'n cynnwys eu hoff chwaraewyr pêl-droed. Er bod y fersiwn y telir amdani o'r gêm FIFA 23 ar gael ar ystod o ddyfeisiau hapchwarae, megis Xbox a PlayStation, a'r ap EA Sports FC app for Windows ar gyfer Windows, bydd y canllaw ap hwn yn canolbwyntio ar yr ap EA Sports FC Mobile app.

Yn yr ap, gall chwaraewyr greu a rheoli eu tîm pêl-droed ffantasi eu hunain, sy'n cynnwys eu hoff chwaraewyr pêl-droed. Drwy chwarae ac ennill gemau a thwrnameintiau, gall tîm defnyddiwr gael gafael ar chwaraewyr gwell a datblygu mewn cynghrair. Gall chwaraewyr gystadlu mewn moddau 'chwaraewr yn erbyn chwaraewr', lle gallan nhw chwarae gyda chwaraewyr eraill ar y platfform, yn ogystal â 'Manager mode', lle gall defnyddwyr ddewis tactegau strategol ar gyfer eu tîm i wneud cynnydd yn y gêm. Mae EA Sports FC Mobile ar gael i'w lawrlwytho ar ddyfeisiau Android ac iOS.

Mae'r Apple App Store yn rhoi sgôr o 4+ i EA Sports FC Mobile tra bod Google Play yn rhoi sgôr 'Everyone' i'r gêm. Nid oes gan yr ap unrhyw ddulliau gwirio oedran trylwyr.

Mae ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau yn cynnwys rhagor o fanylion am hyn.

Mae EA Sports FC Mobile yn gêm symudol boblogaidd, yn enwedig gyda chefnogwyr pêl-droed ifanc a'r rhai sydd eisoes yn mwynhau chwarae'r fersiynau am dâl o'r gêm. Mae'r ap yn rhoi cyfle i chwaraewyr archwilio creu eu timau delfrydol eu hunain sy'n cynnwys eu hoff chwaraewyr, yn ogystal â chwarae gêm o bêl-droed ar-lein. Mae'r 'Manager mode' yn rhoi cyfle i chwaraewyr wneud penderfyniadau ynghylch tactegau hefyd i ennill twrnameintiau a chwarae pêl-droed ar-lein o safbwynt gwahanol. Mae cystadleurwydd y gêm yn apelio at bobl ifanc, gan mai mwya'n byd o gemau a thwrnameintiau maen nhw'n eu hennill, y mwyaf tebygol ydyn nhw o gasglu chwaraewyr gwell ac uwchraddio eu tîm mewn cynghrair.

Mae gan EA Sports FC Mobile sgôr oedran isel, sy'n adlewyrchu'r ffaith y dylai'r gêm hon fod yn addas ar gyfer chwaraewyr o bob oedran. Mae cynnwys y gêm wedi'i gynllunio i geisio adlewyrchu gemau pêl-droed go iawn, gyda delweddau chwarae, sylwebaeth, siantiau a galwadau chwaraewyr yn dynwared yr hyn y byddech chi'n ei ddisgwyl wrth wylio gêm bêl-droed fyw. Er nad yw eich plentyn yn debygol o ddod ar draws cynnwys niweidiol yn y gêm ei hun, gall ddod ar draws cynnwys amhriodol ar ffurf iaith anweddus yn y swyddogaeth sgwrsio yn y gêm. Fodd bynnag, nid yw'r swyddogaeth 'League chat' ar gael yn awtomatig i bob chwaraewr; yn hytrach, mae'n cael ei galluogi wrth gyrraedd lefelau uwch. Pan fydd eich plentyn yn gallu cael mynediad at y swyddogaeth sgwrsio, siaradwch ag ef am y risgiau sy'n gysylltiedig â sgwrsio mewn gemau, yn enwedig mewn gemau cystadleuol fel EA Sports FC Mobile . Gofalwch fod eich plentyn yn gwybod y dylai siarad â chi os bydd yn dod ar draws unrhyw beth amhriodol yn y swyddogaeth sgwrsio, ac i ddefnyddio'r swyddogaethau tawelu, cwyno a blocio os oes angen. I gael gwybodaeth am sut i wneud hyn, ewch i'r adran 'Riportio a blocio' yn y canllaw hwn. Drwy gyfyngu ar bwy y gall eich plentyn gael mynediad ato ar y platfform, fel ffurfio cynghrair gyda ffrindiau y mae'n eu hadnabod, mae eich plentyn yn llai tebygol o brofi iaith neu ymddygiad nad yw'n addas ar gyfer ei oedran. Fodd bynnag, dylid cydnabod y gallai eich plentyn fod yn agored i gynnwys amhriodol o hyd gan ei gysylltiadau hysbys.  

Un o nodweddion apelgar EA Sports FC Mobile yw'r gallu i chwarae pêl-droed cystadleuol yn erbyn chwaraewyr eraill. Mae gemau aml-chwaraewr yn bosib yn y gêm drwy foddau 'VS Attack' neu 'Head-to-head', lle gall defnyddwyr chwarae yn erbyn eu ffrindiau neu chwaraewyr eraill ar y platfform. Argymhellir bod defnyddwyr iau’n chwarae yn erbyn ffrindiau maen nhw'n eu hadnabod, drwy eu hychwanegu fel 'Friends' ar eu cyfrif. Mae opsiwn hefyd i gysylltu cyfrifon gyda chyfrif Facebook defnyddiwr, gan eu galluogi i chwarae gyda ffrindiau Facebook. Mae cyfarwyddiadau llawn ar sut i wneud hyn yn adran 'Rheoli rhyngweithio a chynnwys' y canllaw hwn.

I ddefnyddwyr sy'n hoffi chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr sy’n cael eu paru gyda nhw, mae'n werth gwybod y gall ceisiadau ffrind gael eu hanfon at wrthwynebwyr nad ydyn nhw'n eu hadnabod yn y 'post-match summary screen'. Unwaith mae chwaraewyr yn 'Friends' yn y gêm, gallan nhw drefnu i chwarae yn erbyn ei gilydd ac ymuno â chynghreiriau gyda'i gilydd, lle mae swyddogaeth sgwrsio testun amser real. Gall diddordeb cyffredin yn y gêm ei gwneud hi'n hawdd i ddieithriaid feithrin cysylltiad â'i gilydd, yn enwedig pan mae'n ymwneud â rhywbeth mae chwaraewyr yn teimlo’n angerddol amdano fel hoff dimau a chwaraewyr pêl-droed. Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau o sgwrsio â dieithriaid ac esboniwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy gyda chwaraewyr eraill mewn sgyrsiau. Anogwch eich plentyn i ddweud wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol iddo neu os yw'n teimlo'n ofidus neu'n anghyfforddus oherwydd unrhyw beth sydd wedi'i rannu yn y sgwrs.

Mae'n werth nodi hefyd bod rhai chwaraewyr yn defnyddio apiau trydydd parti fel Discord i sgwrsio wrth chwarae. Gofynnwch i'ch plentyn a yw'n defnyddio unrhyw apiau ychwanegol wrth chwarae a gwiriwch gyda phwy y mae'n cyfathrebu. Efallai ei bod yn ddefnyddiol gwybod, er bod sgwrsio’n rhan apelgar o chwarae gemau, nad yw'n hanfodol i chwarae.

Mae gan EA Sports FC Mobile ei god ymddygiad ei hun, y mae'n rhaid i bob chwaraewr gadw ato er mwyn chwarae, fel rhan o EA Games. Gall chwaraewyr sy'n mynd yn groes i'r ymddygiad disgwyliedig gael eu tynnu oddi ar y platfform gan EA Games. Siaradwch â'ch plentyn am yr hyn sy'n ymddygiad priodol wrth chwarae gêm aml-chwaraewr a gofalwch ei fod yn gwybod sut i gwyno am dwyllo neu ymddygiad amhriodol. Dylai chwaraewyr iau sy'n defnyddio'r nodwedd sgwrsio fod yn ymwybodol hefyd o'r hyn sy'n briodol a'r hyn sydd ddim yn briodol iddyn nhw ei bostio mewn sgyrsiau. Trafodwch y gwahanol ffyrdd y gallan nhw amddiffyn eu hunain drwy chwarae gyda ffrindiau maen nhw'n eu hadnabod yn hytrach na chwaraewyr wedi'u paru. Gofalwch fod eich plentyn yn gwybod y gall fod yn anodd cadw perchnogaeth dros unrhyw gynnwys ar ôl iddo gael ei rannu ar-lein, gan y gall cynnwys gael ei gopïo a'i ail-bostio'n rhwydd heb yn wybod iddo, a gall fod yn anodd ei dynnu oddi ar y rhyngrwyd wedyn.

Fel llawer o gemau ar-lein eraill, mae EA Sports FC Mobile yn apelgar iawn ac yn llawn gwobrau ac opsiynau uwchraddio i annog chwarae estynedig. Mae dyluniad apelgar yr ap yn golygu bod chwaraewyr yn cael cynnig gwobrau a bonysau diddiwedd am chwarae gêm arall neu ddatblygu sgiliau tîm. I rai chwaraewyr, gall fod yn anodd cymryd seibiant o'r ap oherwydd y nodweddion dylunio apelgar hyn. Siaradwch â'ch plentyn am sut mae apiau a gemau wedi'u dylunio i ennyn diddordeb defnyddwyr. Mae rhai digwyddiadau yn gofyn am chwarae gemau dros gyfnodau hwy, sy'n golygu y gallai rhai chwaraewyr ei chael hi'n anodd cymryd seibiannau rheolaidd o'r ap. Mae'r chwarae’n canolbwyntio ar gemau, a gall timau gael eu cosbi am adael gêm yn gynnar. Argymhellir eich bod yn gosod ffiniau chwarae yn seiliedig ar nifer y gemau a chwaraeir yn hytrach nag amser penodedig, fel nad yw’ch plentyn yn gorfod rhoi’r gorau i chwarae yn ystod gêm.

Un o'r gwobrau niferus a’r pethau niferus i'w prynu sy'n cael eu cynnig ar yr ap yw 'Packs’. Yn y bôn, 'loot boxes' yw'r rhain sy'n golygu nad yw chwaraewyr yn gwybod beth sydd yn y pecyn nes iddynt ei agor. Er bod rhai pecynnau'n cael eu hennill wrth chwarae, gellir prynu eraill gan ddefnyddio 'Coins' neu arian go iawn. Y risg gyda 'loot boxes' yw eu bod yn gallu dod â chwaraewyr i gysylltiad â diwylliant gamblo ar-lein, lle mae chwaraewyr yn gwario heb wybod beth maen nhw'n mynd i'w gael. Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau sy'n gysylltiedig â gwario ar eitemau anhysbys a phrynu pethau mewn gemau yn fwy cyffredinol.

Un o nodweddion allweddol EA Sports FC Mobile yw ei fod yn trefnu ‘tîm delfrydol’ o hoff chwaraewyr y defnyddiwr. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod yna ddefnyddwyr EA Sports FC Mobile sy’n gwerthu eu cyfrifon a'u timau am arian go iawn, er bod hyn yn erbyn cod ymddygiad EA Games. Rydym yn awgrymu eich bod yn siarad â'ch plentyn os yw'n mynegi diddordeb mewn prynu cyfrif defnyddiwr neu werthu ei gyfrif ei hun. Yn benodol, dylech esbonio bod prynu cyfrif defnyddiwr nid yn unig yn ddrud iawn ac yn sgâm posibl, ond y gall naill ai prynu neu werthu cyfrifon arwain at waharddiad parhaol neu i gael ei gyfyngu o wasanaethau EA Games yn y dyfodol.

Yn ddiweddar, mae EA Sports wedi penderfynu rhannu gyda'u cysylltiad â FIFA ac ail-frandio fersiynau newydd o'r gêm o dan eu henw eu hunain, EA Sports FC. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol bod y fersiwn symudol o FIFA wedi’i ddiweddaru i ddod yn EA Sports FC Mobile, tra bod gemau FIFA eraill nad ydyn nhw’n symudol yn eu hanfod yn wahanol gemau yn gyfan gwbl. Mae hyn yn golygu bod defnyddwyr symudol yn gallu trosglwyddo pwyntiau, cynnydd, a phrynu rhwng fersiynau symudol o'r gêm, tra nad yw chwaraewyr sy'n defnyddio dyfeisiau PlayStation, Xbox a Nintendo.

Mae EA Sports FC Mobile yn cyhoeddi canllawiau rheolaidd i helpu chwaraewyr i ddeall a llywio'r platfform.