Clash of Clans
Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Clash of Clans', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
- Rhan o
Mae Clash of Clans yn gêm ymladd ddi-dâl ar ffurf cartwn sydd, ar gael ar ddyfeisiau symudol. Mae'r gêm wedi'i lleoli mewn byd ffantasi lle rydych chi'n adeiladu pentref ac yn sefydlu byddin o'r enw 'Clan'. Y nod yw adeiladu eich pentref, dylunio eich canolfan a'i hamddiffyn. Gyda'ch clan, gallwch frwydro â chlaniau eraill o bob cwr o'r byd i feddiannu eu pentrefi a hyd yn oed ymuno â chlan arall, a elwir yn 'Clan Wars’. Er bod y gêm ei hun yn ddi-dâl, fel gyda llawer o gemau eraill, mae'n dibynnu ar brynu eitemau yn y gêm i wella profiad y chwaraewr.
Sgôr oedran swyddogol
Mae hon yn gêm PEGI 7.
Mae sgôr PEGI 7 yn adlewyrchu'r ffaith bod Clash of Clans yn cynnwys trais ar ffurf cartwn a'r defnydd o arfau. Yn Apple App Store, mae gan y gêm sgôr o 9+ oherwydd ei lefel ysgafn o drais cartwn. Does dim dulliau gwirio oedran wrth greu cyfrif, felly gofalwch fod eich plentyn wedi cofnodi ei ddyddiad geni cywir er mwyn elwa ar rai o'r gosodiadau diogelwch.
Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau.
Sut mae plant a phobl ifanc yn defnyddio'r ap
Gêm strategaeth ar ffurf ffantasi yw Clash of Clans, lle mae'r chwaraewr yn arwain y blaen fel pennaeth y pentref, gyda chyfrifoldeb dros adeiladu ac amddiffyn y lle. Tra bod plant a phobl ifanc yn gallu mwynhau'r broses o ddylunio ac adeiladu pentrefi cywrain a chreu byddinoedd cryf, mae agwedd gymdeithasol y gêm yn apelio hefyd. Trwy ffurfio claniau gyda'u ffrindiau, gallant weithio gyda'i gilydd drwy gynllunio'n strategol a chyfrannu milwyr i ymosod ac amddiffyn yn erbyn chwaraewyr eraill o bob cwr o'r byd. Gall chwaraewyr ddefnyddio'r adnoddau a'r gwobrau maen nhw'n eu hennill drwy ymosod ar bentrefi eraill i adeiladu eu hamddiffynfeydd eu hunain ymhellach, uwchraddio eu hadeiladau a hyfforddi eu milwyr. Mae pentrefi'n datblygu trwy golledion ac enillion, gan olygu bod y gêm yn datblygu’n araf. O'r herwydd, mae bod yn rhan o glan buddugol yn rhoi hyd yn oed mwy o foddhad i lawer o chwaraewyr.
Nodweddion a therminoleg allweddol
Mae cyfoeth o dermau gemau cyfrifiadurol yn cael eu defnyddio yn Clash of Clans, ond mae'r rhan fwyaf yn cyfeirio at chwarae a strategaeth y gêm ei hun. Isod ceir ychydig o dermau ac ymadroddion defnyddiol.
Risgiau posibl
Cynnwys
Mae gan Clash of Clans sgôr PEGI 7, sy'n adlewyrchu'r ffaith bod y gêm hon yn addas i chwaraewyr iau, ac ni ddylai gynnwys delweddau a fyddai'n codi ofn ar blant ifanc. Os oes unrhyw drais, yna mae'n ysgafn iawn. Er nad yw'ch plentyn yn debygol o ddod ar draws cynnwys niweidiol yn y gêm ei hun, efallai y bydd chwaraewyr yn taro ar draws cynnwys amhriodol ar ffurf iaith anweddus yn y swyddogaeth sgwrsio Mae modd gosod hidlyddion yn 'Clan Chat' i gyfyngu ar y perygl o ddod i gysylltiad ag iaith anaddas. Er bod hidlyddion sgwrsio’n un ffordd o sicrhau nad yw'ch plentyn yn dod ar draws cynnwys niweidiol ar y platfform, argymhellir mai dim ond gyda ffrindiau hysbys y dylai eich plentyn chwarae er mwyn helpu i leihau'r risg hon ymhellach. Dylai chwaraewyr o dan 16 oed chwarae mewn ‘Family Clans’ yn unig yn hytrach na ‘Standard Clans’, gan fod hidlyddion sgwrs yn fwy llym yn y fformat hwn. Trwy greu 'clan' gyda ffrindiau, mae'ch plentyn yn llai tebygol o ddod ar draws iaith neu ymddygiad anaddas i'w oedran. Fodd bynnag, dylid cydnabod y gallai'ch plentyn fod yn agored i gynnwys amhriodol o hyd drwy ei gysylltiadau hysbys.
Cysylltu ag eraill
Fel gydag unrhyw gêm aml-chwaraewr arall, mae'n bosib y bydd eich plentyn yn dod i gysylltiad â dieithriaid wrth chwarae Clash of Clans. Argymhellir bod plant a phobl ifanc yn ffurfio 'Clan' gyda ffrindiau hysbys a dim ond chwarae gyda phobl maen nhw'n eu hadnabod yn y byd all-lein. Os yw'ch plentyn mewn clan gyda phobl nad yw'n eu hadnabod yn y byd all-lein, siaradwch â'ch plentyn am y peryglon o sgwrsio gyda dieithriaid ac egluro pwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy gyda chwaraewyr eraill mewn sgyrsiau. Cofiwch eu hannog i ddweud wrthych os yw rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol, neu os ydyn nhw'n teimlo'n ofidus neu'n anghyfforddus oherwydd unrhyw beth sy'n cael ei rannu yn y sgwrs.
Hefyd, mae'n werth nodi bod rhai chwaraewyr yn defnyddio apiau sgwrsio trydydd parti fel Discord i sgwrsio wrth chwarae gemau. Gofynnwch i'ch plentyn os yw'n defnyddio unrhyw apiau sgwrsio ychwanegol wrth chwarae, a chofiwch wirio â phwy mae'n cyfathrebu ar-lein. Er bod sgwrsio'n rhan apelgar o chwarae gemau cyfrifiadurol, nid yw'n hanfodol i chwarae.
Ymddygiad defnyddwyr
Mae gan Clash of Clans ei set ei hun o safonau cymunedol, y mae'n rhaid i bob chwaraewr gadw atyn nhw er mwyn chwarae. Mae chwaraewyr sy'n gwyro oddi ar wrth yr ymddygiad disgwyliedig mewn perygl o gael eu tynnu o’r gêm gan y datblygwr, Supercell. Siaradwch â'ch plentyn am beth yw ymddygiad priodol wrth chwarae gêm aml-chwaraewr a sicrhau ei fod yn gwybod sut i gwyno am unrhyw ymddygiad amhriodol neu sarhaus. Dylai chwaraewyr iau sy'n defnyddio'r nodwedd 'Text chat' fod yn ymwybodol hefyd o'r hyn sy’n addas ac yn anaddas i'w bostio mewn sgyrsiau, a thrafod y dulliau gwahanol o ddiogelu eu hunain drwy chwarae gyda phobl maen nhw’n eu hadnabod yn hytrach na dieithriaid. Gwnewch yn siwr fod eich plentyn yn gwybod ei bod hi'n anodd cadw meddiant ar unrhyw gynnwys unwaith y bydd wedi'i rannu ar-lein, gan ei bod hi'n hawdd i rywun arall ei gopïo a'i ailbostio heb yn wybod iddo, ac y gall fod yn anodd ei dynnu oddi ar y we wedyn.
Dyluniad, data a chostau
Gan y gellir lawrlwytho’r gêm am ddim, mae'n dibynnu ar brynu eitemau yn y gêm i greu refeniw. Pan fydd chwaraewyr yn lawrlwytho'r gêm ar ddyfeisiau iOS, mae neges yn ymddangos sy'n awgrymu y gall defnyddwyr gyflymu cynnydd trwy brynu eitemau yn y gêm. Siaradwch â'ch plentyn ynghylch prynu eitemau mewn gemau, i wneud yn siwr ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu'r rhain. Gallwch bennu'r gosodiadau prynu perthnasol yn y gêm trwy'r rheolaethau rhieni hefyd a gwirio nad yw'r gêm wedi'i chysylltu â'ch cardiau banc na manylion ariannol.
Fel llawer o gemau aml-chwaraewr eraill, mae'n hawdd ymgolli'n llwyr yn Clash of Clans gan arwain at gyfnodau estynedig o chwarae. Siaradwch â'ch plentyn am sut mae gemau wedi'u cynllunio i gadw defnyddwyr yn chwarae, ac ewch ati i osod terfynau amser chwarae i sicrhau ei fod yn cael seibiant addas o'r sgrin.
Awgrymiadau ar gyfer cadw’ch plentyn yn ddiogel
Cyngor cyffredinol
Mae Clash Royale yn gêm arall sy’n debyg i Clash of Clans, wedi’i chreu gan yr un datblygwr gemau, Supercell. Maen nhw wedi ychwanegu tri theitl newydd i fasnachfraint Clash – Clash Quest, Clash Mini a Clash Heroes. Mae'n werth archwilio pob un o'r gemau eraill hyn i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer eich plentyn.
Cofiwch wirio'r gosodiadau ar bob dyfais mae'ch plentyn yn ei ddefnyddio i chwarae'r gêm hon. Dylech allu gosod rhai rheolaethau a chyfyngiadau o'r swyddogaeth gosodiadau ar bob dyfais.
Mae gan Supercell ganllawiau penodol i rieni, sy'n cynnig cyngor a gwybodaeth am gadw plant yn ddiogel ar y platfform.