English

Sgwrsfot deallusrwydd artiffisial a luniwyd gan OpenAI yw ChatGPT, sy’n:

  • ateb cwestiynau
  • creu cynnwys
  • gallu rhyngweithio â defnyddwyr mewn ffordd sy’n debyg iawn i fod dynol

Nid oes gan ChatGPT ddeallusrwydd go iawn, mewn gwirionedd. Yn hytrach, gan ddefnyddio llawer iawn o destun o lyfrau a gwefannau y mae wedi’i hyfforddi â nhw, mae’n dod o hyd i batrymau ac yn creu testun sy’n cyd-fynd â’r patrwm hwn. Oherwydd hyn, gall ymateb i geisiadau defnyddwyr mewn ffordd ddefnyddiol a gwybodus. Fodd bynnag, gall wneud camgymeriadau a rhannu camwybodaeth.

Gall unrhyw blentyn neu unigolyn ifanc sydd â phorwr gwe ddefnyddio ChatGPT. Nid oes angen cyfrif ar ddefnyddwyr i fynd at ChatGPT.

Mae fersiynau o ChatGPT y gellir talu amdanyn nhw, o’r enw ChatGPT Plus neu ChatGPT Pro, sy’n eich galluogi i fanteisio ar y modelau mwyaf datblygedig a’r cyfle i brofi nodweddion newydd.

I greu cyfrif, rhaid i ddefnyddwyr fod yn 13 oed neu’n hŷn. Rhaid i’r rhai dan 18 oed gael caniatâd gan riant. Fodd bynnag, nid yw oedran yn cael ei wirio wrth greu cyfrif.

Archived Chat

Sgyrsiau sydd wedi’u cuddio o’r bar ochr ond heb eu dileu. Mae hyn yn caniatáu i ChatGPT gadw ei atgofion o’r sgwrs a chyfeirio ati mewn ymatebion yn y dyfodol.

DALL-E

Model AI sy’n creu delweddau wedi’u seilio ar bromptiau testun. Mae’r model hwn wedi’i ymgorffori yn ChatGPT a gellir ei ddefnyddio am ddim.

GPT Store

Lle gall defnyddwyr bori drwy’r Trawsnewidyddion Cynhyrchiol Rhag-hyfforddedig (GPTs), sef cymwysiadau teilwredig sy’n cael eu creu gan ddefnyddio AI. Gall y rhain amrywio o gymhorthion ysgrifennu i brofion personoliaeth.

History

Cofnodion o sgyrsiau blaenorol sy’n cael eu cadw gan ChatGPT. Gall y sgwrsfot gyfeirio at wybodaeth o’r rhain yn ei ymatebion. 

Memory

Gall ChatGPT gofio manylion rhwng sgyrsiau, gan ei alluogi i roi ymatebion perthnasol sydd wedi’u personoli. 

Plugin

Offer ychwanegol sy’n gallu rhoi nodweddion ychwanegol i ChatGPT. Er enghraifft, gallan nhw alluogi ChatGPT i archebu tocynnau, siopa ar-lein a chyfrif calorïau.

Search

Gall ChatGPT chwilio’r rhyngrwyd, gan ei alluogi i ymgorffori gwybodaeth amser real yn ei ymatebion, yn hytrach na dibynnau ar yr wybodaeth a ddysgodd wrth gael ei hyfforddi. Mae’n cynnwys dolen i’r ffynhonnell, gan ganiatáu i ddefnyddwyr weld o ble mae’r wybodaeth yn dod. 

Temporary Chat

Sgwrs nad yw’n cael ei chadw’n barhaol ac sy’n cael ei dileu ar ôl i’r sesiwn ddod i ben. Nid yw data’n cael ei chasglu o sgyrsiau dros dro.

Voice Assistant

Gall defnyddwyr ddefnyddio eu llais i roi prompt, yn hytrach na’i deipio. Mae hwn ar gael ar gyfer cynlluniau y telir amdanynt yn unig. 

Chatbot

Talfyriad am ‘chat robot’. Math o AI sy’n ymateb i gwestiynau gan ddefnyddio cyfleuster sgwrsio.

Hallucination

Pan fydd AI yn ffugio gwybodaeth nad yw’n wir yn anfwriadol ond yn ei chyflwyno fel ffaith.

Prompt

Promptiau yw’r cwestiynau y mae defnyddwyr yn eu gofyn i ChatGPT.

Dysgu ac addysg

Gall ChatGPT helpu pobl ifanc â’u haddysg a’u gwaith ysgol. Gall:

  • esbonio cysyniadau cymhleth mewn ffordd syml
  • eu holi i brofi eu gwybodaeth
  • eu helpu i gynllunio amserlenni astudio

Er y gall ChatGPT gefnogi dysgu unigolyn ifanc, ni ddylai ei ddefnyddio i wneud ei waith drosto. 

Creadigrwydd

Gall pobl ifanc ddefnyddio ChatGPT i feithrin eu creadigrwydd a dod o hyd i ysbrydoliaeth. Er enghraifft, gallan nhw ofyn am syniadau ar gyfer stori neu awgrymiadau artistig. Ar ben hynny, gellir ei ddefnyddio i chwarae gemau sy’n annog dychymyg, fel gemau chwarae rôl lle mae ChatGPT yn chwarae rhan meistr y gêm.

Cynhyrchedd

Pan gaiff ei ddefnyddio’n gywir, gall AI roi hwb i gynhyrchedd. Gall wneud ymchwilio, datrys problemau a chreu syniadau yn haws.

Gall ChatGPT gyflymu tasgau bob dydd hefyd, fel creu amserlenni neu gyllidebau, neu ysgrifennu negeseuon a negeseuon e-bost.

Camwybodaeth

Weithiau, bydd ChatGPT yn cyflwyno gwybodaeth ffug yn hyderus fel ffaith. Os daw eich plentyn ar draws y gamwybodaeth hon, gallai ei ddrysu ac efallai y bydd eich plentyn yn defnyddio’r wybodaeth ffug hon., Gall hyn niweidio ei waith ysgol a’i wybodaeth am bynciau.

Gall y camau gweithredu hyn leihau effaith camwybodaeth.

Gwirio gwybodaeth

Anogwch eich plentyn i wirio unrhyw wybodaeth y mae’n ei chael gan ChatGPT. Gallai wneud hyn drwy wirio ymateb y sgwrsfot gan ddefnyddio ffynonellau dibynadwy fel gwefannau addysgol, gwefannau newyddion credadwy neu wefannau gwirio ffeithiau fel Full Fact (Saesneg yn unig).

Datblygu sgiliau meddwl beirniadol

Bydd helpu eich plentyn i ddatblygu eu sgiliau meddwl beirniadol a llythrennedd yn y cyfryngau yn gwella eu gallu i adnabod camwybodaeth. Dylech ei addysgu i aros a chwestiynu unrhyw wybodaeth y mae’n ei gweld a dadansoddi’r wybodaeth hon, yn hytrach na’i derbyn ar ei golwg. 

Cynnwys a defnydd

Cynnwys amhriodol

Mae gan ChatGPT reiliau gwarchod ar waith, sef offer diogelu a chymedroli cynnwys gosodedig sydd â’r bwriad o atal y sgwrsfot rhag ymateb â gwybodaeth niweidiol, ragfarnllyd, beryglus neu amhriodol. Fodd bynnag, nid yw’r rheiliau gwarchod hyn yn berffaith a gall cynnwys amhriodol lithro drwodd i ymatebion y sgwrsfot. 

Defnydd amhriodol

Os bydd eich plentyn yn defnyddio’r sgwrsfot yn y ffordd anghywir, gall ei niweidio. Er enghraifft, os bydd eich plentyn yn defnyddio ChatGPT i wneud ei waith ysgol drosto, ni fydd yn dysgu unrhyw beth ac mae’n debygol y bydd yn cael ei ddal yn llên-ladrata.

Gall ChatGPT effeithio ar les plentyn os bydd yn defnyddio’r sgwrsfot i chwilio am gyngor ar ei iechyd meddwl, sef rhywbeth nad yw AI wedi cael ei hyfforddi i ymdrin ag ef. Gallai hyn arwain at or-rannu, oherwydd pan fydd y plentyn yn ymddiried yn ChatGPT, efallai y bydd yn rhannu gwybodaeth bersonol a fydd wedyn yn cael ei chasglu gan OpenAI.

Camau i helpu’ch plentyn i ddefnyddio ChatGPT yn ddiogel a lleihau’r risg y bydd yn cynhyrchu cynnwys amhriodol

Gosod rheolaethau rhieni

Gan ddefnyddio rheolaethau rhieni ChatGPT, gallwch leihau cynnwys sensitif, gan ddiogelu’ch plentyn ymhellach rhag cynnwys anweddus. Bydd hefyd yn eich rhybuddio am unrhyw bryderon diogelwch yn sgyrsiau eich plentyn, gan eich galluogi i ymyrryd os bydd yn holi am bynciau amhriodol.

Gofyn cwestiynau diogel yn unig

Mae ChatGPT yn ap sy’n cael ei lywio gan y defnyddiwr ac mae’r sgwrsfot yn rhannu gwybodaeth a chynnwys sy’n ymateb i fewnbwn y defnyddiwr yn unig. Oherwydd hyn, mae gan y defnyddiwr lawer o ddylanwad ar y math o gynnwys sydd yn yr ymateb y mae’n ei gael. Anogwch eich plentyn i ofyn cwestiynau addysgol, diogel yn unig ac i beidio â gofyn cwestiynau am bynciau treisgar neu rywiol.

Goruchwylio’r defnydd o AI

Pan fydd eich plentyn yn dechrau defnyddio ChatGPT am y tro cyntaf, ceisiwch ei ddefnyddio ochr yn ochr ag ef. Bydd gwneud hynny yn rhoi dealltwriaeth i chi o’r math o gwestiynau y mae’n ei ofyn i’r AI ac yn caniatáu i chi weld a oes ganddo y sgiliau meddwl beirniadol sydd eu hangen i ddefnyddio’r AI yn ddiogel.

Defnyddio’r offeryn riportio

Dangoswch i’ch plentyn sut i ddefnyddio’r nodwedd riportio ar ChatGPT. Gellir mynd ato yn y porwr trwy ddewis y 3 smotyn yng nghornel uchaf y sgrin. Bydd defnyddio’r offeryn hwn yn ei gwneud hi’n llai tebygol y bydd ChatGPT yn rhannu cynnwys amhriodol yn y dyfodol, gan sicrhau bod y gwasanaeth yn fwy diogel i bawb.

Trafod gor-rannu

Trafodwch yr hyn y gall eich plentyn ei rannu a pheidio â’i rannu ar-lein i’w helpu i osgoi rhoi gwybodaeth bersonol sensitif. Esboniwch na ddylai rannu ei gyfeiriad, enw ei ysgol nac unrhyw wybodaeth arall i ChatGPT y gellir ei defnyddio i’w adnabod a chynyddu’r risg y bydd ei hunaniaeth neu ei ddata yn cael eu dwyn.

Cytuno ar derfynau

Cytunwch ar derfynau gyda’ch plentyn ynghylch pryd a sut mae’n defnyddio ChatGPT. Esboniwch na ddylai ddefnyddio ChatGPT fel therapydd nac i gwblhau gwaith iddo. Yn lle hynny, dangoswch iddo sut y gallai ddefnyddio’r sgwrsfot fel offeryn ar gyfer dysgu a chreadigrwydd. Gall hyn helpu i atal gorddibyniaeth ar y sgwrsfot, hefyd.

Os yw’ch plentyn eisiau defnyddio ChatGPT, gall y gosodiadau canlynol wneud ei brofiad â’r sgwrsfot yn fwy diogel.

Gosod rheolaethau rhieni

Mae OpenAI wedi cyflwyno ystod o reolaethau rhieni ar gyfer ChatGPT sy’n eich galluogi i gysylltu eich cyfrif chi â chyfrif eich plentyn ac yna monitro a rheoli ei ddefnydd o ChatGPT. Gan ddefnyddio rheolaethau rhieni, gallwch leihau cynnwys sensitif, analluogi creu delweddau a gosod oriau tawel pan nad oes modd defnyddio ChatGPT.

Sefydlu rheolaethau rhieni

  • Crëwch neu fewngofnodwch i’ch cyfrif ChatGPT.
  • Ar yr hafan, dewiswch eich llun proffil.
  • O’r ddewislen, dewiswch ‘Settings’.
  • Yn ‘Settings’, dewiswch ‘Parental controls’.
  • Dewiswch ‘Add family member’.
  • Teipiwch gyfeiriad e-bost eich plentyn, yna dewiswch ‘My child’.
  • Dewiswch ‘Send’.
  • Pan fydd eich plentyn yn derbyn eich cais trwy ei e-bost, gallwch reoli ei gyfrif.

Addasu gosodiadau preifatrwydd

Mae OpenAI yn casglu data defnyddwyr a hanes sgwrsio yn awtomatig i hyfforddi’r deallusrwydd artiffisial a gwella perfformiad ChatGPT. I wella diogelwch data a phreifatrwydd, gall defnyddwyr ddewis i’w data beidio â chael eu casglu a dileu eu sgyrsiau.

Optio allan o ddata hyfforddi (ar y we)

  • Crëwch neu fewngofnodwch i’ch cyfrif ChatGPT.
  • Ar yr hafan, dewiswch eich llun proffil.
  • O’r ddewislen, dewiswch ‘Settings’.
  • Yn ‘Settings’, dewiswch ‘Data controls’.
  • Dewsiwch ‘Improve the model for everyone’.
  • Diffoddwch y togl wrth ochr ‘Improve the model for everyone’.

Optio allan o ddata hyfforddi (ar yr ap)

  • Dewiswch y 3 llinell lorweddol yng nghornel chwith uchaf y sgrin.
  • Tapiwch enw eich proffil ar waelod y ddewislen.
  • Dewiswch ‘Data Controls’.
  • Diffoddwch y togl wrth ochr ‘Improve the model for everyone’.

Clirio’r hanes sgwrsio (ar y we)

  • Dewiswch eich llun proffil.
  • Dewiswch ‘Settings’.
  • Dewiswch ‘Data controls’.
  • Ewch i ‘Delete all chats’ a dewiswch ‘Delete all’.
  • Dewiswch ‘Confirm deletion’.

Clirio’r hanes sgwrsio (ar yr ap)

  • Dewiswch y 3 llinell lorweddol yng nghornel chwith uchaf y sgrin.
  • Dewiswch enw eich proffil.
  • Tapiwch ‘Data controls’.
  • Dewiswch ‘Clear Chat History’.
  • Dewiswch ‘Clear Chat History’ eto.

Adolygu’r nodwedd riportio

Os bydd ChatGPT yn ymateb i brompt â chynnwys amhriodol neu gamarweiniol, mae’n bwysig bod y defnyddiwr yn riportio’r sgwrs. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n llai tebygol y bydd ChatGPT yn rhannu’r math hwn o gynnwys yn y dyfodol ac yn sicrhau bod y sgwrsfot yn fwy diogel i’ch plentyn a defnyddwyr eraill.

  • Y tu mewn i’r sgwrs, dewiswch y 3 smotyn yng nghornel dde uchaf y sgrin.
  • Dewiswch ‘Report’, wrth ochr eicon y faner.
  • Dewiswch y rheswm pam rydych yn riportio a dewiswch ‘Next’.
  • Dewiswch yr opsiwn sy’n gweddu orau i’ch rheswm dros riportio a dewiswch ‘Next’.
  • Os ydych yn dymuno, rhowch fwy o fanylion a dewiswch ‘Submit’.