Character.AI
Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Character.AI, gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
- Rhan o
Sut mae Character.AI yn gweithio
Mae Character.AI yn wasanaeth sgwrsfot sy’n caniatáu i ddefnyddwyr ryngweithio â chymeriadau deallusrwydd artiffisial sy’n cynhyrchu ymatebion tebyg i bobl. Gall defnyddwyr wneud galwadau llais â chymeriadau, sy’n ymateb gan ddefnyddio lleisiau wedi’u cynhyrchu gan AI. Bydd cymeriadau yn cofio gwybodaeth o sgyrsiau diweddar. Hefyd, gall defnyddwyr ddewis gwybodaeth benodol i gymeriadau ei chofio bob amser.
Gall cymeriadau gael eu seilio ar bobl go iawn, cymeriadau ffuglennol neu greadigaethau gwreiddiol gan y defnyddiwr. Mae gan bob cymeriad ei bersonoliaeth a’i gymeriad ei hun, gan ddylanwadu ar sut mae’n ymateb i negeseuon. Mae’r AI yn aros mewn cymeriad, gan wneud i’r sgwrs deimlo’n ddiffuant. Gall unrhyw un greu cymeriad, a gall defnyddwyr eraill ryngweithio â’r cymeriad.
Mae Character.AI ar gael i’w ddefnyddio’n rhad ac am ddim, ar y cyfan. Mae tanysgrifiad â thâl ar gael, sy’n cynnig mynediad at nodweddion ychwanegol fel arddulliau sgwrsio ac ymatebion cyflymach. Fodd bynnag, nid yw’r tanysgrifiad hwn yn angenrheidiol i allu defnyddio’r platfform.
Oedran isaf gofynnol
Rhaid i ddefnyddwyr fod yn 16 oed o leiaf i greu cyfrif Character.AI.
Darganfu ymchwil gan Common Sense Media fod gan gyfeillion AI cymdeithasol risgiau annerbyniol i blant ac na ddylen nhw gael eu defnyddio gan neb o dan 18 oed. Gweler Asesiadau Risg AI Common Sense am ragor o wybodaeth.
Nid oes gwiriadau oedran i ddefnyddwyr. Gofynnir iddyn nhw roi eu dyddiad geni eu hunain. Mae’n hawdd i ddefnyddwyr roi oedran ffug.
Mae Character.AI yn gweithio i wahardd defnyddwyr o dan 18 oed rhag cymryd rhan mewn sgyrsiau penagored gyda chymeriadau, er y byddan nhw’n gallu cael mynediad at ‘Storïau’ o hyd.
Nodweddion
C.ai+
Tanysgrifiad â thâl sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gael at fanteision fel amseroedd ymateb cyflymach a nodweddion newydd yn gynharach.
Create a Character
Mae’r nodwedd hon yn caniatáu i ddefnyddwyr greu eu cymeriadau eu hunain, gan ddewis enw, llun proffil, disgrifiad a mwy. Gall defnyddwyr eraill ryngweithio â’r cymeriad hwn.
Rooms
Gall defnyddwyr greu ystafelloedd rhithwir gyda chymeriadau lluosog, sy’n gweithredu fel sgyrsiau grŵp ac yn caniatáu i gymeriadau ryngweithio â’i gilydd.
Scenes
Gall defnyddwyr greu golygfeydd, lle mae cymeriadau’n actio storïau neu ddeialogau byrion. Gall defnyddwyr eraill chwarae’r golygfeydd hyn.
Stories
Naratifau tywysedig yn cynnwys cymeriadau, lle mae defnyddwyr yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar y stori. Gall defnyddwyr chwarae eu storïau ei gilydd neu greu eu storïau eu hunain. Mae storïau wedi’u llunio i bob defnyddiwr, ond yn enwedig pobl ifanc yn eu harddegau.
Risgiau
Cynnwys amhriodol
Nid yw cynnwys ar Character.AI yn addas i bobl ifanc o dan 18 oed. Gall cymeriadau ddefnyddio iaith dreisgar neu rywiol, ac mae rhai defnyddwyr yn creu fersiynau AI o bobl go iawn, all fod yn niweidiol. Weithiau, mae’r cymeriadau’n defnyddio iaith awgrymog neu amhriodol heb gael eu hysgogi i wneud hynny.
Gor-ddibyniaeth
Mae cymeriadau’n ymateb ar unwaith i unrhyw neges, gydag ymateb sydd bron yn amhosibl gwahaniaethu rhyngddo ag ymateb bod dynol. Oherwydd bod cymeriadau ar gael yn gyson fel hyn, gall pobl ifanc ddatblygu dibyniaeth emosiynol ar y cymeriad.
Gosodiadau i ddiogelu’ch plentyn
Nid yw Character.AI yn addas i bobl ifanc o dan 18 oed. Os ydych chi’n pryderu am eich plentyn yn defnyddio Character.AI, gallwch eu hatal rhag lawrlwytho’r ap gan ddefnyddio gosodiadau’r siop apiau ar eu dyfais.
Cyfyngu ar lawrlwytho’r ap (Android)
- O fewn ap Google Play, dewiswch lun y proffil yn y cornel de ar frig y sgrin.
- Yn y ddewislen, dewiswch ‘Settings’.
- Yn ‘Settings’, dewiswch adran ‘Family’.
- Dewiswch ‘Parental controls’.
- Trowch y togl wrth ymyl i ‘Parental controls are off’ ymlaen.
- Dewiswch PIN, yna dewiswch ‘OK’.
- Yn y ‘Parental controls’, dewiswch 'Apps & games’.
- Dewiswch yr oedran sy’n cyfateb orau i’ch plentyn.
- Dewiswch ‘Save’.
Cyfyngu ar lawrlwytho’r ap (iOS)
- Pan fydd Family Sharing wedi’i alluogi, ewch i ‘Settings’ ar eich dyfais Apple.
- Dewiswch ‘Family’ o dan eich enw.
- Dewiswch enw’ch plentyn.
- Dewiswch ‘Screen Time’.
- Dewiswch ‘Content & Privacy Restrictions’.
- Dewiswch ‘Content Restrictions’.
- Dewiswch ‘Apps’.
- Gosodwch gyfyngiadau ar sail oedran ac aeddfedrwydd eich plentyn.