English

Gêm ymladd aml-chwaraewr yw Call of Duty: Mobile, y gellir ei chwarae ar ddyfeisiau iOS, Android yn ogystal â defnyddio porwr y we. Dyma'r fersiwn symudol ddiweddaraf o fasnachfraint Call of Duty, sydd â chasgliad o gemau Call of Duty eraill ar gael ar gonsolau gemau poblogaidd. Yn y fersiwn symudol hon, mae chwaraewyr yn cystadlu yn erbyn eraill ar-lein gan ddefnyddio arfau a thactegau milwrol realistig i gwblhau cyrchoedd. Mae modd chwarae gemau mewn timau trwy ddefnyddio modd 'Multiplayer' neu gall chwaraewyr gystadlu i fod yr olaf un buddugoliaethus yn 'Battle Royale’. Mae'n gêm gyflym, realistig ac yn cynnwys golygfeydd gwaedlyd a mathau eraill o drais graffig.

Mae hon yn gêm PEGI 18.

Mae gan Call of Duty: Mobile sgôr PEGI oedolion oherwydd lefel a natur y trais yn y gêm. Yn aml gall y gêm ofyn am ladd neu drais heb unrhyw gymhelliad tuag at gymeriadau diamddiffyn. Dyfernir y sgôr oedran hwn hefyd oherwydd trais mwy realistig ei olwg a'r defnydd o iaith anweddus.

Mae'r App Store a Google Play yn rhoi sgôr Mature 17 + i'r gêm hon, ond does dim dulliau gwirio oedran dilys.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau.

Mae Call of Duty: Mobile yn gêm gystadleuol llawn cyffro lle caiff chwaraewyr eu cludo i lefydd, amgylchiadau ac ar gyrchoedd gwahanol. I lwyddo yn y gêm, rhaid datblygu eich sgiliau saethu a meddwl strategol i gyrraedd y nod yn dactegol. Mae defnyddwyr yn chwarae gyda neu yn erbyn eu ffrindiau’n aml yn ogystal â dieithriaid. Yn ystod 'loadout', mae chwaraewyr yn gallu addasu eu cymeriadau, eu manteision (‘perks’) a'u harfau (gan gynnwys prif arf, arf eilaidd a grenadau). Mae'r gêm yn adrodd stori o safbwynt person cyntaf hefyd sy'n ei gwneud yn gêm realistig ac yn caniatáu i ddefnyddwyr chwarae rôl fel rhywun milwrol sydd â phwer.

Mae Call of Duty: Mobile yn gêm dreisgar dros ben, ac mae'r sgôr oedran yn adlewyrchu hynny. Mae'r animeiddio’n eithaf realistig ac yn cynnwys golygfeydd o waed yn tasgu pan gaiff chwaraewyr eu lladd. Mae chwaraewyr yn wynebu arfau milwrol realistig amrywiol hefyd. Er bod y gêm yn cynnwys rhywfaint o iaith anweddus, mae chwaraewyr yn dod i gysylltiad ag iaith anweddus a chynnwys aeddfed drwy'r sgyrsfan ac wrth ymwneud â defnyddwyr eraill yn fyw hefyd. Er bod hidlyddion rhegfeydd yn eu lle, mae'r sgyrsfan yn dal i ganiatáu i iaith amhriodol ddigwydd, felly peidiwch â dibynnu ar rheini'n unig fel ffordd o osgoi cysylltiad â chynnwys amhriodol. Drwy chwarae gyda ffrindiau, yn hytrach na dieithriaid, mae'ch plentyn yn llai tebygol o brofi iaith neu ymddygiad nad yw'n addas i'w oed. Fodd bynnag, dylid cydnabod y gallai'ch plentyn fod yn agored i gynnwys amhriodol o hyd drwy ei gysylltiadau hysbys.

Mae Call of Duty: Mobile wedi'i chynllunio fel gêm aml-chwaraewr gyda ffrindiau neu ddieithriaid ar-lein. Mae'n bosib chwarae gemau a gornestau gyda grwp o chwaraewyr eraill ar hap. Gall platfformau gemau fel Call of Duty ei gwneud hi'n haws i bobl feithrin cysylltiadau â dieithriaid oherwydd eu diddordeb cyffredin yn y gêm. Efallai y bydd rhai chwaraewyr yn teimlo eu bod wedi datblygu cyfeillgarwch drwy'r platfform ac yn rhannu eu proffiliau cyfryngau cymdeithasol eraill i gysylltu. Atgoffwch eich plentyn i beidio â rhannu gwybodaeth bersonol â phobl nad yw'n eu hadnabod ar y platfform. Os yw'ch plentyn yn chwarae Call of Duty: Mobile, anogwch nhw i chwarae gyda grwp o ffrindiau. Mae gwybodaeth am sut i wneud hyn ar gael yn adran 'Rheoli rhyngweithio a chynnwys' y canllaw hwn. Mae'r gêm yn cynnwys yr opsiwn i sgwrsio ar-lein naill ai drwy sgwrs llais neu destun ysgrifenedig. Hefyd, mae'n werth nodi bod rhai chwaraewyr yn defnyddio apiau sgwrsio trydydd parti fel Discord i sgwrsio wrth chwarae gemau. I chwaraewyr sydd eisiau ffrydio eu sgwrs yn fyw i'w ffrindiau, dylech eu hatgoffa nhw eu bod nhw'n gadael ôl troed digidol pan maen nhw ar-lein ac y gallai unrhyw beth maen nhw'n ei ddweud gael ei gipio a'i rannu nawr ac yn y dyfodol.

Fel llawer o gemau aml-chwaraewr, mae chwaraewyr yn gallu ymgolli'n llwyr yn Call of Duty nes bod yn llethol gan arwain at gyfnodau hir o chwarae.

Gall chwaraewyr deimlo pwysau i barhau i chwarae pan fyddan nhw'n cwblhau cyrchoedd mewn tîm neu 'clan'. Anogwch chwaraewyr i gymryd seibiant lle bo modd. Hefyd, mae 'Limited-time events'.

Gan fod y gêm hon am ddim i'w lawrlwytho, mae'n dibynnu ar brynu eitemau yn y gêm i greu refeniw. Mae'n bwysig deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i wneud hyn. Gallwch osod y gosodiadau 'in-app purchases' perthnasol ar y ddyfais. Hefyd, mae'n bwysig gwirio nad yw'r gêm wedi'i chysylltu â'ch cardiau banc na manylion ariannol. Dylid nodi bod modd chwarae'r gêm heb brynu eitemau ychwanegol.

Mae Call of Duty yn fasnachfraint hynod boblogaidd o gemau, ac mae angen prynu llawer ohonynt er mwyn eu chwarae ar gonsol gemau.

Mae gan fersiwn ffôn symudol Call of Duty ei pholisi gorfodi diogelwch, gyhoeddedig ei hun, sy’n amlinellu ac yn enwi’r mathau o ymddygiad a allai arwain at atal cyfrif chwaraewr neu ei wahardd o’r gêm yn llwyr.

Mae gwybodaeth am rai o'r ymddygiadau mwy cyffredin ar gael.