BitLife
Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'BitLife', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
- Rhan o
Sut mae BitLife: Life Simulator yn gweithio
Mae BitLife: Life Simulator (sy’n cael ei galw’n ‘BitLife’) yn gêm chwarae rôl am ddim. Yn BitLife, gall chwaraewr reoli un neu fwy o gymeriadau trwy gydol eu hoes trwy reoli 4 ystadegyn:
- Happiness (hapusrwydd)
- Health (iechyd)
- Smarts (deallusrwydd)
- Looks (golwg gorfforol cymeriad)
Mae cefndir y cymeriad, gan gynnwys ei darddiad cenedlaethol, rhyw, hil, cefndir teuluol a’i cyfoeth yn cael eu cynhyrchu ar hap. Wrth i’r cymeriad dyfu, bydd yn cael cyfle i wneud dewisiadau bywyd. Bydd hyn yn cynnwys mynd i’r brifysgol, dod o hyd i swydd, symud i wlad newydd neu fagu teulu.
Oedran isaf gofynnol
Mae gan BitLife sgôr PEGI 16 oherwydd y themâu aeddfed sydd yn y gêm. Mae’r rhain yn cynnwys trais, defnyddio cyffuriau a rhyw.
Nid yw oedran yn cael ei ddilysu ar BitLife. Mae hyn yn golygu y gall defnyddwyr o unrhyw oed lawrlwytho a dechrau chwarae’r gêm ar unwaith. Gallwch ddefnyddio’r rheolyddion ar siop apiau eich plentyn i’w hatal rhag lawrlwytho apiau aeddfed.
Nodweddion
Activities
Dyma ble mae defnyddwyr yn penderfynu ar eu dewisiadau a’u hopsiynau yn y gêm. Er enghraifft, penderfynu gwneud ymarfer corff neu ymweld â’r meddyg.
Assets
Mae hyn yn cyfeirio at asedau mewn gêm cymeriad defnyddiwr. Mae'n cynnwys cyllid, buddsoddiadau, eiddo, cerbydau, eiddo, a phresenoldeb cyfryngau cymdeithasol mewn gêm.
Bitizenship
Mae hyn yn datgloi fersiwn bremiwm o’r gêm. Rhaid i ddefnyddwyr ddefnyddio arian go iawn i dalu am Bitizenship. Mae’n cael gwared ar hysbysebion i’r chwaraewr ac yn cynnig nodweddion ‘VIP’, fel anifeiliaid anwes egsotig, cenedlaethau diderfyn a rhyngweithiadau arbennig â chymeriadau.
Challenges
Tasgau arbennig yw’r rhain y gall defnyddwyr eu cwblhau i gael gwobrau yn y gêm. Mae BitLife yn rhyddhau’r rhain bob penwythnos. Yn gyffredinol, maen nhw’n para tua 5 diwrnod. Ar ôl yr amser hwn, ni all defnyddwyr ennill gwobrau am gwblhau’r heriau hyn mwyach.
Encounter
Mae hyn yn cyfeirio at sefyllfa lle mae rhywun o’r diwydiant rhyw o fewn cyrraedd chwaraewr. Gall chwaraewyr ddewis: Anwybyddu nhw, dadlau â nhw, ymosod arnyn nhw neu eu llithio. Gall cymeriadau ddal clefydau sy’n cael eu trosglwyddo’n rhywiol gan gymeriadau yn y diwydiant rhyw, hefyd.
God Mode
Pryniant untro sy’n caniatáu i ddefnyddwyr addasu ystadegau, edrychiad ac enwau unrhyw gymeriad.
Happiness
Mae ‘Happiness’ yn dangos pa mor hapus yw cymeriad. Gall hapusrwydd isel arwain at gymeriadau’n teimlo’n isel a bod angen iddynt gael gofal iechyd yn y gêm. Mae chwaraewyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n rhoi hwb i hapusrwydd er lles cyffredinol eu cymeriad.
Health
Mae ‘Health’ yn cyfeirio at ba mor iach yw cymeriad yn gorfforol. Mae’n dylanwadu ar ba mor hir y mae’r cymeriad yn byw. Gall ymweliadau â’r meddyg a’r gampfa yn y gêm helpu i hybu iechyd.
Job
Dyma swydd y cymeriad. Gellir ei newid ar unrhyw adeg.
Karma
Mae hyn yn gwobrwyo chwaraewyr am ddewis gweithredoedd ‘da’ neu ‘garedig’. Mae hefyd yn cosbi chwaraewyr am ddewis opsiynau ‘digywilydd’ a ‘drwg’, fel troseddu.
Looks
Mae hyn yn cyfeirio at olwg gorfforol cymeriad. Mae’n dylanwadu ar ddod o hyd i bartner rhamantus, yn ogystal â chael swyddi penodol.
Mini games
Mae’r nodwedd hon yn caniatáu i ddefnyddwyr chwarae gemau bach ychwanegol yn y gêm BitLife.
Money
Arian cyfred yn y gêm y gall cymeriad chwaraewr ei ddefnyddio i brynu eiddo personol neu dalu biliau a threthi.
Relationship
Mae hyn yn cyfeirio at berthnasoedd cymeriad. Mae’r rhain yn cynnwys cysylltiadau rhamantus, platonig a theuluol â chymeriadau eraill yn y gêm.
Ribbon
Mae rhuban yn cael ei ddyfarnu i chwaraewr pan fydd eu cymeriad yn marw. Mae’r rhain yn cynrychioli cyflawniadau cymeriad yn ystod ei oes yn y gêm.
Shop
Dyma ble gall defnyddwyr brynu eitemau arbennig yn y gêm, pecynnau ehangu a nodweddion premiwm yn y gêm ag arian go iawn.
Smarts
Mae hyn yn cyfeirio at ddeallusrwydd y cymeriad. Mae’n dylanwadu ar eu gallu i fynd i’r brifysgol a dod o hyd i swyddi.
Stats
Mae 'Stats' yn cyfeirio at hapusrwydd, iechyd, edrychiad, a deallusrwydd cymeriad defnyddiwr.
Rheoli risgiau
Cynnwys amhriodol
Mae’ch plentyn yn debygol o ddod i gysylltiad ag ystod o themâu a chynnwys i oedolion yn y gêm. Mae’r rhain yn cynnwys cyfeiriadau at gynnwys rhywiol, fel pornograffi, puteindra, organau cenhedlu a chlefydau sy’n cael eu trosglwyddo’n rhywiol. Mae nifer sylweddol o gyfeiriadau treisgar yn y gêm, hefyd, yn ogystal â chyfeiriadau at gyffuriau, alcohol, gamblo a throseddu.
Mae’n annhebygol y byddwch yn gallu atal eich plentyn rhag gweld cynnwys amhriodol wrth chwarae BitLife. Fodd bynnag, gall cymryd y camau canlynol leihau effaith y cynnwys amhriodol hwn.
Siarad â’ch plentyn
Siaradwch â’ch plentyn am y themâu i oedolion sydd i’w gweld yn y gêm a chaniatáu iddyn nhw ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw. Gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn gwybod y gall ddod atoch chi am gymorth os bydd unrhyw beth yn y gêm yn peri gofid neu ddryswch iddo.
Cymryd diddordeb yn y gêm
Cymerwch ddiddordeb rheolaidd yn y dewisiadau bywyd y mae’ch plentyn yn eu gwneud ar gyfer ei gymeriad. Bydd chwarae’r gêm ochr yn ochr â’ch plentyn yn rhoi cyfle i chi weld pa fath o gynnwys y mae’n ei weld a gall eich helpu i’w hannog i wneud penderfyniadau priodol.
Gorwario
Mae BitLife yn cynnwys trafodion ar yr ap sy’n galluogi defnyddwyr i gael mwy o gynnwys a nodweddion.
Fodd bynnag, gall fod yn hawdd i’ch plentyn wario gormod ar yr ap. Gallwch helpu i atal hyn trwy wneud y canlynol.
Siarad am wario
Trafodwch werth arian gyda’ch plentyn i’w helpu i ddeall bod arian sy’n cael ei wario’n ddigidol yn arian go iawn o hyd. Cymharwch gost trafodion BitLife â phethau y gall eu prynu all-lein am yr un pris.
Gosod terfynau gwario
Ar ddyfais eich plentyn, gallwch osod cyfyngiadau gwario fel bod rhaid i’ch plentyn gael caniatâd cyn prynu unrhyw beth. Bydd hyn yn ei atal rhag gwario heb gael caniatâd gennych chi.
Gormod o amser o flaen sgrin
Nid oes gan BitLife ddiweddbwynt naturiol i chwaraewyr. Gall chwaraewyr chwarae trwy fywyd cyfan cymeriad hyd nes iddo farw ac yna dechrau chwarae fel cymeriad arall ar unwaith. Mae hyn, ynghyd â’r ap yn anfon hysbysiadau at chwaraewyr, yn enwedig pan fyddan nhw wedi bod i ffwrdd am gyfnod, yn gallu arwain at ormod o amser o flaen sgrin.
Gall y camau canlynol helpu i gydbwyso amser eich plentyn o flaen sgrin.
Golygu’r gosodiadau
Gall analluogi hysbysiadau leihau pa mor aml y mae’ch plentyn yn agor y gêm, gan na fydd rhybuddion yn tynnu eu sylw.
Gosod terfynau amser
Yng ngosodiadau dyfais eich plentyn, gallwch osod terfynau ar ba mor hir y gall eich plentyn chwarae’r gêm bob dydd.
Gosod terfynau
Cytunwch ar ba bryd a ble y gall eich plentyn chwarae’r gêm.
Gosodiadau i gefnogi’ch plentyn
Nid oes gan BitLife unrhyw reolyddion i rieni. Fodd bynnag, efallai yr hoffech chi edrych ar y gosodiadau canlynol ar ddyfais eich plentyn.
Analluogi hysbysiadau
Diffodd hysbysiadau (ar iOS)
- Agorwch y tab ‘Settings’.
- Ewch i a dewiswch ‘Notifications’.
- Dewch o hyd i ‘BitLife’ a’i ddewis.
- Diffoddwch ‘Allow Notifications’.
Diffodd hysbysiadau (ar Android)
- Agorwch yr ap ‘Settings’.
- Dewiswch ‘Apps’.
- Dewiswch ‘Manage apps’.
- Dewch o hyd i ‘BitLife’ a’i ddewis.
- Dewiswch ‘Notifications’.
- Diffoddwch ‘Show notifications’.
Analluogi prynu eitemau
Analluogi prynu pethau yn yr ap (ar iOS)
- Gyda ‘Screen Time’ wedi’i alluogi, ewch i ‘Settings’.
- Agorwch ‘Screen Time’ a dewiswch ‘Content & Privacy Restrictions’.
- Trowch y togl ymlaen wrth ochr ‘Content & Privacy Restrictions’.
- Dewiswch ‘iTunes & App Store Purchases’.
- Dewiswch ‘In-app Purchases’ a dewiswch ‘Don't Allow’.
Analluogi prynu pethau yn yr ap (ar Android)
- Ewch i ‘Google Play Store’.
- Dewiswch eicon y proffil.
- Dewiswch ‘Payments and subscriptions’.
- Dewiswch ‘Purchase verification’.
- Dewsiwch ‘Verification frequency’.
- Dewiswch ‘Always’ ac wedyn ‘OK’.
-
Diffodd hysbysiadau (ar iOS):
- Agorwch y tab ‘Settings’.
- Ewch i a dewiswch ‘Notifications’.
- Dewch o hyd i ‘BitLife’ a’i ddewis.
- Diffoddwch ‘Allow Notifications’.
Diffodd hysbysiadau (ar Android):
- Agorwch yr ap ‘Settings’.
- Dewiswch ‘Apps’.
- Dewiswch ‘Manage apps’.
- Dewch o hyd i ‘BitLife’ a’i ddewis.
- Dewiswch ‘Notifications’.
- Diffoddwch ‘Show notifications’.
-
Analluogi prynu pethau yn yr ap (ar iOS):
- Gyda ‘Screen Time’ wedi’i alluogi, ewch i ‘Settings’.
- Agorwch ‘Screen Time’ a dewiswch ‘Content & Privacy Restrictions’.
- Trowch y togl ymlaen wrth ochr ‘Content & Privacy Restrictions’.
- Dewiswch ‘iTunes & App Store Purchases’.
- Dewiswch ‘In-app Purchases’ a dewiswch ‘Don't Allow’.
Analluogi prynu pethau yn yr ap (ar Android):
- Ewch i ‘Google Play Store’.
- Dewiswch eicon y proffil.
- Dewiswch ‘Payments and subscriptions’.
- Dewiswch ‘Purchase verification’.
- Dewsiwch ‘Verification frequency’.
- Dewiswch ‘Always’ ac wedyn ‘OK’.