English

Mae Apex Legends yn gêm fideo saethu ar-lein y gellir ei chwarae am ddim gan ddefnyddio consolau Windows, Playstation, Xbox a Switch.

Gêm battle royale ydyw, sy’n golygu bod chwaraewyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i fod yr unig chwaraewr sy’n weddill. Fel arfer, mae chwaraewyr yn cydweithio â chwaraewyr eraill fel rhan o dîm, er bod modd chwarae fel unigolyn, hefyd.

Mae pob cyfrif Apex Legends yn gyhoeddus ac nid oes opsiwn i’w gosod yn breifat. Mae hynny’n golygu bod pob chwaraewr yn gallu gweld proffiliau ei gilydd. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio’r gosodiadau preifatrwydd i guddio rhywfaint o wybodaeth.

Mae gan Apex Legends sgôr PEGI 16. Mae hyn oherwydd ei phortreadau o drais yn erbyn cymeriadau dynol. Fodd bynnag, nid yw oedran yn cael ei wirio wrth greu cyfrif.

Apex coins

Dyma’r enw ar arian cyfred yn y gêm y gellir ei brynu gan ddefnyddio arian go iawn.

Battle Pass

System wobrwyo sy’n annog chwaraewyr i barhau i chwarae’r gêm yn gyfnewid am wobrau, fel eitemau cosmetig. Gall haenau premiwm o’r Battle Pass gael eu prynu ag Apex Coins.

Chat

Mae gan Apex Legends nodweddion sgwrsio testun a llais, sy’n galluogi chwaraewyr i gysylltu â’i gilydd.

Legends

Legends yw’r cymeriadau unigryw y mae defnyddwyr yn chwarae fel nhw. Mae amryw Legends i ddewis ohonyn nhw, ac mae gan bob un ohonyn nhw eu galluoedd unigryw eu hunain.

Matchmaking

Cael eich paru ar hap ag 1 neu 2 o chwaraewyr i ffurfio sgwad.

Ping system

Gall chwaraewyr amlygu lleoliadau, gelynion, arfau ac eitemau defnyddiol i’w cyd chwaraewyr gan ddefnyddio’r system ping, fel nad oes rhaid iddyn nhw ddefnyddio cyfathrebu llais.

Camping

Y dacteg o guddio cymeriad mewn safle statig manteisiol, fel arfer i osgoi cael eich ‘lladd’. Mae’r math hwn o chwarae yn ddadleuol mewn gêm saethu fel Apex Legends. Mae rhai chwaraewyr o’r farn bod hyn yn twyllo, sy’n gallu arwain at gam-drin y chwaraewr drwy’r cyfleuster sgwrsio yn y gêm.

Finisher

Dienyddiadau animeiddiedig o chwaraewyr y gelyn ar ôl iddyn nhw gael eu taro i lawr.

FPS

Gêm saethu person cyntaf, sef gêm sy’n cael ei chwarae o safbwynt cymeriad y chwaraewr.

Frag

Lladd cymeriad mewn gêm.

Noob

Rhywun y mae gêm yn newydd iddyn nhw neu sy’n ymddangos nad oes ganddyn nhw lawer o sgil yn y gêm, sy’n aml yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd negyddol.

POV

Y safbwynt neu’r persbectif y mae gêm yn cael ei chwarae ohono, fel arfer naill ai person cyntaf neu drydydd person.

Pub

Talfyriad ar gyfer ‘public match’ neu gêm gyhoeddus. Dyma’r modd diofyn yn Apex Legends.

Queuing

Aros i ymuno â gêm, naill ai ar eich pen eich hun neu gydag 1 neu 2 o ffrindiau i ffurfio sgwad.

Ranked

Talfyriad ar gyfer ‘ranked match’. Mae’r modd hwn yn galluogi chwaraewyr i ennill pwyntiau neu ‘ranked points’ a symud i lefel uwch ar y safle chwaraewyr. Mae hyn yn rhoi gwobrau unigryw iddyn nhw.

Respawn

Cymeriad y gellir ei chwarae sy’n adfywio ac yn ailymddangos ar ôl cael ei ladd mewn gêm.

Solo Queuing

Dewis ymuno â gêm ar eich pen eich hun yn hytrach nag fel rhan o sgwad o ddwy neu dair o bobl.

Spawn

Cymeriad y gellir ei chwarae sy’n ymddangos ym myd y gêm.

Spawn point

Lle ym myd y gêm lle mae cymeriadau’n ymddangos.

Cysylltiad cymdeithasol

Mae gan Apex Legends hidlydd sgwrsio, sy’n galluogi chwaraewyr i chwarae a siarad â’u ffrindiau, hyd yn oed pan nad ydyn nhw yn yr un lleoliad yn gorfforol. Gyda galluoedd traws blatfform, gall ffrindiau gysylltu â’i gilydd yn y gêm hyd yn oed os ydyn nhw’n defnyddio gwahanol gonsolau.

Cynnwys graffig

Yn ddiofyn, mae Apex Legends yn cael ei chwarae o safbwynt y cymeriad (sy’n cael ei alw’n safbwynt person cyntaf). Mae hyn yn dueddol o greu profiad mwy realistig y gellir ymgolli ynddo. Fodd bynnag, gall y profiad hwn gynnwys trais a gwaed:

  • mae ‘lladd’ rhywun yn y gêm yn creu gwaed animeiddiedig graffig, a all ymddangos yn y pellter neu’n agos at safbwynt y chwaraewr
  • gall cymeriadau gelynion sydd wedi’u hanalluogi gael eu ‘lladd’ gan ‘symudiadau gorffen’ (‘finishers’) sy’n aml yn greulon

Os yw’ch plentyn yn chwarae Apex Legends, dylech gael sgwrs â nhw am y cynnwys y maen nhw’n ei weld wrth chwarae. Gofynnwch sut mae’r trais yn gwneud iddyn nhw deimlo a thynnwch sylw at unrhyw achosion o drais sydd wedi’i ogoneddu. Gwnewch y glir y gallan nhw ddod atoch chi am gefnogaeth os bydd rhywbeth y byddan nhw’n ei weld wrth chwarae’r gêm yn peri gofid iddyn nhw.

Cysylltu â chwaraewyr eraill

Mae Apex Legends yn cynnwys cyfleuster sgwrsio llais a thestun rhwng chwaraewyr. Gall defnyddwyr chwarae yn erbyn chwaraewyr o wahanol oedrannau o bob rhan o’r byd a chyfathrebu â nhw.

Mae natur ryngweithiol y gêm yn golygu y gallai’ch plentyn glywed neu weld iaith sarhaus neu gam-drin geiriol. Gall chwaraewyr greu eu henwau proffil eu hunain, hefyd. Mae hyn yn golygu y gallai’ch plentyn ddod ar draws iaith sarhaus, ddirmygus neu wahaniaethol yn yr enwau hyn.

Gallwch gymryd camau i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â chwaraewyr eraill.

Diffodd sgwrsio llais

Yng ngosodiadau’r gêm, gall chwaraewyr analluogi sgwrsio â llais. Bydd hyn yn atal eich plentyn rhag clywed chwaraewyr eraill yn siarad ac, o bosibl, yn defnyddio iaith amhriodol. Bydd eich plentyn yn gallu cyfathrebu â’u cyd-chwaraewyr o hyd trwy farcio gelynion a lleoliadau gyda’r system ping, felly ni ddylai analluogi sgwrsio â llais effeithio ar eu perfformiad.

Defnyddio sgwadiau preifat

Anogwch eich plentyn i greu sgwadiau preifat gyda ffrindiau maen nhw’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw go iawn, yn hytrach nag ymuno â thîm â phobl ddieithr drwy’r system baru (‘matchmaking’). Mae hyn yn lleihau eu cysylltiad â phobl ddieithr a allai achosi niwed.

Archwilio’r offer tawelu a riportio

Bydd addysgu’ch plentyn i ddefnyddio’r offer tawelu a riportio yn eu helpu i atal cysylltiad â chwaraewyr a gall wneud y gêm yn fwy diogel i bawb.

Gorwario

Mae Apex Legends yn cynnwys microdrafodion ar ffurf prynu pethau yn y gêm. Mae Apex Coins yn cael eu prynu ag arian go iawn a’u masnachu yn y gêm i brynu Apex Packs. ‘Loot boxes’ yw Apex Coins, sy’n aml yn addo cyfle ar hap i chwaraewyr gael eitem sy’n brin neu’n anodd ei chael. Gall yr elfen o siawns sy’n gysylltiedig â ‘loot boxes’ annog ymddygiadau gamblo.

Gall y camau canlynol helpu’ch plentyn i reoli eu gwariant.

Siarad am wario

Trafodwch werth arian gyda’ch plentyn i’w helpu i ddeall bod arian sy’n cael ei wario ar ficrodrafodion yn y gêm yn arian go iawn o hyd. Cymharwch yr arian y maen nhw’n ei wario ar y gêm â phethau y gallan nhw eu prynu yn y byd go iawn am yr un swm i’w helpu i ddeall y gwerth.

Gosod rheolyddion

Ar ddyfeisiau chwarae gemau, gallwch osod rheolyddion i gyfyngu ar wariant, fel bod angen caniatâd rhieni cyn gwneud unrhyw drafodion.

Gormod o amser o flaen sgrin

Mae Apex Legends yn gêm gyflym a gall fod yn anodd i bobl ifanc roi’r gorau i chwarae. Mae’r system Battle Pass hefyd yn annog defnyddwyr i ddal ati i chwarae er mwyn iddyn nhw gael gwobrau gwell.

Gallwch helpu i gydbwyso amser eich plentyn o flaen sgrin trwy gymryd y camau canlynol.

Defnyddio terfynau amser sgrin

Mae dyfeisiau chwarae gemau yn caniatáu i chi osod terfynau dyddiol ar gyfer amser o flaen sgrin. Edrychwch ar y ddyfais y mae’ch plentyn yn ei defnyddio i chwarae Apex Legends a gosodwch y rheolyddion sydd arni.

Gosod terfynau

Cytunwch ar derfynau gyda’ch plentyn o ran pryd a sut maen nhw’n chwarae’r gêm.

Os yw’ch plentyn yn chwarae Apex Legends, gall y gosodiadau hyn eu helpu i aros yn ddiogel.

Diffodd sgwrsio llaisI ddiffodd sgwrsio llais

  • Ewch i’r ddewislen ‘Settings’.
  • Ewch i’r tab ‘Gameplay’ a sgroliwch i ‘Accessibility’.
  • Wrth ochr ‘Disable Voice Chat’, dewiswch ‘Off’.

Rheoli preifatrwydd

Nid oes gan Apex Legends reolyddion i rieni yn y gêm. Dylai defnyddwyr sicrhau nad yw eu henw go iawn yn cael ei ddefnyddio ar eu proffil.

Dileu enw o broffil

  • Ar gyfrif eich plentyn dewiswch yr opsiwn ‘Privacy and settings’.
  • Dad-diciwch y blwch sydd wedi’i farcio ‘Show my real name on my profile’.

Chwarae yn y modd unigol (solo)

  • Yn y lobi, cyn chwilio am gêm, chwiliwch am y blwch sy’n nodi ‘Fill matchmaking’.
  • Bydd hyn yn rhoi chwaraewyr mewn ciw unigol ac yn eu hatal rhag cael eu rhoi mewn tîm gyda phobl ddieithr.

Chwarae Apex Legends gyda ffrindiau

  • Ewch i’r dudalen ‘Your friends page’ drwy’r lobi i weld rhestr ffrindiau eich plentyn sy’n chwarae Apex Legends.
  • Ar y dudalen ‘Friends page’, byddwch yn gallu gweld pa ffrindiau sy’n chwarae Apex Legends ar hyn o bryd.
  • Amlygwch nhw i ddewis rhwng ‘Inviting them to your party’ neu ‘Joining their party’.
  • Bydd ymuno â chwaraewr neu eu gwahodd yn llwyddiannus yn dangos y lobi gyda’ch plentyn a’u ffrindiau. Yna, byddan nhw’n gallu defnyddio’r system baru a dechrau gemau gyda ffrindiau sydd yn eu ‘Squad’.

Archwilio’r offerynnau tawelu a riportio

Riportio defnyddiwr yn y gêm

  • Mewn gêm, dewiswch y symbol ‘Warning’ yng nghornel chwith isaf y sgrin.
  • Dewiswch y chwaraewr rydych am eu riportio o dan ‘Report player’.
  • Dewiswch gategori ‘Report reason’ ac yna defnyddiwch symbol y saeth i ddewis yr is-gategorïau ar gyfer ei riportio.
  • Ychwanegwch unrhyw nodiadau ychwanegol yn y blwch testun a dewiswch ‘Report’.

Riportio defnyddiwr o’r brif ddewislen

  • Dewiswch yr avatar yn y gornel chwith uchaf a dewiswch ‘History’.
  • Dewch o hyd i’r gêm yr hoffech roi gwybod amdani.
  • Dewiswch y symbol ‘Warning’ yng nghornel chwith isaf y sgrin.
  • Dewiswch y chwaraewr rydych am ei riportio o dan ‘Report player’.
  • Dewiswch gategori ‘Report reason’ ac yna defnyddiwch symbol y saeth i ddewis yr is-gategorïau ar gyfer y riportio.
  • Ychwanegwch unrhyw nodiadau ychwanegol yn y blwch testun a dewiswch ‘Report’.

Tawelu defnyddiwr

  • Agorwch eich rhestr eiddo yn ystod gêm.
  • Ewch i ‘Settings’.
  • Dewiswch y tab ‘Squad’ ar frig y dudalen.
  • Dewiswch eicon y seinydd o dan chwaraewr i dawelu ei lais, ei negeseuon testun neu’i ‘ping’.