Pobl ifanc yn dweud wrthym am y byd ar-lein maen nhw’n byw ynddo
Adrienne Katz yn rhannu canfyddiadau o'r Cybersurvey blynyddol, sy'n datgelu bod nifer sylweddol o bobl ifanc yn gweld cynnwys niweidiol dro ar ôl tro heb fynd ati i chwilio amdano
- Rhan o
Pryderon presennol
Mae 3 phryder amlwg yn codi o Cybersurvey blynyddol y llynedd gan Youthworks.
Mae casineb at fenywod a hiliaeth yn cynyddu
Mae tueddiad diweddar wedi dod i'r amlwg: er bod y ganran gyffredinol o bobl ifanc sy'n dod ar draws cynnwys niweidiol wedi gostwng, bu cynnydd sylweddol mewn adroddiadau o gynnwys cas wedi’i anelu at fenywod a chynnwys hiliol.
Cynnwys niweidiol yn cael ei weld heb chwilio amdano
Roedd mesur newydd yn ceisio darganfod a oedd pobl ifanc wedi gweld cynnwys am hunan-niweidio, hunanladdiad, pro anorecsia (pro ana), cynnwys rhywiol neu dreisgar diangen wrth chwilio amdano neu heb chwilio amdano. Roedd cynnwys yn annog trais ddwy ran o dair yn fwy tebygol o gael ei weld heb chwilio amdano, na phe bai'r defnyddiwr yn chwilio amdano ac roedd cynnwys am hunanladdiad fwy na dwywaith yn fwy tebygol o gael ei weld yn hytrach na chael ei chwilio amdano. Mae hyn yn awgrymu bod algorithmau yn cynnig cynnwys niweidiol dro ar ôl tro i bobl ifanc neu eu bod yn ei anfon at ei gilydd.
O'r bobl ifanc 12 oed a holwyd, mae 29% 'yn teimlo sioc gan yr hyn maen nhw'n ei weld ar-lein heb chwilio amdano.' Mae hyn yn awgrymu bod hidlwyr a gosodiadau sy'n briodol i'w hoedran ddim yn eu lle ar eu dyfeisiau, neu ddim yn gweithio'n effeithiol. Mae rhai pobl ifanc yn gweld cynnwys gan bobl ifanc eraill sy’n hŷn na nhw.
Gwir neu ffug?
Ochr yn ochr â hyn, daeth thema bwerus arall i'r amlwg, pobl ifanc yn cwestiynu cywirdeb cynnwys, negeseuon a hyd yn oed pobl, gan feddwl tybed a ydyn nhw'n wir neu'n ffug.
Canlyniadau'r arolwg
Roedd y bobl ifanc (11 i 17+ oed) a gafodd eu holi yn yr arolwg wedi gweld cynnwys niweidiol dro ar ôl tro nad oedden nhw wedi chwilio amdano. Roedd naill ai’n cael ei anfon atyn nhw neu’n ymddangos heb iddyn nhw chwilio, ond roedd 15% wedi gweld cynnwys digymell yn siarad am hunanladdiad dro ar ôl tro, tra bod 6% wedi ei weld 3 gwaith neu fwy ar ôl chwilio amdano. Mae cynnwys sy’n annog trais neu’n dangos delweddau treisgar na ofynnwyd amdanyn nhw 'nad oeddech chi eisiau gweld' yn cael ei weld 3 gwaith yn amlach na phan gaiff ei chwilio amdano. Mae'n hawdd gweld cynnwys sy'n annog anorecsia neu hunan-niweidio heb chwilio amdano.
Cynnwys niweidiol a welir heb chwilio amdano
Fe wnes i ei weld ond wnes i ddim chwilio amdano. | Fe wnes i ei weld 3 gwaith neu fwy heb chwilio amdano. | |
---|---|---|
Cynnwys yn siarad am hunanladdiad | 35% | 15% |
Ynglŷn â hunan-niweidio | 23% | 10% |
Cynnwys treisgar iawn | 32% | 12% |
Cynnwys pro anorecsia | 35% | 10% |
Annog pobl i gynyddu eu pwysau | 42% | 17% |
Annog pobl i gynyddu eu pwysau | 26% | 11% |
Cynnwys niweidiol wedi’i weld trwy chwilio amdano
Fe wnes i chwilio am hyn | Fe wnes i ei weld 3 gwaith neu fwy. Fe wnes i chwilio amdano. | |
---|---|---|
Cynnwys yn siarad am hunanladdiad | 13% | 6% |
Ynglŷn â hunan-niweidio | 9% | 3% |
Cynnwys treisgar iawn | 12% | 4% |
Cynnwys pro anorecsia | 13% | 6% |
Annog pobl i gynyddu eu pwysau | 16% | 8% |
Annog pobl i gynyddu eu pwysau | 9% | 4% |
Rhagor o fewnwelediadau
Mewn sesiynau a gynhaliwyd i drafod y canlyniadau, roedd yn galonogol gweld bod lefel o wytnwch ac annibyniaeth yn datblygu ymhlith llawer o'r bobl ifanc hyn. Mae mwyafrif yn datblygu sgiliau ymdopi ac mae rhai'n awgrymu eu bod yn gallu 'ail-hyfforddi' yr algorithm. Yn ôl yr arolwg, dywedodd 67% 'Rwy'n gwybod sut i gael help os oes gen i broblem ar-lein' a 58% yn credu 'Os oes gen i broblem ar-lein, gallaf ei datrys fy hun.' Mae dros ddwy ran o dair yn teimlo ‘Os gwelaf rywbeth sy’n peri gofid neu sy’n annerbyniol, gallaf wella’. Mae llawer yn ‘addysgu fy hun am ddiogelwch ar-lein neu’n chwilio amdano ar-lein’.
Addysg diogelwch ar-lein
Mae bron i ddwy ran o dair wedi cael rhywfaint o addysg mewn diogelwch ar-lein drwy'r ysgol, er bod llai na hanner bob amser yn ei ddilyn: mae 44% o ferched yn gwneud, a 42% o fechgyn, ond dim ond 22% o'r rhai y mae'n well ganddyn nhw beidio â datgan eu rhywedd. Er bod 70% o ferched a 69% o fechgyn yn gweld ei bod yn eithaf defnyddiol, roedd 18% o fechgyn yn teimlo 'Nid oedd yn cysylltu â fy mhroblemau.' Dywedodd ychydig dros draean o bobl ifanc eu bod wedi defnyddio'r cyngor i'w helpu gyda phroblem y daethon nhw ar ei thraws.
Canfyddiadau am addysg diogelwch ar-lein
Mae pobl ifanc yn cwyno am addysg diogelwch ar-lein hen ffasiwn ac achlysurol neu dameidiog nad yw'n cynnig archwiliadau ymarferol o'r hyn y gallech ei wneud mewn rhai sefyllfaoedd. Maen nhw eisiau mwy o brofiadau ymarferol, astudiaethau achos, senarios a dadleuon a llai o fideos hen ffasiwn yn cael eu cynnig dro ar ôl tro flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae gwahaniaethau sylweddol rhwng y rhywiau o ran eu hyder, sy'n awgrymu bod merched yn cael eu gorfodi i fod yn ofnus ynghylch technoleg, tra bod bechgyn yn anturus ac yn defnyddio adnoddau ar-lein ar gyfer dysgu a hwyl llawer mwy.
Er gwaethaf eu cwynion am addysg diogelwch ar-lein, dywedodd 40% eu bod bob amser neu'n aml yn sylwi ar wybodaeth anghywir neu newyddion ffug a dywedodd 36% eu bod bob amser neu'n aml yn meddwl tybed a yw'r hyn rwy'n ei ddarllen yn wir. Mae'r arolwg yn dangos bod 37% yn cymryd camau gweithredol i wirio pwy a'i hysgrifennodd i benderfynu a ellir ymddiried ynddo. Fodd bynnag, mae bron i 1 o bob 5 braidd byth yn ystyried hyn.
Nid yw ymatebion a phrofiadau pobl ifanc i gyd yr un fath
Mae ein hymchwil ers 2017 wedi canolbwyntio nid yn unig ar y mwyafrif, ond ar bobl ifanc sy'n agored i niwed all-lein a sut maen nhw'n profi'r byd ar-lein. Gall gynrychioli lloches rhag bywyd all-lein a risg iddyn nhw. Yn y byd digidol gallan nhw 'ddianc rhag fy mhroblemau' neu reoli eu hwyliau: 'Rwy'n tawelu fy emosiynau'. Ond yn yr un modd, gallan nhw fod mewn mwy o berygl na'u cyfoedion nad oes ganddyn nhw unrhyw un o'r gwendidau a fesurwyd.
Dangosodd y Cybersurvey (2023 i 2024) fod 65% o bobl ifanc ag anhawster iechyd meddwl wedi gweld cynnwys hunanladdiad heb chwilio amdano ac roedd 77% o bobl ifanc ag anhwylder bwyta wedi gweld cynnwys pro-ana yn 'anfwriadol'. Wrth gymharu'r data hwn â'r ffigwr o 35% o'r holl bobl ifanc (gyda neu heb fregusrwydd) a oedd wedi gweld cynnwys hunanladdiad heb chwilio, mae'r ffigyrau hyn yn tynnu sylw at sut y gall algorithmau ac amlygiad ar ôl un neu ddau chwiliad cychwynnol, waethygu’r mater hwn.
Cefnogi plant a phobl ifanc
Dilynwch y dystiolaeth nid yr hyn sy’n boblogaidd
Mae sut y gall bywyd ar-lein effeithio ar bobl ifanc yn faes sy’n cael ei drafod a’i ddadlau yn aml, gan greu barn amrywiol. Mae cadw meddwl agored yn hanfodol wrth ystyried cymhlethdod y darlun a grëwyd gan ymatebion pobl ifanc. Mae'r rhain, a llawer o astudiaethau ymchwil, yn datgelu'r pethau cadarnhaol a geir mewn mannau digidol a'r dewisiadau hunanymwybodol y mae pobl ifanc yn eu gwneud. I rai, mae eu ffôn yn achubiaeth, nid yw eraill yn ei ddefnyddio'n ddiogel. Nid yw'r dystiolaeth hon yn cefnogi mynd â’u ffôn oddi wrthyn nhw neu ddiffodd eu mynediad i wi-fi, ond mae’n tynnu sylw at angen am well cymorth, ymgysylltu ac ymyriadau anfeirniadol wrth bwyso ar lwyfannau i ystyried diogelwch sy’n briodol i’r oedran drwy ddylunio a chael gwared ar gynnwys niweidiol.
Helpu i feithrin gwytnwch ac ymdeimlad o berthyn
Dangosir bod cyfraniad 3 maes bywyd all-lein yn gysylltiedig â gwytnwch ar-lein
- Cartref: gallu troi at rieni os oes gennych broblem a derbyn cefnogaeth ac ymgysylltiad anfeirniadol.
- Ffrindiau a chynhwysiant cymdeithasol: peidio â theimlo eich bod yn cael eich gadael allan na'ch bwlio, bod â ffrindiau da y rhan fwyaf o'r amser.
- Ysgol: credu bod 'Ysgol yn rhywle lle dwi'n teimlo fy mod i'n perthyn' ac 'Mae 'na oedolyn dwi'n ymddiried ynddo yn yr ysgol.'
Gweithredwch all-lein i gynyddu diogelwch ar-lein
Dylai pobl ifanc fod yn barod ar gyfer bywyd mwy diogel mewn byd digidol lle byddan nhw’n rhyngweithio â gwasanaethau, gweithwyr iechyd proffesiynol, newyddion, bancio, gwaith a chwarae.
Yn baradocsaidd, mae hyn yn cynnwys ymdrechion dwys i wneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu derbyn ac yn ddiogel yn y gymuned, gan roi sylw i fwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn, casineb at fenywod neu wahaniaethu, oherwydd bod agweddau o fewn cymdeithas yn cael eu hadlewyrchu a'u chwyddo'n fawr ar-lein.
Mae tystiolaeth y Cybersurvey yn awgrymu bod ffocws ar 'berthyn' yn cyfrannu at wytnwch. Mae bechgyn yn fwy tebygol o deimlo ymdeimlad o berthyn ac ymddiriedaeth yn yr ysgol, tra mai dim ond traean o ferched sy'n dweud 'mae ysgol yn rhywle lle rwy'n teimlo fy mod yn perthyn' ac 'mae ‘na oedolyn rwy'n ymddiried ynddo yn yr ysgol'. O'i gymharu â phobl ifanc nad ydyn nhw byth yn teimlo eu bod wedi'u gadael allan, roedd y rhai sydd yn teimlo hynny yn disgrifio mwy o bryder, yn llai abl i wella pan fyddai pethau’n mynd o chwith ar-lein, ac roeddent yn fwy tebygol o ychwanegu pobl anhysbys fel ffrindiau.
Roedd pobl ifanc sy’n ynysig yn gymdeithasol yn fwy tebygol o fod wedi rhannu lluniau noeth, naill ai oherwydd eu bod yn meddwl ei fod yn ddisgwyliedig, neu oherwydd eu bod o dan bwysau. Mae rhai yn credu ei fod yn ffordd o gael eich derbyn. Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o ddweud bod llun wedi cael ei rannu, ei newid neu ei ffugio heb eu caniatâd na'r rhai sydd â ffrindiau da.
Rhywedd: mynd i'r afael â rhai anghenion diogelwch ar-lein ar wahân
Mae materion rhywedd yn dod i’r amlwg, sy’n awgrymu y dylem archwilio bywyd ar-lein gyda phobl ifanc gyda golwg ar brofiadau rhyweddol.
Mewnwelediadau data
- Mewn gemau ar-lein, mae 48% o fechgyn yn dweud eu bod yn gweld casineb seiber.
- Mae merched ddwywaith yn fwy tebygol na bechgyn o gael profiad personol o gasineb seiber sy'n targedu crefydd (14% o’i gymharu â 7%).
- Mae merched yn adrodd am achosion uwch o seiber-ymosodedd yn gysylltiedig ag edrychiad (26%), sïon yn lledaenu (23%) ac aflonyddu
- Roedd bechgyn a merched yn bersonol wedi profi seiber-ymysodedd o gwmpas hil (17% a 15%, yn y drefn honno).
Mae delwedd y corff a sut maen nhw’n gweld bywydau pobl eraill yn chwarae rhan fawr ym mywyd ar-lein pob person ifanc. Mae bron i 1 o bob 4 o bobl ifanc yn eu harddegau bob amser neu'n aml yn credu bod 'gan bobl eraill fywyd gwell na fi'.
Er bod merched yn tueddu i weld cynnwys pro-anorecsia, ers COVID-19, mae bechgyn yn awyddus i fagu pwysau (bulk) a gallent ystyried steroidau neu gynhyrchion eraill.
Mae bron i 1 o bob 5 yn dweud 'Oherwydd yr hyn rwy'n ei weld ar-lein, rydw i wedi ceisio newid siâp fy nghorff yn aml'. Dylai pŵer 'Thinspiration' neu 'Thinspo', gan gynnwys y risgiau o brynu rhywbeth ar-lein i newid y corff gael ei drafod gyda phobl ifanc.
- O'i gymharu â bechgyn, mae merched ddwywaith yn fwy tebygol o deimlo'n bryderus os na allan nhw ddefnyddio eu ffôn.
- Mae merched bron ddwywaith yn fwy tebygol na bechgyn o deimlo bod yn rhaid iddyn nhw ddal i edrych i weld beth mae pobl eraill yn ei ddweud amdanyn nhw ar-lein.
- Mae merched fwy na thair gwaith yn fwy tebygol o deimlo 'byddwn i'n colli ffrindiau pe na bawn i ar gyfryngau cymdeithasol' na bechgyn.
Cefnogi rhieni a gofalwyr
Nid oes digon o rieni yn defnyddio rheolaethau rhieni ar gyfer diogelwch sylfaenol neu hidlo neu sicrhau bod plant 11-13 oed yn gweld ffilmiau neu gemau sy'n briodol i'w hoedran. Mae rhieni a gofalwyr yn aml yn bygwth mynd â ffôn i ffwrdd, fel cosb, a allai atal person ifanc rhag troi atyn nhw am help, gan eu bod yn ofni ei golli. Yn yr un modd, gallai gwahardd ap lle mae eu ffrindiau i gyd yn siarad, fod yn wrthgynhyrchiol neu arwain at fod yn gyfrinachol.
Mynd i'r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth
Mae’r cwestiwn ynglŷn â beth sy'n wir a beth allai fod yn ffug wedi cynyddu'n fawr gyda'r datblygiadau cyflym mewn Deallusrwydd Artiffisial. Fe wnaeth Common Sense Media ganfod bod dros 7 o bob 10 (72%) o bobl ifanc wedi newid y ffordd maen nhw’n gwerthuso cywirdeb gwybodaeth ar-lein ar ôl cael profiad gyda chynnwys twyllodrus neu ffug.
Mae eu hymwybyddiaeth yn arwydd pwysig eu bod yn effro i'r risgiau a'r bygythiadau newydd a achosir gan Ddeallusrwydd Artiffisial. Rôl ymarferwyr addysg, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill o amgylch y plentyn yw mynd i’r afael â'r mater hwn, tra bod ymdrechion rheoleiddiol yn parhau i esblygu.
Adnabod pwy sydd fwyaf mewn perygl a hyfforddi staff
Mae'r arolwg yn archwilio'r rhai sy'n fwy tebygol o ddisgrifio effeithiau negyddol fel pobl ifanc ag anhwylder bwyta neu anhawster iechyd meddwl, y rhai sy'n poeni am fywyd gartref, y rhai sydd ag amhariad golwg neu amhariad clyw, anawsterau lleferydd, gofalwyr ifanc, plant mewn gofal a'r rhai sydd â heriau eraill. Mae'r canfyddiadau yn yr arolwg hwn yn parhau i fod yn gyson â'n hymchwil gyhoeddedig.
I'r rhai sy'n byw gyda heriau, mae'r rhyngrwyd yn chwarae rôl wahanol lle mae person ifanc yn ceisio sefydlu hunaniaeth, yn ceisio cymorth neu’n ceisio dod o hyd i eraill sydd yn yr un sefyllfa. Gall cael eu hamddifadu ohono achosi gofid mawr. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod pawb sy'n gofalu am bobl ifanc neu sy'n gweithio gyda nhw yn ymwybodol o’r peryglon ac yn effro i arwyddion y gall fod angen cymorth ar rywun.
Nid oes gan bob gwasanaeth sy'n gweithio gyda phlant ddigon o hyfforddiant arbenigol mewn bywyd ar-lein. Mae'r dirwedd ddigidol yn esblygu'n gyson, ac mae'n hanfodol bod oedolion yn dysgu ochr yn ochr â'n pobl ifanc.Casglwyd y data hwn yn hydref 2023. Cyfanswm yr ymatebwyr: 1433 gyda 970 o’r rheini yn fyfyrwyr uwchradd o 5 ysgol, a adroddir yma. Mae ymatebion ysgolion cynradd o 7 ysgol yn cael eu hadrodd ar wahân. Gellir dod o hyd i'n holl adroddiadau ymarfer a'n papurau ymchwil yn www.thecybersurvey.co.uk

Adrienne Katz
FRSA, Cyfarwyddwr Youthworks
Adrienne Katz yw Cyfarwyddwr Youthworks ymgynghoriaeth sy'n archwilio bywydau pobl ifanc er mwyn gwella ymarfer.
Mewn llyfrau, adroddiadau a hyfforddiant mae hi'n rhannu'r hyn y mae wedi’i ddysgu o waith gyda phobl ifanc.
Datblygodd Adrienne y Cybersurvey blynyddol yn 2008 i archwilio profiadau pobl ifanc o fywyd digidol. Mae hi'n awdur nifer o lyfrau ar seiberfwlio ac adroddiadau neu ddeunyddiau diogelwch ar-lein ar gyfer ysgolion, rhieni a gofalwyr maeth.
Mewn partneriaeth â Dr Aiman El Asam ym Mhrifysgol Kingston, ei nod yw cynhyrchu cyngor diogelwch ar-lein yn seiliedig ar dystiolaeth gan bobl ifanc yn eu harddegau.
Mae'n aelod o Weithgor Plant Bregus Canolfan Diogelwch Rhyngrwyd y DU ac yn aelod o Gymdeithas Arbenigwyr Diogelwch Ar-lein Oedolion a Phlant.
Roedd Adrienne yn falch iawn o dderbyn gwobr 'Unigolyn Ysbrydoledig y Flwyddyn 2018', gan y Ben Cohen Stand Up Foundation.