English

Rhagwelir mai AI neu ddeallusrwydd artiffisial yw un o'r newidiadau mwyaf o ran tarfu y byddwn yn ei brofi yn ystod ein hoes.  Ac er bod AI yn gallu darparu buddion enfawr, mae'r un mor debygol o allu achosi niwed oni bai bod arferion AI cyfrifol yn cael eu mabwysiadu’n eang. Bu’n rhaid i ni ddysgu'r wers honno drwy brofiadau negyddol gyda'r cyfryngau cymdeithasol a'r effaith negyddol y gall ei chael ar iechyd meddwl a chorfforol plant.

Wrth i ni hedfan drwy 2024, a hanner y byd yn bwrw pleidlais, mae'n tynnu sylw at botensial AI i ddylanwadu ar ganfyddiadau cymdeithasol a siapio'r dyfodol.

Er nad yw'r technolegau pwerus hyn yn newydd, mae ffrwydrad sydyn AI yn ein bywydau wedi cyflwyno mwy o gwestiynau nag atebion. Beth yn union yw'r dechnoleg hon? Beth mae'n gallu ei wneud? Beth nad yw'n gallu gwneud? Ac yn bwysicach, beth ddylai neu na ddylai ei wneud? Heb os, mae AI yn cynnig manteision di-ri gyda'i allu i ddadansoddi symiau enfawr o ddata mewn eiliadau, ac mae ganddo'r potensial i wneud datblygiadau mawr ym maes meddygaeth, er enghraifft. Ond mae'n bwysig ystyried cyfyngiadau AI, ac mae'n hollbwysig sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn barod i ddefnyddio'r dechnoleg yn gyfrifol. 

Beth yw AI?

Mae AI yn ymddangos mewn sawl ffurf, o awtomeiddio syml i ddeallusrwydd cymdeithasol Mae algorithmau yn rheoli pa hysbysebion rydyn ni'n eu gweld ar-lein, yn symud ceir sy’n hunanyrru, a'r botiau hynny sy'n ymddangos i ateb cwestiynau pan fyddwn ni'n siopa ar-lein. Gyda sgwrsfotiaid yn cael eu rhaglennu mewn ffordd sy'n caniatáu rhythm sgwrsio haws, rydyn ni hefyd yn gweld sgwrsfotiaid 'cydymaith' AI yn camu i sgidie ffrindiau yn yr union leoedd y mae pobl ifanc yn chwilio am gyswllt.

 Mae 'AI cynhyrchiol' yn cyfeirio at fath o fodel dysgu peiriant a all gynhyrchu data newydd (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, destun, lluniau, fideo, a sain) yn seiliedig ar y patrymau a'r strwythurau a ddysgwyd o setiau mawr o ddata sy'n bodoli eisoes.

Ymchwil Common Sense Education 

Mae ein hadroddiad ymchwil diwethaf, 'Teen and Young Adult Perspectives on Generative AI: Patterns of Use, Excitements, and Concerns', yn archwilio defnydd o AI cynhyrchiol yn ôl hil ac ethnigrwydd, oedran, rhywedd a hunaniaeth LHDTC+, ac yn rhannu canfyddiadau newydd ar sut mae grwpiau demograffig gwahanol yn canfod ac yn rhyngweithio â thechnoleg AI cynhyrchiol yn yr Unol Daleithiau.

Rhai uchafbwyntiau o ran data:

  • Mae hanner (51%) pobl ifanc 14–22 oed wedi defnyddio AI cynhyrchiol ar ryw adeg yn eu bywydau; ond dim ond 4% a ddywedodd eu bod nhw'n ei ddefnyddio bob dydd. Ac nid yw 8% o bobl ifanc erioed wedi clywed am AI cynhyrchiol.
  • Mae pobl ifanc yn teimlo'n gyffrous am botensial AI cynhyrchiol ar gyfer mwy o effeithlonrwydd yn yr ysgol a gwaith, creadigrwydd gwell, a chyfleoedd i gael gafael ar wybodaeth. Ond maen nhw'n poeni y gallai AI cynhyrchiol arwain at golli swyddi, dwyn eiddo deallusol a data personol, camwybodaeth a bod AI yn 'cymryd drosodd'.

Pryderon AI 

Wrth i dechnoleg esblygu a dod yn fwyfwy soffistigedig, mae'n ddealladwy ein bod ni'n teimlo'n anesmwyth gyda'r heriau gwirioneddol a thybiedig. Dyma rai pryderon ar hyn o bryd:

  • Camddefnydd - mae ffugio dwfn yn golygu lluniau, fideos a ffeiliau sain sy'n edrych neu'n swnio fel rhywun rydych chi'n ei adnabod (rhywun enwog, ffigur gwleidyddol, neu hyd yn oed aelod o'r teulu). Gall hyn hefyd gynnwys delweddau noeth neu fideos pornograffig a gynhyrchir gydag AI a heb gydsyniad yr unigolyn. Mae plant eisoes yn defnyddio apiau "noethi" i gynhyrchu delweddau noeth o gyd-ddisgyblion.
  • Tueddiadau a chamwybodaeth - y cwbl y gall AI ei wneud yw dysgu o'i ffynonellau, felly mae'n dwyn unrhyw dueddiadau, camwybodaeth a chynnwys problematig sy’n rhan o’r deunydd gwreiddiol. Ac os nad yw'r tîm o ddatblygwyr yn gynrychiadol, mae bron yn sicr y bydd tuedd ymhlyg yn rhan o fframwaith yr ap neu'r rhaglen, fel mae technoleg adnabod wyneb wedi dangos.
  • Moeseg - oherwydd bod offer AI yn defnyddio cynnwys o bob math o ffynonellau gwahanol, mae'r deunydd a gynhyrchir yn gymysgedd o waith llawer o bobl eraill, ac yn aml does dim cydnabyddiaeth gyson neu gyflawn i'r ysgrifenwyr gwreiddiol. Eisoes, mae dysgwyr yn cyflwyno traethodau wedi’u cynhyrchu gan AI ac yn esgus mai eu traethodau nhw eu hunain ydyn nhw.  Hefyd, mae preifatrwydd data yn fater niwlog ac aml-haenog o ran AI cynhyrchiol.
  • Effeithiau am gylcheddol - mae AI cynhyrchiol yn defnyddio cryn dipyn o ynni ac adnoddau eraill, gan gynnwys dŵr ffres fel mecanwaith oeri. Mewn oes pan mae gennym bentwr o broblemau hinsawdd yn barod, mae'r defnydd cynyddol o AI yn ychwanegu at y materion hyn.

Felly beth allwn ni ei wneud i helpu plant i feddwl yn feirniadol am dechnolegau AI?

Mae angen i ni ddeall llawn botensial AI yn well

Mae yna rai cyfleoedd anhygoel i offer AI cynhyrchiol drawsnewid dysgu i blant, teuluoedd ac addysgwyr—ond mae'r cyfleoedd hyn (er eu bod yn datblygu'n gyflym) yn newydd a heb eu profi'n iawn eto.

Mae angen i ni leihau'r risgiau a achosir gan AI

Yn wahanol i'r cyfleoedd posibl hyn, mae risgiau offer AI i blant ac ysgolion yn real iawn ac eisoes yn ymddangos mewn cymunedau ledled Cymru a thu hwnt.

Mae angen i ni sicrhau defnydd cyfrifol o AI

Mae angen i rieni ac athrawon ofyn cwestiynau beirniadol am offer AI cyn eu defnyddio gyda phlant er mwyn sicrhau bod yr offer yn ddiogel ac wedi'u dylunio gyda’r nod o gael canlyniadau dysgu dymunol. Dyma 5 awgrym ar gyfer trafod AI cynhyrchiol gyda'ch plant.

Dull synnwyr cyffredin: ein menter llythrennedd AI

Mae Common Sense wedi ymrwymo i greu eglurder, ymddiriedaeth a dealltwriaeth trwy ein mentrau AI - gan gynnwys sgorio ac adolygu cynnyrch AI, cwricwla llythrennedd AI, ymchwil wreiddiol, a mwy.

Gwersi llythrennedd AI rhad ac am ddim newydd i ddysgwyr yng Nghymru

Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru rydym wedi diweddaru cyfres o adnoddau llythrennedd AI  gan Common Sense Education.  Mae'r gwersi newydd hyn, i blant blwyddyn 7 ac uwch, ar gael nawr ar Hwb yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Cefnogi teuluoedd

Gallwch gefnogi'r plant yn eich ystafell ddosbarth trwy gynnwys rhieni hefyd mewn ffyrdd o archwilio'r technolegau diweddaraf gyda'u pobl ifanc, a'u harwain i ddefnyddio offer newydd yn gyfrifol - trowch i'n canllaw 'Helping Kids Navigate the World of Artificial Intelligence'.

Mae technolegau newydd fel AI cynhyrchiol yn cyflwyno risgiau a chyfleoedd newydd i bobl ifanc, ac mae llawer ohonom ni’n teimlo nad ydym ni’n barod i’w cefnogi, ond does dim angen meithrin agwedd newydd o reidrwydd. Mae addysgu dinasyddiaeth ddigidol yn dysgu'r cysyniadau, y sgiliau a'r ymagweddau craidd sydd eu hangen i ffynnu yn ein byd digidol, ac mae'n dal yn sail i helpu plant i ffynnu fel defnyddwyr, crewyr, dysgwyr a dinasyddion.

Darllen pellach

 


 

Jenna Khanna, Cyfarwyddwr Addysg a Phartneriaethau, Common Sense Media UK

Mae Jenna yn rheoli partneriaethau, cynnwys addysg a strategaeth ddosbarthu, ac ymunodd â Common Sense UK yn 2019.

Dechreuodd Jenna ei gyrfa yn sector FMCG y DU, ac mae wedi bod mewn swyddi arwain mewn cwmnïau 'blue chip' byd-eang gan gynnwys Coca Cola a Mars ers 15 mlynedd.  Fel ymgynghorydd, bu'n cynghori busnesau bwyd a diod newydd a busnesau bach a chanolig ar ddosbarthu, rheoli cwsmeriaid, cynllunio busnes, a datblygu cynnyrch.

Mae Jenna wrth ei bodd yn teithio a chyflwyno safbwyntiau byd-eang i'w gwaith, ar ôl crwydro ar hyd a lled India fel cynhyrchydd cyfres ddogfen ar fwyd a theithiau moethus, a chydysgrifennu llyfr coginio yn yr Emiradau Arabaidd Unedig.

Mae Jenna yn byw yn Llundain ond mae'n teimlo’n angerddol dros siarad am anghenion plant a phobl ifanc ledled y DU, gan gynnwys anghenion siaradwyr Cymraeg. Mae ganddi BA (Anrh) mewn Iaith a Chyfathrebu o Brifysgol Caerdydd.