English

Mae’r ffordd o gael y newyddion wedi symud yn sylweddol o gyfryngau traddodiadol fel teledu a phrint i lwyfannau ar-lein a chyfryngau cymdeithasol, yn enwedig ymhlith cenedlaethau iau.

Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi mynediad 24/7 at wybodaeth newyddion i bobl ifanc ac yn eu cadw’n gysylltiedig â'r byd. Fodd bynnag, gall holl swmp yn ogystal ag ansawdd y wybodaeth hon, sydd wedi'i waethygu gan gynnydd mewn gwybodaeth anghywir a thwyllwybodaeth a chynnwys a gynhyrchir gan AI, beri risgiau i blant.

Yn yr erthygl hon, mae Internet Matters yn rhannu canfyddiadau o'u hymchwil ddiweddaraf sy'n edrych ar effaith yr amgylchedd newyddion ar-lein hwn ar lesiant plant a phobl ifanc.

O ble mae pobl ifanc yn cael eu newyddion?

Cyfryngau cymdeithasol yw prif ffynhonnell newyddion pobl ifanc, gyda 68% o bobl ifanc sy'n darllen newyddion yn dweud hynny. Mae pobl ifanc yn dweud wrthym fod y byd ar-lein yn hanfodol ar gyfer gwybod am ddigwyddiadau cyfoes (74%) ac mae dros ddwy ran o dair (67%) yn dweud mai cyfryngau cymdeithasol yw’r lle maen nhw'n dysgu am y newyddion diweddaraf. Mae hyn yn ei gwneud hi'n bwysig eu bod yn derbyn gwybodaeth newyddion o safon dda i'w cadw mewn cysylltiad â'r byd.

Hyd yn oed ar y cyfryngau cymdeithasol, mae plant yn parhau i gael eu newyddion o ffynonellau newyddion sefydledig fel y BBC neu ITV (41%). Y cyfrifon hyn hefyd yw'r ffynhonnell fwyaf dibynadwy o wybodaeth newyddion ar gyfryngau cymdeithasol i bobl ifanc (55%).

Mae plant hefyd yn gweld ac yn clywed newyddion gan ddylanwadwyr a chrewyr cynnwys, i’r un graddau ag o ffynonellau newyddion sefydledig (40%). Er gwaethaf hyn, mae'r bwlch ymddiriedaeth yn sylweddol gyda dim ond 16% o blant yn dweud eu bod yn ymddiried yn y crewyr hyn fel ffynhonnell newyddion.

Algorithmau cyfryngau cymdeithasol

Ni ellir pwysleisio rôl algorithmau cyfryngau cymdeithasol ddigon, gan eu bod yn chwarae rhan fawr yn y ffordd y mae plant yn defnyddio newyddion yn oddefol trwy gyflwyno cynnwys newyddion yn uniongyrchol yn eu ffrydiau, p'un ai bod y plant eisiau ei weld ai peidio. Mewn gwirionedd, dywedodd plant wrthym eu bod yn aml yn cael newyddion o gyfrifon nad ydyn nhw'n eu dilyn a dywedodd 40% nad ydyn nhw'n dilyn cyfrifon newyddion o gwbl.

“Dydy o ddim fel fy mod i’n chwilio amdano [newyddion], mae jest yn ymddangos ar fy ffrwd ar hap.” (Bachgen, 15).

Llif cyson o newyddion 

Mae chwech o bob deg (61%) o blant sy'n darllen newyddion ar gyfryngau cymdeithasol yn dweud wrthym eu bod wedi gweld stori sy'n eu poeni neu'n eu cynhyrfu yn ystod y mis diwethaf. Pan ofynnon ni i blant beth oedd wedi eu cynhyrfu, dywedodd 56% straeon newyddion am ryfel a gwrthdaro, trais a marwolaeth (19%) a digwyddiadau argyfyngus (10%).

Tynnodd pobl ifanc sylw at sut yr oedd algorithmau’n effeithio ar hyn, gan wthio cynnwys diofyn ac sydd weithiau’n peri gofid ar ddefnyddwyr.

“Y diwrnod o’r blaen roeddwn i’n sgrolio, ac fe welais i ar gyfrif newyddion fod rhywun yn trywanu pobl mewn siop ac roedd y llun wedi cael ei wneud yn aneglur, ond ddim yn ddigon aneglur…” (Bachgen, 15).

“Os oes rhai pethau nad ydych chi eisiau eu gweld, byddan nhw’n dal i ymddangos [ar eich ffrydiau] ac nid oes llawer y gallwch chi ei wneud i’w hatal.” (Merch, 17).

Mae'r llif cyson hwn o gynnwys newyddion yn effeithio ar lesiant pobl ifanc. Mae bron i hanner (47%) o blant yn dweud bod gweld cynnwys newyddion ar gyfryngau cymdeithasol yn rhoi problemau newydd iddynt feddwl amdanynt, ac mae 41% yn teimlo wedi'u llethu gan y cynnwys newyddion hwn. 

Ymlediad cynnwys a gynhyrchir gan AI a newyddion ffug

Mae newyddion ffug yn tyfu: mae dros chwarter o blant yn dweud eu bod wedi gweld stori newyddion ffug neu a gynhyrchwyd gan AI ac mae 41% arall yn dweud eu bod yn meddwl eu bod wedi ond nad ydyn nhw'n siŵr. Mae cyfryngau cymdeithasol yn gwaethygu'r broblem hon oherwydd ei fod yn amgylchedd sydd heb ei wirio i raddau helaeth lle nad yw safonau newyddiadurol traddodiadol yn berthnasol. Yn wahanol i'r cyfryngau traddodiadol, nid oes rhaid i bostiadau gael eu gwirio gan ffeithiau ac mae rheoleiddio gwan yn y maes hwn yn caniatáu i gamwybodaeth ledaenu'n gyflym.

Ar lefel unigol, mae hyn yn broblem i lesiant plant. Mae plant yn adrodd eu bod wedi teimlo'n ddryslyd (30%) neu hyd yn oed gywilydd (10%) ar ôl credu stori newyddion ffug neu a gynhyrchwyd gan AI. Dywedodd bron i draean (31%) o bobl ifanc fod gweld stori newyddion ffug wedi arwain at ddiffyg ymddiriedaeth mewn cynnwys newyddion arall.

Mae gan y cynnwys hwn ganlyniadau cymdeithasol ehangach hefyd. Gwelsom hyn gyda digwyddiad Southport yn 2024, lle aeth gwybodaeth anghywir am hunaniaeth y troseddwr yn feirol ar y cyfryngau cymdeithasol ac arweiniodd hynny at derfysgoedd. Daeth Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg (Saesneg yn unig) Tŷ'r Cyffredin i'r casgliad bod y terfysgoedd hyn wedi'u sbarduno gan "ledaeniad feirol camwybodaeth niweidiol", wedi'i waethygu gan systemau ar prif lwyfannau sy’n argymell deunydd. Nid yw'n syndod bod 63% o blant yn poeni am dwf newyddion ffug a chynnwys a gynhyrchir gan AI. 

Mae angen sgiliau llythrennedd yn y cyfryngau ar blant er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn

Mae'n bwysicach nag erioed bod gan blant a phobl ifanc y sgiliau llythrennedd yn y cyfryngau sydd eu hangen arnynt er mwyn trin newyddion yn ddiogel ac yn gyfrifol yn y byd ar-lein.

Sgiliau llythrennedd yn y cyfryngau i adnabod newyddion ffug

Mae ein hymchwil yn dangos bod pobl ifanc o gartrefi incwm uwch yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi gweld cynnwys newyddion a gynhyrchwyd gan AI neu gynnwys newyddion ffug, gyda 36% yn nodi hyn o'i gymharu â 20% o gartrefi incwm is.

Gan fod newyddion ffug ym mhobman, nid bylchau mewn amlygiad iddo sy’n gwneud y gwahaniaeth hwn ond yn fwyaf tebygol, bylchau mewn adnabyddiaeth ohono. Mae plant a phobl ifanc o gartrefi incwm uwch hefyd yn fwy tebygol o roi sylw manylach i'r newyddion a'i gyrchu o ystod ehangach o ffynonellau sefydledig. Gyda mwy o gyfleoedd i wirio gwybodaeth a sylfaen wybodaeth ehangach, efallai y bydd y plant hyn yn gallu adnabod straeon newyddion ffug yn well.

Mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd arfogi pob plentyn ar gyfer ymwneud â’r amgylchedd newyddion ar-lein, gan gynnwys sut i wirio gwybodaeth newyddion ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'r angen am hyn yn amlwg, gyda dim ond 34% o blant yn gwybod i wirio gwybodaeth newyddion ar gyfryngau cymdeithasol drwy edrych ar ffynonellau eraill fel ffynonellau newyddion sefydledig.

Sgiliau llythrennedd yn y cyfryngau i gadw'n ddiogel ar-lein

Mae llythrennedd yn y cyfryngau hefyd yn ymwneud â chadw'n ddiogel ar-lein a chael profiadau cadarnhaol. Mae hyn yn cynnwys cael eu grymuso i ddefnyddio offer sy'n eu diogelu: ond dim ond 18% o blant a phobl ifanc a ddywedodd wrthym eu bod yn defnyddio offer blocio, hidlo neu adrodd i ymateb i wybodaeth sy’n eu hypsetio yn eu ffrydiau. Mae hyn yn unol â'n hymchwil blaenorol ar brofiadau plant o adrodd am niwed ar-lein, sy'n dangos, er bod 71% o blant yn dweud eu bod wedi profi niwed adroddadwy, dim ond traean (36%) o blant sydd wedi adrodd am y profiadau hyn wrth y llwyfan.

 Heblaw am ddim ond adrodd am niwed, mae hefyd yn bwysig dysgu plant sut i liniaru ac atal dod i gysylltiad â niwed. Er enghraifft, dim ond 16% o blant sy'n gwybod sut i ailosod eu ffrydiau cyfryngau cymdeithasol i arddangos cynnwys gwahanol.

Cefnogi plant i ymdrîn â’r newyddion

Mae plant angen cefnogaeth gan yr oedolion dibynadwy o'u cwmpas i ymwneud â’r gofod cymhleth hwn sy'n newid yn gyflym.

Rhieni

Rydym yn gwybod mai rhieni yw’r rhai y mae plant yn troi atynt pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le ar-lein. Mae 84% o blant hefyd yn dweud eu bod wedi siarad â'u rhieni am sut i ddweud a yw newyddion ar-lein yn wir.

Ond gall rhieni hefyd fod yn agored i newyddion ffug a chynnwys a gynhyrchir gan AI. Dylai rhieni fod â mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gefnogi plant i ddeall yr amgylchedd newyddion hwn sy'n newid yn barhaus.

Edrychwch ar ein hadnoddau ar newyddion ffug a chamwybodaeth a Find the Fake, cwis i'w chwarae fel teulu i ddysgu a phrofi gwybodaeth am newyddion ffug.

Athrawon

Mae rhan ysgolion yn hanfodol wrth lunio sut mae plant yn ymgysylltu â chynnwys digidol. Ond dim ond 56% o blant sy'n darllen newyddion sy'n dweud eu bod wedi cael eu dysgu sut i'w wirio yn yr ysgol. 

Rhaid plethu llythrennedd yn y cyfryngau i'r cwricwlwm ym mhob cam , gan rymuso disgyblion i gwestiynu, dadansoddi a deall y wybodaeth ar-lein y maen nhw'n dod ar ei thraws. Gyda'r gefnogaeth gywir gan y llywodraeth, gall athrawon ddarparu addysg llythrennedd yn y cyfryngau hanfodol yn effeithiol ac yn hyderus.

Cymerwch olwg ar Digital Matters, ein llwyfan rhyngweithiol sy'n cefnogi athrawon i addysgu plant am ddiogelwch ar-lein gan gynnwys canfod gwybodaeth anghywir a thwyllwybodaeth.

Internet Matters

Mae Internet Matters yn sefydliad nid-er-elw sy'n helpu teuluoedd i gadw'n ddiogel ar-lein, gan ddarparu canllawiau ac adnoddau i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Fel rhan o'r gwaith hwn, mae Internet Matters yn cynnal ymchwil rheolaidd gyda phlant a rhieni ac yn defnyddio'r mewnwelediadau hyn i hyrwyddo safbwyntiau teuluoedd, gan wneud argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth i bawb sydd â dylanwad ar fywydau digidol plant.