English

Erbyn hyn, mae dyfeisiau y gallwn ni chwarae gemau fideo arnyn nhw’n rhan gyffredin o’n bywydau, gyda 63% o blant rhwng 5 i 15 oed yn defnyddio tabled, 71% yn defnyddio ffôn glyfar, a mwy na dwy ran o dair (68%) o blant rhwng 7 i 18 oed yn berchen ar eu consol gemau eu hunain (Saesneg yn unig). Yn 2022, cafodd gwerth marchnad gemau fideo y DU ei phrisio ar £7.05 biliwn, ac fe gododd y gyfran o plant rhwng 3 i 17 sy'n chwarae gemau ar-lein o 57% yn 2022 i 60% yn 2023. Ac i lawer o bobl ifanc, mae chwarae gemau fideo gyda chyfeillion neu ar y we wedi troi’n rhywbeth y tu hwnt i hamddena, mae’n ffordd o feithrin perthnasoedd, o wella sgiliau, a weithiau i ddod o hyd i yrfa.

Beth yw chwarae gemau fideo?

Chwarae gemau fideo yw'r weithred o chwarae gemau fideo er mwyn hwyl. Gall unrhyw un chwarae gemau fideo, ac mae gemau ar gael addas i bobl o bob oedran, waeth beth fo’u diddordebau neu eu gallu. Gallwch chwarae gemau fideo adref, ar gonsolau, ar gyfrifiaduron, ac ar ffonau symudol. Mae’n un o'r hobïau mwyaf poblogaidd y DU, ac mae'n ffordd wych o ymlacio, cael eich difyrru, i gymdeithasu ac i ddysgu sgiliau newydd.

Beth yw E-Chwaraeon?

Mae e-chwaraeon wedi esblygu o chwarae gemau fideo, gan droi’r weithgaredd hamdden yn yrfa broffesiynol. Camp gystadleuol yw e-chwaraeon, a bydd yn aml yn digwydd fel rhan o ddigwyddiad a allai gynnwys cannoedd o gystadleuwyr, sy’n cael eu galw’n e-atheletwyr (Saesneg yn unig) neu’n chwaraewyr gemau fideo proffesiynol (Saesneg yn unig). Mae'r term 'e-chwaraeon' yn cynnwys chwaraewyr proffesiynol sy’n chwarae amrywiaeth o gemau, ar draws sawl cystadleuaeth, ac ar draws gwahanol lwyfannau.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae timau e-chwaraeon proffesiynol o’r DU, fel Fnatic ac Excel Esports, a thimau cenedlaethol wedi bod yn cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol. Mae'r timau hyn yn cystadlu mewn pencampwriaethau ar draws y byd, gan ddenu miliynau o wylwyr a chefnogwyr, boed hynny yn yr arenas eu hunain neu’n gwylio ar y we.

Y Manylion

Mae gan chwaraewyr proffesiynol hyfforddwyr, cyfleusterau hyfforddi, a thimau rheoli

Ar gyfartaledd, mae chwaraewyr proffesiynol yn treulio mwy nag wyth awr yn ymarfer bob dydd, yn chwarae ar eu pennau eu hunain ac mewn timau. Maen nhw’n paratoi ar gyfer pencampwriaethau trwy astudio mecaneg y gêm, trwy ddysgu a defnyddio strategaethau newydd, a thrwy astudio’u gwrthwynebwyr. Maen nhw’n yn ymarfer am gyfnodau hir bob dydd er mwyn meithrin cydsymudedd a chydlyniant y tîm, i berfformio'n dda mewn cystadlaethau a gynhelir sawl gwaith y mis, ac i sicrhau eu bod yn gwella'n gyson, gan adolygu perfformiadau’r gorffennol a meistroli eu crefft.

Mae cystadlaethau e-chwaraeon mwyaf y byd yn denu miliynau o wylwyr

Mae rhai o'r digwyddiadau byw mwyaf yn llenwi lleoliadau enfawr fel Madison Square Garden, y Staples Centre yn LA, a Stadiwm Sangam yn Seoul, De Korea. Er hynny, mae'r rhan fwyaf o’r gynulleidfa bellach yn gwylio ar wasanaethau ffrydio ar-lein, fel Twitch. Gosododd Pencampwriaethau League of Legends y Byd 2023 record trwy gyrraedd brig o 6.4 miliwn o wylwyr ar-lein. Bydd y bencampwriaeth yn dod i Lundain ym mis Tachwedd 2024, ac mae disgwyl iddi fod â’r nifer fwyaf erioed o wylwyr.

Gall chwarae gemau fideo ar lwyfannau ffrydio droi’n yrfa llewyrchus hefyd

Yn wahanol i e-chwaraeon, lle daw’r adloniant o wylio’r cystadlu, mae’r rhai sy’n ffrydio gemau fideo yn cael mwynhad o’r gemau eu hunain, neu o bersonoliaethau’r rhai sy’n chwarae. Gall ffrydwyr Twitch fod â miliynau o wylwyr, gyda’r rhai mwyaf llwyddiannus yn denu dros 15 miliwn y flwyddyn. Gall hyn fod yn opsiwn hynod o broffidiol i'r rhai sydd eisiau gwneud bywoliaeth o chwarae gemau fideo.

Gall rhai o'r sianeli mwyaf poblogaidd ar Twitch ennill hyd at £2 filiwn y flwyddyn mewn ffioedd tanysgrifio, rhoddion, nawdd, a gwerthiant nwyddau. Fodd bynnag, gall y niferoedd hyn amrywio'n ddramatig, ac mae llwyddiannau o’r fath yn eithaf anghyffredin. Mae'r rhan fwyaf o ffrydwyr Twitch llawn-amser yn hunangyflogedig ac yn ennill rhwng £2,000 i £5,000 y mis, tra bo ffrydwyr llai yn ennill tua £75 i £100 y mis, a ddim eto wedi cyrraedd trothwy taliad lleiaf Twitch.

Mae’r gwobrau ariannol i chwaraewyr e-chwaraeon y DU yn amrywio'n sylweddol

Gall chwaraewyr proffesiynol ennill arian trwy lofnodi cytundebau nawdd, trwy gael contract tîm, a thrwy gael mwy o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond, mae ansefydlogrwydd ariannol a diffyg sicrwydd swydd i’r rhai sy’n dewis hyn fel gyrfa.

Mae'r rhan fwyaf o chwaraewyr proffesiynol yn ennill incwm cymharol isel, a all gynnwys:

  • cyflogau gan eu timau ar gontractau tymor byr
  • enillion o bencampwriaethau lleol llai
  • incwm o ffrydio a nawdd

Ar gyfartaledd, amcangyfrifir bod chwaraewyr e-chwaraeon proffesiynol yn ennill rhwng £1,000 a £5,000 y mis, gyda chyflog blynyddol canolrifol o tua £30,000.

Gyda'r diwydiant gemau fideo ac e-chwaraeon yn ehangu mor gyflym, mae pryderon ynghylch diogelwch a lles chwaraewyr

Er bod angen gwneud rhagor o waith ymchwil ym maes effaith e-chwaraeon ar iechyd meddwl chwaraewyr (Saesneg yn unig), mae nifer cynyddol o astudiaethau yn tynnu sylw at y ffactorau sy’n achosi straen, gan gynnwys treulio gormod o amser yn eistedd, pwysau i berfformio, rheoli perfformiad o fewn gemau, ac ymdopi â cholli. Mae llawer o'r gwaith ymchwil a wnaed yn cymharu e-chwaraeon â chwaraeon mwy traddodiadol, a hynny gan fod y pwysau a'r disgwyliadau yn debyg; bydd chwaraewyr gemau fideo proffesiynol yn aml yn chwarae o flaen cynulleidfaoedd mwy na’r rhai sy’n gwylio gemau’r Uwch-gynghrair ar gyfartaledd.

Weithiau, gall deinameg y tîm arwain at broblemau cyfathrebu, gwrthdaro ac ymddygiadau negyddol rhwng aelodau, ac yn aml bydd y gweithdrefnau diogelu a’r trefniannau cymorth yn annigonol neu’n anaddas oherwydd ehangiad dramatig y diwydiant.  Mae chwaraewyr benywaidd yn wynebu mwy o stigma a gwahaniaethu hefyd – gyda ffrydiau a fforymau yn aml yn llawn casineb at fenywod a’u trin fel gwrthrychau, sy’n arwain at fwy o graffu annheg a cham-driniaeth.

O gymharu ag e-chwaraeo, nid yw’r un disgwyliadau a lefel o graffu yn bodoli wrth chwarae gemau fideo, ond er hyn, pan fo pobl yn chwarae gemau fideo ar-lein mae lefelau’r bwlio ac aflonyddu yn bryderus o uchel. Tra bo chwaraewyr e-chwaraeon yn wynebu straen a her am y ffordd maen nhw’n chwarae, mae’r rhai sy’n chwarae gemau ar-lein yn aml yn wynebu cam-driniaeth oherwydd pwy ydyn nhw.

Er hyn, mae'r gymuned chwarae gemau fideo yn lle hynod o groesawgar a chefnogol, lle gall pobl ddod o hyd i gymuned a datblygu fel pobl

Mae gan e-chwaraeon a gemau fideo nifer o agweddau cadarnhaol sy'n cyfrannu at eu poblogrwydd. Maen nhw’n cynnig llwyfan i unigolion ddatblygu ac arddangos eu gallu i feddwl yn strategol, i gyd-weithio mewn tîm, ac i ddatrys problemau. Mae pencampwriaethau e-chwaraeon yn meithrin ymdeimlad o gymuned ymhlith chwaraewyr ledled y byd, gan hyrwyddo dealltwriaeth draws-ddiwylliannol. Gall natur gystadleuol y gemau hefyd arwain at dwf personol, gyda chwaraewyr yn ymdrechu i wella eu sgiliau a'u safle, ac yn cael cyfle i ennill bywoliaeth o’r hyn maen nhw'n ei garu fwyaf: chwarae gemau fideo. Gall chwarae gemau fideo fod yn adloniant ac yn ffordd o ymlacio hefyd, yn ogystal ag yn ffordd greadigol i chwaraewyr ymgolli mewn gwahanol fydoedd rhithwir. Fodd bynnag, fel unrhyw gamp neu hobi arall, mae'n bwysig i chwaraewyr gydbwyso eu chwarae ag agweddau eraill ar eu bywydau er mwyn sicrhau ffordd iach o fyw.

Dyfodol gemau fideo ac e-chwaraeon

Mae gwahaniaethau amlwg rhwng chwarae gemau fideo ac e-chwaraeon, ond mae’r ddau beth wedi’u cydblethu. Mae ehangiad a hygyrchedd gemau fideo wedi cyflwyno ffordd newydd o chwarae – cystadlu mewn e-chwaraeon. Bellach, e-chwaraeon sydd ar flaen y gad o ran siapio a diffinio diwylliant digidol a gemau fidio ymysg pobl ifanc. Mae e-chwaraeon yn gamp hygyrch iawn i'r rhan fwyaf, ar wahân i gost y caledwedd a'r dechnoleg, ac mae'n un o'r ychydig chwaraeon cystadleuol lle nad oes gwahaniaethu ar sail gallu corfforol, hunaniaeth, profiad bywyd, neu ddiddordeb. Gellid dweud yr un peth am chwarae gemau fideo hefyd – mae’r ddau fath o chwarae yn cyflwyno pobl ifanc i sgiliau newydd ac i gymunedau newydd.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae trafodaethau ynghylch diogelwch pobl ifanc wrth chwarae gemau fideo, a diogelwch chwaraewyr a chefnogwyr e-chwaraeon, yn dod yn fwy cyffredin. Mae'n hanfodol bod lles chwaraewyr a chefnogwyr e-chwaraeon yn cael ei flaenoriaethu, a hynny er mwyn sefydlu rheolaethau, systemau diogelu, a chymorth priodol a fydd yn sicrhau bod pob un yn cael ei amddiffyn rhag niwed posibl.


 

Ygam