‘Blacmel Rhywiol’
- Rhan o
Beth yw blacmel rhywiol?
Lle mae technoleg yn ein cysylltu mewn gwahanol ffyrdd, mae'n bwysig bod yn ymwybodol nid yn unig o'r manteision enfawr ond hefyd o’r risgiau posibl sy'n gysylltiedig â rhyngweithio ar-lein. Un bygythiad o'r fath yw blacmel rhywiol - math difrifol o flacmel sy'n cynnwys ecsbloetio delweddau neu fideos o noethni, delweddau cignoeth neu o natur sensitif er mwyn gorfodi dioddefwyr i weithredu yn erbyn eu hewyllys, megis rhannu delweddau cignoeth pellach neu dalu i atal delweddau rhag cael eu rhannu ymhellach. Mae cam-drin rhywiol yn drosedd sy'n peri gofid a gall arwain at ganlyniadau emosiynol a seicolegol difrifol.
Mae troseddwyr yn aml yn targedu pobl sy'n defnyddio apiau chwilio am gariad, platfformau cyfryngau cymdeithasol, gwefannau gwe-gamera/ffrydio byw neu wefannau sy'n gysylltiedig â phornograffi. Efallai y byddan nhw'n esgus bod yn rhywun arall ar-lein a dod yn ffrindiau gyda chi. Yn ddiweddarach, efallai y byddan nhw’n bygwth rhannu lluniau neu fideos gyda'ch teulu a'ch ffrindiau.
Mae ein dadansoddwyr yn IWF yn derbyn mwy a mwy o adroddiadau am y math yma o drosedd. Weithiau mae'r blacmeliwr yn dangos i'r dioddefwr gasgliad o ddelweddau sy'n cynnwys y ddelwedd noethlymun neu bersonol wreiddiol a rannwyd yn gyntaf, ynghyd â chyfrifon cyfryngau cymdeithasol y dioddefwr, ei restrau ffrindiau a theulu, yn ogystal â chyhuddo'r dioddefwr ar gam o droseddau nad yw wedi'u cyflawni.
Gall blacmel rhywiol achosi trallod emosiynol sylweddol, teimladau o gywilydd, ofn a phryder. Mae'n hanfodol cofio nad yw’r dioddefwr byth ar fai, ac mae cymorth ar gael i helpu i ymdopi â'r canlyniadau.
Adnabod arwyddion o flacmel rhywiol
- Byddwch yn wyliadwrus am rybuddion posibl sy'n awgrymu ymdrechion i flacmelio’n rhywiol, megis derbyn cynnwys cignoeth nad oeddech chi wedi gofyn amdano, ceisiadau sydyn neu ddi-baid am ddelweddau personol, neu geisiadau parhaus am wybodaeth bersonol.
- Iaith fygythiol ynghylch colli gwylwyr neu ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol os nad ydych yn gwneud yn ôl y gofyn, neu os nad ydych yn anfon delweddau a fideos.
Sut i sylwi bod rhywun rydych chi'n ei adnabod yn ddioddefwr blacmel rhywiol
Mae'n bwysig nodi y gall pob plentyn ymateb yn wahanol i flacmel rhywiol, a gall yr arwyddion amrywio yn dibynnu ar ei bersonoliaeth, ei oedran a ffactorau eraill. Fodd bynnag, dyma rai newidiadau posibl mewn ymddygiad a allai ddangos bod plentyn yn cael ei flacmelio’n rhywiol.
- Trallod emosiynol: Gall y plentyn arddangos arwyddion o fwy o bryder, ofn, neu hwyliau oriog. Efallai y bydd yn ymddangos yn fwy mewnblyg, yn isel, neu hwyrach y bydd yn cynhyrfu’n hawdd.
- Encilio cymdeithasol: Gallai'r plentyn ddechrau osgoi ymwneud ag eraill yn gymdeithasol neu dreulio llai o amser gyda ffrindiau a theulu. Efallai y bydd â’i ben yn ei blu ac yn amharod i gymryd rhan mewn gweithgareddau yr arferai eu mwynhau.
- Newid mewn ymddygiad ar-lein: Os yw plentyn yn dioddef blacmel rhywiol, gall arddangos newidiadau penodol yn ei weithgareddau ar-lein, fel treulio gormod o amser ar-lein, ymddwyn yn gyfrinachol am ei ryngweithio ar-lein, neu osgoi neu ddileu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn sydyn.
- Ymddygiad anarferol gydag arian, talebau, arian ar-lein ac ati: Mae'r plentyn yn gwario mwy o arian nag arfer neu mae ganddo lai o arian nag y byddech chi'n ei ddisgwyl. Efallai y bydd yn dwyn arian gennych chi neu gan aelodau eraill o'r teulu.
- Cyfrinachedd anarferol: Gall y plentyn ddod yn anarferol o gyfrinachol am ei fywyd personol, ei weithgareddau, neu am ei ryngweithio ar-lein. Efallai y bydd yn gyndyn i drafod y peth neu’n amddiffynnol wrth gael ei holi am ei ymddygiad neu am unrhyw gyfathrebu ar-lein.
- Perfformiad academaidd yn dirywio: Gall blacmel rhywiol gael effaith sylweddol ar les emosiynol plentyn, a all arwain at ddirywiad yn ei berfformiad academaidd. Efallai y bydd yn cael trafferth canolbwyntio, yn colli diddordeb mewn gwaith ysgol, neu’n dangos arwyddion o drallod yn ystod oriau ysgol.
- Newid agwedd tuag at yr ysgol: Efallai y bydd yn gweld yr ysgol fel ei le diogel ac yn mwynhau'r seibiant o’i ddyfeisiau os yw'r tramgwyddwr/camdriniwr y tu allan i gymuned yr ysgol.
- Cwsg aflonydd: Gall blacmel rhywiol achosi straen a phryder sylweddol, gan arwain at newidiadau mewn patrymau cysgu. Efallai y bydd y plentyn yn cael anawsterau cysgu, hunllefau aml, neu’n deffro’n amlach yn ystod y nos.
- Osgoi dyfeisiau electronig: Os yw plentyn yn cael ei flacmelio’n rhywiol, efallai y bydd yn dangos amharodrwydd anarferol i ddefnyddio dyfeisiau electronig neu’n dangos anghysur wrth dderbyn negeseuon neu alwadau. Efallai y bydd yn ceisio cyfyngu ar ei bresenoldeb ar-lein neu’n osgoi defnyddio apiau neu blatfformau penodol yn gyfan gwbl.
- Hunan-niweidio neu syniadaeth hunanddinistriol: Efallai y bydd y plentyn yn arddangos arwyddion o hunan-niweidio, meddyliau hunanddinistriol neu’n mynegi teimladau o anobaith. Dylid cymryd yr arwyddion hyn o ddifrif, a dylid gofyn am gymorth proffesiynol ar unwaith.
Mae'n bwysig cofio y gallai'r newidiadau ymddygiadol hyn awgrymu amrywiol broblemau, nid dim ond blacmel rhywiol. Os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw newidiadau sylweddol a pharhaus yn ymddygiad plentyn, mae'n hanfodol mynd i'r afael â'r sefyllfa gyda sensitifrwydd, cyfathrebu’n agored a cheisio cymorth proffesiynol os oes angen.
Beth i'w wneud os ydych chi'n dioddef blacmel rhywiol
- Dydych chi ddim ar fai a does gennych chi ddim i fod â chywilydd ohono. Efallai y bydd yn gwneud i chi deimlo'n ofidus ac yn ddiwerth, ond mae cymorth ar gael gan bobl a sefydliadau y gallwch ymddiried ynddyn nhw, fydd ddim yn eich beirniadu ac a fydd yn eich deall.
- Peidiwch â chynhyrfu a holwch am help: Ewch ati’n syth i ofyn am help gan oedolyn y gallwch ymddiried ynddo neu gan linell gymorth.
- Cadwch dystiolaeth os yw hynny’n bosibl: Cadwch negeseuon a chofnodwch unrhyw gyfathrebu sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad. Gall y dystiolaeth hon fod yn werthfawr at ddibenion cyfreithiol ac adrodd am y drosedd.
- Ewch ati i atal pob cyfathrebu: Rhowch y gorau i unrhyw ryngweithio â'r cyflawnwr a'i flocio ar bob platfform er mwyn atal unrhyw gam-drin neu aflonyddu pellach.
- Riportiwch y digwyddiad: Cysylltwch â'ch heddlu lleol a rhowch dystiolaeth a manylion y digwyddiad blacmel rhywiol iddyn nhw. Gallant eich cynghori ar y camau sy’n rhaid i chi eu cymryd.
- Report Remove: Os ydych chi neu'ch plentyn o dan 18 oed, gellir cyflwyno delweddau a fideos i Report Remove – adnodd ar-lein a ddatblygwyd gan IWF a Childline/NSPCC i helpu pobl ifanc yn y DU i roi gwybod yn gyfrinachol am ddelweddau a fideos rhywiol ohonyn nhw eu hunain mewn ymdrech i'w tynnu oddi ar y rhyngrwyd.
- Rhowch wybod i rieni, gofalwyr neu oedolyn y gallwch ymddiried ynddo: Rhannwch y sefyllfa gydag oedolyn cyfrifol a all eich cefnogi, eich helpu i riportio’r drosedd, a’ch cynorthwyo i lywio'r heriau emosiynol a allai godi.
- Holwch am gymorth proffesiynol: gallwch estyn allan at gwnselwyr, therapyddion, neu sefydliadau cymorth sy'n arbenigo mewn seiberdroseddu neu gymorth i ddioddefwyr. Gallant gynnig arweiniad a'ch helpu i ymdopi ag effaith emosiynol cael eich blacmelio’n rhywiol.
- Rhowch wybod i’r platfformau perthnasol: Riportiwch y troseddwr a'r digwyddiad i'r platfform neu'r wefan lle digwyddodd y cyswllt neu'r aflonyddu cyntaf. Gallant gymryd y camau angenrheidiol i atal eraill rhag dod yn ddioddefwyr.
- Byddwch yn ofalus rhag i chi gael eich ail-erlid: Gall troseddwyr fod yn benderfynol. Er gwaethaf pob ymgais i osgoi, blocio a diogelu’ch gwybodaeth bersonol a'ch presenoldeb ar-lein, hwyrach y byddant yn dal i lwyddo i gysylltu â chi. Gallant fod yn benderfynol iawn. Unwaith eto, nid eich bai chi yw hyn. Ceisiwch eu hanwybyddu a daliwch ati i riportio.
Amddiffyn eich hun neu rywun rydych chi'n ei adnabod rhag blacmel rhywiol
- Ymarfer diogelwch ar-lein: Byddwch yn ofalus gyda’r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei rhannu ar-lein, ceisiwch ddeall gosodiadau preifatrwydd, ac ewch ati i adolygu mesurau diogelwch eich cyfrif cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd. Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn cynnig arweiniad defnyddiol.
- Cryfhau cyfrineiriau: Defnyddiwch gyfrineiriau cryf, unigryw ar gyfer pob cyfrif ar-lein, ac ystyriwch ddefnyddio rheolwyr cyfrinair ar gyfer diogelwch ychwanegol.
- Galluogi prawf dilysu dau ffactor: Cofiwch actifadu’r nodwedd hon pan fydd ar gael, gan ei fod yn ychwanegu haen ychwanegol o ddiogelwch i'ch cyfrifon ar-lein.
- Ymddiried yn eich greddf: Os yw rhywun ar-lein yn eich gwneud yn anghyfforddus neu'n ceisio rhoi pwysau arnoch i rannu cynnwys cignoeth, cofiwch fod gennych chi hawl i ddweud na a rhoi’r gorau i unrhyw gyswllt.
(Seasneg yn unig)
Os hoffech i swyddog heddlu ddod i mewn i'ch ysgol i gyflwyno cyflwyniad am flacmel rhywiol i'ch dysgwyr, gallwch ofyn am hyn drwy Raglen Ysgolion Heddlu Cymru, SchoolBeat.cymru. Os oes gan blentyn yn eich ysgol unrhyw bryderon, gall rannu'r rhain a/neu roi gwybod i swyddog heddlu'r ysgol.
Gall Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru, SchoolBeat, roi cyflwyniad ar flacmel rhywiol i blant a phobl ifanc yn eu hysgol ar gais. Os oes gan blentyn bryderon am flacmel rhywiol, gall hefyd rannu'r rhain a/neu roi gwybod i swyddog heddlu’r ysgol.
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.
Internet Watch Foundation (IWF)
Elusen yw’r IWF sy'n gweithio i ddileu delweddau a fideos o gam-drin plant yn rhywiol ar-lein ac mae'n un o dri phartner sy'n rhan o UK Safer Internet Centre. Fel rhan o'i waith, mae'r IWF yn darparu llinell gymorth lle gall unrhyw un roi gwybod yn ddiogel ac yn ddienw am ddelweddau o gam-drin plant yn rhywiol. Trwy gydweithio â diwydiant, asiantaethau gorfodi'r gyfraith, llywodraethau, elusennau a llinellau cymorth eraill, gall IWF ddod o hyd i ddelweddau a fideos ar-lein o gam-drin plant yn rhywiol, gan helpu dioddefwyr bedwar ban byd.