English

Beth yw’r Metafyd?

Wrth ddysgu am y Metafyd, mae’n bwysig cofio ei fod yn gysyniad sy’n dal i ddatblygu. Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o adroddiadau newyddion a straeon yn y cyfryngau, gan gynnwys yr erthygl hon, yn gallu newid, ac mae’n bosib na fyddant yn ymdrin â phob agwedd ar y Metafyd wrth iddo barhau i esblygu.

Gofod rhithwir sy’n cael ei rannu yw’r Metafyd, sy’n galluogi defnyddwyr ar draws y rhyngrwyd i gael gafael ar gynnwys, chwarae gemau, prynu eitemau a chreu amgylcheddau. Mae’n ymgorffori profiadau digidol megis realiti rhithwir (VR), realiti estynedig (AR), a ‘blockchain’ i un gofod rhithwir cyson.

Dychmygwch eich bod yn dod adref o’r gwaith neu’r ysgol ar ôl diwrnod hir ac yn mewngofnodi i’r Metafyd. Rydych chi’n gallu cael mynediad i ‘fydysawd ar-lein’ lle bydd terfynau eich bywyd beunyddiol yn diflannu mewn amrantiad. Ydych chi eisiau hedfan ar goes ysgub neu fod yn berchen ar lew anwes? Ydych chi awydd chwarae gwyddbwyll gyda rhywun o ben draw’r byd neu gael picnic yn y Colosseum? Gallwch wneud hyn i gyd yn y Metafyd, a rhyngweithio â phobl eraill ar yr un pryd – a hyn oll o’ch ystafell fyw.

Gwir nod y Metafyd yw trawsnewid sut mae pobl yn cysylltu â’i gilydd ar-lein. Fodd bynnag, cysyniad yw’r Metafyd i raddau helaeth. Nid yw’n gynnyrch unigol sy’n eiddo i un cwmni. Mae’r term ‘Metafyd’ yn cael ei ddefnyddio gan gwmnïau sy’n ymwneud â’i ddatblygiad, fel Meta (Facebook) a Google, ond mae’n rhwydwaith ehangach sydd yn y pen draw yn gobeithio cysylltu platfformau a gofodau rhithwir amrywiol.

Rydyn ni’n debygol o barhau i glywed mwy a mwy am y Metafyd wrth iddo dyfu a newid.

Sut mae’r Metafyd yn gweithio?

Y prif syniad ar gyfer y Metafyd yw creu profiadau cymdeithasol mewn byd agored ar draws y rhyngrwyd cyfan gyda nifer diderfyn o ddefnyddwyr. Bydd hyn yn cynnwys rhithffurfiau, hunaniaethau ac eiddo y mae modd eu cludo i bobman ledled y Metafyd. Y gobaith yw y bydd pob defnyddiwr yn gallu bodoli’n ddigidol yn eu realiti addasadwy ei hun, ac archwilio rhai eraill.

Mae sawl ffordd o gael mynediad i’r Metafyd fel y mae ar hyn o bryd. Mae modd mynd iddo drwy gyfrifiaduron, ffonau symudol a chonsolau gemau. Offer VR yw’r opsiwn mwyaf poblogaidd os am gael profiad ymgolli y mae modd ‘byw’ ynddo, ond nid yw’n angenrheidiol er mwyn cael profiad o’r Metafyd.

Gan ei fod yn dal i gael ei ddatblygu, bydd y Metafyd yn destun newidiadau lu dros y blynyddoedd i ddod. Mae rhai arbenigwyr o’r farn na fyddwn yn gweld y Metafyd ‘go iawn’ am dipyn o amser.

Beth mae’n caniatáu i chi ei wneud?

Fel y gwelodd cenedlaethau hyn y rhyngrwyd yn trawsnewid o gysylltiad deialu i gysylltiad band llydan cyflym, rydyn ni heddiw’n profi camau cynnar technoleg y Metafyd. Wrth iddo ddatblygu, bydd y Metafyd yn mynd yn fwy atyniadol i’w ddefnyddio.

Byddwch yn gallu:

  • creu eich rhithffurf eich hun er mwyn dynodi eich hun yn y Metafyd
  • ymwneud gyda phobl eraill (ar ffurf rhithffurf) o bob cwr o’r byd
  • archwilio ac ymgysylltu â gwahanol leoliadau a lleoedd
  • creu eich cynhyrchion, strwythurau a bydoedd eich hun
  • prynu cynhyrchion, strwythurau a bydoedd (Tocynnau Anghyfnewidadwy (NFTs) er enghraifft)

Mae platfformau fel Horizon Worlds, enghraifft gynnar o’r hyn y mae’r Metafyd yn ceisio ei gyflawni ar raddfa fwy, yn dangos rhai o’r galluoedd digidol hyn eisoes.

A oes unrhyw risgiau ynghlwm wrtho?

Fel gydag unrhyw fforwm digidol, mae risgiau a phryderon yn codi. Mae hyn yn arbennig o wir am y Metafyd, gan nad oes ganddo ffurf wir na rheoledig ar hyn o bryd. Dros y blynyddoedd nesaf, mae’n debygol y bydd deddfwriaeth yn dechrau dod i rym a fydd yn ceisio cyflwyno rhywfaint o reolaeth dros ymddygiad a rhyngweithio defnyddwyr.

Dyma rai o’r risgiau rydyn ni wedi’u darganfod:

  • dim mesurau gwirio oedran effeithiol
  • diffyg rheolaethau cymedroli a/neu breifatrwydd
  • sgil effeithiau corfforol (er enghraifft, cyfog, anaf, straen llygaid)
  • ystumio’r synhwyrau (er enghraifft, dryswch, gorbryder)
  • dod i gysylltiad â chynnwys amhriodol
  • aflonyddu ac ecsbloetio

Cyngor

Mae’n hawdd teimlo wedi’ch llethu gan faint o dechnoleg newydd sy’n cael ei ryddhau – yn enwedig os ydych chi’n dal i geisio arfer gyda’r diweddariad diwethaf i’ch ffôn! Y peth pwysicaf i’w wneud yw addysgu eich hun ar beth yw’r Metafyd, sut mae modd ei ddefnyddio, a beth allwch chi ei wneud i gadw eich hun ac eraill yn ddiogel.

Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i liniaru risgiau’r Metafyd:

  • gweithredu arferion amser sgrin iach ar gyfer eich cartref
  • diogelu eich gwybodaeth bersonol drwy beidio â’i rhannu ag eraill ar-lein
  • defnyddio’r holl dechnoleg newydd yn gyfrifol, mewn amgylchedd diogel (e.e. eich cartref)
  • ymgyfarwyddo â threfniadau blocio ac adrodd ar blatfformau unigol

Gan mai cysyniad yw’r Metafyd o hyd, nid yw’n glir eto pa effaith y bydd yn ei chael ar gymdeithas, yn enwedig ar blant a phobl ifanc. Mae’n derm poblogaidd ar wasanaethau newyddion a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol, hyd yn oed os oes dryswch dros ‘beth’ yn union yw’r Metafyd. Mae’r cwmnïau sy’n datblygu’r Metafyd yn pryderu ychydig nad yw defnyddwyr yn trin ei nod datblygu mor ddifrifol ag y dylen nhw. Fodd bynnag, mae hyn yn ymateb arferol a disgwyliedig i unrhyw beth sydd wrthi’n cael ei ddatblygu. Er mwyn clywed a deall yr wybodaeth ddiweddaraf, mae’n bwysig cadw llygad am unrhyw ddatblygiadau newydd o ffynonellau dibynadwy ar-lein.


 

Jim Gamble QPM

Prif Swyddog Gweithredol Grwp Diogelu INEQE 

Jim Gamble yw Prif Swyddog Gweithredol Grwp Diogelu INEQE. Mae’n Gadeirydd Annibynnol ar sawl Bwrdd Diogelu Plant yn Llundain gan gynnwys Bwrdd Diogelu Plant y City of London a Hackney (CHSCB), y cyntaf i gael arfarniad rhagorol gan Ofsted, a Bromley (BSCB), lle bu’n rhan o’r tîm arwain a sicrhaodd welliant yn ei arfarniad o ‘annigonol’ i ‘da’, gydag arweinyddiaeth ragorol dros ddwy flynedd.

Mae’n cael ei gydnabod fel awdurdod byd-eang ar ddiogelu plant ac ef oedd cadeirydd cyntaf y Tasglu Byd-eang Rhithwir; mae’n gyn-arweinydd plismona cenedlaethol ar gyfer amddiffyn plant ac ef oedd dylunydd a Phrif Swyddog Gweithredol yr UK Child Exploitation and Online Protection (CEOP). Mae wedi cynnal nifer o adolygiadau diogelu, Ymddiriedolaeth Ysbyty Prifysgol Brighton a Sussex yn eu plith, ac yn fwy diweddar, arweiniodd adolygiad diogelu cynhwysfawr yng Ngholeg Dulwich, Oxfam GB a sefydliad ffydd rhyngwladol ar gais y Comisiwn Elusennau.