English

Dyw hi ddim yn anodd dychmygu bod ymddygiad niweidiol neu gamdriniol yn bresennol ar y cyfryngau cymdeithasol. Yr hyn sy’n gallu bod yn anodd dygymod ag ef yw presenoldeb personoliaethau neu ddylanwadwyr ar-lein poblogaidd sy'n dod yn adnabyddus a hyd yn oed yn enwog am arddangos yr ymddygiad hwn ar blatfformau ar-lein.

Yn y pen draw, mae'r cynnwys niweidiol hwn yn cynrychioli sut mae problemau mwy yn ein byd (ar-lein ac all-lein) fel casineb at fenywod, trais yn erbyn menywod a lleiafrifoedd, a chamymddwyn rhywiol yn cael eu trin a'u defnyddio ar lwyfannau digidol. Gydag adroddiadau gan athrawon am blant yn dyfynnu personoliaethau ar-lein cynhennus fel Andrew Tate, ac mewn rhai achosion hyd yn oed yn bod yn dreisgar i’w cyfoedion, mae'n hanfodol edrych yn fanylach ar y ffordd y gall y cynnwys hwn ymddangos, yr ymddygiad y gall ei annog , a'r rhesymau y gallai apelio.

Beth yw cynnwys niweidiol?

Rydym ni’n cyfeirio at 'gynnwys niweidiol' fel unrhyw ddarn o gyfryngau ar-lein (e.e. fideo, llun, testun, sain, ac ati) sydd â’r potensial i achosi niwed neu anaf i unigolyn neu grwp o bobl.

Mae'n werth nodi y gellir ystyried bod hyn yn oddrychol – er bod un person yn ystyried bod rhywbeth yn niweidiol, gallai rhywun arall anghytuno. Gall safbwyntiau diwylliannol, cymdeithasol, a phersonol hefyd ddylanwadu ar y syniad cyffredinol o niweidiol. Er enghraifft, dylanwadwyr sy'n amddiffyn eu cred bod deiet eithafol yn fuddiol am ei fod yn gweithio iddyn nhw yn erbyn y rhai sy'n gwneud sylwadau sy'n credu ei fod yn annog anhwylder bwyta neu hunanwerth negyddol. 

 Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf am gynnwys niweidiol yw'r ymddygiad y gall ei ysbrydoli, yn enwedig yn rhywun sy'n dal i aeddfedu’n emosiynol, yn gorfforol, ac yn feddyliol. Mae'n bwysig cofio, os yw rhywun yn ymwneud â chynnwys sy'n hyrwyddo ymddygiadau niweidiol (fel casineb at fenywod), dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn deall nac yn cytuno'n llwyr â'r hyn sy'n cael ei ddweud (hyd yn oed os yw'n honni fel arall). Mae hyn hefyd yn wir am ddangos ymddygiad niweidiol. Daw enghraifft dda o hyn gydag enwogrwydd ar-lein Andrew Tate, personoliaeth rhyngrwyd drwg-enwog sy'n adnabyddus am hyrwyddo trais ar sail rhywedd a chasineb at fenywod sydd wedi'i dargedu at gefnogi dynion ifanc. Pan ofynnwyd iddo am iechyd meddwl, dywedodd fod dynion go iawn yn crio a bod menywod yn gallu crio a bod dynion yn gallu crio, hefyd, does dim byd yn bod ar hynny. Aeth ymlaen i ddweud bod rhywbeth mawr o'i le gyda hynny oherwydd bod bywyd dynion yn anoddach o lawer na bywyd menywod. Er ei bod yn ymddangos fel bod Tate yn gefnogol i iechyd meddwl dynion, mae'n seilio'i honiad ar ddatganiad rhywiaethol cyffredinol a allai gael dylanwad negyddol ar farn y rhai sy'n ei ddilyn.

Beth sy'n gwneud yr ymddygiad hwn yn ddiddorol i wylwyr?

Mae llawer o resymau pam y gallai rhywun ddechrau dangos diddordeb mewn cynnwys niweidiol ar-lein.

  • Ffordd o fyw grand. Ymddengys fod llawer o'r dylanwadwyr neu'r personoliaethau sy'n cyfleu ymddygiad niweidiol fel hyn yn llwyddiannus a chyfoethog.
  • Enwogrwydd dros nos. Gall natur ddadleuol ymddygiadau fel hyn droi enwau anhysbys yn hashnodau sy’n trendio ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn gyflym.
  • Unigrwydd ac unigedd. Gallai darganfod ideolegau newydd gynnig rhywle lle maent yn cael eu derbyn a ffrindiau newydd wrth iddynt wneud synnwyr o'u byd.
  • Chwilio am gyngor.  Gallai pwnc neu ansicrwydd y mae person ifanc angen help yn ei gylch ei ysbrydoli i ddechrau chwilio am ateb pan mae’n agored i niwed.
  • Dal i fyny gyda chyfoedion. Gall pobl ifanc geisio ymddangos yn 'wybodus' gyda ffrindiau neu frodyr a chwiorydd hyn a allai fod yn gwylio cynnwys niweidiol am wahanol resymau.

Sut gall rhywun fod yn agored i ymddygiad fel hyn?

Mae sawl ffordd y gallai rhywun ddod yn ymwybodol o ymddygiad niweidiol ar-lein. Cofiwch gadw llygad cyson ar sut y gallai hyn gael effaith.

  • Algorithmau - Gan fod algorithmau'n cael eu defnyddio i ddangos cynnwys i ddefnyddwyr yn seiliedig ar gynnwys y maen nhw wedi ymwneud ag ef o’r blaen, bydd dod i gysylltiad â chynnwys niweidiol am ychydig eiliadau hyd yn oed yn awgrymu bod cynnwys tebyg yn ddymunol.
  • Amgylchedd – Gall cam-drin corfforol neu lafar eithafol gyfrannu. Fodd bynnag, gall hyd yn oed jôcs chwareus, sylwadau awgrymog, neu ddadleuon arferol o fewn perthnasau iach gael eu dehongli’n anghywir a chael effaith negyddol.
  • Cyfryngau poblogaidd – Mae cynnwys a allai fod yn niweidiol yn fwyfwy amlwg mewn llawer o raglenni teledu a ffilmiau poblogaidd. Gall hyn lywio profiadau a syniadau person, gan achosi iddynt ymwneud ac ymddiddori ymhellach.

Risgiau posibl

Wrth ystyried yr effaith y gallai ymddygiadau niweidiol ei chael, ar-lein ac all-lein, mae'n bwysig tynnu sylw at y risgiau posibl hyn.

  • Efelychu neu gymryd rhan yn yr ymddygiad i fod fel pawb arall.
  • Diffyg hunan-barch wrth gymharu bywyd â phersonoliaethau 'llwyddiannus'.
  • Dioddef neu gyflawni seiberfwlio neu drolio.
  • Cael ymateb emosiynol gofidus neu negyddol.
  • Niwed i enw da a allai effeithio ar berthnasoedd a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.
  • Barn a chredoau'n cael eu dylanwadu'n negyddol i gyfeiriad niweidiol.

Cyngor

Er mwyn eich helpu i roi'r gofal a'r gefnogaeth orau bosibl mewn sefyllfaoedd lle mae cynnwys niweidiol yn cael ei ddefnyddio neu ei gyflwyno, cofiwch beidio â chynhyrfu a defnyddiwch y canllawiau canlynol lle bo angen.

  • Cydnabod y broblem. Mewn unrhyw sefyllfa sy'n ymwneud â chynnwys niweidiol, y peth gorau allwch chi ei wneud yw sylweddoli bod problem y mae rhywun angen help gyda hi. Byddwch yn dyner gyda'r person, hyd yn oed os ydych chi'n casáu ei ymddygiad.
  • Siarad gyda’r person. Gofynnwch iddo egluro beth ddigwyddodd a rhoi lle iddo ddweud wrthoch chi yn ei eiriau ei hun. Gall fod yn emosiynol neu'n chwithig i'w drafod, felly gadewch iddo gymryd ei amser heb bwysau na chyfyngiadau.
  • Rhoi cyfle i drafod. Ceisiwch beidio â rhoi diwedd ar sgyrsiau neu wahardd pynciau penodol. Lle bo'n briodol, gofynnwch i'r person feddwl sut y byddai’n teimlo pe bai rhywun y mae’n ei garu yn cael ei drin fel hyn. Pwysleisiwch y niwed y mae'r ymddygiad hwn yn ei achosi a myfyrio ar pam y dylai ddod i ben.
  • Bod yn onest. Ystyriwch sut y gallai’ch gweithredoedd chi (neu aelodau o'ch teulu neu ffrindiau) fod yn effeithio ar yr ymddygiad hwn trwy weiddi, tynnu coes, neu hyd yn oed fwlio, a sut y gallai hyn fod yn effeithio ar fecanweithiau ymdopi’r person.
  • Dangos parch. Does neb yn berffaith, ac weithiau bydd eraill yn brifo teimladau person arall yn anfwriadol. Gall atgoffa'r person o ymddygiad parchus ac ymddygiad tosturiol helpu i ddangos y ffordd ymlaen iddo.

 

Jim Gamble QPM

Prif Swyddog Gweithredol Grwp Diogelu INEQE 

Jim Gamble yw Prif Swyddog Gweithredol Grwp Diogelu INEQE. Mae'n Gadeirydd Annibynnol nifer o Fyrddau Diogelu Plant yn Llundain gan gynnwys un City of London a Hackney (CHSCB), y cyntaf i gael ei ddyfarnu'n rhagorol gan Ofsted, ac un Bromley (BSCB) lle bu’n rhan o'r tîm arwain a wellodd berfformiad o bwrdd 'annigonol' i 'da', gydag arweinyddiaeth ragorol mewn dwy flynedd. Mae'n cael ei gydnabod yn eang fel awdurdod byd-eang ar ddiogelu plant ac ef oedd cadeirydd sefydlu’r Tasglu Byd-eang Rhithiol; mae’n gyn-arweinydd plismona cenedlaethol ar gyfer amddiffyn plant ac ef yw pensaer a Phrif Swyddog Gweithredol Canolfan Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein y DU. Mae wedi cynnal sawl adolygiad diogelu, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Ysbyty Prifysgol Brighton a Sussex ac yn fwy diweddar, arweiniodd adolygiad diogelu eang ei gwmpas o Goleg Dulwich, Oxfam GB a sefydliad ffydd rhyngwladol ar gais y Comisiwn Elusennau.