English

Mae AI cynhyrchiol yn fath o ddeallusrwydd artiffisial sy'n cynhyrchu deunydd, gan gynnwys testun, delweddau a sain. Mae'r modelau hyn yn dysgu o ddata sydd eisoes yn bodoli i greu deunydd gwreiddiol yn seiliedig ar batrymau.

Mae AI cynhyrchiol yn cael ei integreiddio'n gynyddol i ddyfeisiau clyfar a llawer o apiau a gwasanaethau poblogaidd rydyn ni'n eu defnyddio bob dydd.

Gall systemau AI cynhyrchiol brosesu a dadansoddi symiau enfawr o ddata er mwyn adnabod patrymau a rhagfynegi, ond:

  • nid oes ganddo'r gallu i feddwl a deall cyd-destun fel y mae pobl yn ei wneud
  • gall roi ymatebion sy'n rhagfarnllyd, yn anghywir neu'n niweidiol

Mae risgiau o ran data a phreifatrwydd hefyd yn ystyriaethau allweddol. Wrth i ni groesawu'r posibiliadau y mae AI cynhyrchiol yn eu cynnig, mae'n bwysig:

  • ystyried y risgiau posibl
  • meddwl yn feirniadol am ei gyfyngiadau fel y gallwn fod yn ddefnyddwyr cyfrifol ac egwyddorol

Mae system argymell yn fath o feddalwedd sy'n awgrymu cynnyrch, gwasanaethau neu gynnwys i ddefnyddwyr yn seiliedig ar ddata. Mae systemau argymell yn rhan gyffredin o ddeallusrwydd artiffisial a ddefnyddir gan lwyfannau fel: 

  • y cyfryngau cymdeithasol
  • gwefannau newyddion
  • gwasanaethau ffrydio fideo
  • manwerthwyr ar-lein

Mae'r systemau hyn yn awgrymu cynnwys yn seiliedig ar ymddygiad y defnyddiwr megis: 

  • cliciau
  • eitemau a hoffwyd
  • hanes gwylio
  • chwiliadau

Gall hyn wneud i gynnwys deimlo'n fwy perthnasol a diddorol. Fodd bynnag, mae'n bwysig meddwl yn ofalus am sut mae'r systemau hyn yn siapio'r hyn yr ydym yn ei weld a sut y gallan nhw gyfrannu at bolareiddio cymdeithasol.

Mae gwahanol ffurfiau ar sgwrsfotiaid AI. Mae pob un wedi'i gynllunio i gyflawni dibenion gwahanol, yn dibynnu ar sut maen nhw'n cael eu hadeiladu a beth maen nhw'n cael eu defnyddio ar ei gyfer.

Mae sgwrsfotiaid AI fel ChatGPT, Co-pilot a Gemini wedi'u datblygu i ymateb i ystod eang o awgrymiadau neu gwestiynau mewn ffordd debyg i'r ymateb dynol. Gallan nhw:

  • ymdrin ag ymholiadau cymhleth
  • cynhyrchu cynnwys creadigol
  • gwella dros amser yn seiliedig ar ryngweithio

Gall sgwrsfotiaid aml-ddull hefyd wneud pethau fel:

  • ymateb i leferydd
  • creu delweddau realistig
  • creu celf

Risgiau sgwrsfotiaid ar-lein

Mae sgwrsfotiaid AI wedi'u hyfforddi ar sail setiau data mawr o'r rhyngrwyd. Mae hyn yn golygu y gall sgwrsfotiaid adlewyrchu'r gwallau neu'r rhagfarnau a geir yn y ffynonellau hynny. Weithiau gallan nhw gynhyrchu gwybodaeth sydd yn:

  • camarwain
  • anghywir
  • niweidiol

Er bod eu hymatebion yn aml yn swnio'n gredadwy, nid ydyn nhw’n gwirio ffeithiau nac yn deall cyd-destun. Gall dibynnu arnyn nhw fel prif ffynhonnell wybodaeth effeithio ar sut mae pobl yn:

  • dysgu
  • ffurfio barn
  • gwneud penderfyniadau

Gall cynnwys anghywir a rennir gan unigolion neu lwyfannau dibynadwy ledaenu camwybodaeth.

Mae rhai llwyfannau gemau fideo a chyfryngau cymdeithasol wedi ychwanegu sgwrsfotiaid AI at eu gwasanaeth. Mae yna hefyd ystod o gynhyrchion cydymaith cymdeithasol sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion cymdeithasol defnyddwyr, fel cwmnïaeth, rhamant ac adloniant.

Er nad yw sgwrsfotiaid AI yn deall teimladau nac emosiynau, gall pobl ddechrau teimlo cysylltiad emosiynol â nhw. Mae yna risgiau hefyd ynghylch preifatrwydd data a'r posibilrwydd o fod yn agored i gynnwys sydd yn:

  • camarwain
  • amhriodol
  • niweidiol

Mae hyn yn arbennig o wir i ddefnyddwyr iau neu fwy agored i niwed.

Er mwyn helpu defnyddwyr i wneud penderfyniadau gwybodus, mae Common Sense Media wedi creu adolygiadau annibynnol o gynnyrch AI.

  • Canllawiau ynghylch apiau

    Canllawiau ynghylch apiau poblogaidd y gall plant a phobl ifanc fod yn eu defnyddio.

  • AI cynhyrchiol

    Canllawiau i rieni a gofalwyr am y dyfeisiau clyfar a'r gwasanaethau ar-lein y mae AI cynhyrchiol wedi'i integreiddio iddyn nhw, a rhai o'r risgiau posibl.

  • Help a chefnogaeth

    Sut i roi gwybod am gynnwys ar-lein niweidiol a chael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau am ddim a chyfrinachol.